Trwy ddilyn yn y lle cyntaf strategaeth a oedd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a thystiolaeth o’r hyn sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, mae Llywodraeth y DU wedi colli wythnosau yn y frwydr yn erbyn y firws hwn — camgymeriad a allai gostio bywydau heb gamau brys a radical i daclo lledaeniad y firws a lleihau pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

Nid yw mesurau diweddar a gyflwynwyd o dan bwysau cynyddol gan y cyhoedd yn mynd yn ddigon pell o ran hwyluso lefel y pellter cymdeithasol sydd ei angen, neu brofi ac olrhain achosion o haint. Dim ond yn awr yr ydym yn gweld dechrau ar unrhyw ymgais difrifol i ddarparu adnoddau digonol ar gyfer ein GIG a’i weithwyr ac amddiffyn pobl rhag effeithiau economaidd yr argyfwng. Mae angen gwneud llawer mwy.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn siomedig o fodlon i gyd-fynd ag agwedd Llywodraeth y DU, gan wrthod rhoi mesurau pellach ar waith na chwestiynu neu feirniadu aneffeithlonrwydd di-hid a di-deimlad Llywodraeth y DU.

Er eu bod yn gyfyngedig, mae’r pwerau datganoledig sydd gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i gymryd camau sylweddol i amddiffyn pobl yng Nghymru yn erbyn effeithiau gwaethaf yr argyfwng hwn, a fydd yn effeithio’n wael ar wlad â phoblogaeth sy’n heneiddio a chyfraddau uwch nag arferfol o salwch anadlol, a gwasanaeth iechyd sydd eisoes o dan straen aruthrol a nifer fach iawn o welyau gofal dwys. Yn ogystal â’i bregusrwydd meddygol, mae tlodi Cymru sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn hefyd yn golygu y bydd hi’n fwy agored i effeithiau economaidd yr argyfwng: mae mwy nag un ym mhob pump o weithwyr Cymru mewn cyflogaeth ansicr.

Mae angen i Lywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i gyflawni ei dyletswydd foesol a gwleidyddol i bobl Cymru. Ni all barhau i ddilyn arweinyddiaeth San Steffan mewn modd cibddall. Yn hytrach, rhaid cymryd camau brys i helpu’r boblogaeth yn seiliedig ar argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal â gweithredu cymdeithasol radical i liniaru effeithiau economaidd gwaethaf yr argyfwng. Dylai’r Senedd hefyd wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i unrhyw fesurau gan Lywodraeth y DU sy’n cyfyngu’n ddi-angen ar ryddid sifil, hawliau gweithwyr ac atebolrwydd democrataidd.

Dylai gweinidogion wneud adolygiad brys o rymoedd datganoledig i weithredu mesurau fel yr hyn rydym yn amlinellu isod a rhyddhau’r cyllid sydd ei angen trwy gyllideb arbennig yn y Senedd. Dylai hyn gynnwys wneud y defnydd llawn o’u grymoedd benthyca a chronfeydd wrth gefn a threth argyfwng ar gyfoeth. Ni fydd llawer o’r mesurau hyn yn costio dim fodd bynnag, ac i gyd fydden nhw’n galw amdano ydy ewyllys wleidyddol.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau canlynol ar unwaith:

1. Galluogi pellhau cymdeithasol mwy effeithiol

  • Cyflwyno gwaharddiad ar gynulliadau mawr a digwyddiadau cyhoeddus.
  • Cau’r holl lety gwyliau a gwahardd defnyddio cartrefi gwyliau.
  • Cau’r holl amgueddfeydd, canolfannau diwylliannol ac atyniadau i dwristiaid.
  • Atal dysgu wyneb yn wyneb mewn prifysgolion a cholegau.
  • Cau pob siop sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol, meysydd chwarae, canolfannau crefyddol, canolfannau cymunedol, meithrinfeydd a chyfleusterau gofal dydd.
  • Cau’r holl lyfrgelloedd cyhoeddus, hybiau a chanolfannau hamdden. Cefnogi hybiau i ddarparu cefnogaeth o bell ar fudd-daliadau a thai. Atal a chanslo holl ddirwyon llyfrgell a threfnu benthyciadau a danfoniadau llyfrgell o bell.
  • Darparu cyllid i awdurdodau lleol ehangu darpariaeth pryd ar glud ar gyfer yr henoed, bregus a’r rhai sy’n hunan-ynysu. Dylai hyn hefyd gynnwys danfon bwyd i deuluoedd â phlant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
  • Gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i hwyluso dysgu o bell. Sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at adnoddau addysgol.
  • Cyfarwyddo’r holl weithwyr nad ydynt yn rheng flaen yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru i weithio gartref lle bo hynny’n bosibl.

2. Gwybodaeth i’r cyhoedd

  • Darparu ymgyrch iechyd cyhoeddus ddigynsail ar raddfa enfawr, gyda hysbysebion ar draws yr holl gyfryngau ac mewn mannau cyhoeddus yn cynghori dinasyddion am risgiau coronafirws a sut y gallant amddiffyn eu hunain ac eraill o’u cwmpas. Dylai hyn gynnwys:
    • Arweiniad i bawb ar sut i ymarfer pellter cymdeithasol cryfach mewn modd effeithiol a pham fod hyn yn hanfodol.
    • Cyngor penodol ac arbenigol i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed ar sut mae coronafirws yn rhyngweithio â chyflyrau eraill.
    • Cyngor ac adnoddau i bobl ar sut i ddelio ag effaith pellhau cymdeithasol a gorbryder sy’n gysylltiedig â’r argyfwng.

