Rhybudd cynnwys: mae’r erthygl hwn yn trafod hunanladdiad ac esgeulustod mewn lleoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl.

Cyflwyniad

Yn hwyr ar brynhawn Gwener y 24ain o Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r trydydd cynllun cyflawni, a’r un olaf, ar gyfer ei strategaeth deng mlynedd ar iechyd meddwl. Yn dilyn ymgynghoriad chwe wythnos yr haf diwethaf, treuliodd y Gweinidogion bum mis yn eistedd ar ymatebion cyn cyhoeddi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022.

Ychydig a sylwodd ei fod eisoes flwyddyn yn hwyr.

Er bod iechyd meddwl yn un o’r pum blaenoriaeth a nodwyd ac yn cyfrif am oddeutu 1 o bob £20 o wariant datganoledig, prin iawn yw’r gwaith craffu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu ar yr hyn mae wedi’i gyflawni. Y tro diwethaf i’r strategaeth gael ei thrafod yn y Senedd oedd pedair blynedd yn ôl, a chyhoeddwyd yr ‘adroddiad blynyddol’ ar gynnydd diwethaf yn 2014. Mae’r adroddiad bellach wedi’i ddileu o wefan y Llywodraeth. Fel y cynlluniau cyflawni blaenorol.

Mae’r osgoi craffu hwn yn gynnyrch o’r un hunanfodlonrwydd sydd wedi dod i nodweddu agwedd Llafur Cymru tuag at iechyd meddwl. Mae’n flaenoriaeth mewn enw yn unig. Ffasâd, lle mae Gweinidogion yn sôn am gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol a meddyliol ac yn annog pobl i siarad a gofyn am gymorth, ond yn ein gorfodi ni i ddefnyddio gwasanaethau sydd wedi eu tanariannu ac sydd â diffyg adnoddau, os ydyn ni’n ddigon lwcus i gael cymorth o gwbl.

Yn ystod degawd o lymder a ddaeth â rhagor o dlodi, diweithdra, banciau bwyd a thrawma’r Credyd Cynhwysol i gymunedau Cymru, mae’r galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi parhau i godi. Cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau i dimau argyfwng iechyd meddwl gan 17% yn y tair blynedd hyd at 2018. Cynyddodd nifer y bobl a gadwyd yn y ddalfa gan yr heddlu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl gan 30% yn y pum mlynedd hyd at 2019. Ymhlith y 2,256 o bobl a gadwyd yn y ddalfa yn y flwyddyn honno, roedd 117 ohonynt o dan 18 oed.

Yn ystod y deng mlynedd hyd at 2014, dyblodd nifer y presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth gwrth-iselder, ac mae’r ffigwr yn parhau i godi. Yn ardal Cwm Taf, mae 1 o bob 9 o bobl yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer eu hiechyd meddwl. Yn Aberpennar, mae’r ffigwr hwn mor uchel ag 1 ym mhob 3. Mae hwn yn batrwm a welir ar bob lefel. Mae’r achosion yn gymhleth ac yn unigryw i’r unigolyn; ychydig a wna’r ystadegau i gyfleu’r emosiynau personol dwfn y tu ôl iddynt. Ond ar y cyfan, mae’n anodd gwadu eu bod yn cyfleu cymdeithas sy’n anniogel yn seicolegol.

Ceir tystiolaeth glir o’r cysylltiadau rhwng tlodi a phroblemau iechyd meddwl. Y bobl sydd fwyaf tebygol o nodi problem iechyd meddwl yw’r rheiny sy’n byw yng nghymunedau tlotaf Cymru, a’r rhai lleiaf tebygol yw’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae effaith economaidd sydyn a hirdymor Covid-19 – neu yn hytrach ymateb y Llywodraeth iddo – yn peryglu ymwreiddio’r anghydraddoldebau hyn ymhellach a chymell problemau iechyd meddwl. Mae effaith Covid-19 eisoes yn ddifrifol ac yn anghyfartal. Effeithiwyd ar bobl oedd eisoes yn byw â phroblemau iechyd meddwl ar raddfa anghymesur, a gwaethygwyd anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes.

