Wrth i’r byd wynebu pandemig byd-eang sydd yn deillio o gynhyrchu bwyd mewn modd anniogel, gallech feddwl y byddai diogelwch bwyd yn uchel ar yr agenda wleidyddol.
Yn yr un modd, wrth i nifer o wledydd ymbaratoi at brinder bwyd, yn sgil effaith Covid-19 ar gadwyni cyflenwi cynnyrch a llafur byd-eang, gallech ddisgwyl, efallai, y byddai llywodraeth San Steffan yn blaenoriaethu diogeledd bwyd ac yn gwarchod cynhyrchu bwyd yn lleol. Ond na, fe ymddengys, wrth i Aelodau Seneddol – gan gynnwys pob AS Toriaidd Cymru, yn ddi-hid o’u haddewidion dros ffermwyr neu o gynnwys eu hymgyrchoedd etholiadol – wrthod newidiadau i’r Bil Amaeth a fyddai’n gwarchod ffermwyr a defnyddwyr y DU rhag fewnforion o safon is.
A’r penawdau’n sôn am ddim byd ond coronafeirws, cafodd y gwrthwynebiad i’r newidiadau prin dim sylw y tu allan i’r wasg amaethyddol. Mae’r Bil bellach wedi pasio ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, a Tŷ’r Arglwyddi yw’r unig rwystr sy’n weddill cyn iddo droi’n gyfraith.
Beth yw goblygiadau hyn i ddyfodol ffermio Cymreig? Ac yn bwysicach, beth allwn ni wneud amdano?
Râs i’r gwaelod
Mae’r Bil Amaeth yn ymgais byrbwyll i dawelu’r UDA ac i osgoi cynnydd sydyn mewn prisiau bwyd o ganlyniad i Brexit. Mae goblygiadau ei basio heb newidiadau ym mhob maes polisi arall yn ddifrifol. O safbwynt lles anifeiliaid, mae’r diffyg newidiadau yn golygu ein bod ni, i bob pwrpas, wedi rhoi’r gorau i unrhyw wrthwynebiad ystyrlon i arferion creulon a pheryglys da byw ym Mhrydain, wedi Brexit. Bydd hyn yn caniatáu mewnforio cyw iâr wedi’i glorineiddio, un o’r cynhyrchion prin sydd wedi dal sylw’r cyhoedd Prydeinig, fel canlyniad negyddol i drafodaethau masnach Brexit.
Mae’r rheswm y caiff ieir yr UDA eu trochi mewn clorin diocsid cyn cael eu bwyta yn llai hysbys, fodd bynnag: mae ieir sydd wedi’u cludo’n fyw mewn caetsys am 28 awr yn methu symud (i gymharu â 12 awr yr Undeb Ewropeaidd) wedi’u gorchuddio i’r fath raddau â charthion erbyn iddynt gael eu difa, mae eu carcasau yn llawn salmonella a meicro-organyddion niweidiol eraill.
Ni allwn wahanu pryderon dros les anifeiliad oddi wrth y bygythiad ehangach i iechyd y cyhoedd a ddaw o gynhyrchu cig yn arddwys, wedi’i yrru gan elw yn unig.
Mae mewnblaniadau hormonau mewn gwartheg – wedi’u gwahardd gan yr UE ond yn gyffredin yn yr UDA – wedi’u cysylltu â nifer o sgîl-effeithiau iechyd niweidiol yn yr anifeiliaid eu hunain: mastitis, anhwylderau esgyrnol, a diffyg rheoli gwres. Mae’r sgîl-effeithiau hyn yn boenus ac yn achosi gofid i’r anifeiliaid, ac maent yn arwain at raddfa uwch o ddifa mewn gwartheg llaeth sydd wedi’u trin â hormonau.
Y rheswm dros waharddiad yr UE, fodd bynnag – rheswm sydd wedi’i gydnabod gan Sefydliad Masnach y Byd – yw’r cysylltiad ymddangosiadol rhwng gwartheg wedi’u trin â hormonau a chansr yn y bobl sy’n defnyddio’r cynnyrch. Mae safonau hylendid is wrth fagu a difa anifeiliaid hefyd yn cynnig risg sylweddol i’r cyhoedd; fel y dywedodd Simon Dawson (uwch-ddarlithydd mewn gwyddoniaeth bwyd a thechnoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd) wrth y Big Issue ym mis Mai y llynedd, “You are currently seven times more likely to get food poisoning in the US than the UK.”
