Mae’r Gymru wledig mewn trafferth. Mwy o drafferth mae’n debyg nag ers cyn cof, a hynny o du grymoedd a thueddiadau sy’n annhebygol o ddiflannu’n fuan iawn. Hen stori yw camweithredu’r economi yn y fan yma wrth gwrs. Mae’r problemau cymdeithasol sy’n deillio o gyflogau gwael, gwerth ychwanegol isel, diffyg cyfle economaidd ac incwm o’r farchnad yn niferus ac yn hen. Mae’r rhain yn cynnwys tlodi, gwagio trefi, darpariaeth gwasanaethau gwael yng nghefn gwlad, ac allfudo ymysg yr ifanc. Felly mae ysgolion yn cau wrth i deuluoedd ifanc ymadael. Mae pentrefi pert ar lan môr ac yn y mynyddoedd yn ymdrechu’n fwyfwy i ymateb i ofynion economaidd cyfnewidiol, ond hanfodol, twristiaid. Mae polisïau cynllunio’n gwbl annigonol i ymdopi â’r duedd sy’n gweld pobl gefnog o’r tu allan (ie, Cymry yn ogystal â Saeson) yn cadw pied-à-terre gwledig sy’n sefyll yn wag, ac yn ddiwerth yn gymdeithasol ac yn economaidd, am naw o bob deuddeg mis.

Ac ar y dirwedd ei hunan, prin fod pethau’n well. Fel arfer, yr unig beth sy’n torri ar draws hectarau di-rif o borfeydd defaid yw planhigfeydd conwydd, ambell fferm laeth, a ffermydd gwynt sy’n perthyn i gwmnïau amlwladol. Ychydig iawn o hyn sy’n wirioneddol hyfyw yn y ‘farchnad rydd’, ac mae’r rhan fwyaf ohono ar fin cael ei droi ar ei ben gan gyfuniad o liniaru ac addasu brys yn sgil newid hinsawdd, demograffeg y sector ffermio, a’r canlyniadau niferus sy’n dal i ddatblygu yn sgil Brexit (Estynnwch at y cig oen o Awstralia!)

Mewn ymateb i’r heriau hyn, rydym yn wynebu’r posibilrwydd o bontio tameidiog, aneffeithiol a hyd yn oed di-drefn yng nghefn gwlad Cymru – a honno’n broses bontio a allai roi lleisiau ‘lleol’ a sefydliadau sydd wedi ennill eu plwyf dan ragor o anfantais. I sicrhau ymateb gwell a thecach, mae angen asesiad oer o beth yn union yw y broblem.

Y newydd drwg i ddechrau: Dyw Cymru ddim mor arbennig â hynny

Dim ond y bennod ddiweddaraf mewn cyfres o siomedigaethau a gafodd ardaloedd gwledig ledled y byd ers o leiaf chwe mil o flynyddoedd yw effeithiau negyddol y rhuthr ymysg perchnogion ail gartrefi a phobl ar eu gwyliau i gyrchu cefn gwlad. Fel mae Liverani yn nodi yn ei lyfr ar y Dwyrain Agos yn y hen fyd, o ddechrau cyntaf y chwyldro trefol aeth dinasoedd ati i gipio o’u cefnwlad amrywiaeth aruthrol o ddeunyddiau crai holl-bwysig, bwyd, ffynonellau ynni a gweithwyr, ac yn gyfnewid am y rhain rhoi dylanwad diwylliannol ac ideolegau – ideolegau a oedd, wrth gwrs, yn helpu i gyfiawnhau echdynnu adnoddau gwledig. Drwy gydol gweddill hanes dynol, mae’r un patrwm wedi’i ailadrodd, boed yn Eidal y Rhufeiniaid, Lloegr yr Hanoferiaid, Ucheldiroedd yr Alban, neu Tsieina cyfnod Qing: mae adnoddau’n cael eu tynnu er mwyn tanio ffyrdd o fyw yn y dref sy’n cynnig gwell llesiant, yn aml ar gais elît sy’n uchel eu statws cymdeithasol (ac sy’n creu’r deddfau) – pobl sydd ar yr un pryd yn mwynhau bywyd y dref ac yn dirfeddiannwr a landlord gwledig absennol (ond dominyddol). Mewn cyfnodau o ryfel a newid economaidd, mae’r galw’n cynyddu, ac mae gwargedau cyfalaf a llafur cefn gwlad yn cael eu cyfeirio at ddiwydiannu a choncwest.