Ar yr un pryd, mae’r pandemig wedi datgelu’r grym gwirioneddol sydd gan y Llywodraeth. Mae pethau oedd yn ‘rhy anodd’ ar un adeg, fel rhoi diwedd ar ddigartrefedd ar y stryd, wedi eu cyflawni fwy neu lai dros nos. Yn yr un modd, mae Covid-19 wedi arwain at ymdeimlad newydd o gymuned, o drefnu, gweithredu a chefnogi. Dyma’r pethau yr adeiledir cymdeithas sy’n seicolegol iach arnynt – pethau a gollwyd o dan lymder.

Mae iechyd meddwl yn bwnc eang sy’n cwmpasu nifer o faterion. Mae atal, ymyrraeth gynnar a thriniaeth yn y gymuned i gyd yn haeddu sylw manwl ac archwiliad llawer mwy trwyadl nag y mae un cofnod blog yn ei ganiatáu. Yr hyn sy’n dilyn yw trosolwg o un maes – triniaeth yn yr ysbyty – a’r hyn sydd angen ei wneud.

Preifateiddio

Amlygir y bwlch rhwng rhethreg Llafur Cymru a realiti sefyllfa iechyd meddwl yn glir yn achos preifateiddio’r GIG. Mae’n fater sy’n taro wrth galon y Blaid Lafur. Fel y dywedodd Mark Drakeford, dyletswydd y Blaid Lafur yw “cadw ein GIG yn rhydd o ddylanwad maleisus y sector breifat sy’n ceisio gwneud elw.”

Gallwn ddyfynnu nifer o Weinidogion y  Llywodraeth ar hyn, o Vaughan Gething yn dweud y “dylai’r GIG barhau yn yn nwylo cyhoeddus yn gadarnhaol” neu Julie James yn datgan bod y blaid yn “llwyr ffieiddio preifateiddio’r GIG.” Neu gallwn fynd yn ôl at y Prif Weinidog a ddywedodd yn gadarn bod “rhaid i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru barhau i fod yn wasanaeth cyhoeddus, wedi’i ariannu’n gyhoeddus ac wedi’i ddarparu’n gyhoeddus. Nid oes lle i breifateiddio yn y GIG yng Nghymru.”

Ond nid oes dim o hynny’n wir. Er gwaetha’r holl eiriau cynnes ar gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwll, mae GIG Cymru yn talu dros £75 miliwn y flwyddyn i ddarparwyr preifat. Mae hynny tua 8-10% o’r gyllideb gyfan ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu wedi’u cyfuno. Mae’r union ffigwr yn anhysbys. Ni chaiff ei gyhoeddi na’i drafod.

Byddai hyn yn sgandal cenedlaethol mewn unrhyw faes arall o’r GIG.

Pan ddywedodd Donald Trump y byddai’r GIG yn fater i’w drafod mewn unrhyw gytundebau masnach wedi-Brexit, roedd Llafur Cymru yn barod i ddatgan yn gryf nad oedd GIG Cymru ar werth. Dywedodd Vaughan Gething yn falch:

“Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn wasanaeth cyhoeddus, ac fe fydd yn parhau i fod yn wasanaeth cyhoeddus tra bo’r Llywodraeth hon mewn grym yng Nghymru. Ac yng Nghymru, dan y llywodraeth hon, bydd yn parhau i fod yn wasanaeth gwerthfawr sy’n rhoi pobl – nid elw – yn gyntaf.”

Ond celwydd yw hyn. Mae corfforaethau’r Unol Daleithiau eisoes yn gweithredu yng Nghymru.

Ystyriwch Cygnet Health Care er enghraifft, cwmni preifat er elw sy’n cynnal gwasanaethau arbenigol i gleifion mewnol yn y DU. Mae Cymru a Lloegr yn rhoi cleifion a ariennir gan y GIG yn y gwasanaethau hyn, yn aml am fisoedd neu flynyddoedd ar y tro. Mae Cygnet Health Care yn eiddo i gorfforaeth yr Unol Daleithiau, ‘Universal Health Services Inc’.

Mae UHS yn gwmni enfawr sy’n cyflogi tua’r un faint o bobl â GIG Cymru ac mae ganddo refeniw sy’n fwy na chyllideb gyfan GIG Cymru. Mae eu gweithrediadau yn America wedi profi cyfres o sgandalau, a arweiniodd at ddirwy o $127 miliwn y llynedd. Cyhuddir y cwmni o gadw cleifion yn erbyn eu hewyllys a gorliwio eu problemau iechyd meddwl er mwyn gwneud hawliadau yswiriant twyllodrus.