Mae dulliau ffermio arddwys, a’r cig artiffisial o rad (sydd felly’n cael ei or-ddefnyddio) y mae’r dulliau hyn yn ei gynhyrchu hefyd yn achosi bygythiad arwyddocaol i’n hamgylchedd drwy eu cyfraniad at newid hinsawdd, a’r difrod i gynefinoedd a’r bioamrywiaeth a geir yn y cynefinoedd hynny. Mae hyn yn arbennig o hurt yng nghyd-destun y gwelliannau i gymorthdaliadau ffermio a ddaw yn sgil Brexit. O dan gynlluniau newydd y DU, ni fydd ffermwyr yn cael cymhorthdal am weithio’r tir yn unig, ond am gyflenwi cynnyrch cyhoeddus – atafaelu carbon mewn coed a thir, tyfu blodau sy’n annog peillwyr, ac ehangu mynediad y cyhoedd at gefn gwlad. Croesewir y penderfyniad hwn, sy’n anarferol o flaengar, ond caiff ei danseilio’n sylweddol gan y ffaith y bydd y Bil yn caniatáu mewnforion rhad, wedi’u cynhyrchu heb unrhyw ystyriaeth am y cyhyrchion cyhoeddus hyn, gan werthu’n rhatach na ffermwyr Prydeinig.
Ffermio ar ôl Brexit
Bydd y nifer dirfawr o fewnforion rhad o dramor yn cael effaith ddinistriol ar ffermio’r DU. Wedi’u cynhyrchu at gost amhosib o rad i ffermwyr Prydeinig (bydd yn dal i orfod glynu at gyfreithiau’r DU), bydd y cynhyrchion hyn yn boddi marchnad ddomestig y DU, mewn cyfnod pan fydd allforion eisoes yn lleihau. Wrth i’r llywodaeth Geidwadol wrthod ymestyn trafodaethau gyda’r UE, ymddengys eu bod yn gweithio yn fwyfwy tuag at Brexit heb gytundeb. Mae’n anodd asesu effaith economaidd Brexit heb gytundeb yn ystod y cwymp byd-eang digyffelyb presennol, sydd yn esboniad posib dros safbwynt benderfynol y DU i wrthod estyniad: gwell claddu effaith economaidd Brexit heb gytundeb dan ddirwasgiad Covid-19 a chadw’r ergydion dilynol yn gynnar yn y cylch etholiadol. Wedi dweud hyn, nid yw’r rhagfynegion a wnaed cyn argyfwng coronafeirws yn galonogol chwaith. Yn ôl canolfan Anderson, disgwylir cwymp o 18% i fuddioldeb ffermio’r DU mewn Brexit heb gytundeb, sef colled o £850 miliwn i’r diwydiant.
Bydd Cymru yn cael ei effeithio’n arbennig o wael gan Brexit heb gytundeb a mewnforion heb gyfyngiadau ill dau. Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru o 2019, mae amaethyddiaeth yn cynrychioli 0.8% o Werth Ychwanegol Gros (Gross Value Added, neu GVA) i’r economi Gymreig, 30% yn uwch na’r cyfartaledd Prydeinig, sef 0.6%. Yn 2018, roedd amaethyddiaeth, coedwigaeth, a physgota yn cynrychioli 3.2% o swyddi’r gweithlu yng Nghymru, i gymharu ag 1.1% ar gyfartaledd ym Mhrydain gyfan.