Yn wir, creodd concwest oblygiadau mawr i ardaloedd gwledig Ewrop, ac yn enwedig mewn gwledydd ymerodrol fel Prydain. Daeth camfanteisio’n gêm fyd-eang, gyda nwyddau gwerthfawr o’r byd newydd fel tybaco a siwgr yn denu sylw ac incwm i’w wario, ac i ryw raddau yn disodli cynhyrchion domestig – a oedd wedyn yn gorfod cystadlu benben â gwenith o America a hanfodion eraill yn sgil diddymu’r deddfau ŷd. Bu’r datblygiad olaf hwn, wrth gwrs, o fudd i’r tlodion llwglyd ym Mhrydain (ond yn rhy hwyr i’r Gwyddelod newynog), ond hefyd fe leihaodd bŵer a phwysigrwydd y gwledig, o’i gymharu â’r trefol. Yn yr un modd, gwnaeth datblygiad tanwydd ffosil – glo Prydain yn gyntaf ac wedyn olew cludadwy’r Dwyrain Canol – leihau ymhellach ar bwysigrwydd adnoddau cefn gwlad (er enghraifft, pŵer dŵr ar gyfer melinau), oedd yn golygu bod unrhyw ‘werth ychwanegol’ gwledig yn mynd yn fwyfwy prin. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafwyd ffocws newydd ar amaethyddiaeth yn Ewrop, wrth i’r cyfandir symud i sicrhau cyflenwadau bwyd digonol yn wyneb aflonyddwch posibl yn y dyfodol, heb rag-weld y Chwyldro Gwyrdd a fyddai’n gweld cynhyrchiant yn tyfu’n aruthrol ac yn dinistrio’r cydbwysedd rhwng galw a chyflenwad. I Gymru, mae Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE wedi parhau traddodiad o gynhyrchu amaethyddol sydd wedi’i seilio ar lond llaw o nwyddau i’w hallforio a sector yn cael ei siapio gan fuddiannau allanol sydd wedi parhau’n ddigyfnewid i raddau helaeth ers oes y Tuduriaid, neu hyd yn oed y Normaniaid.

Cymru: Anhapus yn ei ffordd ei hun?

Mae’r stori drist ym maes datblygu lle mae cefn gwlad yn canolbwyntio ar allforio nifer fach o nwyddau (ac yn fwy diweddar ar dwristiaeth) yn cael ei hadrodd am lawer o leoedd yn y De Byd-eang – a hynny gyda chanlyniadau llawer mwy trawiadol fel arfer nag yng Nghymru, sydd ers canrifoedd wedi’i hintegreiddio’n wleidyddol ac yn economaidd â’i chymydog pwerus a’i phrif farchnad. Er bod adnoddau ansymudol yng Nghymru yn gymharol gynhyrchiol neu ddeniadol, rydyn ni’n gweld (fel yn y De byd-eang) mai perchnogaeth a rheolaeth sydd heb fod yn lleol sydd amlycaf – y sectorau ynni a’r rhannau o dwristiaeth sydd o werth uchel – mae gweithgareddau lle mae busnesau lleol yn amlwg hefyd yn cynnwys adnoddau ymylol, cwmnïau bach iawn, diffyg cyfalaf, prisiau cyfnewidiol a phendilio tymhorol, a rhychwant cyfyngedig. Mae’r ‘aneffeithlonrwydd’ economaidd sy’n deillio o hyn yn llyffetheirio’r Gymru wledig, sy’n methu â symud tuag at batrymau cynhyrchu mwy gwerthfawr neu gynaliadwy (yn economaidd neu’n holistig).

Mewn cyferbyniad ag economïau ymylol eraill sy’n ddwys o ran adnoddau, mae Cymru’n profi ymyrraeth dwys ar sawl lefel yn y sector cyhoeddus gan weithredwyr lleol a chenedlaethol, ac yn y Deyrnas Unedig a (tan yn ddiweddar) yr Undeb Ewropeaidd. Ar y cyfan, nid yw’r ymyriadau hyn wedi’u teilwra i’r cyd-destun Cymreig eithaf penodol, ac anaml y maen nhw’n codi o drafodaethau a phenderfyniadau gwirioneddol leol. Hyd yn oed lle bydd ymdrech yn cael ei wneud i leoleiddio – er enghraifft, yng Nghynlluniau Datblygu’r UE gynt – mae’r ymdrech yn cael ei llethu gan fiwrocratiaeth a diffyg cyfranogiad gan rai sydd heb ddiddordeb ac sy’n amheus. Mae syniadau lleol yn gwywo yn wyneb realiti caled Contractau Gwahaniaeth Ynni Adnewyddadwy’r Deyrnas Unedig, sector cyhoeddus anghysbell a rhagfarnllyd, y Taliad Sengl, a phrisiau gwirioneddol y nwyddau sy’n cael eu hallforio.

