Argyfwng a chymuned

Bu sôn lot yn ddiweddar am y wleidyddiaeth ynghylch yr argyfwng COVID-19 – gan gynnwys beirniadaethau pwysig o’r ymateb trychinebus gan lywodraethau’r DU ac yng Nghymru. Mae hwn yn lle pwysig i ddechrau, oherwydd mae angen i ni gydnabod hyn fel argyfwng gwleidyddol, yn enwedig yn ystod cyfnod pan mae rhai yn beirniadu eraill am “sgorio pwyntiau gwleidyddol”. Daw’r beirniadu yn bennaf gan bobl yn y canol a’r asgell dde sydd anid yw’n syndod eu bod yn gweld yr argyfwng yn datblygu ar hyn o bryd fel petai’n anwleidyddol. Yn ôl rhesymeg yma, nid yw gofalu am iechyd yr economi uwchlaw iechyd pobl yn ideolegol. Nid yw’n wleidyddol rhoi consesiynau i landlordiaid o flaen tenantiaid. Peidio â darparu incwm i weithwyr ansicr sydd heb ddewis ond mynd i’r gwaith, beth allan nhw ei wneud? Mae cael GIG sy’n cael ei llethu ac yn amharod –  fel yna y mae hi. Er ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o symud ar y materion hyn, maent yn sicr wedi datgelu blaenoriaethau llywodraethau’r DU a Chymru. Ar yr adeg hon, cofiwn y gallwn farnu’r llywodraeth nid yn unig yn ôl yr hyn y mae’n ei wneud, ond hefyd yn ôl yr hyn y mae’n dewis peidio â’i wneud.

Un peth sy’n sicr yw ei fod wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwerthoedd, arferion a delfrydau sosialaeth yn bwysicach nag erioed. Fodd bynnag, mae angen inni wynebu’r cwestiwn, fel bob amser gyda sosialwyr, i ble yr awn ni o’r fan hyn? Ble ddylen ni roi ein hegni yn ystod amseroedd yma?

Mae argyfwng o’r fath yn dod a llanast ac anhrefn, gan ddatgelu breuder cyfalafiaeth a’r wladwriaeth sy’n cynhyrchu perygl a bregusrwydd go iawn i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynhyrchu craciau yn y strwythurau hyn. Yn y gofodau gwagleol hyn, mae cyfle i greu ffyrdd newydd o wneud pethau. Pan fydd y wladwriaeth yn methu ag ymateb yn ddigonol, mae medr pobl gyffredin i gydweithredu a hunan-drefnu yn eu cymunedau yn dod yn hynod o bwysig. Mewn cyd-destunau eraill, cyfeiriwyd at hyn fel ‘comiwnyddiaeth trychineb’. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi’u llenwi ag enghreifftiau o’r gweithredoedd cyffredin a syml hyn sy’n digwydd ym mhobman. Mae grwpiau cyd-gymorth COVID-19 wedi bod yn ffurfio ledled y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Abertawe, a’r Coed Duon a Oakdale. Heb os, mae miloedd yn fwy o rwydweithiau a chymunedau ffurfiol ac anffurfiol yn ymateb i hyn o’n cwmpas. Mae’r grwpiau hyn yn cefnogi pobl sydd wedi hunan-ynysu ac sydd angen help gyda siopa, codi presgripsiynau, coginio, codi parseli, ac unrhyw beth arall y gallai fod ei angen arnynt.

