Rhan o gyfres Cam nesaf Cymru

“Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn yn briodol nac yn deg, ac mae’r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn dangos hyn yn glir. Rhaid peidio â mynd yn ôl at yr hen system. Rhaid i’r argyfwng fod yn gatalydd i ddatrys digatrefedd.”

Yng Nghaerdydd, dinas sydd, er mawr cywilydd, wedi dod yn gyfystyr â digartrefedd, mae coronafeirws wedi, i bob pwrpas, dod â chysgu tu allan i ben.

Fis yn ôl, roedd bygythiad y firws yn cynrychioli sefyllfa hunllefus i wasanaethau digartrefedd y ddinas.

Roedd nifer sylweddol o’r rhai oedd yn cysgu allan yn wynebu risg arbennig o coronafeirws oherwydd bod eu systemau imiwnedd eisoes wedi’u gwanhau. Petai’r firws yn cydio ymysg y boblogaeth ddigartref—p’un ai’n cyd-fyw yn agos gyda’i gilydd mewn hosteli neu’n cysgu allan—byddai’n torri drwyddynt fel menyn, gan olygu’r posibilrwydd o efelychu’r clystyrau trasig rydym yn eu gweld mewn cartrefi gofal ar hyn o bryd. Mae’r boblogaeth ddigartref hefyd yn ifanc (h.y. y grŵp sy’n cael blaenoriaeth ar gyfer peiriannau anadlu), a gallai cynnydd sylweddol mewn achosion yn eu plith ychwanegu straen enfawr ar wasanaeth iechyd lleol.

Mae’r ffordd y mae darpariaeth ddigartrefedd yn y ddinas wedi cael ei sefydlu yn hanesyddol yn gwneud heintio torfol ymysg y digartref yn bosibilrwydd go iawn. Mae bellach yn amlwg bod datrysiad hirsefydlog o ‘ofod llawr’ (lle mae’r rhai sy’n cyflwyno eu hunain fel digartref yn cael eu cynnig llawr i gysgu arno yn un o adeiladau’r Cyngor) yn amhriodol yn ystod yr argyfwng, oherwydd golyga’r amodau gorlawn bod ymbellhau cymdeithasol a hunanynysu yn amhosib. Yn yr un modd, mae hefyd yn amlwg bellach bod llochesi nos mewn argyfwng, a oedd yn arfer cynnwys dau neu dri o’r sawl a oedd yn cysgu allan ymhob ystafell, yn amhriodol am yr un rheswm.

O’r blaen, byddai’r llochesi nos mewn argyfwng hefyd yn gorfodi preswylwyr i adael am 12 awr y dydd, gan olygu bod y rhai sy’n cysgu allan yn ymgasglu yng nghanol y ddinas mewn grwpiau mawr i gael cwmnïaeth a bod yn gefn i’w gilydd ac er mwyn cael mynediad at wasanaethau megis darpariaeth bwyd. Roedd y symudedd a’r ymgasglu dyddiol hyn yn golygu risg enfawr arall yn ystod pandemig covid.

Dylanwad yr argyfwng

Ar 20 Mawrth, dyma Lywodraeth Cymru, a oedd wedi bod yn boenus o araf wrth fynd i’r afael â digartrefedd hyd yma, yn cyhoeddi cronfa £10 miliwn i helpu i symud pobl oddi ar y stryd drwy ariannu llety mewn gwesty a gwely a brecwast. Dyma wasanaethau digartrefedd Cyngor Caerdydd yn manteisio ar yr arian hwn yn gyflym, gan ei ddefnyddio i gymryd drosodd gwestai a hosteli mawr, a dechreuodd symud pobl sy’n cysgu allan i mewn i’r llety newydd yn gyflym.

