Gan mai Cymru erbyn hyn yw’r unig ran o’r DU lle mae achosion COVID-19 yn parhau i gynyddu, mae’n ymddangos bod penderfyniad hunan-ymwybodol wedi’i wneud ar ran Llywodraeth Cymru i geisio symud y bai oddi arnyn nhw, ac i’r cyhoedd.

Ddydd Mawrth, ymddangosodd Vaughan Gething ar wahanol orsafoedd radio a honnodd fod clo bach Cymru (a feirniadwyd gan feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill am fod yn rhy fyr) wedi gweithio, mewn gwirionedd. Yr hyn oedd wedi digwydd yn lle hynny, yn ôl Gething, oedd bod y Cymry wedi methu newid eu hymddygiad – ein bod ni’n treulio gormod o amser gyda’n gilydd ac yn cymdeithasu gormod.

Ar Times Radio dywedodd “gall y Llywodraeth osod rheolau, gall roi arweiniad a darparu negeseuon clir… rydym wedi bod yn glir drwy gydol hyn, ond yn y pen draw mae angen i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain, ac os byddant yn gwneud y math anghywir o ddewisiadau ac yn parhau i ymweld â phobl yn eu cartrefi ac mewn lleoliadau eraill, mae arnaf ofn y bydd hynny’n cael canlyniad uniongyrchol iawn”. Ar BBC Radio 4 dywedodd: “Yn anffodus ers i’r clo bach ddod i ben, er gwaethaf yr holl negeseuon ac anogaeth i fwy o bobl wneud y peth iawn, nid ydym wedi gweld y newid sylweddol a pharhaus yn ein patrwm ymddygiad…”

Roedd y neges yn glir: roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud eu gwaith, ond nid oedd dinasyddion Cymru wedi gwrando. Ein bai ni yw hyn i gyd, nid eu bai nhw.

Dechreuodd newid yn y naratif wrth i achosion yr ail don ddechrau clystyru yn ne Cymru. Ddiwedd mis Hydref, mewn cyfweliad â WalesOnline, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai’r rheswm pam roedd achosion yng Nghymru mor uchel oedd oherwydd nad oedd gennym ‘ddiwylliant’ o ufuddhau i’r llywodraeth. Yr oedd y llywodraeth wedi gwneud y peth iawn, ond mae’n debyg nad oeddem yn gallu gwrando. Dyna ein ‘diwylliant’, mae’n debyg.

Tua diwedd mis Tachwedd, honnodd y ‘5G Truther‘ Tonia Antoniazzi ar Twitter fod COVID-19 yn lledaenu mewn ysgolion yng Nghymru oherwydd bod rhieni anghyfrifol yn caniatáu i’w plant gwahodd cyfeillion draw dros nos, yn hytrach na’r rheswm mwy amlwg eu bod yn treulio 8 awr y dydd gyda’i gilydd tu fewn i ysgolion.

Yn yr un modd, honnwyd bod ymbellhau cymdeithasol yn y cymoedd ‘wedi mynd yn groes i DNA pobl‘ – mae’n debyg bod pobl dosbarth gweithiol yn methu gwrthsefyll y temtasiwn i ymweld â thai ei gilydd am ddiodydd, neu gynnal partïon. Nid oes a wnelo dim â’r ffaith bod ardaloedd dosbarth gweithiol mewn perygl anghymesur o COVID-19 oherwydd bod amodau byw gorlawn yn ei gwneud yn amhosibl hunanynysu; bod pobl dosbarth gweithiol yn gweithio’n bennaf mewn swyddi fel gofal a manwerthu lle na allwch weithio gartref; bod gan lawer o bobl gyda chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, ac yn y blaen. Na: mae’n ganlyniad i diffyg cyfrifoldeb, a diffyg disgyblaeth.

Dywed Undod fod y naratif hwn yn un ffug a bod yn rhaid ei wrthsefyll ar bob cyfrif.

Mae pobl dosbarth gweithiol wedi aberthu’n aruthrol drwy gydol y pandemig hwn. Rydym wedi parhau i weithio mewn amodau peryglus mewn ysbytai, siopau, cartrefi gofal ac ysgolion wrth i eraill aros adref.  Mae pobl dosbarth gweithiol wedi cynnal y wlad, ac eto erbyn hyn mae’r dosbarth gweithiol yn cael ei ymosod a’i bardduo, yn fwch dihangol i’r ail don o COVID-19.

