Mae Covid-19 wedi amlygu graddfa’r tlodi sydd yng Nghymru, a’i ddyfnhau. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd 700,000 o bobl, mwy nag un ymhob pump, eisoes yn byw mewn tlodi. Gyda chwarter aelwydydd Cymru wedi dioddef gostyngiad yn eu hincwm ers mis Mawrth, a gyda chostau byw yn codi, mae llawer o’n teuluoedd tlotaf yn ei chael hi’n anodd cadw eu pennau uwchben y dŵr. Yn y cyd-destun hwn y mae’r achos dros ehangu cymhwysedd ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim yn ddiamheuol.

Yr achos dros Brydau Ysgol am Ddim

Mae yna gofnod helaeth o fanteision Prydau Ysgol am Ddim. Mae nifer o astudiaethau wedi profi mai nid anwybodaeth sy’n arwain pobl sy’n byw mewn tlodi i fwyta prydau afiach, ond, ei fod yn ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn gallu fforddio’r cynhwysion i baratoi prydau iach. Mae darparu pryd iach, maethlon mewn ysgolion yn helpu i mynd i’r afael gyda hyn, gan hybu iechyd ac addysg plant. Pam felly, bod dros hanner y plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn colli allan ar Brydau Ysgol am Ddim?

Meini prawf annheg

Dim ond yn achos rheiny sydd gydag incwm llai na £7,400 (cyn ystyried budd-daliadau) y mae teuluoedd ar Gredyd Cynhwysol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn gwarafun Prydau Ysgol am Ddim i 70,000 o blant sydd yn gaeth mewn tlodi. Nid yw 6,000 o blant ychwanegol fel arfer yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, oherwydd nad yw eu teuluoedd yn gallu hawlio arian cyhoeddus.

Nid yn unig y mae’r sefyllfa hon yn arwain at ddegau o filoedd o blant Cymru yn colli allan ar brydau poeth, mae hefyd yn golygu mai Cymru sydd â’r ddarpariaeth fwyaf gyfyngedig o Brydau Ysgol am Ddim o unrhyw wlad yn y DU. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r cap incwm ar gyfer teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol bron ddwy waith yn uwch ar £14,000, ac yn yr Yr Alban a Lloegr, darperir Pryd Ysgol am Ddim i fabanod ar sail gyffredinol.

Mae’r system yn methu mewn ffyrdd eraill

Nid y meini prawf yn unig sy’n atal teuluoedd rhag derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Erys stigma yn rhwystr sylweddol. Nid oedd bron i chwarter y plant oedd yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn y cyfrifiad ysgol diwethaf yn manteisio ar eu hawl. Gwaethygir y broblem hon gan brosesau ymgeisio cymhleth a beichus mewn rhai awdurdodau lleol, sy’n atal rhieni rhag gwneud cais.

Mae’r Comisiynydd Plant hefyd wedi codi pryderon o’r blaen am werth y cymorth a ddarperir i blant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim, gyda phlant yn cael eu gadael yn brin o arian, heb ddigon gyda’u Hawl Ysgol am Ddim i dalu am ginio llawn. Mae ymchwil pellach wedi darganfod bod llawer o blant yn cyrraedd yr ysgol yn llwglyd ond yn wynebu dewis o frecwast neu ginio.

Beth y gellir ei wneud

Mae amrywiaeth o gamau posib gallasai Lywodraeth Cymru eu cymeryd, i fynd i’r afael â’r diffygion yn ei dull presennol o ymdrin â Phrydau Ysgol am Ddim.

Mae Sefydliad Bevan, ochr yn ochr â llawer o sefydliadau eraill, wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim fel bod unrhyw blentyn – y mae ei deulu’n derbyn Credyd Cynhwysol – yn cael Prydau Ysgol am Ddim, waeth beth fo’r incwm a enillir. Dylid gweithredu hyn ar unwaith. Os yw Llywodraeth y DU wedi penderfynu bod angen cymorth ariannol ar deulu plentyn, pam felly, a ydym ni yng Nghymru wedi penderfynu nad yw teuluoedd o’r fath yn ddigon tlawd i dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim?

Fel amcan tymor hwy, fodd bynnag, credwn y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o sicrhau bod Prydau Ysgol am Ddim ar gael i bawb. Rydym yn sylweddoli y gall fod problemau capasiti mewn ysgolion, sy’n atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno’r polisi ar unwaith. Fel man cychwyn, credwn felly y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu Prydau Ysgol am Ddim  ledled y genedl i’n holl fabanod er mwyn sicrhau bod Cymru’n cyd-fynd â Lloegr a’r Alban, gyda’r nod o ehangu’r ddarpariaeth ymhellach.

Yn ogystal â hyn, dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r meini prawf fel bod pob plentyn, nad oes ganddo hawl i dderbyn arian cyhoeddus, yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim. Dylai hefyd adeiladu ar lwyddiant ei raglen o ddarparu cymorth i deuluoedd dros wyliau’r ysgol, gan sicrhau bod cymorth o’r fath yn barhaol.

Ni fydd darparu Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn ynddo’i hun yn datrys tlodi, ond bydd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwgu heb fod yna unrhyw fai arno’i hun – ac y bydd yn gwella bywydau miloedd o deuluoedd ledled Cymru.

Mae Steffan Evans yn gweithio i Sefydliad Bevan fel swyddog polisi ac ymchwil.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.