Yn nhrydedd wythnos yr argyfwng COVID-19, nid yw pethau’n argoeli’n rhy dda yng Nghymru. Mae’r Bwrdd Iechyd GIG sy’n dwyn enw ei sylfaenydd, yn cofnodi lefelau uwch o heintio fesul 100,000 na Llundain hyd yn oed, tra bod Cymru gyfan yn ymdebygu i orllewin canolbarth Lloegr – un o’r rhanbarthau sydd wedi’i effeithio mwyaf yn Lloegr. Dylai fod rhywfaint o gysur i ni yn y ffaith, fodd bynnag, bod gennym Gynulliad Cymru (a Senedd arfaethedig) o dan arweinyddiaeth Llafur – er mwyn sicrhau ymateb cadarn, gwirioneddol sosialaidd i’r argyfwng, gan ein hamddiffyn rhag fympwyon gwaethaf  llywodraeth Dorïaidd ddidoreth, â’i diddordeb yn y pen draw ar effaith yr argyfwng ar y farchnad yn unig. Dyma fyddai’r ‘difidend’ datganoli, wedi’r cyfan; dyma baham yr argyhoeddwyd cymaint o bobl i bleidleisio dros y Cynulliad – i amddiffyn Cymru yn erbyn gormodedd gwaethaf San Steffan, gan sicrhau gwleidyddiaeth byddai’n fwy addas at ein hanghenion ni.

Fodd bynnag, mae’n deg awgrymu nad yw digwyddiadau diweddar wedi cadarnhau’r ddamcaniaeth. Yn wir, byddai’n esgeulus beidio â darparu crynodeb o gamau gweigion Llywodraeth Cymru wrth iddynt gloffi dros y pythrefnos diwethaf. Dechreuodd ar y droed ôl, gyda’r ychydig ddyddiau swrreal yna a arweiniodd yn y pen draw at ganslo gêm rygbi Cymru v yr Alban, wrth i Vaughan Gething a’r Undeb Rygbi Cymru fel petai ceisio sicrhau mai hwn fyddai’r unig ddigwyddiad chwaraeon yn cychwyn unrhyw le ar y blaned. Cymsgedd o syndod a dicter a nodweddodd yr ymateb, a chafodd ei chanslo ar yr unfed awr ar ddeg – ond cymaint oedd y twrw ynghylch y gêm nes i benderfyniad y Stereophonics gynnal dau gig yng Nghaerdydd osgoi sylw’r cyfryngau a chyhoedd, nes ei bod hi’n rhy hwyr . Mae’n ddigon posib y bydd y delweddau o’r gigs rheiny yn fater o gryn edifarhau ar ran y band a’r llywodraeth. Yn ddigon buan hefyd y cynyddodd y dicter mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru gyda thwristiaid yn ceisio preswylio mewn amrywiol safleoedd a lletai – a dim ond wrth i rau rhybuddio am aflonyddu gwirioneddol yn y cymunedau yma (er gwaethaf cynseiliau amlwg mewn gwledydd eraill) y daeth penderfyniad – a phan oedd Llywodraeth y DU ar fin cyhoeddi’r ‘cau lawr’ cyffredinol beth bynnag.

Priodolir rhan helaeth o’r petruso a gwamalu i’r amwysedd ymddangosiadol ynghylch cyfraith a pholisi datganoledig, ond hyd yn oed lle mae llywodraeth Dorïaidd Boris Johnson wedi achub y blaen, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi straffaglu wrth ddilyn. Erys y dryswch, er enghraifft, o gwmpas polisi ar gyfer y diwydiant adeiladu. Cynigiwyd arena’r ICC i’r Llywodraeth fel lleoliad preifat i helpu gyda’r argyfwng iechyd digynsail hwn, ond ni chafwyd ymateb. Ac yng nghyswllt y GIG wrth gwrs y mae’r problemau fwyaf, lle erbyn hyn mae dros fil o weithwyr iechyd wedi llofnodi llythyr agored yn mynnu gwell. Mae tystiolaeth o’r reng flaen yn peri pryder mawr o ran diffyg offer amddiffyn personol ar gyfer gweithwyr iechyd, a phrin iawn yw’r profion ymysg staff. Yn sgil y dyddiau diwethaf, cryfach eto yw’r argraff y gall y cwbl chwalu’n ddeilchion, wrth i gytundeb gweithgynhyrchu ar gyfer miloedd o brofion – conglfaen i’r ymateb arfaethedig – cwympo drwodd.