Ond, er bod y rhain yn ymdrechion pwysig a gobeithiol, maent yn aml yn parhau i fod yn fregus ac yn fyrhoedlog (nid o reidrwydd yn beth drwg, gan fod natur ddigymell y fath drefniadaeth yn fantais yn aml). Gellir dadlau eu bod yn syml yn clytio’r tyllau a adawyd gan wladwriaeth anghymwys, felly “gall y wladwriaeth eistedd yn ôl a gadael i bobl ddioddef, yna ailfynnu ei le ei hun pan fydd y gymuned yn gwasgaru wrth i normalrwydd ddychwelyd.” Felly, mae eraill wedi dadlau bod angen i ni fynd y tu hwnt i’r ymatebion cydfuddiannol hyn a ymatebion a datblygu ymdrech wleidyddol barhaus. Fodd bynnag, mae’r perygl bod hwn yn rhoi’r gert o flaen y ceffyl, yn y cyd-destun hwn o leiaf. Mae hyn yn rhagdybio bod lefel o wleidyddoli allan yna sy’n gallu cynnal ac ehangu hyn, ac yn ninas fel Caerdydd nid yw hyn yn wir. Gydag arwyddion cynyddol bod cyd-gymorth yn cael ei gyfethol, ac efallai yn cael ei gamddeall yn llwyr, rydym mewn perygl o leihau ei botensial radical ar unwaith. Dyma pam mae’n hanfodol ein bod yn ailedrych ar rywfaint o wleidyddiaeth cyd-gymorth cyn cael ein cario i ffwrdd â’r hyn a wnawn nesaf.

Pam y gallech fod yn ymddwyn fel anarchydd

Er y bydd rhai sy’n ymwneud â’r ymatebion cymunedol hyn ei ystyried yn wleidyddol, mae’n debygol na fyddai llawer yn gwneud hynny. Efallai bod rhai yn helpu cymdogion a’u cymuned, bron yn reddfol, heb o reidrwydd ystyried gwleidyddiaeth gwneud hynny. Mae’n fwy annhebygol eto y byddant yn cysylltu gweithred o’r fath ag arfer a theori anarchiaeth, term sy’n wastad cael ei gamddeall a’i gam-drin. Yn wir, nid yw’r ffaith bod diffinio anarchiaeth yn anhygoel o anodd yn helpu’r fath ddryswch. Er y dylem warchod rhag lleihad a dogma, rwy’n hoff o symlrwydd honiad Peter Kropotkin mai anarchiaeth yw’r “system sosialaeth heb lywodraeth”. Ymhellach, mae un o’r awduron anarchaidd cyfoes gwych Ruth Kinna yn diffinio anarchiaeth fel “athrawiaeth sy’n anelu at ryddhau pobl rhag tra-arglwyddiaeth wleidyddol a cham-fanteisio economaidd trwy annog gweithredu uniongyrchol neu anllywodraethol.”

Fodd bynnag, y tu hwnt i hyn, mae pethau’n mynd ychydig yn amwys, yn bennaf oherwydd nad oes unrhyw ddealltwriaeth gyffredinol na statig o anarchiaeth, a nac ydyw ychwaith yn dilyn glasbrint meddyliwr mawr neu arweinydd. Mewn gwirionedd, mae hon yn egwyddor hanfodol ei hun – bod pobl yn gallu hunan-drefnu, yn hytrach na dilyn rhai damcaniaethau rhagnodol a-priori.

Sut bynnag y byddwn yn diffinio hyn, y pwynt yw bod pobl yn dechrau ymddwyn mewn ffyrdd anarchaidd yn ystod argyfwng oherwydd ei fod yn gweithio’n eithaf da. Gwelir llawer o hyn yn y wleidyddiaeth dawel bob dydd – yn wir, nid yw pob gwleidyddiaeth bron mor eglur ag yr ydym yn cael ein harwain i gredu. Honnodd Colin Ward fod anarchiaeth bob amser yn bodoli, fel hedyn o dan yr eira, yn amlwg yn ein profiadau o fywyd bob dydd a’n galluoedd i hunan-drefnu a chydweithredu, er gwaethaf y tueddiadau awdurdodaidd amlycaf mewn cymdeithas. Mae ymdrechion arbrofol i gyflawni gweithredoedd hunan-drefnus heb awdurdod, gorfodaeth na hierarchaethau yn digwydd ar hyn o bryd. Un peth y byddwn o bosibl yn dod i’w sylweddoli yw y gall awdurdod a hierarchaethau wneud pethau’n fwy beichus ac anodd. Yn sicr, o ystyried ymateb y wladwriaeth i’r argyfwng hwn, mae’r syniad bod angen cadwyni gorchymyn o’r brig i lawr arnom ar gyfer syniadau cydlynol ac eglurder cyfathrebu erbyn hyn y tu hwnt i jôc.