Mae gan Cygnet ddau safle yng Nghymru, ond anfonir cleifion o Gymru hefyd i ysbytai Cygnet yn Lloegr – sydd yn aml gannoedd o filltiroedd o’u cartrefi, eu teuluoedd a’u ffrindiau, sydd ynddo’i hun yn gallu bod yn niweidiol i’r broses o wella.

Yn waeth fyth, mae rhai darparwyr preifat wedi darparu lefel echrydus o ofal, gan gynnwys Cygnet Health Care.

Ym mis Mai 2017, trosglwyddwyd Claire Greaves, menyw ifanc o Bontypridd, o Ysbyty GIG Nevill Hall yn y Fenni i ysbyty Cygnet yn Coventry. Ar y pryd, trydarodd “Hoffwn pe bawn i’n gallu mynd adref, dydw i ddim eisiau bod dros 100 milltir i ffwrdd o adref am amser mor hir.”

Yn Coventry, cafodd Claire Greaves a chadw ar wahân am gyfnod hir a chafodd ei hatal droeon. Bu farw drwy hunanladdiad yn yr ysbyty ym mis Chwefror 2018.

Canfu rheithgor cwest bod ei marwolaeth yn deillio o fethiannau yn ei gofal. Bu methiant i gynyddu pa mor drwyadl arslywyd arni, er gwaethaf nifer o achosion o hunan-niweidio yn y dyddiau cyn iddi farw. Cysylltodd y rheithgor y methiannau hyn â staffio gwael, a daeth i’r casgliad bod lefelau staffio ‘mwy na thebyg wedi achosi neu gyfrannu at’ farwolaeth Ms Greaves.

Mae cleifion GIG Cymru yn dal i gael eu lleoli yn ysbytai Cygnet.

Darparwr preifat arall sy’n derbyn arian gan y GIG yw Regis Healthcare, cwmni o Gymru sydd wedi’i leoli yng Nglynebwy. Yn gynnar yn 2018, cododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bryderon ynghylch diogelwch y gwasanaeth. Mewn un achos, ataliwyd claf ifanc am fwy nag awr a hanner. Ataliwyd person arall 109 gwaith mewn chwe mis. Dywedodd pobl ifanc a oedd yn cael eu cadw’n gaeth yn yr uned wrth yr arolygwyr fod y defnydd o atal yn “fychanol ac yn anghyfforddus i’w wylio.” Erbyn mis Medi, cafodd pob claf a ariannwyd gan GIG Cymru eu symud o wasanaethau Regis Healthcare.

Ond ni ddi-rymwyd trwydded Regis Healthcare ac arhosodd cleifion eraill yno – gan gynnwys y rhai a ariannwyd gan GIG Lloegr. Cafodd gwasanaethau y barnwyd eu bod yn anniogel i gleifion GIG Cymru aros ar agor. Dim ond y cleifion roedden nhw’n uniongyrchol gyfrifol amdanynt y ceisiodd Llywodraeth Cymru eu diogelu, gan beidio â gwneud hynny ar ran pobl ifanc a oedd yn cael triniaeth yn breifat na’r rhai a ariannwyd gan GIG Lloegr.

Yn y cyfamser, mae Regis Healthcare yn brysur yn gwneud cynlluniau i agor rhagor o unedau i gleifion mewnol dros y blynyddoedd nesaf a nodwyd yn ddiweddar mai dyma un o’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.

O dan y rhethreg, mae defnyddio darparwyr er elw yn rhan allweddol o ddull Llafur Cymru o ymdrin â thriniaeth cleifion mewnol. Dim ond y mis hwn, gwrth-drowyd penderfyniad cynllunio i ganiatáu ysbyty iechyd meddwl preifat gyda 61 o welyau yn y Rhyl.

Ond nid Llafur Cymru yn unig sydd wrthi. Ar draws y pleidiau gwleidyddol a chymdeithas ddinesig, mae’r rhagrith hwn yn cael ei gynnal gan dawelwch. Er ein holl gynnydd o ran deall problemau iechyd meddwl, mae salwch meddwl difrifol yn dal i gael ei gamddeall, ei stigmateiddio a’i ysgubo o’r neilltu i raddau helaeth.

