Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan yr awdur ar 26 Ebrill 2020

Roedd y “Marcsydd o Sardiniwr” Antonio Gramsci wedi cysegru rhan helaeth o’i fyfyrio i’r cysyniad o argyfwng. Canlyniad ydoedd o fyw drwy gyfres o argyfyngau byd-eang (Y Rhyfel Fawr, cwymp y marchnad stoc 1929), ac argyfwng domestig a oedd yn ganlyniad uniongyrchol o’r argyfyngau rhyngwladol (twf ffasgiaeth yn yr Eidal).

Tueddai llawer o Farcswyr y cyfnod rhagdybio y byddai argyfyngau cyfnodol cyfalafiaeth yn arwain yn anorfod at gyfnodau o chwyldro sosialaidd a gwyrdroi’r hen drefn gan y newydd. Yn wir, dyma farn Gramsci ar y dechrau: yn dilyn y rhyfel byd cyntaf, credai fod yr argyfwng oedd yn llesteirio cyfalafiaeth a’r wladwriaeth Eidalaidd yn un  ‘hanesyddol’: “Nid oes yr un amheuaeth na fydd y wladwriaeth bourgeois yn goroesi’r argyfwng. Yn ei chyflwr presennol, bydd yr argyfwng yn ei dryllio.”

Ac eto, yn ddigon buon roedd Gramsci yn tystio i dwf ffasgiaeth a sefydlogi’r argyfyngau trwy ddulliau gwrth-chwyldroadol. Daeth i sylweddoli nad oes unrhyw ganlyniad anochel i argyfyngau mewn gwirionedd, ac yn sicr nad ydynt o reidrwydd yn arwain at sefydlu trefn gymdeithasol newydd, flaengar.

Sylweddolodd Gramsci fod argyfyngau aml yn brosesau parhaus, nid digwyddiadau unigol. Gall argyfyngau fod yn fyr, neu gallant bahrau am ddegawdau. Yn hytrach na bod yn ‘anwleidyddol’, mae argyfwng yn gyfnod anatod gwleidyddol: mae’n dirwedd wleidyddol newydd, unigryw, y mae’n rhaid i sosialwyr allu brwydro arni.

Y mae Mark Fisher yn enwog am awgrymu, gymaint yw goruchafiaeth neoryddfrydiaeth, ei bod bellach yn haws dychmygu diwedd y byd na diwedd cyfalafiaeth. Gall gwytnwch a goruchafiaeth cyfalafiaeth digaloni, os nad llethu, y chwith. Ond gall argyfyngau newid hyn dros nos. Gall argyfyngau siglo’r status quo.

Yn eu dryswch, wrth geisio datrys yr argyfwng, mae’r dosbarth sy’n llywodraethu yn dychwelyd i’w ffurf naturiol ac yn cefnu ar unrhyw awgrym o lywodraethu ar ran ‘y bobl’.  Yn hytrach maent yn blaenoriaethu diogelu cyfalaf a’r dosbarth uwch mewn modd cwbl agored. Mae hyn yn ei dro yn dangos y wladwriaeth a’r dosbarthiadau llywodraethol fel “clic cul sy’n tueddu i gynnal ei breintiau hunanol, trwy reoli neu fygu grymoedd gwrthwynebus” (Gramsci 1971:189). Mewn geiriau eraill, yn ystod cyfnodau o argyfwng, mae’r wladwriaeth yn cael ei dinoethi.

Gall hyn yn ei dro arwain at ‘argyfwng yr hegemoni ‘ neu argyfwng dilysrwydd i’r wladwriaeth – mae pobl yn eu hanfod yn symud o gyflwr goddefol ac yn cael eu gwleidyddoli (politicize), ac yn troi’n filwriaethus hyd yn oed. Nid ydynt bellach yn credu’r celwyddau a adroddwyd gynt, ond maent yn gweld pethau fel y maent mewn gwirionedd. Mae cyfnodau o argyfwng felly yn cynrychioli cyfleoedd unigryw i’r chwith.