“Ond mae’r cyhoedd yn anghyfrifol!”

Efallai y bydd rhai yn dadlau, er gwaethaf yr enghreifftiau hyn o gyd-gymorth, ein bod hefyd yn dyst i’r ffaith bod yna lawer o unigolion sy’n ymddwyn yn hunanol. Er mwyn osgoi peryglon delfrydiaeth, mae’n bwysig nodi bod yna lawer o enghreifftiau o hyn, ac i raddau rydyn ni’n gweld y gorau a’r gwaethaf o bobl. Daw hyn ar adeg pan mae rhai yn awgrymu mai’r cyhoedd sydd ar fai am ymddygiad anghyfrifol yn ystod yr argyfwng hwn. O gelcio bwyd a phapur toiled i dwristiaid sy’n teithio yn eu miloedd i drefi bach, a mae’n realiti anodd ei anwybyddu – mae rhai aelodau o’r cyhoedd wedi bod yn ymddwyn mewn ffyrdd sydd, yn syml, yn groes i’n hanghenion ar y cyd. Bydd rhai yn gofyn sut mae modd cysoni mater o’r fath heb froi at orfodaeth neu fwy o awdurdod?

Yn gyntaf, hoffwn awgrymu, ar ôl blynyddoedd o fyw mewn cymdeithas sy’n hyrwyddo system economaidd (neoliberaliaeth) sy’n mynd ati i annog a gwobrwyo unigolyddiaeth hunanol a didostur, nad yw’n syndod bod rhai bellach yn gweithredu mewn ffyrdd sy’n hunanol ac yn ddidostur. Pan fyddwn yn adeiladu cymdeithas ar y delfrydau hyn, mae’n amlwg ein bod yn gwneud ein hunain yn hynod fregus pan fydd trychinebau yn taro, fel unigolion ac fel cymunedau. Heblaw hyn, pan fydd ein hanghenion sylfaenol yn dibynnu ar ein gallu i’w prynu, yna mae’n bosibl mai dim ond estyniad o’n gweithgaredd economaidd arferol yw celcio. Nid yw cyfalafiaeth erioed wedi poeni am ddosbarthiad teg ein hanghenion sylfaenol – p’run ai yw hynny’n fwyd neu’n dai.

Ond yn bwysicach efallai, byddwn yn dadlau bod y teimladau cydamserol o banig a synnwyr ffug o ddiogelwch wedi eu waethygu gan lywodraeth anghymwys, yn danfon neges sydd wedi creu dryswch a difaterwch enfawr ymhlith cyhoedd sydd â’u ffydd mewn “arbenigwyr” ac awdurdodau eisoes yn fregus . Wrth gwrs, mae beio’r cyhoedd yn naratif cyfleus iawn i’r llywodraeth, oherwydd pryd bynnag y bydd yr argyfwng hwn yn arafu, byddan nhw’n gallu edrych yn ôl a golchi eu dwylo’n llwyr o unrhyw gyfrifoldeb. Bai’r cyhoedd gwirion oedd o drwy’r amser. Mae rhaid i ni ddechrau cwestiynu rôl strwythurau llywodraethu o’r brig i lawr wrth greu’r “cyhoedd anghyfrifol”.

