Delwedd gan youtookthatwell

Yr wythnos hon, mae adroddiad seneddol o bwys wedi beirniadu ymateb cychwynnol y Deyrnas Unedig i Covid-19 yn hallt, gan ei alw yn un o fethiannau iechyd cyhoeddus gwaethaf y Deyrnas Unedig erioed. Mae’r adroddiad wedi canolbwyntio ar yr ymateb yn Lloegr, uwchlaw’r ymateb yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r ymateb trychinebus i’r pandemig yn y Deyrnas Unedig wedi arwain at farwolaeth dros 150,000 o bobl hyd yn hyn, ac mae 1000 o bobl yn dal i farw bob wythnos gyda Covid-19 yn y Deyrnas Unedig. Pobl ag anableddau a chymunedau BAME a gafodd eu taro waethaf gan y feirws a hynny oherwydd strwythurau cymdeithasol styfnig sy’n hiliol ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau. Ddylai’r modd cwbl atgas y cafodd pobl eu gadael i farw mewn cartrefi gofal byth gael ei anghofio. Yn y cyfamser, mae cyfalafwyr wedi bod yn leinio’u pocedi â biliynau o arian y trethdalwyr, diolch i’r Torïaid.

Yr unig ffordd i feddwl am y ffordd y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymdrin â’r pandemig drwyddi draw yw fel llofruddiaeth gymdeithasol. Y damcaniaethwr gwleidyddol Friedrich Engels fathodd y term, a hynny wrth ddisgrifio cyflwr enbyd Manceinion yn y 19eg ganrif, ond mae wedi cael ei ddefnyddio hefyd gan y British Medical Journal (BMJ) mewn erthygl olygyddol yn gynharach eleni, yn beirniadu ymateb y Deyrnas Unedig i’r pandemig Covid-19:

‘​​The “social murder” of populations is more than a relic of a bygone age. It is very real today, exposed and magnified by Covid-19.’

Mae ar Gymru angen ei hymchwiliad ei hun, er mwyn i’n harweinwyr gwleidyddol gael eu dwyn i gyfrif, ond rhaid inni beidio â chael ein hudo gan ymdeimlad ffug o ymddiried yng ngrym ymchwiliadau a’r wladwriaeth fwrdeisiol. Mae’r system wedi torri: does dim angen ymchwiliad i ddweud hynny wrthon ni. Roedd cyni eisoes wedi arwain at farwolaeth dros 120,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf, yn ôl y BMJ. Mae Covid-19 yn ychwanegu 150,000 arall. Ond nid iechyd a gofal cymdeithasol yn unig sydd wedi’u torri: symptomau cyfalafiaeth yw’r rhain, gyda chymorth ac anogaeth Llywodraeth Cymru.

Peidiwch â chamgymryd: nid sosialwyr mo Llafur Cymru. Plaid ddirywiad dan reolaeth yw Llafur Cymru. O ran rhai o’r materion mawr fel iechyd a gofal cymdeithasol, yr heddlu, militariaeth, tai, hawliau gweithwyr a hinsawdd, dyw Llafur Cymru ddim hyd yn oed yn flaengar, heb sôn am sosialaidd. Hyd yn oed ar ôl y 18 mis mae gweithwyr gofal iechyd wedi’u dioddef, toriad cyflog mewn termau real gafodd y nyrsys, gan brofi mai dim ond nodi rhinweddau oedd yr holl guro dwylo gan weinidogion y llywodraeth. Mae un o undebau gweithwyr y GIG wedi galw Llywodraeth Cymru’n “warth”, yn ôl adroddiadau gan Voice.Wales, am eu bod wedi gwrthod trafod codiad cyflog, a fydd yn arwain at weithredu drwy gyfrwng streic yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Mae Llafur Cymru wrthi, yn ôl y disgwyl, yn ceisio ymwrthod â’u cyfrifoldeb drwy feio’r Deyrnas Unedig, gan ddweud nad oedd ganddyn nhw mo’r adnoddau ariannol i roi mesurau digonol ar waith. Ond rhaid inni beidio â chredu’r esgus twyllodrus yma. Roedd Cymru yr un mor araf i ymateb i’r pandemig, fel y dangosodd y stŵr ynghylch gêm rygbi Cymru a’r Alban a chyngerdd y Stereophonics, ynghyd â’r diffyg PPE i weithwyr gofal iechyd yn ystod y don gyntaf. Fe ddilynon nhw lwybr trychinebus llywodraeth y Deyrnas Unedig, er gwaethaf nifer fawr o alwadau i ymateb yn gyflymach ac yn fwy pendant. Rhyddhaodd Undod gyfres o ofynion ymarferol yn ôl ym mis Mawrth 2020, a fyddai wedi sicrhau ymateb llawer mwy cadarn i’r pandemig ac a fyddai wedi rhoi anghenion pobl yn gyntaf. Wrth i’r pandemig ddatblygu, roedd adegau pan ddangosodd Llywodraeth Cymru rywfaint o awydd i weithredu’n wahanol, ond yn y pen draw, nid yw’r ystadegau ar y mater yn dweud celwydd. Am bob pen, mae gan Gymru un o’r niferoedd marwolaethau uchaf yn y byd. O ran cymhariaeth, mae nifer y marwolaethau am bob pen yng Nghymru tua dwbl y nifer yn Iwerddon, sydd yn ei thro yn ddwbl y nifer yn Nenmarc.

