Mae Bywydau Duon O Bwys. Datganiad

Mae’r cynlluniau ar gyfer adeiladu Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ym Mharc Britannia, lawr Bae Caerdydd, wedi cael eu beirniadu’n ffyrnig dros yr wythnos ddiwethaf. Ceir yr argraff cyffredinol, unwaith eto, fod Caerdydd yn cael ei datblygu y tu hwnt i ddylanwad ei thrigolion.

Un stori ymhlith nifer yng Nghaerdydd yw’r datblygiad arfaethedig hwn. Ry’ ni wedi colli lleoliadau cerddoriaeth, fel Gwdihŵ. Ry’ ni wedi gweld neuaddau preswyl, fel y ‘Zenith‘, yn cael eu datblygu’n ddiangen, er mwyn manteisio ar fan gwan y gyfraith gynllunio. Mae hoff sefydliadau cymunedol wedi’u colli neu o dan fygythiad, fel y Paddle Steamer yn Butetown. Mae coed Tŷ Suffolk wedi cwympo. A chofiwch yr amser y bu bron i ni golli Stryd Womanby i westy Wetherspoons. Mae traeon fel hyn yn geiniog a dime yn ein prifddinas.

Erbyn hyn mae cynlluniau i adeiladu Amgueddfa meddygaeth filwrol yn y Bae. Dyma’r rhesymau allweddol – arian, gofod, a gwladychiaeth – dylem i gyd ei wrthwynebu- a’r hyn y gallwn ei wneud i wrthsefyll ac adeiladu Caerdydd well.

Arian

Yr arian sy’n cyfri, medden nhw, a does dim dwywaith bod Cyngor Caerdydd yn gweld hi felly. Mae eu gweledigaeth ar gyfer y ddinas yn un sy’n ei ystyried fel y sbardun ariannol i weddill Cymru, lle mae’r syniad o ehangu’r ddinas yn cael ei ystyried yn beth da ynddo’i hun. Mae’r cynnydd mawr yn y tyrrau o fflatiau a’r gwerthu tir yn gysylltiedig â gweledigaeth o Gaerdydd fel prifddinas digwyddiadau a chyrchfan i dwristiaid – dim ots am y bobl sy’n byw yma, cofiwch.

Mae’r rhesymeg hon yn amlwg yn eu hamddiffyniad o’r prosiect, gan eu bod yn honni y bydd gwerthu Parc Britannia yn eu helpu i adennill arian a fuddsoddwyd i’w brynu gan awdurdod y porthladd (i’w atal rhag cael ei ddatblygu ar gyfer fflatiau). Mae’n honni na fyddai’r Cyngor yn buddsoddi unrhyw arian yn y prosiect, ac felly byddai’n talu amdano’i hun – tra hefyd yn ychwanegu at y coffrau.

Wrth asesu eu barn, doeth byddai ystyried llanast diweddar y Gyfnewidfa Lo, lle’r oedd y Cyngor wedi cynnig benthyciad o £2 miliwn i gwmni, sydd ers hynny wedi mynd i’r wal. Yn wir, mae’n boenus o glir ar sail eu rhesymeg ariannol eu hunain bod y cynlluniau yn sylfaenol ddiffygiol. Mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd eisoes wedi darparu’r atebion gyda dogfen anferthol yn rhoi manylion yr holl wrthwynebiadau posibl y gallech eu dychmygu. Dylech ei ddarllen, ond os nad oes gennych yr amser, dyma’r isafbwyntiau ar yr arian:

Mae gan yr Amgueddfa incwm blynyddol o £18k a rhagwelir diffyg blynyddol o £125k; mae £1,740,000 o arian ar ôl ganddynt a roddwyd gan y Trysorlys i adleoli, ond bydd eu datblygiad arfaethedig yn costio £30 miliwn. Honnir y bydd cyllid cyfalaf yn cael ei godi o grantiau a rhoddion, nawdd, a buddsoddiad, ond nid oes unrhyw awgrym gan bwy, na faint o arian sy’n cael ei addo. O gofio’r cyfnod yr ydym yn byw ynddo, a’r derbyniad llai na chynnes a gaiff yr amgueddfa, mae’n hen bryd i Gyngor Caerdydd ailasesu eu hyder yn y gred bod y brosiect hon am ddelifro. Y neges i Huw Thomas? Show me the Money.