Y ffaith yw mai Llywodraeth Cymru a’u meistri yn San Steffan sy’n gyfrifol am y pandemig. Mae achosion yn pentyrru oherwydd methiannau systemig yn y ffordd y caiff cymdeithas ei gweinyddu, nid am fod lleiafrif bach iawn o bobl wedi cynnal partïon yn eu tai. Fel y mae erthyglau ac ymgyrchu Undod wedi tynnu sylw ato, mae eu ffordd o ymdrin â’r argyfwng wedi bod yn drychinebus ac yn anfaddeuol, o’r don gyntaf hyd at yr ail don.

Mae argyfwng COVID wedi amlygu Llywodraeth sy’n anghymwys, sy’n cael ei dallu gan Undebaeth, sy’n gwbl gaeth i fuddiannau cyfalafol megis landlordiaeth.

Beth am inni fyfyrio ar y dystiolaeth am eiliad:

A oedd hyn oll yn gyfrifoldeb y dinesydd cyffredin Cymreig? Dim peryg. Bai Llywodraeth Cymru a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, a hwy yn unig, ydyw.

Ar ben y methiannau uchod (ac mae mwy o enghreifftiau di-rif) mae’r negeseuon iechyd cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn warthus drwy gydol y pandemig – maent wedi bod yn anghyson ac yn amwys, gan ddweud wrthym nad oes diben gwisgo mygydau, yna’n gosod mandad i’w gwisgo ychydig wythnosau ar ôl hynny; annog pobl i fwyta allan i helpu, yna dweud bod tafarndai a bwytai yn ffynhonnell haint. Yn anad dim, roeddent yn awgrymu’n gryf y gallai pobl ddychwelyd i fywyd pob dydd ar ôl y clo bach o bythefnos! Os yw pobl wedi cymysgu’n gymdeithasol yn ystod yr wythnosau diwethaf, yr union reswm, yn y bon, yw eu bod wedi cael yr argraff y gallent wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Fel yn achosion lleol yn Lloegr, gellir priodoli y cynnydd diweddar i gyfathrebu gwael: yn hytrach na glynu wrth negeseuon syml a dibynadwy, mae Llywodraeth Cymru yn hytrach wedi llethu pobl â rheolau dryslyd, anghyson a chyfnewidiol.

Mae llywodraeth Cymru, yn union fel y llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan y maent yn cynffona iddi, yn ceisio tynnu sylw oddi ar eu methiannau enfawr drwy feithrin y dacteg o rannu a rheoli, drwy feio’n sinigaidd y bobl sydd wedi aberthu fwyaf yn ystod y pandemig hwn.

Mewn Undod Mae Nerth – Gyda’n Gilydd, yn Gryfach

Drwy gydol y pandemig, mewn ymateb i fethiannau’r llywodraeth, mae pobl dosbarth gweithiol ledled Cymru a gweddill y DU wedi cyfrannu at fynegiant digymell o undod a chyd-gymorth, gan fynd allan i weithio mewn cartrefi gofal, y GIG a mannau eraill ar y reng flaen, oherwydd ein bod ni’n hidio am ein gilydd am ofalu am ein gilydd. Yr ydym wedi dysgu mai ni yw’r rhai sy’n cadw cymdeithas i fynd.

Mae’r grymuso hwn yn codi ofn ar lywodraeth Lafur Cymru, y mae ei hegemoni bregus yn dibynnu ar bobl yn parhau mewn cyflwr oddefol, lle nad ydynt yn pleidleisio. Y mae’n hysbys bod pobl Cymru wedi cael eu gwleidyddoli yn ystod y pandemig, yn aml wedi edrych ar ein Llywodraeth a’n Prif Weinidog yng Nghaerdydd am y tro cyntaf, ac nad ydynt yn aml wedi hoffi’r hyn y maent wedi’i weld. Gan sylweddoli bod eu gafael ar Gymru mewn peryg, mae Llafur Cymru bellach yn ymdrechu’n daer i ddargyfeirio’r bai am eu methiannau, ond y cyfan y maent wedi’i gyflawni gyda’r ymgyrch ddiweddaraf yma i fardduo’r bobl yw ei gwneud yn berffaith glir y graddau y mae nhw’n dal dig yn erbyn pobl gyffredin Cymru.

Maent yn ofni gwrsefyll trefnedig, a dyna pam y maent yn ceisio ein troi ni yn erbyn ein gilydd, i droi cymydog yn erbyn cymydog, gogledd Cymru yn erbyn de Cymru, i danseilio’r undod sydd wedi’i adeiladu yn ystod y flwyddyn dywyll hon. Ni feiddiwn ganiatáu i’r naratif hwn gael gafael arnom, a chyfrifoldeb pob sosialydd yng Nghymru yw ei wrthsefyll.

Ymunwch ag Undod heddiw

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.