O’r tir amaethyddol yng Ngymru, mae 80% wedi’i ddyfarnu gan yr UE yn Ardal Llai Ffafriol (sydd â photensial cynhyrchu is) oherwydd ein gormodedd o dir mynydd a glaw. O ganlyniad i hyn, mae ffermio defaid yn cynrychioli cyfran uwch o’n sector amaethyddol ni yma nag yn y DU yn gyffredinol. Cig defaid Prydeinig yw un o’r sectorau fydd yn cael ei effeithio waethaf gan Brexit heb gytundeb, gyda chwymp o 24% i brisiau. Golyga hyn ostyngiad yng ngwerth yr allbwn – hynny yw, i incwm ffermwyr – o 37%. Mewn gwlad fel Cymru, lle mae ffermydd yn dueddol o fod yn rhai bach, teuluol, ni ellir goroesi hyn.
Mae’r realiti i gymunedau ffermio Cymreig sy’n wynebu’r colledion hyn yn fwy llwm fyth na’r darlun a geir uchod. Er bod amaethyddiaeth yn cynrychioli cyfran fach o’r allbwn cenedlaethol, mae’n cyfrannu’n fawr i’r economi drwy wariant canolraddol (e.e. bwyd, peirianneg, gwasanaethau milfeddygol). Mae ffermydd Cymru yn cynnal rhwydweithiau o ddiwydiannau annibynnol yn ogystal â bywoliaethau’r ffermwyr eu hunain. Gan ystyried y crynhoad rhanbarthol o swyddi amaethyddol – dros 12% o swyddi yng Ngheredigion a Phowys – bydd cwymp ffermio Cymreig yn dinistro cymunedau gwledig.
Colli anian
Mae’n amhosib cyfleu galar a cholled cwymp ffermydd bychan yng Nghymru drwy restru ystadegau yn unig. Wrth i ddiweithdra godi, gwelwn bobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn mudo i’r dinasoedd ac i Loegr ar raddfa gyflymach fyth. Cymunedau sy’n heneiddio fydd yn weddill, yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus tila. Dangosodd etholiad 2019 yn glir y dicter a’r wleidyddiaeth adweithiol y mae’r ardaloedd gadawedig hyn yn eu meithrin: y seddi hynny a newidiodd i’r Ceidwadwyr am y tro cyntaf oedd y rheiny ag oedran uchaf y boblogaeth ar gyfartaledd.
O’r ffermydd a wnaeth gais am gynlluniau amaeth llywodraeth Cymru yn 2019, 52% yn unig oedd yn berchen ar yr holl dir yr oeddent yn ei ffermio. I ffermwyr tenant, sy’n aml â chytundebau tenantiaeth yn amodol ar ennill cyfran benodol o’u hincwm ar y fferm, bydd colli eu diwydiant hefyd yn golygu colli eu cartrefi. Bydd tir sydd wedi cael ei weithio ers degawdau, neu ganrifoedd hyd yn oed, gan aeloedau o un teulu, yn cael ei drosglwyddo i gorfforaethau ffermio. Bydd y chwedlau, traddodiadau a defodau sy’n byw yn y tir y maent yn ei weithio yn mynd yn angof, fel gymaint o hunaniaeth Cymru.
Efallai mai ar yr iaith Gymraeg fydd yr effaith fwyaf. Nifer bychan o ardaloedd sydd ar ôl yng Nghymru lle gallwn ddweud bod yr iaith wir yn fyw yn yr ystyr o fod yn iaith bywyd bob dydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd hyn yn gymunedau gwledig – cymunedau amaethyddol. Mae’n anodd i’r rheiny sy’n byw y tu allan i’r ardaloedd hynny ddirnad byd lle nad Saesneg yw’r norm, lle mae arwerthiannau cŵn defaid yn nodi ar y rhaglen pa iaith y mae’r cŵn yn ei ddeall. Mae ffermio yn cadw’r byd hwn yn fyw. Mae’r iaith Gymraeg ei hun wedi’i gwreiddio mewn amaethyddiaeth, â geirfa dibendraw ganddi i ddisgrifio nodweddion y tir. Os caiff y cymunedau sy’n dal i ddefnyddio’r eirfa hon eu dinistrio, yna bydd y geiriau, a’r bydolwg maent yn ei gynnal, yn olion – yn enwau llefydd na fyddwn bellach yn eu deall.
Y ffordd ymlaen?