Felly yn amlwg mae yna ychydig o wrthgyferbyniad yn dod i’r wyneb yma. Ar y naill law, mae’r argyfwng hwn wedi arwain at ddatblygu rhwydweithiau cyd-gymorth digymell mewn cymunedau, ond ar y llaw arall mae wedi sbarduno anwybodaeth bodlon a hunanoldeb mewn unigolion. Dyma pam ei bod yn bwysig ein bod yn ailedrych ar ddadl hŷn ac yn edrych tuag at waith yr anarchydd Peter Kropotkin.

Cyd-gymorth yn erbyn Darwiniaeth gymdeithasol

Biolegydd esblygiadol oedd Kropotkin a gredydwyd am ddatblygu theori cyd-gymorth (1902), a ddaeth ar y pryd mewn cyferbyniad â damcaniaethau Darwin a bwysleisiodd gystadleuaeth a “goroesiad y fwyaf ffit”. Yn y bôn, awgrymodd Kropotkin fod cydweithredu, dwyochredd a chyd-gymorth yn llawer mwy arwyddocaol ar gyfer goroesi rhywogaethau na chystadleuaeth. Nid oedd yn ddelfrydwr, h.y. un sy’n credu nad oes unrhyw beth ym myd natur ond heddwch, cariad a chytgord, ac nid oedd yn gwadu brwydr na chystadleuaeth. Ond, bob tro rydyn ni’n mynd allan i helpu cymydog a’n cymuned yn ystod yr argyfwng hwn, rydyn ni’n brolio Kropotkin dros Darwin. Er y dylem gydnabod hyn fel darn o fioleg esblygiadol yn ogystal ag un o’i oes ei hun, i Kropotkin roedd ynghlwm wrth argyhoeddiad gwleidyddol a moesegol dwfn.

Yn bwysicaf oll efallai, mae Kropotkin yn defnyddio hyn i gwestiynu’r ddealltwriaeth dreiddiol o’r “natur ddynol” fel rhywbeth afreolus os na fydd yna awdurdod yn ei reoli. Mae’r rhagdybiaethau hyn wedi’u hymgorffori ym mron pob meddwl cyfoes ac maent yn bodoli ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Yn yr achos hwn, mae Kropotkin yn herio syniadau Thomas Hobbes yn uniongyrchol, a awgrymodd y byddai bodau dynol, mewn cyflwr o “natur”, yn dychwelyd i “ryfel o bawb yn erbyn pawb”. Nid yw’n syndod bod Hobbes yn defnyddio hyn i gyfiawnhau’r angen am awdurdod canolog cryf. Mae Kropotkin yn wynebu’r syniadau hyn yn uniongyrchol:

“Mae ein holl addysg grefyddol, hanesyddol, gyfreithiol a chymdeithasol yn llawn syniad y byddai bodau dynol, pe cânt eu gadael iddynt hwy eu hunain, yn dychwelyd i wylltineb; y byddai pobl heb awdurdod yn bwyta ei gilydd; am na ellir disgwyl dim, medden nhw, gan y ‘lliaws’ ond creulondeb a rhyfelgar pob un yn erbyn pawb. Byddai pobl yn marw heb yr etholedig rai yn esgyn uwch eu pennau… Mae’r achubwyr hyn yn atal, dywedir wrthym, frwydr pawb yn erbyn pawb.”