O safbwynt gwleidyddol, nid yn unig y mae’r Gymru wledig yn anghyffredin, yn fach ac yn anodd, ond nid yw’n bwysig i unrhyw blaid mewn gwirionedd, heblaw’r rhai lleiaf sy’n awchu am y sedd neu ddwy a fydd yn fuddugoliaeth fawr iddyn nhw, ac yn anaml felly i’r rhai sydd mewn llywodraeth. Cwbl drefol yw’r naratif gwleidyddol ac economaidd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, ac mae’r elfennau economaidd sy’n sbarduno polisïau – seilwaith mawr, arloesi ac ymchwilio a datblygu, diwydiannu creadigol – wedi’u plannu’n gadarn mewn dinasoedd a rhyngddyn nhw. Mae yna ddiffyg cyfatebiaeth enfawr yma, fel y gwelir wrth wylio S4C bron bob nos: mae’r economi gwledig yn hanfodol bwysig am resymau iaith a diwylliant, ac i nifer fawr o drefi a phentrefi y tu allan i’r De-ddwyrain. Eto i gyd, mae’r pwysigrwydd cymhleth hwn wedi’i weld yng Nghaerdydd fel rheswm dros adael i gefn gwlad fod (ar y cyfan). Mae’r amser hwnnw bellach ar ben.

Y Gymru wledig yng ngweddill yr 21ain ganrif

Fel llawer o leoedd gwledig eraill, mae’r Gymru wledig mewn sefyllfa od a deuol. Lle sydd heb fod o ddiddordeb gwleidyddol ers tro byd, sy’n ymddangos ar y newyddion yn bennaf fel problem economaidd neu broblem cynaliadwyedd, ac sy’n cynhyrchu pethau sydd (gydag eithriadau nodedig) yn cael eu gwerthu am brisiau nad ydyn nhw’n agos at dalu’r costau. Ac eto, ar yr un pryd, mae’n tirwedd wledig o werth mwyfwy eglur i boblogaethau trefol Prydain fel lle i enaid gael llonydd, fel cyflenwr ynni carbon isel, ac yng Nghymru fel lle diwylliannol. Yn y cyfamser, mae’n ddigon clir na allwn ni gyflawni ymrwymiad carbon sero net, na pharchu ac atgyweirio ecosystemau a bioamrywiaeth, heb weddnewidiad dwfn mewn dulliau cynhyrchu gwledig a defnydd tir. Mae’r gwledig yn bendant yn dod yn nes at adref.

Mae yna ddau bosibiliad yma. Fe allai Cymru wledig fwy amrywiol ac annibynnol ddod i’r amlwg, gan adeiladu ar amcanion lleol i gyflawni llesiant, natur a systemau cynhyrchu a defnyddio sy’n gwella’r hinsawdd, sy’n fwy hunan-gynhaliol ac yn gyfiawn ar lefel fyd-eang. Ond, mae hanes yn dweud wrthon ni mai dyma’r opsiwn lleiaf tebygol o lawer, yn enwedig mewn cyd-destunau sy’n gyfeillgar i’r farchnad lle mae dinasyddion wedi cael eu hisraddio’n ddefnyddwyr ers tro byd. Rhywbeth mwy tebygol yw cyfnod pontio ar ôl Brexit-argyfwng-hinsawdd-COVID sydd heb ei gynllunio neu sydd wedi’i gynllunio’n wael ac sy’n gweld rôl gynyddol i fuddiannau allanol sydd ag adnoddau da (corfforaethau, llywodraethau a phobl) a fydd yn prynu asedau at ddibenion eithriadol o benodol – gwrthbwyso carbon, cynhyrchu ynni, arbedion treth, gwyliau achlysurol, ymddeoliad ffordd o fyw – a’r rheiny heb gysylltiad o gwbl â’r cymunedau lle maen nhw wedi’u lleoli, ac a allai hyd yn oed dorri ar draws amcanion a gwerthoedd y cymunedau hynny.

Dros filenia, mae creiddiau trefol wedi siapio’u cefnwledydd a gwledigrwydd pell drwy gymysgedd o berswâd diwylliannol, gorfodaeth, gosod (neu gyfethol) elitau ac, yn olaf, datblygu strwythurau prisio a masnachu sy’n anwybyddu gwerth ehangach (a breuder) natur, gan ddibrisio gwerth bwyd, ynni a deunyddiau crai o’u gymharu â nwyddau sgleiniog wedi’u gweithgynhyrchu a gwasanaethau trefol. Yng Nghymru, mae datganoli (hyd yn hyn) wedi bod yn gwbl annigonol (neu heb ei gyfeirio’n ddigon da) i fynd i’r afael â’r problemau dilynol ac i sicrhau Cymru wledig wedi’i hadfywio – ond mae ail-enedigaeth o’r fath yn fwyfwy hanfodol.