O fewn wythnos, lleihawyd y boblogaeth sy’n cysgu allan, a oedd yn rhifo tua 100 (allan o boblogaeth ddigartref lawer mwy) i lawr i ffigurau sengl. Heddiw, dim ond ychydig o bobl sy’n parhau ar y stryd. Mae hosteli a arferai fod â dau neu dri i bob ystafell bellach yn rhai ystafelloedd sengl. Yn hytrach na gorfod gadael am 12 awr ar y tro, caniateir i breswylwyr aros ar y safle 24 awr y dydd. Nid yw dyletswyddau tai bellach yn ‘rhedeg allan’ nac yn ‘diweddu’. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyfarnu, yn ystod yr argyfwng hwn, y bydd yr holl bobl sy’n cysgu allan yn cael eu categoreiddio’n ddigwestiwn fel y sawl sydd ag ‘angen blaenoriaethol’, sy’n eu categareiddio fel rhai sy’n fregus ac yn gwarantu cynnig awtomatig o lety dros dro. Yn flaenorol, dim ond ar gyfer y bobl fwyaf bregus yr oedd y categori hwn, ac yn ymarferol anaml iawn y byddai’n cael ei ddefnyddio. Gwaharddwyd yn ogystal troi allan o hosteli yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r ddeddf ‘cysylltiad lleol’, a oedd yn atal cymaint o bobl rhag cael gafael ar lety yn y gorffennol, wedi cael ei hepgor. Gall mudwyr nad oedd ganddynt hawl i gael wasanaethau cyhoeddus megis llety, o dan bolisiau’r ‘hinsawdd gelyniaethus’ y Swyddfa Cartref, bellach gael gafael ar wasanaethau digartrefedd yma yng Nghymru. Mae’r system presgripsiynau methadon yn digwydd yn gyflymach, (ac nid yw pobl yn cael eu tynnu oddi ar eu presgripsiynau); a chaiff preswylwyr ym mhob hostel dri phryd o fwyd a dydd.

Nid yn unig y mae hyn, i raddau helaeth, wedi datrys cysgu allan mewn un cam, dywed y rhai sy’n byw yn y llety dros dro newydd fod y profiad cyffredinol o gael eich ystafell eich hun, prydau poeth, a pheidio â chael eich deffro i orfod gadael yr hostel drwy’r dydd hefyd yn rhoi hwb pwysig – i ysbryd a hyder pobl sydd wedi arfer â chael eu gadael i lawr a’u trin heb urddas.

Wrth gwrs, erys llawer o faterion o hyd: mae pobl yn dal i gael eu gwneud yn ddigartref pan gânt eu rhyddhau o’r carchar, er enghraifft, a bydd y gwestai a gymerwyd drosodd yn dod yn llawn yn fuan. Yn ychwanegol at hynny, roedd y canllawiau cychwynnol ar reoli’r firws mewn lleoliadau preswyl a’r ymdrech logistaidd a oedd yn gysylltiedig â symud pobl oddi ar y stryd yn amlygu’r ffolineb o fod â chynifer o wahanol elusennau digartrefedd yn ymwneud â darpariaeth ar ben yr hyn a ddarperir gan y sector cyhoeddus—mae’n anodd iawn cyfathrebu mesurau brys ac yna eu gweithredu ar draws sawl darparwr.

Er hynny, mae’r profiad a gafwyd y mis diwethaf yn dangos ei bod yn gwbl bosibl ailgartrefu’r rhai sy’n cysgu allan yn gyflym os yw’r ewyllys gwleidyddol yno. Fel cymaint o bethau eraill yn ystod yr argyfwng hwn, mae wedi dod i’r amlwg bod yr arian i wneud rhywbeth fel hyn wedi bod yno o’r cychwyn. Yn y gorffennol, er gwaethaf yr ystumiau a’r rhethreg arferol gan Lywodraeth Cymru ac uchelfannau’r Cyngor, yn y pen draw, ni oeddynt yn poeni digon am gysgu allan i wneud unrhyw beth gwirioneddol radical. Roedd cysgu allan yn cael ei dderbyn yn y bôn, ac yn hytrach na chymryd y camau amlwg i’w ddatrys, roeddent yn hapus i botsian rownd yr ymylon, dim ond oherwydd bod yr ateb go iawn, yn eu llygaid nhw, yn rhy ddrud.

Mae yna wersi amlwg yma hefyd ar gyfer llywodraethu a gweithredu polisi yn fwy cyffredinol. Mae Cymru yn wlad lle nad oes unrhywbeth yn digwydd yn gyflym. Mae atebion amlwg a syml sydd wedi gweithio mewn gwledydd eraill, ar gyfer problemau y gellid eu datrys mewn wythnosau, yn hytrach yn troi’n grwpiau ‘tasg a gorffen’ diddiwedd, pwyllgorau, ymholiadau ac astudiaethau peilot sy’n cael eu llusgo allan dros flynyddoedd, hyd yn oed degawdau. Mae arbenigwyr yn rhoi tystiolaeth ac yn gwneud argymhellion sy’n cael eu hanwybyddu neu eu gwlastwreiddio dro ar ôl tro. Caiff dogfennau strategaeth ‘radical’ eu cyhoeddi ac yna’n mynd yn angof. Yn hytrach na gweithredu polisi, rydym yn penodi ‘comisiynwyr’ di-ddannedd fel y gallwn gyhoeddi i’r byd pa mor radical ydyn ni, heb wir newid unrhyw beth. Hyd yn oed pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu, o’r diwedd, ar bolisi, nid oes canllawiau nac arian ychwanegol i awdurdodau lleol i’w cefnogi, sy’n golygu mai anaml y gweithredir mentrau beth bynnag. Mae’r diwylliant hwn o fiwrocratiaeth a diffyg brys sefydliadol ar ei fwyaf amlwg yn y broses boenus o araf a cheidwadol o wireddu’r cynllun ‘tai yn gyntaf’ yng Nghymru.