Yn anffodus, mae’r ddealltwriaeth hon wedi arwain llawer i gyhuddo anarchwyr o fod yn “iwtopaidd” a bod â gormod o ffydd yn y natur ddynol. Yn gyntaf, dylem i gyd wrthod unrhyw safbwyntiau dogmatig o’r “natur ddynol”, h.y. nid yw natur ddynol yn ei hanfod yn dda neu’n ddrwg. Heblaw, byddai anarchwyr yn debygol o wrthod y ddealltwriaeth naïf a statig hon o natur ddynol – dadleuaf fod theori anarchaidd yn tynnu sylw at olwg eithaf realistig (os nad pesimistaidd) o natur ddynol. Pe bai anarchwyr yn credu bod bodau dynol yn hanfodol yn dda yna ni fyddai ganddynt unrhyw broblem gyda hierarchaethau, gan y gallai rhywun dybio y byddai arweinwyr gwleidyddol yn gweithredu’n ddidwyll ar ran pobl. Mewn geiriau eraill, mae anarchwyr yn credu bod pŵer yn llygru hyd yn oed y bwriadau gorau a bod ein “natur” yn hynod hyblyg i’r amodau hyn. Dyna pam mae anarchwyr yn gwrthwynebu canoli pŵer a hierarchaeth ac yn lle hynny yn eiriol dros darfu arno a’i wasgaru – oherwydd o gael amodau ffafriol, mae rhai bodau dynol yn gallu gwneud drwg eithafol, felly mae creu’r strwythurau lle gall lleiafrif gronni pŵer yn gofyn am drafferth yn y bôn.

Mae’r ddadl hon yn parhau i fod yn hynod wleidyddol, yn enwedig ar adeg pan mae syniadau o Darwiniaeth gymdeithasol yn dod drwodd unwaith eto. Ni ddylai hyn ein synnu gyda’r Torïaid, y mae eu polisïau bob amser wedi cefnogi elfennau o “oroesi’r rhai mwyaf ffit”. Ond mae hyn i’w weld yn fwyaf eglur yn eu hymateb cynnar o imiwnedd y dorf. Hyd y gallaf ddweud (o safbwynt anfeddygol), mae hyn yn seiliedig ar y syniad ein bod yn dod yn imiwn trwy ganiatáu’r ymlediad “naturiol” ymhlith y boblogaeth, fel bod yr iach yn dod yn imiwn tra bod y bregus yn cael eu hystyried yn ddifrod cyfochrog. Mae’n debyg nad yw’n bosib osgoi hyn ac ni ddylem geisio, oherwydd dyma sut mae dewis naturiol yn gweithio.

Wrth gwrs, canlyniad hyn yw bod rhai bywydau yn cael eu hystyried yn ddiwerth- gadewch i ni gymryd bregusrwydd pobl hŷn fel enghraifft. Mae gwleidyddiaeth hyn yn weddol amlwg, oherwydd mewn cymdeithasau cyfalafol mae pobl hŷn yn cael eu taflu i’r naill du mewn system economaidd sydd â diddordeb yn ein gallu i fod yn “gynhyrchiol” yn economaidd yn unig.  Mae rhesymeg cyfalafiaeth yn awgrymu fod person, wrth heneiddio,nid yn unig yn “anghynhyrchiol” (oherwydd ymddeoliad) ond hefyd yn cael eu hystyried yn faich ar sustemau gofal iechyd. Darwiniaeth gymdeithasol pur yw’r polisïau hyn. Ac nid gorddweud yn unig yw hyn. Yn gynharach y mis hwn, dathlodd golygydd cynorthwyol y Telegraph Jeremy Warner hyn yn benodol trwy nodi “o safbwynt economaidd cwbl ddi-duedd, gallai’r COVID-19 hyd yn oed brofi o beth budd yn y tymor hir trwy ddifa dibynyddion oedrannus yn anghymesur.” Yn amlwg mae rhai ceidwadwyr yn eithaf hapus i daflu eu grŵp mwyaf o gefnogwyr ar y domen heb ail feddwl.

Ond nid ceidwadwyr yn unig sydd ar fai am ideoleg Darwinaidd mor gymdeithasol – mae syniadau eco-ffasgaidd a Malthusianaidd ym mhobman, gan gynnwys mewn llawer o gylchoedd “gwyrdd” rhyddfrydol. Mae pobl yn iawn i ddathlu dyfroedd glanach yn Fenis, o ddolffiniaid yn dychwelyd i ddyfroedd segur, a llai o lygredd aer yn Tsieina. Y broblem yw bod hyn wedi arwain llawer i awgrymu mai “bodau dynol yw’r firws go iawn”. Pan fydd rhywun yn awgrymu mai bodau dynol yw’r firws, yn hytrach na system economaidd wenwynig (sydd wedi dod i stop cyflym), nid yw’n gam mawr i awgrymu y byddai marwolaeth ddynol dorfol yn iach i “natur”. Nid oes unrhyw beth naturiol am y broses hon, gan mai ein system economaidd echdynnol yw’r broblem, nid bodau dynol fel y cyfryw.

