Cyhyd â bod cyfalafiaeth yn parhau, bydd tai bob tro yn nwydd neu’n fuddsoddiad i rai, tra bo eraill yn byw mewn trallod

Engels, The Housing Question

Mae’r argyfwng coronafeirws wedi’i ddiffinio gan ddosbarth. Mae’r misoedd diwethaf wedi gweld pobl dosbarth gweithiol yn cael eu gorfodi i fynd i weithio o dan amodau peryglus, i’n cadw ni’n ddiogel, tra bo gweddill cymdeithas yn edrych o bell.

Un o’r prif feysydd lle mae’r argyfwng wedi amlygu’r bwlch dosbarth yw tai. Roedd tai yn bwnc dwys yng Nghymru cyn yr argyfwng, ac mae’r pandemig wedi amlygu’r graddau y mae ansicrwydd tai yn effeithio’n fileinig ar bobl dosbarth gweithiol ar draws Cymru gyfan.

Gwreiddyn yr argyfwng tai yw bod lloches, anghenraid dynol sylfaenol, o dan gyfalafiaeth wedi dod yn nwydd, yn fuddsoddiad. Tra bod elît byd eang wedi troi eiddo i mewn i ased ariannol er mwyn ei brynu a’i werthu fel y mynnont, mae’r rheiny heb fynediad at eiddo, nawr yn gorfod nid yn unig gwerthu eu llafur er mwyn goroesi, ond hefyd yn gorfod trosglwyddo darn enfawr o’u cyflog i landlordiaid – dosbarth o bobl sy’n elwa o wneud dim byd ar wahân i fod yn berchen ar sawl tŷ – er mwyn cadw to uwch eu pennau. O ganlyniad i nwyddoli lloches, mae miloedd o bobl yn troi mewn trobwll o ansicrwydd tai, ac yn cael eu gorfodi i symud yn rheolaidd, i fyw mewn tai rhent o safon isel, neu i orfod dewis rhwng lloches ag anghenion eraill megis gwres neu fwyd. Mae tai bregus o safon isel hefyd yn cael effaith andwyol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, sy’n esbonio ymgyrch presennol y grŵp tenantiaid o’r enw Acorn o dan y teitl #housingishealth.

Ymgorfforiad mwyaf dystopaidd yr argyfwng tai yw’r cynifer o aelwydydd yng Nghymru sy’n cael eu bygwth neu’n cael eu gwneud yn ddigartref oherwydd diffyg tai cymdeithasol dibynadwy. Mae cyfradd yr aelwydydd sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn cynyddu’n gyflym blwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda bron i 12,000 o aelwydydd yn cael eu gwneud yn ddigartref yn 2018/19, y gyfradd uchaf ers cyflwyno’r Ddeddf Tai (Cymru) yn 2014. Mae nifer sylweddol o’r aelwydydd hyn yn cynnwys plant, a fydd yn dioddef trawma enbyd o ganlyniad i’r ansicrwydd hwn. Yn groes i’r naratif o fethiant personol sy’n amgylchynu digartrefedd (sy’n canolbwyntio ar bethau megis dibyniaeth, problemau iechyd meddwl, ayyb), mae’r mwyafrif o aelwydydd yn dod yn ddigartref o ganlyniad i broblemau tai, megis ôl-ddyledion rhent, dyled neu broblemau â landlordiaid, h.y., o ganlyniad i’r ffaith syml nad yw tai yn fforddiadwy neu’n ddibynadwy i bobl gyffredin yng Nghymru.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dangos uchelgais nac ewyllys gwleidyddol i ddatrys yr argyfwng tai dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Yn 2016, addawodd Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o dai ‘fforddiadwy’ erbyn 2021 er bod angen i Gymru adeiladu 14 mil y flwyddyn er mwyn ateb y galw. Er i nifer enfawr o aelwydydd gael eu gwneud yn ddigartref y llynedd, dim ond 2592 o dai ‘fforddiadwy’ a adeiladwyd gan Lywodraeth Cymru. Wrth ysgrifennu’r darn hwn, mae Llywodraeth Cymru yn chwe mil o dai yn brin o’u targed ceidwadol hwythau, ac yn dangos ychydig iawn o frys ynghylch y diffyg enbyd o dai fforddiadwy. 