Er gwaethaf ymdrechion gorau’r cyfryngau Prydeinig i amddiffyn y Llywodraeth yn ddiffael, yn ystod yr argyfwng hwn bydd cannoedd o filoedd o bobl dosbarth gweithiol ar y reng flaen yn sylweddoli bod sawl peth yn ddiamheuol wir: nad yw eu Llywodraeth na’u cyflogwyr yn llythrennol poeni os ydynt yn byw neu beidio; bod llymder yn ddiangen ac yn fwriadol; fod pobl dosbarth gweithiol yn cadw cymdeithas i fynd, er gwaethaf y ffaith eu bod yn cael eu talu nesaf peth at ddim.

Mae’n bosibl bod pobl a oedd gynt yn gyfforddus wedi gorfod cofrestru er mwyn derbyn credyd cynhwysol am y tro cyntaf, a thystio’n uniongyrchol i natur ddistopaidd y system. Efallai bod rhai wedi bod mewn anghydfod â’u cyflogwr am y tro cyntaf ac wedi sylweddoli cyn lleied y cânt eu gwerthfawrogi. Efallai y bydd pobl yn cael eu herlid gan eu landlord ac yn sylweddoli pa mor anghyfartal yw eu perthynas.

Mae’r darganfyddiad torfol yma – sydd wedi’i wreiddio mewn profiad byw, a’r hyn rydych wedi’u gweld gyda llygaid chi’ch hun – yn amhrisiadwy. Pan mae rhywun wedi tystio’n uniongyrchol i’r hyn mae Engels yn ei alw yn ‘rhyfel cymdeithasol’, yn erbyn y dosbarth gweithiol, ac yn sylweddoli ar ba ochr mae nhw’n sefyll, ni all unrhyw faint o bropaganda neu sbin ddadwneud hynny.

Bydd hyd yn oed pobl nad ydynt ar y reng flaen, neu sy’n ddigon lwcus i weithio o adref, neu wedi derbyn cennad (furloughed)- hefyd yn debygol o brofi epiffani yn ystod y cyfnod hwn. Gallwn obeithio y bydd pobl yn sylweddoli beth sydd bwysicaf a mwyaf gwerthfawr mewn bywyd-teulu, ffrindiau, cymuned, iechyd; a’r hyn nad sy’n bwysig – gwaith, elw, treulio.

Rhaid i’r chwith felly frwydro’n ddi-baid yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn sicrhau bod pobl yn gwleidyddoli, nad ydynt yn anghofio eu teimladau yn ystod yr argyfwng, eu bod yn cysylltu’r dotiau rhwng yr hyn sy’n digwydd a’r penderfyniadau gwleidyddol a wnaed gan y Torïaid dros y degawd diwethaf, ac yn sylweddoli y gellid bod wedi osgoi’r drasiedi hon.

Rhaid i sosialwyr yn gyntaf frwydro yn uniongyrchol yn erbyn y firws: amlygu’r llofruddiaeth gymdeithasol a achosir gan y strategaeth “imiwnedd yr haid” dideimlad, a’r prinder dybryd o offer amddiffyn personol; tynnu sylw at y diffyg profi; nodi’r gwendidau a orfodwyd gan lymder y mae’r argyfwng hwn wedi’u hamlygu yn y GIG a’r gofal cymdeithasol; y cyfaill-cyfalafiaeth sydd wrth wraidd trybini y gwyntiedyddion, ac yn y blaen.