Gofod

Parc Britannia yw’r unig lecyn gwyrdd, agored sydd ar y Bae, encilfa groesawgar i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd, gyda pharc plant at hynny. Ewch i lawr a chwiliwch am y lle eich hun, a sylwch ar y cannoedd o fflatiau, gan gynnwys tai cymdeithasol, nad oes gan eu preswylwyr fynediad i ardd, a gofynnwch pa mor briodol yw hi i’r Cyngor fod eisiau mynd â hyn oddi yno mewn ward lle mae .88 hectar fesul 1000 o drigolion, yn sylweddol is na gofyniad y cynllun datblygu lleol o 2.43 hectar fesul 1000 o bobl (tud. 195). Mewn gwirionedd, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi penodol ar fannau agored gwyrdd. Mae eu canllawiau, o dan y teitl TAN 16 yn datgan:

Mae gan gaeau chwarae a mannau agored gwyrdd arwyddocâd arbennig i’w gwerth adloniadol ac amwynder, yn enwedig mewn trefi a dinasoedd … Mae meysydd chwarae a mannau gwyrdd yn ychwanegu diddordeb a bywiogrwydd i amgylcheddau gwaith a byw… Yn ogystal â’u rôl amgylcheddol, gallant hefyd gynnig manteision o ran iechyd a lles, a chyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned. … Dim ond lle gellir dangos yn glir nad oes unrhyw ddiffyg, y dylid ystyried y posibilrwydd o’u defnyddio ar gyfer datblygiad amgen.

Mae cynllun datblygu lleol Caerdydd hefyd yn nodi:

Ni chaniateir datblygiad ar fannau agored oni bai na fyddai’n achosi nac yn gwaethygu diffyg o ran man agored. (p. 195)

Mae’r Datganiad Dylunio a Mynediad ar y cynigion yn cyfaddef y byddai’n lleihau’r gofod gwyrdd agored tua 780 metr sgwâr, gan gymryd bron i draean o’r arwynebedd presennol a lleihau faint o borfa a choed yn sylweddol, tra hefyd yn lleihau maint yr lle chwarae gan 130 metr sgwâr. Mewn ymateb i’r honiad y byddai cysgod yr Amgueddfa’n creu man chwarae mwy hwylus, mae’r Gymdeithas Ddinesig Caerdydd yn nodi bod yna ffyrdd llawer haws o ddarparu cysgod nag adeilad 5 llawr.

Ar adeg pan fo argyfwng hinsawdd wedi ei ddatgan a mannau agored yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, mae’n gofyn cwestiynu meddylfryd gwleidyddion a fyddai’n hapus i gau mewn yr un man agored ar y Bae gydag adeilad mor fawr. Mae’r ffaith na allant ddychmygu na deall bod man agored o’r fath – y gellid ei dirlunio neu ychwanegu ato mewn ffyrdd llawn dychymyg- yn gaffaeliad i ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd, yn adrodd cyfrolau am eu gwerthoedd a’u ‘breuddwydion’.

Gwladychiaeth

Yn ôl gwefan yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ar gyfer eu lleoliad presennol (Aldershot, Lloegr), mae’r Amgueddfa’n darlunio hanes meddygaeth filwrol “o ryfel cartref Lloegr hyd heddiw.”

Mae’r cyfnod hwn yn cwmpasu anterth yr Ymerodraeth Brydeinig. Gorchfygodd yr Ymerodraeth Brydeinig, trwy rym, 23% o boblogaeth y byd. Y tu ôl i hanesion am “yr ymerodraeth y mae’r haul byth yn ei fachlud arni” yw gwaddol y fasnach gaethion traws-Iwerydd, yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn brif symbylydd ohoni gan elwa’n fwy na neb, erchyllterau trwy law dyn fel y newyn yn y Bengal yn 1943, a gostiodd rhwng 2-3 miliwn o fywydau; y cyflafan Jallianwala Bagh yn 1919, chwalu’r gwrthryfel Mau Mau yn Kenya, a erchyllterau dirifedi eraill.

Heb ei feddyginiaeth filwrol, ni fyddai’r Ymerodraeth Brydeinig wedi gweithredu. Yn union fel y mae bom yn ddiwerth heb focs i’w gario ynddi, neu gleddyf yn anaddas heb gwaun i’w gadw rhag anafu’r sawl sy’n ei drin, nid oedd meddygyniaeth filwrol yr Ymerodraeth Brydeinig, fel y mae Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd wedi awgrymu, yn rym diniwed, ond yn elfen angenrheidiol ac anwahanadwy o farbariaeth warthus yr Ymerodraeth Brydeinig.

Mae Butetown, y ward sy’n cynnwys Bae Caerdydd, yn gartref i rai o gymunedau aml-ddiwylliannol hynaf y DU. Yno a ledled Caerdydd mae disgynyddion o bobl a ddioddefodd waethaf yr Ymerodraeth Brydeinig yn byw, a’u mamwledydd wedi’u trefedigaethu gan Brydain. Mae’n bosibl bod rhai o’u hynafiaid wedi darfod yn siambrau artaith yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae gan Butetown, yn arbennig, gymuned Somali sylweddol y mae ei chof hanesyddol yn cynnwys straeon am greulondeb a gwladychu eu hynafiaid yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Heddiw, gwaddol yr Ymerodraeth hon a welwn pan fyddwn yn tystio i hiliaeth amlwg a sefydliadol, fel sy’n cael ei hamlygu gan y ffrwydrad yn y mudiad Black Lives Matter. Mae ysbrydion yr Ymerodraeth yn bodoli o’n cwmpas ni, p’un a ydym yn eu cydnabod ai peidio.