Sut gall ffermio Cymreig oroesi’r argyfyngau anochel sy’n ei wynebu? Sut allwn osgoi’r argyfyngau nad ydynt yn anorfod? Ceir isod restr, ymhell o fod yn gyflawn, o awgrymiadau, nifer ohonynt sy’n deilwng o erthygl unigol. Mae rhai yn uchelgeisiau mwy hir-dymor, eraill yn mynnu gweithredu brys; ond mae pob un yn angenrheidiol i oroesiad ffermio Cymreig.
Arallgyfeirio a ffermio gwerth ychwanegol
Wrth ystyried dyfodol ffermio Cymreig, rhaid i ni asesu, yn onest, ei bresennol a’i orffennol. Mae Incwm Cyflawn o Ffermio (Total Income From Farming, neu TIFF) – sy’n cynnwys elw busnes, taliadau i weithwyr heb eu talu, a chymorthdaliadau – yn rhoi syniad o’r incwm cyflawn a ddaw gan allbynnau amaethyddol, cymorthdaliadau a gweithgareddau arallgyfeirio gan ffermwyr. Rhwng 1995 a 2017, roedd cynnydd o 24% i TIFF y DU. Yn yr un cyfnod, 3% yn unig oedd y cynnydd i TIFF Cymru. Yng Nghymru, mae amaethyddiaeth yn cynrychioli 88% o ddefnydd y tir, a llai nag 1% o’r Cynnyrch Domestig Groseg (GDP). Yn Ffrainc, mae ychydig dros hanner y tir yn cael ei ddefnyddio at bwrpas amathyddiaeth, ac eto mae’r sector yn cynhrychu rhwng 1.5 a 2% o GDP.
Beth yw’r rheswm dros danberfformiad Cymru? Does yna ddim ateb syml i gwestiwn felly, ond mae diffyg cynnyrch gwerth ychwanegol mewn ffermio da byw Cymreig yn allweddol. Fel y mae Tegid Roberts yn esbonio mewn cyfweliad gyda Desolation Radio, mae’r rhan fwyaf o’r llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn Ffrainc yn cael ei werthu fel cynnyrch gwerth ychwanegol: caws, hufen, menyn, maidd ayyb. Yng Nghymru, mae 50% o’r llaeth yn cael ei werthu fel llaeth yn unig, gan golli’r holl werth sy’n cael ei ychwanegu i gynnyrch llaeth Ffrengig wrth iddo gael ei drosi i gynhyrchion wedi’u prosesu. Yn yr un modd, mae da byw yn aml yn cael eu gwerthu gan ffermwyr i weithredwyr cyfryngol, sy’n prosesu’r cig y tu allan i Gymru cyn ei werthu ymlaen i adwerthwyr.
Beth bynnag fo canlyniad Brexit, nid yw’r model hwn yn gynaliadwy bellach. Er mwyn adfywio ffermio Cymreig a chymunedau gwledig, rhaid i ffermwyr Cymru arallgyfeirio i brosesu cig, paratoi bwyd, brandio cynnyrch, marchnata, ac agro-dwristiaeth; canfod eu harbenigedd eu hunain mewn marchnadoedd bwyd a chyda’u cwsmeriaid ffyddlon, (cymharol) leol. Mae nifer eisoes yn gwneud hyn, o gwmniau sydd wedi’u sefydlu ers tro fel Llaeth y Llan, i fentrau mwy newydd fel Cig Eryri neu The Llama Farmers (er gwybodaeth: busnes cychwynnol fy nheulu estynedig yw’r olaf). Er bod llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i gefnogi’r mentrau hyn, bydd eu llwyddiant yn dibynnu ar lawer mwy na grantiau: mae angen diwygio a buddsoddiad strwythurol ehangach.
