Yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr gan Lywodraeth y DU, a adleisiwyd gan Brif Weinidog Cymru, mae’r genedl bellach yn cychwyn ar fersiwn ‘feddal’ ei hun o’r cloi lawr sydd wedi’i weithredu eisioes yn yr Eidal, Sbaen a Ffrainc. Ac eto, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth, mae angen gweithredu ymhellach ar unwaith yma yng Nghymru, fel yr amlinellwyd yn natganiad Undod ddeuddydd yn ôl. Mae ein lles fel pobl a chymunedau yn y fantol.

Oherwydd datganoli, mae gan Gymru, fel yr Alban, lywodraeth ymreolaethol sy’n gyfrifol am weithredu llawer o’r mesurau iechyd cyhoeddus a benderfynwyd gan Lywodraeth y DU. Mae llywodraethau Cymru a’r Alban hefyd yn gallu cymryd mesurau ychwanegol ar ben yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei benderfynu, yn enwedig ar elfen gymdeithasol yr argyfwng. Mae hynny’n golygu bod yna gyfle yma i Gymru amddiffyn ei phobl ymhellach, gan weithredu mewn modd mwy dyngarol, cydlynol, a radical.

Ond collwyd cyfleoedd cynnar i gymryd safiad mwy ymroddgar tuag at COVID-19 oherwydd dryswch ynghylch pwerau datganoledig. Roedd dryswch y Prif Weinidog ynghylch a oedd ganddo’r pwerau i gau parciau carafannau oedd yn budrelwa yng nghefn gwlad Cymru yn golygu bod sawl diwrnod pwysig wedi cael eu colli.

Mae pwerau Llywodraeth Cymru yn hynod gymhleth a gwan. Wedi dweud hynny, mewn sefyllfa o bandemig, lle mae pwerau datganoledig Llywodraeth Cymru yn aneglur, rydym yn mynnu ei bod yn gwneud datganiadau clir a phendant ar y camau gweithredu sydd well ganddi. Yn hytrach na chuddio y tu ôl i bwerau gwirioneddol gyfyngedig, dylai unrhyw Lywodraeth Gymreig sy’n deilwng o’r enw herio’r amwysedd hwn a chynnig arweinyddiaeth wleidyddol, gan gynnwys cywilyddio Llywodraeth y DU i weithredu— yn hytrach na gwrthod eu herio.

Wedi adolygu ein gofynion o ran eu cyfreithlondeb, daw’n amlwg y gallai llawer o’r camau gael eu gweithredu nawr, neu o leiaf y gallai’r llywodraeth ddatganoledig gwthio’r cwch i’r dŵr gan ddechrau’r broses. Trafodwn isod yr opsiynau yn ôl y drefn wreiddiol.

1. Galluogi pellhau cymdeithasol mwy effeithiol

Mae’r cloi lawr meddal yn golygu bod y rhan fwyaf o’r gofynion yma bellach wedi’u rhoi ar waith, ddyddiau ar ôl i ni alw amdanynt. Gwnaed cynnydd heddiw ar ddarpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim. Mae canslo benthyciadau llyfrgell hefyd yn fater datganoledig a byddai’n rhad iawn i’w weithredu. Erys cwestiynau i’w gofyn, serch hynny. Pam yr oedi cyn gweithredu’n gyflym dros lety gwyliau a pharciau carafanau? A fydd pobl yn cael eu symud o’r safleoedd hynny ac yn derbyn gorchymyn i ddychwelyd yn ôl i’w cartrefi?

2. Gwybodaeth i’r cyhoedd

Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i ddarparu gwybodaeth gyhoeddus gliriach a phellach ar y pandemig —ac nid yw ein galwad am gyngor pellhau cymdeithasol cryfach na’r hyn sydd eisioes ar gael mewn peryg o danseilio’r hyn a gytunwyd ar lefel y DU.

3. Cymorth i’r gwasanaeth iechyd

Mae gofal iechyd wedi’i ddatganoli’n llawn wrth gwrs, ac nid oes unrhyw beth yn atal Llywodraeth Cymru rhag caffael offer amddiffyn personol (PPE) ar frys, lansio ymgyrch hyfforddi ddwys (ac nid dim ond ymrestru staff meddygol sydd wedi ymddeol yn unig—er cymaint dylem groesawi hynny), ac atal ffioedd llety. O ran gofal iechyd preifat, dylai Llywodraeth Cymru wneud ei bwriad yn glir ar unwaith i’r ysbytai preifat y bydd eu capasiti yn cael ei hawlio er budd y cyhoedd, fel y mae gweithwyr y GIG eisioes wedi galw amdani.

4. Sicrwydd ariannol i bawb

Mae’r adran hon yn hanfodol, ac mae’r mesurau sydd eu hangen i amddiffyn ein pobl yn cynnwys rhai brys, a hefyd rhai y gellid eu cyflawni dros y misoedd nesaf.

Rydym yn sylweddoli y byddai cyflwyno incwm sylfaenol yng Nghymru yn unig  yn anodd, oherwydd nad oes mecanwaith taliadau amlwg sy’n cynnwys pobl nad ydynt yn ddinasyddion — ac oherwydd anghyfiawnder y ffaith bod Cymru wedi’i gwhardd rhag creu budd-daliadau newydd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio’r holl liferi datganoledig y gellir manteisio arnynt i’r perwyl yma, er enghraifft trwy gynyddu gwariant ar y system Cymorth Trethi Cyngor o’i swm cyfredol o £270 miliwn, neu trwy gyhoeddi taliad argyfwng un-tro i holl drigolion Cymru.