Ac mae hyn cyn inni sôn am y rôl y mae sefydliadau fel yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol (wedi ei leoli’n bresennol yn farics Keogh yn Surrey) yn ei chwarae o ran recriwtio i’r lluoedd arfog, yn gwasanaethu fel taclau er mwyn bwydo mwy o gyrff i felin gig neilltuoliaeth filwrol Brydeinig, a amlygir gan y rhyfeloedd dibwrpas yn Irac ac Affganistan. Mae gwrthwynebiad eisoes wedi bod yng Nghaerdydd i weld y fyddin yn ymledu i ysgolion. Mae hyn yn rhan o waith ‘digywilydd‘ y fyddin wrth dargedu plant o deuluoedd tlawd yng Nghymru fel rhan o ymdrechion penodol Byddin Prydain i recriwtio o gymunedau dosbarth gweithiol.

Mae’n sarhad i bobl Butetown a Chaerdydd fod Amgueddfa sy’n cydymdeimlo â’r Ymerodraeth Brydeinig ac yn mawrygu militariaeth ar garreg eu drws. Tra byddwn yn gwylio llofruddion yr heddlu yn yr Unol Daleithiau gydag arswyd, dylem ddadansoddi hanes creulon, hiliol ein hunain a’i drin â’r feirniadaeth y mae’n ei haeddu. Mae’n anodd dychmygu gweithred sydd yn fwy groes i’r grain yn y dyddiau sydd ohoni nag adeiladu amgueddfa filwrol ar riniog cymunedau aml-ddiwylliannol hynaf Cymru. Mae’n gwneud i gynnig Ken Skates ar gyfer yr ‘anus of the north’ ymddangos yn ystyrlon.

Sut rydym yn datrys hyn

Byddai gadael Parc Britannia fel ag y mae yn opiswn. Neu gellid ail-lunio a gwella’r gofod ar ei delerau ei hun. Mae deiseb i achub Parc Britannia ei hun yma.

Neu, fel yr awgrymwyd ers blynyddoedd, gellid adeiladu Amgueddfa sy’n deilwng o hanes yr ardal, yn hytrach nag Amgueddfa heb unrhyw gysylltiad hanesyddol lleol. Mae deiseb eisioes ar gyfer Amgueddfa o’r fath, a gallwch ychwanegu eich enw fan yma.

Nid yw’r ateb wedi’i benderfynu eto. Ond, yn gyntaf oll, pobl Butetown ddylai benderfynu ar ddyfodol Parc Britannia. Dylid rhoi’r gair olaf iddynt dros yr hyn sydd wedi’i adeiladu ar garreg eu drws. Democratiaeth leol, real, yw’r ateb.

Mae grŵp ohonom yn trefnu o gwmpas y mater, ac yn ceisio ei gysylltu â materion datblygu a chynllunio eraill ar draws Caerdydd, megis y bygythiadau i’r Paddle Steamer a’r Tramshed. Rydym wedi dechrau trefnu dros dro o dan yr enw “Reclaim Cardiff – Ein Dinas Ni” ac yn eich annog i gysylltu â ni ar Twitter @ReclaimCardiff neu drwy reclaimcardiff@gmail.com

Rydym hefyd yn eich annog i anfon e-bost at eich cynghorwyr, ASau a MSs yng Nghaerdydd-y n arbennig (ond nid yn unig) os ydych yn byw yn Butetown/The Bay

Mae Caerdydd yn cael ei rhwygo oddi arnom ni. Mudiad eang sy’n seiliedig ar glymblaid yw’r hyn sydd ei angen arnom i wrthsefyll datblygiadau erchyll fel yr amgueddfa hon ac, yn y pen draw, adeiladu Dinas ddemocrataidd sy’n perthyn i bob un o’i thrigolion. Rydym yn haeddu dim llai.

I Huw Thomas a gweddill Cyngor Caerdydd, yr ydym yn siŵr y byddent yn cytuno y dylem fyw mewn dinas ddemocrataidd ac, yn fwy na dim, y dylem ystyried beirniadaeth mudiad Black Lives Matter, ac archwilio sut y mae ein gweithredoedd yn effeithio ar anghydraddoldeb hiliol: gawn ni weld a ydych chi cystal a’ch gair.

Ymuno â'r Sgwrs

2 Sylw

  1. I have been appalled at the discovery of the proposed Museum of Military Medicine and, particularly in the light of the Black Lives Matter demonstrations, the desperate need for public space in Cardiff Bay and the need to protect and promote Cardiff’s black history archive I have been writing to my Councillors to object. I live in Canton.
    Speaking to a friend on Facebook about it, I wondered who was providing the £30 million funding. Searching for this answer on Google, I found (below a load of other stuff) your amazing article – discussing this subject in exactly the same terms as I have felt it, but expressed much better. I’ll be sharing it on Facebook – but want to know more about you guys. Fantastic work. Keep it up!!

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.