Buddsoddiad mewn isadeiledd
Mae angen isadeiledd ar fusnesau newydd er mwyn iddynt ffynnu, i’w cynnal ac i gynnig safon bywyd derbyniol a deniadol i’w gweithlu. Mae cyrhaeddiad band eang yng nghefn gwlad Cymru yn warthus, sy’n ei wneud yn amhosib i redeg busnes modern yn effeithiol. Wrth i’r argyfwng Covid wneud gweithio o bell a chyfathrebu dros y we yn fwy canolog fyth i arferion gwaith, mae’n hollbwysig nad yw Cymru wledig ar ei cholled. Yn yr un modd, nid yw system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru – y gwasanaeth rheilffordd yn arbennig – yn addas at ei bwrpas. Ni all economi Gymreig lewyrchus – gan gynnwys sector amaethyddol sy’n ffynnu – ddatblygu mewn gwlad â’r hyn sy’n gyffelyb i rwydwaith rheiffordd alldynnol, lle mae’n haws i deithio i Loegr nac i rannau eraill o Gymru.
Ehangu tu hwnt i dreuliant moesol
Mae angen cwsmeriaid ar fusnesau amaethyddol cychwynnol i oroesi. Ar draws y byd, mae archfarchnadoedd mawr yn achosi distryw i fywydau ffermwyr, ac maent yn gyfrifol am rai o arferion gwaethaf y diwydiant bwyd a ffermio. Dylai ymddihatru oddi wrth y system archfarchnadoedd, a phrynu’n uniongyrchol wrth y cynhyrchwyr, fod yn flaenoriaeth i unrhywun sydd am adeiladu Cymru well. Wedi dweud hyn, ni all treuliant moesol (‘ethical consumption‘) – a chodi cywilydd elitaidd ar bobl gyffredin am eu dewisiadau – fyth fod yn ddatrysiadau radical. Bydd angen archwilio llu o ddulliau er mwyn ailstrwythuro’r ffordd y mae ein gwlad yn bwyta: mentrau bwyd cydweithredol, cynlluniau cyd-farchnata, rhoi terfyn ar yr ansicrwydd bwyd ofnadwy sydd gan gynifer o boblogaeth Cymru (gan gynnwys y system fudd-daliadau greulon), addysg a chyfranogiad pobl ifanc dinesig i weithio’r tir, ymgyrchoedd cyhoeddus yn erbyn gweithredwyr gwael yn y diwydiant, a nifer fawr o strategaethau sydd eto i’w datblygu.
Codi ymwybyddiaeth cyhoeddus
Diau mai’r bygythiad mwyaf i oroesiad ffermio Cymreig yw’r diffyg gwrthwynebiad cyhoeddus i’w ddinistr. Mae’r diffyg gwrthwynebiad hwn yn adlewyrchu diffyg gwybodaeth, sydd yn ei hun yn adlewyrchu’r diffyg sylw gan y cyfryngau. Yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, rhybuddiodd llywydd NFU Cymru – undeb nodedig o wrth-filwriaethus heblaw dan amgylchiadau eithafol – am aflonyddwch sifil a gweithredu uniongyrchol pe na byddai’r llywodraeth yn gwarchod ffermwyr Cymru: ‘We have to avert a no-deal Brexit and I want to be clear that as far as NFU Cymru is concerned, we rule nothing out in terms of how we achieve this.’ Synnwn i pe bai gan 1 o 1000 o drigolion Caerdydd syniad bod ffermwyr Cymru’n ystyried gweithredu yn y fath fodd, heb sôn am unrhyw un y tu allan i Gymru. Dyma ganlyniad cyfryngau Prydeinig sy’n ffocysu ar Lundain, na fydd byth yn rhoi sylw addas i’r hyn sy’n bwysig i Gymru. Mae’n angenrheidiol ein bod yn cefnogi’n cyfryngau annibynnol Cymreig cychwynnol, a brwydro dros ddatganoli’r cyfryngau os ydym am ddeall, heb son am wella ein gwlad.