Dylai’r profiad o ddatrys cysgu allan mewn dinas o fewn wythnos bellach weithredu fel model ar gyfer llywodraethu ac arweinyddiaeth gyflym, effeithlon: adnabod datrysiad, ei ariannu’n iawn, gorchymyn i awdurdodau lleol weithredu ar unwaith, diystyru gweithdrefnau biwrocrataidd.

Y cyfrwystra mwyaf yn y ddadl dros ddigartrefedd dros y degawd diwethaf fu datgysylltu digartrefedd (a chysgu allan yn benodol) oddi wrth y mater strwythurol, cymdeithasol o ddiffyg tai a lloches priodol. Yn hytrach, mae’r naratif wedi symud yn llechwraidd i faterion sy’n ymwneud â gwendidau unigol – ymddengys fod pobl yn ddigartref nid oherwydd diffyg lloches, ond oherwydd eu bod yn gaeth i alcohol a chyffuriau, ymddygiad gwael, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac yn y blaen. Felly rydym yn edrych ar adeiladu ‘gwytnwch’, ‘ffiniau’ a ‘hyder’ mewn pobl yn lle adeiladu tai fforddiadwy.

Mae’r naratif hwn yn esblygu’n hawdd i’r hyn sy’n cael ei bedlera gan rai cynghorwyr yng Nghaerdydd, sef mewn gwirionedd mae pobl ar y stryd wedi cael cynnig lloches (gofod llawr), ac felly ‘nid oes unrhyw reswm dros fod yn cysgu allan’. Yr isdestun, fel bob amser, yw bod pobl allan ar y stryd oherwydd rhyw fethiant personol, neu ddewis, yn hytrach na diffyg llety brys addas a phriodol.

Mae pobl yn ddigartref oherwydd nad oes digon o dai (neu yn hytrach nid oes digon o dai fforddiadwy), ac oherwydd nad yw’r llety brys, dros dro sy’n cael ei gynnig yn addas. Dengys y mis diwethaf pan fydd y rhai sy’n cysgu allan—y rhai a ystyrir y rhai mwyaf ‘ddisymud’ (mewn geiriau eraill, ‘anodd’) ymhlith y boblogaeth ddigartref—yn cael cynnig llety sy’n dderbyniol (heb unrhyw reolau troi allan tila) byddant yn ei dderbyn, â pheidio â chysgu allan – mae mor syml â hynny.

Er bod y newidiadau uchod yn stori lwyddiant enfawr, erbyn hyn mae’r mater enfawr, pryderus yn cael ei amlygu o’r hyn a fydd yn digwydd i’r bobl sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd unwaith y bydd yr argyfwng drosodd (gydag ariannu yn Lloegr eisoes yn dod i ben). Ar ôl i’r pandemig coronafeirws ddod i ben, gobeithio y bydd troi pobl allan o’r hosteli a llety gwely a brecwast ar raddfa fawr yn hunanladdiad gwleidyddol. Ond, am Gyngor Caerdydd rydyn ni’n siarad, felly allwn ni ddim cymryd dim yn ganiataol. Gan ystyried cyflwr y sector tai, mae’n bosibl y bydd llawer o’r bobl sydd wedi cael eu symud i lety brys yn cael eu symud i fyd didostur y Sector Rhent Preifat (SRhP), gall arwain at droi allan torfol ychydig fisoedd i lawr y lein.

Y tu hwnt i’r bobl ddigartref sydd wedi cael eu symud i lety brys yn ystod yr argyfwng, mae risg wirioneddol y byddwn bellach yn gweld ton o droi allan tenantiaid yn y SRhP ar ôl codi’r gwaharddiad dros dro ar droi allan, rhywbeth allai llethu gwasanaethau digartrefedd.