Ac fel mae’r newyddiadurwr Will Hayward wedi nodi yn blwmp ac yn blaen:

“There is a strong narrative that has developed that the Welsh Government, through caution and care, protected Wales from the worst of the pandemic…Without underplaying the serious errors made by the UK Government…the data simply doesn’t bear up the idea that the Welsh Government handled this pandemic well.”

Mae’r ffordd y cafodd y brechlyn ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn gymharol gadarnhaol, wedi cael ei chanmol. Ond ble mae’r undod rhyngwladol? Ydyn nhw wedi siarad am imperialaeth frechlyn fyd-eang sydd o fudd i gorfforaethau mawr ar draul pobl sy’n byw yn y De Byd-eang? Mae Drakeford wedi dadlau na all Cymru greu effaith o bwys yn fyd-eang, ond yn y cyfamser mae Ciwba wedi datblygu tri brechlyn, ac wedi dechrau eu hallforio nhw i wledydd eraill yn y De Byd-eang. Y methiant i amddiffyn pawb yw’r union reswm rydyn ni wedi gweld amrywiolion marwol yn codi, a bydd hyn yn dal i ddigwydd nes bod y brechlyn ar gael i bawb ledled y byd.

Hyd yn oed nawr, mae’r feirws yn rhemp yng Nghymru, yn sgil y mesurau annigonol a gymerwyd i amddiffyn plant ysgol, a hynny er bod dwsinau o blant bob dydd yn cael eu cludo i’r ysbyty gyda Covid-19 ledled y Deyrnas Unedig, ac er bod Covid hir yn gyffredin ymysg plant. Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn awgrymu awyru da, mygydau, hidlyddion HEPA a monitorau CO2 fel mesurau sy’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd plant ac i arafu lledaeniad Covid yr un pryd. Mae sosialaeth yn rhoi pobl yn gyntaf, o flaen cyfalafiaeth a’i hymdrechion ecsbloetiol i greu elw. Mae sosialaeth yn dangos undod â phawb, ac nid yw’n gadael pobl ar ôl.

Mae’n hawdd i Lywodraeth Cymru chwarae’r ffon ddwybig gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod pwerau datganoli yn annigonol. Ond rydyn ni’n gwybod hefyd fod Llafur Cymru yn defnyddio hyn fel esgus cyfleus pan fydd yn addas iddyn nhw ac nad ydyn nhw’n gwneud fawr ddim i herio’r peth. Rhaid inni gael gwell ffon fesur ar gyfer cynnydd na llywodraeth Brydeinig sosiopathig. Rydyn ni’n gwybod nad yw’r problemau i gyd yn deillio’n llwyr o Lafur Cymru, ond ydyn nhw’n help ynteu’n rhwystr ar hyn o bryd? Maen nhw wedi ceisio cyfleu stori eu bod wedi’n gwarchod ni rhag effeithiau gwaethaf y pandemig, ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn wir, ac mae’n rhaid inni barhau i arddel safon uwch. Rhaid inni fynnu mwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae arnon ni angen mwy nag ymchwiliad Covid yn unig, mae arnon ni angen eco-sosialaeth weriniaethol.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.