Mae Undod yn cydsefyll â’r rhai sy’n mynnu cyfiawnder i George Floyd, dyn du a lofruddiwyd gan heddwas gwyn ym Minneapolis, a phawb sy’n brwydro yn erbyn hiliaeth a thrais y wladwriaeth ym mhobman.

Mae’r ymgeisiadau treisgar i atal y protestiadau ar draws yr Unol Daleithiau, o greulondeb di-feddwl i fwledi rwber a’r defnydd eang o chwistrell bupur yn datgelu cymdeithas sy’n dal i gael ei chreithio’n ddwfn gan hiliaeth wedi’i hen sefydlu. Mae’r ffaith bu saethu protestiwr yn farw o ffenest car hefyd yn dangos sut mae ymateb y wladwriaeth yn annog terfysgaeth adain-dde eithafol.

Ond mae’n rhaid i ni herio’r syniad taw problem unigryw Americanaidd yw hon ‒ mae hiliaeth hefyd wedi’i gwreiddio yng nghymdeithas y Deyrnas Gyfunol, ei sefydliadau a’i hanes imperialaidd. Am nifer fawr o flynyddoedd, mae marwolaethau pobl dduon yn y ddalfa wedi digwydd heb ymchwiliadau na chyhuddiadau, er gwaethaf degawdau o ymgyrchu gan deuluoedd. Yma yng Nghymru, mae ein carchardai yn carcharu’r gyfran uchaf o bobl groenliw yn y DG.

Mae’r pandemig wedi datgelu hiliaeth sefydliadau’r wladwriaeth ymhellach. Er gwaetha’r risg anghymesur iawn o farwolaeth i bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig o Covid-19, mae llywodraeth y DG yn gwrthod ymchwilio i’r rhesymau dros hyn neu gymryd camau digonol i amddiffyn ein cymunedau mwyaf ymylol.

Mae cyfalafiaeth a goruchafiaeth wen yn mynd law yn llaw. Mae’r Deyrnas Gyfunol a’r Unol Daleithiau wedi’u hadeiladu ar ganrifoedd o ecsbloetio, gormes a thrais tuag at bobl groenliw. Os ydym am gael cymdeithas sy’n gwarantu diogelwch ac urddas i bawb, yna mae’n rhaid i ni weithio i chwalu’r hiliaeth sy’n rhedeg yn ddwfn trwy ein cymdeithas, ein sefydliadau, a’n calonnau ni ein hunain.

Mae bywydau du o bwys.

Sut y gallwch chi ddangos undod

Cyfrannwch i gefnogi protestwyr yn yr UDA trwy’r rhestr hon o sefydliadau

Mae cronfa sy’n dosbarthu ariannu i gronfeydd bael hefyd.

Cyfrannu at a chefnogi sefydliadau BAME yng Nghymru

Os ydych chi’n wyn, darllenwch y canllaw hwn ar fod yn gynghreiriad a defnyddiwch yr adnodd gwrth-hiliaeth hwn

Llun gan __rachelmh

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.