Ar ben hynny, fel y byddem yn ei ddangos, dim ond canran fach iawn o’r tai ‘fforddiadwy’ sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd sydd go iawn yn ‘dai cyngor traddodiadol’ ac yn eiddo i’r awdurdodaeth leol. Nid yw’r hyn sy’n cael ei adeiladu yn eiddo i’r wladwriaeth, nid yw’n ddemocrataidd ac nid yw’n fforddiadwy: yn sicr nid yw’n ‘gymdeithasol’ mewn unrhyw fodd. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn erchyll o annigonol ac yn parhau â thrallod pobl. Mae’n ddyletswydd foesol ar bob sosialydd i fynnu gweithredu radical ym maes tai yng Nghymru.

Mae’r blog hwn yn dadansoddi’r rhesymau strwythurol tu ôl i’r argyfwng tai yng Nghymru cyn gosod gofynion polisi ger bron Llywodraeth Cymru ac rydym yn galw ar bob sosialydd i uno y tu ôl iddynt ac i ymgyrchu drostynt ar frys. Er bod digartrefedd yn elfen ganolog i dai, nid ydym yn ei drafod yma gan ei fod wedi derbyn sylw yn barod. Mae perchnogaeth tir hefyd yn ganolog i dai, ond rydym yn trafod hyn ar wahân mewn darn i’w gyhoeddi yn y dyfodol.

Y Sector Rhentu Preifat (SRP)

Mae’r rheiny sy’n rhentu eu tai ymysg y tlotaf yng Nghymru. Mae 41% o rentwyr preifat a 49% o rentwyr cymdeithasol yn byw mewn tlodi o’u cymharu â 13% o bobl sy’n berchen ar eu tai. Mae rhentwyr preifat yn gwario 29% o’u hincwm ar rent, tra bod pobl sydd berchen eu tai ond yn gwario 9% ar gyfartaledd. Mewn sawl man, yn enwedig mewn dinasoedd ac o fewn cymunedau BAME, mae rhentwyr yn gwario mwy na 50% o’u hincwm ar rent, gydag ystadegau ONS yn awgrymu fod yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn gwario hyd at 68% o’u hincwm ar lety, tra bod y cyfoethocaf ond yn gwario 14%. Mae cyfartaledd rent ar eiddo 2 ystafell wely, boed yn gymdeithasol neu’n breifat, yn anfforddiadwy i’r rhai ymysg y chwarter isaf o ran enillion ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Tra bod perchnogion tai a landlordiaid wedi derbyn gwyliau morgais yn ystod argyfwng COVID-19, nid yw rhentwyr (gan gofio bod nifer ohonynt yn weithwyr allweddol y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt) wedi derbyn ataliad rhent. Golyga hyn fod y nifer o bobl a gollodd eu swyddi yn ystod yr argyfwng yn gorfod parhau i dalu rhent gydag arian nad oedd ganddynt, i landlordiaid a oedd yn barod wedi derbyn gwyliau morgais ar yr eiddo yr oeddent yn ei osod. I nifer o denantiaid, byddai talu rhent wedi bod yn gwbl amhosibl neu’n benderfyniad rhwng bwyta a chadw lloches. Cafodd nifer o weithwyr GIG eu troi allan gan landlordiaid SRP a oedd ofn dal COVID-19.

Yn groes i’r camau pendant a gymerwyd ynghylch cysgu tu allan, cyhoeddodd y gweinidog tai Julie James ataliad ar droi allan yn y SRP, a hynny yn ystod cyfnod yr argyfwng yn unig, ac yn hytrach nac atal rhent dywedodd y dylai tenantiaid negodi gwyliau rhent gyda’u landlordiaid ar sail unigol ac anffurfiol yn lle. Bradychodd hyn anwybodaeth pur ynghylch gwir natur y berthynas rym sy’n bodoli rhwng landlordiaid a thenantiaid, gan ddewis ei phortreadu megis perthynas tadol lle mae pawb yn elwa lle mae’r landlord caredig yn darparu llety i’r tenant lwcus a gwerthfawrogol; yn hytrach nac un o ddibyniaeth arswydus a dominyddol.