Ond mae’n rhaid i ni hefyd ddefnyddio’r argyfwng i fynnu a rhag-weld newidiadau sylweddol hirdymor i’n gwleidyddiaeth. Fel mae’n digwydd, mae’r gwariant cyhoeddus enfawr sydd wedi cael ei orfodi ar y Llywodraeth yn ystod yr argyfwng wedi dangos bod yr holl bethau a wrthodwyd gynt – oherwydd eu bod yn ‘afrealistig’ ac yn ‘amhosibl’ – yn fesurau y gellir eu cyflawni’n amlwg, ac mewn gwirionedd yn angenrhaid: diwedd ar lymder, ei ddisodli gyda buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG; gwladoli gofal cymdeithasol; cynnydd mewn cyflog ar unwaith i’r holl weithwyr hanfodol.

Yn y pen draw, rhaid inni orfodi newid patrwm mewn gwerthoedd, a’n ffordd o drefnu cymdeithas. Datgelwyd bod ‘yr economi’ yn gachu rwtsh mympwyol ar y gorau. Mae gweld y symiau enfawr o arian yn cwympo o’r goeden arian hud, a pha mor hawdd y gellir ailstrwythuro cwmnïau er dibenion cymdeithasol defnyddiol yn dangos bod gennym yr holl adnoddau sydd eu hangen arnom i adeiladu byd gwell – yn seiliedig ar garedigrwydd, gofal a chymuned, yn hytrach nag elw. Gallai a dylai pobl mewn swyddi sydd o ddefnydd cymdeithasol gael eu talu’n sylweddol fwy, gallai llawer o bobl weithio o gartref, gallem bob un ohonom gweithio’n llawer llai a bod yn llawer hapusach. Gallem aildrefnu ein cymdeithas yn gyfan gwbl er gwell yn rhwydd iawn, petawn ni’n rhoi’r gorau i’r cymhelliad o elw.

Mae’r dde, fel ag erioed, yn arddangos gafael llawer gwell ar bŵer a natur yr argyfwng na’r canol rhyddfrydol. Maent yn amlwg yn sylweddoli eu bod mewn brwydr a bod eu hegemoni o dan fygythiad. Dyma pam eu bod yn ymdrechu’n ddiflino i droi’r argyfwng yn ddigwyddiad ‘anwleidyddol’, i ddefnyddio amser Boris yn yr uned gofal dwys fel teclyn propaganda, i symud bai, i dawelu cyfrifoldeb, i apelio at genedlaetholdeb gan defnyddio iaith aberth- ‘Rydym i gyd yn wynebu hyn gyda’n gilydd’. Wedi’r cyfan, dyma Lywodraeth gyda phrofiad mewn rhyfeloedd diwylliant, sydd wedi troi at genedlaetholdeb er mwyn ennill cefnogaeth.

Cyfle dros dro sydd yma, a’r drws yn gilagored. Os nad yw’r chwith yn manteisio mi fydd yn cau’n glep. I ddefnyddio trosiad milwrol Gramsci, os yw’r wladwriaeth gyfalafol yn gaer nerthol, yna mae’r argyfwng wedi ffrwydro twll enfawr yn ei furiau, gan ei wanhau yn ddramatig. Er bod hwn yn gyfle enfawr, ynddo’i hun nid yw’n gwarantu buddugoliaeth: Os nad yw’r chwith yn achub mantais, bydd y wladwriaeth yn ailadeiladu gan ddefnyddio ei gweithdrefnau enfawr, yn atal difrod pellach gan ddefnyddio ei ‘amddiffynfeydd gwarchodol’ yn y cyfryngau a chymdeithas sifil, yn ymlid yr ymosodiad, ac yn wir yn ymgodi’n fuddugol.