Nid oes modd i ni ganiatau hyn. Nid oedd y system ddigartrefedd flaenorol yn y ddinas yn briodol nac yn deg, ac mae’r camau beiddgar a gymerwyd yn ystod yr argyfwng hwn yn dangos hyn yn glir. Rhaid peidio â mynd yn ôl at yr hen system. Rhaid i’r argyfwng fod yn gatalydd i ddatrys digatrefedd. Mae’n dibynnu ar bobl—ni, y rhai ar y chwith (yn ei holl amrywiadau), a grwpiau sy’n eirioli dros y digartref, yn codi llais yn uchel i ddweud nad oes angen dychwelyd i gysgu allan ar raddfa fawr.

Yr hyn sydd ei angen

Cyn bo hir bydd Undod yn cyhoeddi erthyglau pellach ar dai a digartrefedd, ond dyma beth sydd angen ei wneud yn y tymor byr a’r tymor canolig.

Yn gyntaf, mae angen diwygio Deddf Tai Cymru (2014) ar unwaith. Mae angen dileu’r system bresennol o ‘angen blaenoriaethol’. Ymhlyg yn y system cyn yr argyfwng oedd agwedd a oedd yn derbyn digartrefedd, sy’n golygu na fyddai unrhyw un a oedd yn cyflwyno ei hun fel digartref – nad oedd yn dod o dan categorïau bregus iawn – yn cael cynnig llety brys. Arweiniodd y cafeat barbaraidd hwn at gannoedd o bobl fregus y dydd yn derbyn llythyrau templed yn dweud, er bod yr awdurdod lleol yn cydnabod eu bod yn ddigartref, serch hynny nid oeddent yn eu hystyried yn ddigon bregus i gael llety dros dro. Yna byddai’r unigolyn yn cael cynnig o ofod llawr a rhestr o landlordiaid preifat i gysylltu â nhw. Ar ben hynny, mae adran 74 o’r ddeddf yn caniatáu awdurdodau lleol ddod â’u dyletswydd i ben i helpu pobl am resymau aml ddisail, fel ‘gwrthod cynnig o lety’ neu hawliau cartrefi unigolyn yn rhedeg allan oherwydd nad oedd wedi cael cartref o fewn 56 diwrnod. Mae angen diddymu’r adrannau anesboniadwy a niweidiol hyn o’r ddeddf.

Mae digartrefedd yn foesol annerbyniol, ac mae pawb sy’n ddigartref wrth reswm yn fregus. Dylai’r gyfraith gael ei newid ar unwaith i adlewyrchu hyn, yn hytrach na bod â graddfeydd o fregusrwydd. Dylai unrhyw un sy’n cyflwyno fel digartref gael llety brys addas fel ateb tymor byr.

Gall gwell llety brys a chynnydd yn y ddarpariaeth ddatrys cysgu allan, ond dim ond un agwedd ar ddigartrefedd yw bod ar y stryd, a dyna’n union yw llety brys – datrysiad tymor byr ydyw, plastr bach dros glwyf dwfn. Ni all pobl aros mewn llety brys am byth, waeth pa mor dda ydyw. Mae angen i bobl allu ei ddefnyddio ac yna symud i’w lle parhaol eu hunain, i ffwrdd o ddigartrefedd am byth. Well fyth, wrth gwrs, byddai sicrhau nad yw bobl yn ddigartref yn y lle cyntaf!

Ond fel cymaint o bolisïau a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhesymeg dros greu a gorfodi’r system o ‘angen blaenoriaethol’, er ei bod wedi’i chuddio gan rethreg ‘radical’, yn y pen draw yn seiliedig ar ddiffyg cyflenwad. Felly mae’r mater o lety brys i bobl sy’n cysgu allan, fel pob mater sy’n ymwneud â digartrefedd, yn arwain yn ôl yn y pen draw at yr eliffant yn yr ystafell: yn syml, nid oes digon o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Mae miloedd ar filoedd o bobl sydd yn anobeithio ar restrau hirfaeth yn aros am dai cymdeithasol, ond yn y bôn does dim digon o dai ar gael, felly rhaid wrth roi tai ar ddogn trwy gyflwyno pethau fel categorïau blaenoriaeth, gan annog y gweddill i ddarganfod llety preifat eu hunain.