O ganlyniad i’r methiant hwn i weithredu, cafodd nifer o denantiaid yng Nghymru eu herlid am rent nad oes ganddynt, drwy gydol yr argyfwng. Erbyn hyn, mae nifer mewn dyled ddifrifol i’w landlordiaid, a bydd nifer o’r rheiny bellach wedi tyfu’n fenthycwyr arian didrwydded o ganlyniad i’r anogaeth o gytundebau ‘anffurfiol’. Bydd nifer o denantiaid yn derbyn gorchymyn troi allan a fydd yn distrywio eu hiechyd meddwl. Rydym yn wynebu’r posibilrwydd y bydd miloedd o denantiaid yn cael eu troi allan yn syth wedi i’r gwaharddiad dros dro ar droi allan gael ei godi. Gall y rhai ‘lwcus’ na fydd yn wynebu cael eu troi allan fod â dyled o filoedd o bunnoedd a fydd yn gwneud eu bywydau yn llawer iawn caletach, yn enwedig wrth i ddiweithdra gynyddu. Darganfyddodd ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree yn ystod yr argyfwng fod 50% o deuluoedd sy’n derbyn credyd treth plant mewn ôl-ddyled, tra bo 70% wedi torri yn ôl ar hanfodion megis bwyd.

Mae esgeuluso ar ran tenantiaid yn cynrychioli’r hollt – un sy’n cael ei gyfleu fel un sy’n ymwneud â chenhedlaeth, gyda mileniaid yn cael eu disgrifio’n aml fel y ‘genhedlaeth rhentu‘. Mae cynnydd enfawr mewn prisiau tai, diffyg tai cymdeithasol a fforddiadwy o ganlyniad i hawl i brynu, ynghyd â chyflogau disymud yn golygu taw mileniaid yw’r genhedlaeth gyntaf ers yr ail ryfel byd i wynebu heriau enfawr i fod yn berchen ar dŷ, a hynny yn ‘nemocratiaeth perchnogi eiddo‘ mytholegol y DG. Bydd 40% o fileniaid yn dal i rentu pan maent yn 30, dwywaith gymaint â ‘chenhedlaeth X’ (y rheiny sydd erbyn hyn yn eu 40au a’u 50au) a disgwylir y bydd o leiaf traean o fileniaid yn rhentu mewn i’w hymddeoliad, o gymharu â’r 9% o bobl ymddeoledig sydd yn dibynnu ar y sector ar hyn o bryd.

Tra bod yna elfen amlwg o wahaniaeth rhwng y cenedlaethau o safbwynt y bwlch eiddo, mae’r naratif hwn yn aml yn cuddio’r ffaith fod niferoedd enfawr o bobl oedrannus a theuluoedd yn barod gynyddol yn cael eu gorfodi i rentu hefyd. Mae’r sector rhentu preifat wedi tyfu’n gyflym ar draws bob oedran gan fod y nifer o bobl sy’n prynu tai a morgeisi a’r nifer o rentwyr cymdeithasol yn cwympo’n sylweddol. Mewn geiriau eraill, nid yn unig mae hyn yn fater o’r ifanc yn erbyn yr hen, ond yn fater o ddosbarth cynyddol o bobl heb dai sefydlog ac heb obaith o sicrhau un.

Byddai esboniad ar sail dosbarth o’r diffyg gweithgarwch gwleidyddol mewn hawliau tenantiaid yn y DG yn nodi sut y mae nifer ymysg y dosbarth gwleidyddol – gan gynnwys yr elfennau blaengar cynt – yn landlordiaid eu hunain. Er y naratif fod Cymru yn llai, yn fwy cyfeillgar a bod ein dosbarth gwleidyddol yn agosach i’n poblogaeth, mae landlordiaeth yn amlwg ar draws bob plaid yn y Senedd. Mae hyd yn oed y gwleidyddion nad ydynt yn landlordiaid eu hunain wedi ymrwymo’n llwyr yn ideolegol i’r setliad tai neoryddfrydol, ac nid ydynt yn gallu hyd yn oed dychmygu byd lle mae tai yn hawl yn hytrach nag yn nwydd, neu fyd lle nad yw cynnydd mewn prisiau tai yn ddaioni hanfodol.