3. Cymorth i’r gwasanaeth iechyd

  • Hawlio ar unwaith adnoddau gofal iechyd a gwelyau ysbyty preifat at ddefnydd cyhoeddus.
  • Ail-osod eiddo masnachol gwag at ddefnydd meddygol.
  • Cyflenwi offer amddiffyn personol ar frys i’r holl weithwyr rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd a swyddi allweddol eraill, gan gynnwys gweithwyr gwasanaethau brys, gofalwyr, athrawon a gweithwyr cymorth.
  • Cyflwyno profion ac olrhain ar raddfa eang ar gyfer yr holl weithwyr gofal iechyd a rheng flaen a’u teuluoedd.
  • Ehangu profion ac olrhain cyswllt ymysg y boblogaeth gyffredinol ar frys.
  • Recriwtio a hyfforddi staff ychwanegol ar gyfer y GIG ar frys.
  • Rhoi diwedd ar unwaith ar yr holl daliadau gofal iechyd ar gyfer gwladolion o’r tu allan i’r DU a chyfathrebu’n glir na fydd unrhyw un yn gorfod talu am geisio gofal iechyd.
  • Ail-osod safleoedd gweithgynhyrchu i gynhyrchu peiriannau anadlu.
  • Trefniadau ar gyfer presgripsiynau o bell a danfon meddyginiaethau.
  • Atal ffioedd am lety ysbyty a pharcio i staff.

Mae rhestr llawn o alwadau gan weithwyr rhengflaen y GIG ar gael.

4. Sicrwydd ariannol i bawb

  • Cyflwyno incwm sylfaenol dros dro ar frys i bawb sy’n byw yng Nghymru i gymryd lle incwm a gollwyd ac amddiffyn pobl rhag y cwymp economaidd, yn enwedig y rhai hunangyflogedig a’r rhai sy’n colli swyddi. Rhaid ymestyn hyn hefyd i bobl heb ddinasyddiaeth a’r rheini nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.
  • Oedi’r casgliad o ffioedd a dyled myfyrwyr.
  • Canslo dyledion treth y cyngor.
  • Cynyddu cyllid ac ehangu cymhwysedd i’r Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn darparu cymorth brys.
  • Parhau â thaliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg tra bod ysgolion a cholegau ar gau a chael gwared ar ofynion presenoldeb.
  • Atal biliau cyfleustodau lle bo hynny’n bosibl i’r rheini sy’n cael eu taro gan y cwymp economaidd.
  • Gweithio gyda banciau bwyd i ddarparu cyllid a chefnogaeth ychwanegol gyda chyflenwadau yn wyneb angen cynyddol.

5. Llety diogel i bawb

  • Gwahardd troi pobl allan o’u tai
  • Rhewi rhent ar unwaith a chanslo rhent ar gyfer y rhai sy’n cael eu heffeithio gwaethaf gan yr argyfwng.
  • Cymryd drosodd eiddo gwag a gwestai i gartrefu pobl ddigartref ac amddifad.
  • Atal treth y cyngor.

6. Amddiffyn y bregus

  • Cefnogi cydlyniant ac hyfforddiant ar gyfer rhwydweithiau cyd-gymorth lleol.
  • Cyfarwyddo’r holl wasanaethau cyhoeddus na ddylid gweithredu amodau ar arian cyhoeddus mwyach (sy’n gwahardd rhai mudwyr a cheiswyr lloches sydd wedi’u gwrthod rhag cael mynediad at unrhyw wasanaethau cyhoeddus neu gymorth).
  • Gweithio’n agos gyda gwasanaethau cam-drin domestig i sicrhau bod cyfundrefnau cadarn ar waith i amddiffyn y rhai fydd yn awr mewn mwy o berygl o gam-drin domestig a’u galluogi i riportio yn ddiogel ac yn ddienw.
  • Datblygu gwasanaethau iechyd meddwl a rhoi adnoddau iddynt i gynnig cefnogaeth o bell, gyda chefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer y rhai y mae unigedd yn effeithio arnynt a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl presennol.
  • Gweithio’n agos gyda gwasanaethau digartrefedd ar allgymorth i amddiffyn y boblogaeth ddigartref a darparu cyngor penodol i bobl ddigartref.
  • Gweithio’n agos gyda charchardai i gynghori a darparu adnoddau a chyllid ychwanegol i amddiffyn carcharorion a staff.

7. Hawliau cryfach i weithwyr

  • Gweithio’n agos gydag undebau llafur i sicrhau hawliau gweithwyr i absenoldeb salwch â thâl a sicrhau nad yw gweithwyr yn cael eu diswyddo’n annheg o’u swyddi am hunan-ynysu.
  • Sicrhau bod gan bob gweithiwr fynediad at offer amddiffyn personol cywir a’u bod yn cael y gwybodaeth diweddaraf am eu hawliau fel nad ydynt yn cael eu hecsbloetio’n annheg yn ystod yr argyfwng.
  • Sicrhau nad yw trefnu undebau llafur yn cael ei rwystro yn ystod yr argyfwng.

A oes gennych chi syniadau neu arbenigedd pellach ar ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru arwain wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hwn? Rhowch wybod i ni yn y sylwadau neu e-bostiwch post@undod.cymru.

Gallwch ychwanegu eich cefnogaeth at lythyr agored gan weithwyr gofal iechyd at Lywodraeth Cymru yn galw am weithredu ar frys i amddiffyn staff ac arafu lledaeniad y firws yma.

Un ateb ar “Ymateb i bandemig coronafeirws: ein galwadau wrth Lywodraeth Cymru”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.