O ran ffioedd a dyled myfyrwyr, ariennir y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar y cyd gan Lywodraethau’r DU a Chymru a chaiff cyllid myfyrwyr ei ddatganoli. Dylai’r Gweinidog Addysg alw felly am seibiant ar gasglu dyledion.

Yn yr un modd, gallai Llywodraeth Cymru ariannu awdurdodau lleol i ganslo dyledion treth gyngor (maent eisoes wedi dileu carcharu am fethu â thalu treth y cyngor), ddarparu cronfeydd brys dewisol i lywodraeth leol i gynorthwyo’r bobl fwyaf bregus, ariannu a chynorthwyo banciau bwyd, a pharhau gyda thaliadau y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Mae rhewi biliau cyfleustodau yn fater o’r farchnad drydan, dan oruchwyliaeth Llywodraeth y DU. Serch hynny, dylai Llywodraeth Cymru herio Llywodraeth y DU ar hyn, fel maent yn honni iddynt wneud ar faterion eraill heb eu datganoli, megis y cymhorthdal cyflog.

5. Llety diogel i bawb

Ym maes tai gallai Llywodraeth Cymru wneud datganiad beiddgar ac effeithiol. Mae tai wedi’u datganoli. Gallai ddeddfu yn y sector rhentu preifat — yn ddelfrydol trwy weithdrefn frys —  i wahardd rhag troi pobl allan. Mae Mark Drakeford eisoes am wahardd “troi allan heb bai”. O dan amodau’r argyfwng yma, pam nad mynd cam ymhellach?

Gallai, ac fe ddylai’r ddeddfwriaeth yma rhewi rhenti preifat. Byddai’r effaith ar fywydau pobl yn sylweddol a byddai’n cymell rhentwyr yn Lloegr a’r Alban i godi llais gyda’r un alwad. Landlordiaid preifat fyddai’n talu’r costau hyn.

Gellid dileu biliau treth y cyngor yn gyfan gwbl ar gost o £ 1.8bn y flwyddyn. Ond byddem yn cefnogi pa gamau bynnag sy’n fforddiadwy. Byddai atal y Dreth Gyngor i draean o’r eiddo – sydd yn y ddau fand isaf – yn costio ar sail amcan bras rhyw £500 miliwn. Fodd bynnag, byddai gwneud hynny hefyd yn rhyddhau arian sylweddol o’r system Cymorth Trethi Cyngor i dargedu’r rhai mewn angen sydd yn berchen ar eiddo yn y bandiau uwch.

6. Amddiffyn y bregus

Nid yw’r setliad datganoli yn cyfyngu Llywodraeth Cymru o ran darparu cymorth a chydlynu i grwpiau cyd-gymorth.

Mae’r un peth yn wir hefyd am gynorthwyo gwasanaethau ym maes digartrefedd, iechyd meddwl a chymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig, y mae pob un ohonynt wedi’i ddatganoli.

Wrth gwrs, nid yw polisi carchardai wedi’i ddatganoli, ond mae gofal iechyd carchardai yn fater i Lywodraeth Cymru, a gallai ein galwad am gyngor ac adnoddau iechyd i garcharorion a staff gael ei gyflawni trwy hynny.

7. Hawliau cryfach i weithwyr

Mae hawliau gweithwyr yn cael eu hennill gan undebau llafur, ac mae deddfu ar eu cyfer yn digwydd trwy gyfraith cyflogaeth — sy’n fater a gadwyd yn ôl gan San Steffan. Serch hynny mae Llywodraeth Cymru’n gallu ac wedi hyrwyddo hawliau gweithwyr o fewn y sector cyhoeddus datganoledig. Gallai ddarparu cyfarwyddiadau ac arweiniad i reolwyr y sector cyhoeddus i sicrhau nad yw trefnu undebau llafur wedi’i gyfyngu yn ystod yr argyfwng.

Casgliad

Rhaid cydnabod bod y dadansoddiad hwn wedi’i gyfyngu gan y ffaith ein bod mewn argyfwng digynsail. Ni fu disgwyl erioed i lywodraeth ddatganoledig weithredu mor gyflym, heb rigmarôl ymgynghoriadau, cyngor cyfreithiol a chraffu hir. Ond mae adegau o argyfwng yn galw am weithredu radical.

Rhaid symud tu hwnt i’r atebion dryslyd ynghylch pwerau datganoledig o’r dyddiau diwethaf yma. Yn hytrach dylai Gweinidogion nodi’n eofn beth sydd angen digwydd. Ac yna dylent nodi ble mae’r pwerau’n eistedd a beth sydd angen ei wneud i amddiffyn ein pobl.

Buasai Llywodraeth radical yng Nghymru yn gweithredu’n  gyflym i atal troi allan, i ddarparu rhagor o offer amddiffyn personol i’n gweithwyr rheng flaen, i ddarparu cymorth ariannol brys i’n cartrefi mwyaf bregus a’r digartref, ac i wneud yn well na Llywodraeth y DU, yn fecanwaith hanfodol i gymunedau yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn COVID-19 ac yn y pen draw, i wireddu byd gwell.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.