Gwnewch hyn yn wleidyddol!

Heb os, mae’r argyfwng hwn wedi datgelu llawer o bethau na welwyd o’r blaen, ac nid yw’n syndod bod llawer yn eirioli syniadau sosialaidd yn mwyaf sydyn. Bydd hyd yn oed yr unigolyddion mwyaf ymrwymedig (e.e. eich perthyn Torïaidd sy’n meddwl mai dim ond sosialydd naïf ydych chi) yn dibynnu cymaint ag unrhyw un ar gymdeithasu, cydweithredu dynol a chyd-gymorth. Wrth gwrs, maen nhw nawr hefyd yn gobeithio am system gofal iechyd cyhoeddus effeithiol, ac efallai eu bod nhw hyd yn oed yn cwestiynu blynyddoedd o breifateiddio sydd wedi ysbeilio’r GIG. Ar y pwynt hwn mae eu safle ideolegol yn chwerthinllyd ac yn gwbl anghynaladwy. Ond mae’n rhaid i ni hefyd fod yn wyliadwrus rhag defnyddio sosialaeth fel opsiwn cyfleus yn ystod argyfwng, dim ond iddo gael ei sgubo o’r neilltu yn nes ymlaen. Gallwn wrthweithio hyn trwy drefnu ac adeiladu o’r gwaelod yn awr.

Ar waetha’r angen presennol i bellhau’n gymdeithasol, ni allai elfen gymdeithasol ein bywydau fod yn bwysicach (a gellir dadlau y dylid ei galw’n bellter corfforol). Mae amseroedd o’r fath yn sialens i’n gallu i gydweithredu, i ofalu a thosturio wrth ein gilydd, sgiliau cymdeithasol yr ydym wedi’u hesgeuluso am lawer rhy hir mewn byd neoryddfrydol ciaidd. Rhaid inni feithrin y galluoedd hyn yn y presennol a’u cryfhau wrth i’r argyfwng hwn barhau ac o bosibl waethygu. Pan fydd pethau’n tawelu yn y pen draw, ni ddylem stopio. Er bod yr enghreifftiau cychwynnol hyn o gyd-gymorth yn cynnig gobaith, mae angen i ni warchod rhag iddynt ddod yn ymdrechion anwleidyddol, gan fod hyn yn eu gadael yn agored i gael eu camddefnyddio gan y wladwriaeth i gyfiawnhau ei esgeuluso a’i dynnu’n ôl. Yr unig ffordd o osgoi hyn yw ei wleidyddoli nawr.

Er y bydd yna rai a fydd yn awgrymu bod cynnig o’r fath yn rhy ddelfrydol, beth sy’n fwy iwtopaidd na gobeithio y bydd rhai arweinwyr gwych yn cwympo i lawr yn sydyn oddi uchod ac yn arbed y werin datws? Efallai y byddwn yn gofyn pam mae e wedi cymryd cymaint o amser iddyn nhw ei wneud? Bydd yn rhaid i ni atgoffa ein hunain o fethiant llwyr ein harweinwyr (y Torïaid yn ogystal â “sosialwyr” Cymru) i’n hamddiffyn yn ystod y trychineb hwn. Unwaith eto, bydd y pwerus a’r cyfoethog yn cael eu gwarchod yn dda rhag y firws hwn (neu o leiaf eu gwarchod yn llawer gwell). Gorau’r gyntaf i ni ddechrau sylweddoli hyn.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.