Ysgrifennodd:

“Mae’r dosbarth llywodraethol traddodiadol, sydd â nifer o cadres profiadol, yn newid dynion a rhaglenni ac, yn gyflymach na’r hyn a gyflawnir gan y dosbarthiadau is, yn ailamsugno’r rheolaeth a oedd yn llithro o’i gafael. Efallai y bydd yn cyflawni ambell aberth, ac yn agor ei hun i ddyfodol ansicr gydag addewidion demagogaidd; ond mae’n cadw grym, yn ei atgyfnerthu am y tro, ac yn ei ddefnyddio i falu ei gwrthwynebydd a gwasgaru ei cadres blaenllaw”

Yn drasig ddigon, mae’n amlwg na fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yn manteisio ar freuder presennol y sefyllfa. Mae dull ‘ fforensig ‘ Kier Starmer o ddwyn y Llywodraeth Dorïaidd i gyfrif yn amlwg yn gyfystyr ag ychydig mwy na craffu ar fanylion eu strategaeth heb wrthwynebu’n foesol. Mae’n cefnogi’r Llywodraeth i bob pwrpas ac yn disgwyl i hyn dod i ryw fath o derfyn cyn iddo weithredu, gan fethu â sylweddoli mai nawr yw’r amser i weithredu. Yn sicr, ni fydd yn defnyddio’r cyfnod hwn i fynnu diwedd ar lymder neu bolisïau radical eraill. Nid yw undebau llafur yr adain dde wedi profi fawr gwell. Yn wyneb marwolaethau gweithwyr rheng flaen, maent wedi bod yn nodweddiadol betrus, er gwaethaf y ffaith bod hwn yn gyfnod o ddylanwad digynsail i’r mudiad Llafur.

Y camgymeriad mwyaf nawr fyddai i aelodau milwriaethaus ifanc yn y Blaid Lafur dreulio eu hamser yn obsesiynu dros y Blaid Lafur-ydw i’n aros neu adael?-a cheisio perswadio Starmer neu’r undebau i weithredu. Yn hytrach, rhaid i fywiogrwydd ac egni mudiad Corbyn gael eu sianelu ar frys i’r math o weithredu ar lawr gwlad a phrotestio ag esgorodd ar Corbyniaeth yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid i’r ysgogiad a’r egni ar gyfer newid radical ddod o islaw, gan weithwyr ac ymgyrchwyr sy’n cael ei fygu’n barhaus gan y cachgwn a’r biwrocratiaid o fewn hierarchaeth y mudiad Llafur.

Ledled y byd mae gweithwyr wedi gwleidyddoli throi’n a milwriaethus yn ystod yr argyfwng hwn. Mae achosion y streiciau wildcat a cherdded allan o’r gweithle wedi amlhau, ac mae gweithwyr trefnedig wedi ennill buddugoliaethau sylweddol heb aros i arweinwyr Undeb weithredu. Os aiff nyrsys a meddygon a gweithwyr allweddol eraill ar streic neu gerdded allan yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddai gan y Llywodraeth ddewis ond ildio.

Os nad yw’r chwith yn ymladd, yna rydym yn wynebu dyfodol eithriadol o dywyll. Os yw’r chwith yn caniatáu i’r Toriaid dianc o’r sefyllfa heb gost, yna mae’n bosib iawn y bydd yr argyfwng yn cael ei ‘ddatrys’ gan rymoedd adweithiol. Drwy gydol hanes, mae ffasgiaeth wedi dod i’r amlwg dro ar ôl tro o argyfyngau tebyg i hon.

I ‘dalu am wariant coronafeirws’, mae’n ddigon posibl y gwelwn ddychwelyd at lymder llymach fyth, nas gwelwyd ei fath o’r blaen. Yr ydym yn wynebu cynnydd aruthrol yn y boblogaeth ddi-waith, a bydd hyn yn tyfu, gan y bydd llawer o gyflogwyr yn debygol o ddiswyddo mwy o bobl wrth inni ymadael y cau lawr, wrth iddynt geisio gwthio lefel eu helw yn ôl i’r arfer wedi’r ergyd a gawsant. Mae’n siwr y bydd y fyddin chwyddedig hon o lafur yn cael ei defnyddio i ddisgyblu’r bobl sy’n ddigon ‘lwcus’ i gadw eu swyddi. Mae’r ‘Mesur Coronahttps://eachother.org.uk/what-you-need-to-know-about-the-coronavirus-bill/‘ hefyd wedi rhoi pwerau digynsail a didostur i Lywodraeth Prydain, a allai’n ddigon posibl eu defnyddio i gwtogi ar hawliau sifil, gan gynnwys mwy o wyliadwriaeth a gwahardd protestiadau gwleidyddol.