Mae angen mwy na geiriau ar gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Rhaid iddo fod yn egwyddor, wedi’i chyflawni gan y Llywodraeth ond wedi’i hategu gan bawb. Pan geisiodd Llywodraeth Cymru breifateiddio gwasanaethau dialysis yng ngogledd Cymru, gorfodwyd iddynt wneud tro pedol yn dilyn yr dicter gwleidyddol priodol a ddilynodd. Mae ffordd bell i fynd cyn i’r fath ddicter adeiladol ymestyn i iechyd meddwl.

Gweithredu

Yn aml, pobl sy’n cael eu hanfon i ysbytai iechyd meddwl preifat yw’r rhai y credir eu bod yn peri’r risgiau mwyaf iddyn nhw eu hunain neu i eraill. Gall y rhain gynnwys pobl sydd ag anhwylderau bwyta difrifol, anableddau dysgu, trawma cymhleth neu sy’n wynebu heriau o ran ymddygiad. Mae hyn yn tryledu ‘risg’ a chyfrifoldeb.

Yr un esgeuluso dyletswydd yw’r hyn sy’n gweld Gweinidogion Llafur Cymru yn datgan nad oes ganddynt unrhyw lais dros cau’r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Neu Cyngor Caerdydd yn mynnu nad oes ganddynt lais dros faterion cynllunio lleol. Mae’n ymagwedd sy’n gweld sefydliadau’n diogelu eu hunain, yn hytrach na dinasyddion, ac un sy’n magu apathi biwrocrataidd ar bob lefel.

Mae’r misoedd diwethaf wedi amlygu hyn yn gliriach nag erioed ac felly yn cynnig cyfle prin ond euraid ar gyfer newid gwirioneddol. I fenthyg oddi wrth cyfrannwr arall: “Dylai’r profiad o roi diwedd ar gysgu ar y stryd mewn dinas o fewn wythnos weithredu fel model ar gyfer arweinyddiaeth a llywodraethu cyflym ac effeithlon: nodi ateb, ei ariannu’n briodol, rhoi trefn ar awdurdodau lleol i weithredu ar unwaith, diystyru gweithdrefnau biwrocrataidd.”

Mae’r un peth yn wir am wasanaethau cleifion mewnol. Mae’r profiad o ddyblu gwelyau’r GIG mewn ychydig wythnosau’n profi’r hyn sy’n bosibl. Gyda blaenoriaeth, arweiniad a chyfeiriad, gallai Llafur Cymru yn hawdd roi terfyn ar breifateiddio yn y GIG.

Yn gyntaf, mae angen mynd i’r afael â materion o fewn gwasanaethau cleifion iechyd meddwl mewnol y GIG ei hun. Bydd hyn yn gofyn am gynnydd cyflym yng nghapasiti a gweithlu’r gwasanaethau cleifion mewnol, yn ogystal â chreu gwasanaethau newydd, gan gynnwys gwelyau ychwanegol a gwasanaethau arbenigol fel Uned Mamau a Babanod a gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Gall arweinyddiaeth, cyllid digonol a diystyru strwythurau biwrocrataidd gyflawni hyn yn gyflym.

Ni ellir parhau â’r distawrwydd cyfunol a gawsom hyd yma. Mae gwir gydraddoldeb rhwng iechyd corfforol a meddyliol yn galw am weithredu ac mae’n rhaid dechrau drwy roi terfyn ar sgandal preifateiddio’r GIG.

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun am y materion a trafodwyd yma cysylltwch â Samaritans Cymru neu’r Llinell Cymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L.

Un ateb ar “Iechyd meddwl yng Nghymru: y bwlch rhwng rhethreg a realiti”

  1. There’s also the quality of care when it is provided. Look at this report on something as care planning within Cardiff and Vale Health Board – http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1143/Agenda%20bundle2.pdf
    Wales has per capita far fewer trained therapists than the other UK nations. The answer increasingly to palm out psychological care to untrained unsupervised and underpaid third sector organisations and staff. The Welsh government rushed this out in the first week of a summer holiday so no one would notice http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/1011/evidence-tables_final.pdf none of this is remotely delivered anywhere in Wales.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.