Rhaid i unrhyw gynllun ar gyfer Cymru sy’n cyflawni pethau ynglŷn â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac ar yr un pryd yn gwrth-droi dirywiad cymdeithasol ac yn diogelu diwylliant lleol fod yn glir ynghylch achosion camweithredu. Yn benodol, rhaid iddo gydnabod ac ymateb i economi gwleidyddol lle sy’n caniatáu i ddymuniadau’r rhai a gafodd lwyddiant yn yr hen economïau trefol, ynni-uchel, gwamal, afreal ac anghyfartal drechu’r rhai sydd wedi’u gwreiddio ers tro byd yn eu lleoedd gwledig. Mae gan hyd yn oed gorff mor gyfyngedig â’r Senedd ddigon y gall ei wneud ym meysydd polisi cynllunio, strwythurau treth, rheoleiddio a chymorth busnes. Ac yn hyn o beth mae gennyn ni achos o ‘y meddyg, iachâ dy hun’: yn ogystal â dathlu ac annog y lleol, mae’n rhaid i bolisi Llywodraeth Cymru ganiatáu ac adnoddi atebion lleol pwrpasol, syniadau lleol a gweledigaethau lleol. Rhaid i gyfnod rheoli bryniau Conwy a Cheredigion o Gaerdydd ddod i ben.

Symud locws penderfyniadau pwysig – a rhoi blaenoriaeth wirioneddol i berchnogaeth leol ar asedau – yw’r unig ffordd o droi gwleidyddiaeth leol yn weithgaredd gwerth chweil, ac felly ysgogi ymgysylltiad ehangach a chynnwys ystod ehangach o leisiau. Wrth gwrs, nid yw hyn yn ddigon ynddo’i hun i droi’r Gymru wledig yn gyfres amrywiol o economïau eang sy’n gweithio’n dda ac sy’n sicrhau llesiant i drigolion, ac amddiffyniad i natur a’r hinsawdd. Nid yw sicrhau bod Bae Caerdydd yn rhoi pŵer i ffwrdd yn awgrymu y dylai gefnu ar ei gyfrifoldeb. Mae angen o hyd i sefydliadau ar lefel Cymru ddarparu ‘llinellau coch’ polisi (yn bennaf drwy Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol), a chyngor gwyddonol o safon (er enghraifft drwy Gyfoeth Naturiol Cymru sydd ag adnoddau gwell, sy’n fwy datganoledig ac sy’n atebol yn lleol); datblygu seilwaith strategol; a sicrhau nad yw camau lleol yn awgrymu canlyniadau afresymol i leoedd a phobl eraill.

Dros arc hir hanes pobl, mae’r gwledig wedi’i ddatblygu, wedi’i ecsbloetio ac wedi’i waredu ar fympwy’r trefol, gyda’r gobaith y byddai manteision – technoleg, lles, cymudwyr neu dwristiaid – yn diferynnu allan i roi eli ar y briw. Efallai mai disgwyl gormod yw disgwyl i hyn newid yn sylfaenol. Ond mae hwn yn gyfnod unigryw mewn hanes dynol. Wrth inni gydnabod yn fwyfwy (ac o’r diwedd) rôl allweddol adnoddau naturiol wrth ganiatáu cymdeithas ddynol gymhleth, gallwn ni naill ai parhau ar hyd llwybr defnydd diwydiannol, canoledig a byrdymor ar leoedd er mwyn bodloni nodau cul, gan ddyfeisio atebion ‘marchnad’ mwyfwy artiffisial i greu rhith o barchusrwydd, neu gallwn geisio torri’n rhydd o’r gorffennol a gadael i’r lleoedd hyn eu hunain benderfynu ar y ffordd orau i reoli adnoddau er lles pawb. Mae lleoedd gwledig, nid lleiaf yng Nghymru, mewn trafferth am nad yw’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar eu rhan yn byw yno. Mae’n hen bryd i hynny newid.

Mae Calvin Jones yn Athro mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Nid yw’n byw yn y Gymru wledig.

Llun gan David Saunders

3 ateb ar “Beth yw problem y Gymru wledig?”

  1. Like all the articles, views and comments on matters rural there are no concrete proposals here. Not that many years ago Wales produced grain eggs and vegetables even from hill farms. There is no encouragement or desire for farmers to grow these foods now. Once the land was worked hard. Now it’s all rye grass pasture producing little and expensive meat that we all have to pay for through farm subsidies that can’t compete with Australasia. And all I hear from farmers is, where’s my subsidy? I grew up on a hill farm by the way.

  2. There are plenty of ideas lying around that would boost economic activity in rural areas and hit many other objectives too. For example, WG could reform land use/planning regs in a way that would increase opportunities for people to return to the land and grow stuff for which there is actually high demand. At the moment, if you want to buy land and develop a horticulture business, you have to live in a caravan. WTF? If WG pulled its finger out, we could have lots of new small holders out there, producing food for themselves and wider markets. Local economy stuff if ever there was!

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.