Mewn unrhyw ddemocratiaeth lled iach gallem ddisgwyl i aneffeithlonrwydd ac ansicrwydd o’r math hwn, mewn argyfwng, golygu canlyniadau i’r sawl sydd wedi tresmasu. Fodd bynnag, cymaint yw’r diffyg o ran diwylliant democrataidd cadarn a gweithredol yng Nghymru, fel ei bod yn debyg mai gwasanaeth fel yr arfer fydd drech – pan mae taer angen newid arnom. Un broblem yn y cyswllt hwn yw’r ffordd y mae Llafur, mewn modd cymharol deheuig, wedi troi unrhyw gwestiynu neu feirniadaeth o’u camsyniadau i mewn i ‘chwarae gwleidyddol’ ar adeg o argyfwng. Fel rheol, gallai fod rhywfaint o ddilysrwydd i honiad o’r fath – ond ni all yr wrthbleidiau ganiatáu i’w craffu, a’u hystyriaeth o syniadau polisi a dewisiadau amgen, gael eu cymeriadu yn y modd yma, er ein mwyn ni i gyd. Mae angen gosod chwyddwydr ar weithgaredd y llywodraeth a rhaid i’r gwrthbleidiau amlygu’r ffaith mai dyna yw eu cyfrifoldeb – a bod ymgais y llywodraeth i danseilio craffu yn wrth-ddemocrataidd ei ysbryd (roedd arwr mawr Llafur, Aneurin Bevan, yn enwog wrth gwrs am ddwyn Churchill i gyfrif yn ystod rhyfel byd, er mwyn y nefoedd).

Yn wir, mewn diwylliant gwleidyddol grymusach, mae’n ddigon posibl y byddem wedi clywed o leiaf rhai sibrydion ynghylch pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth. Byddai hyn yn bosibilrwydd damcaniaethol yn y Senedd, ond gan ei fod yn gweithio ar gapasiti cyfyngedig, a heb y niferoedd gofynnol am lwyddiant, mae’n annhebygol y bydd unrhyw aelod unigol am fentro. Yn fwy realistig, gallai rhywun hefyd fod wedi disgwyl i ambell farc cwestiwn codi am ddyfodol Vaughan Gething yn ei rôl fel Gweinidog Iechyd. O ystyried ei fod wedi bod wrth y llyw yn achos cyfran go helaeth o’r camsyniadau mor belled, byddai rhywun yn tybio y byddai’r posibilrwydd o’i ymadawiad o leiaf yn codi fel rhan o’r ddadl gyfredol. Gellir darllen rhwng llinellau’r sylwebaeth gan newyddiadurwyr gwleidyddol Cymru eu bod yn llai na bodlon gyda’r hyn sy’n prysur ddatblygu’n llywodraeth amddiffynnol, bron yn gwbl diymateb – lle mae cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu mynnu ac yna prin yn ennyn ateb teilwng. Ond hyd yma, ni ofynnwyd y cwestiynau anodd iawn. Siawns os ydym ni yng Nghymru yn parhau y tu ôl iddi, dim ond mater o amser ydyw.

Mae’n hanfodol bwysig i ni yng Nghymru, y dinasyddion cyffredin, ddechrau myfyrio nawr ar ddatblygiad yr argyfwng, ac ymddygiad ein gwleidyddion – yn rhannol oherwydd bydd y modd y mae’n dibennu yn arwain at ganlyniadau tymor hir i ddemocratiaeth yn Cymru. Os bydd pethau’n parhau fel y maent, mae’n weddol sicr y bydd rhai’n gofyn beth yw pwynt Cynulliad os na all wneud mwy dros ei bobl. Mae’n bwysig yn hyn o beth i bwysleisio mai gwleidyddion Cymru, nid gweithwyr gofal iechyd Cymru, na dosbarth gweithiol Cymru, na ni’r cyhoedd yn gyffredinol sy’n ein siomi. Mae gennym y pwerau i wneud cymaint mwy (fel y mae Undod eisoes wedi dangos yn glir) a byddai llywodraeth fwy beiddgar, cadarn a sosialaidd wedi eu defnyddio yn llawer mwy effeithiol.

Mae hefyd yn dod i’r amlwg mai rhy ychydig, ac nid gormod o rym a chyfrifoldeb yr ydym wedi’u hennill yng Nghymru, a phe byddem yn debycach i wlad annibynnol go iawn, byddem wedi datblygu’r diwylliant democrataidd, y gwleidyddion atebol, a Senedd byddai’n fwy abl i gynnig ymateb priodol i’r her sydd o’n blaenau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, gobeithiwn y cawn ni ein profi’n anghywir, er lles pawb.

Ymuno â'r Sgwrs

1 Sylwadau

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.