Hyd nes y bydd yr argyfwng tai yn cael ei ddatrys, nes bydd Llywodraeth Cymru yn torri o’u gorddibyniaeth enfawr ar fyd diegwyddor, didrugaredd y sector rhentu preifat, bydd pobl yn parhau i ddod yn ddigartref. Oni bai bod tai cymdeithasol fforddiadwy go iawn yn cael eu hadeiladu ac eiddo gwag yn cael eu hailosod, digartrefedd a rhentu ansicr fydd y norm. Mae angen o leiaf 14,000 o dai y flwyddyn ar Gymru i gadw i fyny â’r galw, ond dim ond 13,000 y mae Llywodraeth Cymru wedi codi ers 2016, gyda llawer ohonynt yn anfforddiadwy, yn tai ‘helpu i brynu’. Er mwyn dod â digartrefedd i ben yn ei holl ffurfiau, mae angen ymgyrch adeiladu tai ar raddfa anferth, a hynny ar frys. Bydd hyn yn rhoi terfyn ar y ddibyniaeth gynyddol ar y SRhP i ddatrys digartrefedd, a bydd yn cael sgil-effeithiau cadarnhaol ar draws cymdeithas Cymru – gan y bydd y gafael haearnaidd sydd gan landlordiaid ac adeiladwyr tai mawr dros y sector yn cael ei llacio’n sylweddol.

Mae dros 27,000 o dai preifat gwag a 1400 o dai cymdeithasol gwag ledled Cymru. Fel datrysiad gwrth-ddigartrefedd tymor byr, mae ailosod tai gwag presennol ac eiddo di-breswyl gwag priodol yn gyflymach nag adeiladu tai cymdeithasol. Mae dros 3,000 o eiddo gwag yng Nghaerdydd, heb gyfrif y blociau myfyrwyr hanner gwag sy’n bla ar draws y ddinas. Mae angen addasu’r rhain er mwyn i wasanaethau digartrefedd gael eu defnyddio ar gyfer datrysiadau ailgartrefu cyflym, a hynny ar unwaith.

Wedyn, dylem atgoffa pobl bod troi pobl allan yn farbaraidd ac yn annerbyniol bob amser, nid dim ond yn ystod a pandemig. Os gwaherddir troi pobl allan o’r sector rhentu preifat a thai cymdeithasol, bydd y llif cyson o bobl ddigartref newydd yn arafu’n raddol: nid oes diben gweithredu cynllun ailgartrefu cyflym heb atal achosion o droi allan gan y byddwch yn rhedeg allan o eiddo yn fuan a chael eich gadael unwaith eto gyda gofod llawr. Rhaid gweithredu hyn yn gyson ledled Cymru er mwyn iddo gael effaith.

Yng ngoleuni llwyddiant yr arbrawf ailgartrefi brys yng Nghaerdydd, mynnwn y canlynol:

Gwahardd troi allan i bob darparwr tai.

Rhewi rhent ar unwaith i denantiaid yn ystod argyfwng COVID-19, ac yna uchafswm rhent ledled Cymru unwaith y bydd yr argyfwng wedi sefydlogi.

Bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael gorchymyn i gymryd pob eiddo drosodd—boed yn fasnachol neu’n breswyl—a’u troi’n stoc tai cymdeithasol, gyda chyfran ohonynt wedi’u clustnodi ar gyfer gwasanaethau digartrefedd a llety argyfwng, dros-dro.

Yn dilyn cynnydd mewn llety, mabwysiadu model ailgartrefu cyflym ym mhob awdurdod lleol, lle mae unrhyw un sy’n profi digartrefedd yn cael gwarant o ystafell ei hun. Rhoi terfyn ar y model gofod llawr.

Diwedd ar unwaith i’r system angen blaenoriaethol.

Gwaredu adran 74 o Ddeddf Tai Cymru (2014) sy’n caniatáu i awdurdodau lleol (yn aml mewn modd llym) ddod â’u dyletswydd o gymorth i ben i bobl y gwyddys eu bod yn ddigartref o hyd: os yw rhywun yn ddigartref dylai’r ddyletswydd aros ar agor am gyfnod amhenodol nes ei fod wedi’i gartrefu.

Diwedd parhaol i weithredu amodau ‘Dim Cyfeirio at Gronfeydd Cyhoeddus’ yng Nghymru, fel bod pawb yng Nghymru, o le bynnag y maent, sydd angen gwneud yn gallu cyrchu gwasanaethau tai a digartrefedd.

Bod holl elusennau digartrefedd yn cael eu gwladoli ac yn dod yn rhan o ddarpariaeth cynghorau. Yn y cyfnod interim, galw am orfodi pob darparwr trydydd sector sy’n ymwneud â’r sector tai a digartrefedd i gydnabod undebau llafur.

Ailwampio gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gan gynnwys gwladoli’r holl wasanaethau cyffuriau ac alcohol, prosesau symlach a chyflymach ar gyfer darparu methadon, a darparu cyfleusterau chwistrellu diogel a phrofi cyffuriau yn unol â model lleihau niwed.

GIF gan Tad Davies

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.