Ond, gadewch i ni ddychmygu bod cyfnod o sefydlogi. Mae Boris Johnson yn wleidyddol boblyddol medrus wedi’r cyfan; efallai y bydd yn cynnig cynnydd mewn cyflog i weithwyr y GIG, yn cyhoeddi ymyraeth barhaol, enfawr gan y wladwriaeth yn yr economi; yn cynnig Angladd Gwladol mawr i’r meirw – a charreg Goffa. Gall y Red Arrows gwneud fly-by, gall y Frenhines gael ei rholio allan unwaith eto i annerch y bobl. Efallai y gallem ddychwelyd at ‘normalrwydd’.

Siawns na fyddai hyn yn dros dro. Mae’r coronafeirws yn cynrychioli’r amlygiad mwyaf eithafol, byd-eang o gyfres o argyfyngau sydd wedi plagio cyfalafiaeth fyd-eang dros y ddegawd ddiwethaf. Os bydd yr argyfwng presennol hwn byth yn sefydlogi, caiff y system ei tharo’n syth bron gydag argyfyngau newydd: dirwasgiad byd-eang posibl; cwymp posib yr UE yn y gystadleuaeth gynyddol am adnoddau; gwrthdaro cynyddol ar y raddfa ryngwladol (unwaith eto, yn ymwneud â chystadleuaeth dros adnoddau sy’n gysylltiedig â’r pandemig); ac wrth gwrs, cwymp cyflym yr ecosystem fyd-eang a fydd yn tresmasu fwyfwy ar ein bywydau bob dydd, hyd yn oed yn y Gorllewin datblygedig. Bydd newid yn yr hinsawdd hefyd yn arwain at fwy o glefydau pandemig.

Er y gellir sefydlogi argyfyngau cylchol cyfalafiaeth dros dro, ni allwn sefydlogi’r newid hinsawdd. Mae newid yn yr hinsawdd yn cynrychioli argyfwng ‘hanesyddol’ gwirioneddol, h.y. un sy’n drychinebus i ddynoliaeth, ac un nad oes brechlyn ar ei gyfer: bydd yn lladd pob un ohonom, oni bai ein bod yn gwyrdroi cyfalafiaeth.

Mae’r ffaith bod cyfalafiaeth ar stop yn ystod yr argyfwng hwn wedi rhoi cipolwg inni ar sut y gallem o bosibl dynnu’n ôl o drothwy trychineb hinsawdd – gan fod y defnydd o danwydd ffosil wedi arafu’n ddramatig gydag awyrennau segur a llai o geir ar y ffordd, mae allyriadau carbon wedi gostwng yn sylweddol, gan arwain at welliannau amgylcheddol sy’n weladwy o’r gofod.

Felly, nid yw newid ein gwerthoedd a’n ffordd o drefnu’r economi – sef cyfalafiaeth – yn freuddwyd gwrach neu rhyw gastell yn yr awyr, ond yn anghenraid digwestiwn os yw’r blaned a’r ddynoliaeth am oroesi. Ni all “canolbleidiaeth” gymhedrol ein helpu-mae angen chwyldro ecolegol byd-eang arnom. Mae’r coronafeirws, er ei fod yn drychineb ddynol digynsail, wedi rhoi glasbrint inni, trwy hap a damwain, o sut i oresgyn y sefyllfa. Rhaid inni achub ar y cyfle unigryw hwn, a dechrau brwydro nawr.

Fideo gan: Tad Davies, Ted Jackson, Garmon ab Ion

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.