Mae’n hawdd teimlo’n ddi-obaith am ddyfodol ffermio Cymreig, yn arbennig gan fod cyn lleied o bobl i’w gweld yn gwybod neu’n poeni am yr hyn sy’n ei fygwth. Dylai’r anwybodaeth a’r difaterwch yma ein cymell, fodd bynnag: mae cymaint o bobl yn gwybod dim (yn llythrennol) am y pwnc, gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth enfawr drwy siarad amdano. Wrth i’r Bil Amaeth gael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi, dyma’r amser i siarad ac ymgyrchu. Os bydd rhywun yn sôn am Brexit, sicrhewch eu bod yn gwybod sut y bydd ffermio yn cael ei effeithio. Os bydd rhywun yn sôn am greulondeb at anifeiliad, sicrhewch eu bod yn gwybod beth fydd y Bil Amaeth yn ei ganiatáu. Os bydd rhywun yn sôn am yr iaith Gymraeg, sirchewch eu bod yn gwybod pa ddiwydiant sy’n ei chynnal. Mae ffermio Cymreig yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth boed o ba ran o Gymru ry’n ni’n dod. Efallai nad ‘Sheepshagger’ yw’n hoff lysenw, ond byddwn ni’n ei gweld hi’n chwith hebddo.
Tair ffordd i helpu atal y bill amaeth
- Arwyddo ein deiseb
- Arwyddo deiseb yr NFU
- Arwyddo fyny i ymuno â’n ymgyrch
Â’m diolch i fy modryb, ewythr, a chefndryd, sy’n cadw fferm Taid yn fyw, sydd wedi dysgu imi gymaint o’r hyn sydd wedi’i gynnwys uchod, ac sy’n gweithio a chadw un darn gwerthfawr o Gymru.
Llun gan AG, The Llama Farmers
Cyhoeddiad craff iawn.
Mae’r ateb i’r sefyllfa yma yn dod o newid syniadaeth a deall pa mor bwysig yw cynyddu incwm o weithgaredd deunydd tir tu allan i gynhyrchu bwyd. Yr hyn sydd yn bwysig yw yr incwm ddaw dros drothwy drws y fferm, “Incwm Cyflawn Ffermio”. Mae polisi cyhoeddus ar ddenydd tir, yn brwydro yn erbyn hyn yn gyson. Yn ail mae rhagfarn gan y gymuned amaethyddol yn erbyn rhai sydd am ffermio yn rhan amser. Yr unig ffordd allwn gadw pobol i fyw yng nghefn gwlad yw hyn, ac mae’n amser i ni ddeffro.
Many farmers locally actively supported Brexit and the Conservatives, displaying posters from their fields. They will reap what they sowed.
Just like zero hours contracts appeared from no where and pushed throughbefore the people could do anything about it
We need an honest Sennedd in Cymru and can t expect anchange from a welsh secretary of state and a sennedd leader who do westminsters bidding all the time mr hart went to cirencester agricultural college! So why did he vote for poorer food standards ? When he s well aware of the devastating consequences for his own constituents and the whole of Cymru we need people who bleed with us in our Sennedd and are prepared to stick a spoke in westminsters totalitarian state
As someone said in the thirties, campaigning for the first ever Development Board for Rural Wales, ‘The most important product of an agricultural policy is the people.’
I have to agree with Peter Martin’s comment. I could not believe how many of my local farming comrades (and particularly the younger generation) were robustly adamant that Brexit would be the answer to their problems. I have since chosen to divest most of my agricultural business for other interests, it is not so easy for those with generations of heritage on their land to be able to do this. As in the accurate above article, Brexit will lead to rural and cultural decimation in Wales.(and other rural UK areas too) The law of unintended consequences, as proved by the holiday houses\council tax debacle and soon, the campaign that has been raging to keep visitors out of Wales during the latter section of this Covid19 epidemic, will, I am sorry to say, bite hard.
Well informed, excellent article.
Are we supposed to feel sorry for the them. The majority of welsh farmers and the welsh people voted to Brexit. Therefore helping to push through the most damaging set of laws this union has ever seen. Not only welsh hill farmers but everyone in this land is going to pay the price.
Now, given the way the welsh industries were treated under thatcher, you still voted for brexshit and a Tory government? Shame on you if you did. I would imagine your ancestors will be spinning in their graves. Wales was one of the largest benefactors of EU grant subsidies. Talk about bite the hand that feeds you. It beggars belief that supposed intelligent people could fall for the brexshit bollox, but fall you did.
You voted for it, now you must own it.
This article appeared on my smart phone. It was very interesting and informative. I support your ideas and hope you are successful.
Yes absolutely. I agree with the Welsh 100% All this scullduggery as both Tory and labour push the self destruct button.