Nid mater o unigolion yn unig yw hyn serch hynny, ond mater strwythurol. Oherwydd diffyg tai cymdeithasol a’r modd y gwelir costau adeiladu tai cymdeithasol fel un gwaharddol, mae Cymru wedi tyfu’n ddibynnol yn gyflym ac yn llechwraidd ar y sector rhentu breifat er mwyn datrys yr argyfwng tai, gan gynnwys, yn anghredadwy, datrys digartrefedd trwy adael cyfrifoldebau digartrefedd i’r SRP (gyda’r sector erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio yn fwy na’r sector tai cymdeithasol i helpu aelwydydd o dan fygythiad digartrefedd), trefniant a fyddai’n cael ei weld fel un amhosibl ynghynt [2].

Mae’r SRP wedi tyfu’n gyflym yng Nghymru, ac mae bellach yn cynrychioli rhan gynyddol o’r farchnad dai, ac wedi mwy na dyblu mewn maint ers 1997 (15% o’r stoc dai cyfan yn 2018) wrth i niferoedd y tai sy’n eiddo i awdurdodau lleol a pherchenogion meddiannaeth ostwng, mae’i gynnydd yn cynrychioli’r “newid strwythurol mwyaf i’w weld ym marchnad dai Cymru ers o leiaf dwy genhedlaeth”. Yn anghredadwy, mae’r SRP bellach yn darparu llety i tua’r un canran o bobl â’r sector dai cymdeithasol. Wrth i fwy o bobl cael eu gorfodi i rentu, mae rhent wedi cynyddu wrth i’r gofyn am dai olygu fod landlordiaid yn rheoli’r farchnad ac i bob pwrpas yn cael mynnu unrhyw bris.

Landlordiaid cymdeithasol a thai cymdeithasol

Mae ‘tai cymdeithasol’ yng Nghymru yn cyfeirio at dai cyngor ‘traddodiadol’, hynny yw tai sydd yn eiddo i ac wedi eu rheoli gan awdurdodau lleol; a thai wedi eu gosod a’u rheoli gan gymdeithasau tai – sefydliadau preifat, annibynnol sy’n cael rhedeg yn ymddangosiadol ar sail ‘ddim er elw’, a bellach cyfeirir atynt fel ‘landlordiaid cymdeithasol’. O ganlyniad i bolisi ‘hawl i brynu‘ Thatcher yn yr 80au, cafodd nifer anferthol o dai cymdeithasol o safon uchel eu gwerthu ar draws Cymru a gweddill y DG heb eu hailgyflenwi, sy’n golygu ein bod â llawer llai o dai cymdeithasol ar gael bellach.

Ynghyd â bod llai o dai ar gael, mae natur a rheolaeth tai cymdeithasol hefyd wedi newid yn hanfodol. Dau ddegawd yn ôl, roedd y rhan fwyaf o dai cymdeithasol yn dai cyngor. Yn 1981, dim ond 1% o dai cymdeithasol yng Nghymru a oedd yn cael eu rhedeg gan sefydliadau tai. Yn 2001, roedd 15% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tai a oedd yn eiddo i awdurdodau lleol, tra ddim ond 4% a oedd yn byw mewn tai yn eiddo i’r cymdeithasau tai. Erbyn 2019, mae’r darlun bron wedi ei wyrdroi yn llwyr, gyda 6% o bobl nawr yn byw mewn tai cyngor a 10% yn byw mewn tai sy’n eiddo i gymdeithasau tai. Mae’r mwyafrif o dai cymdeithasol bellach yn cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai yn hytrach nag awdurdodau lleol.

Y prif reswm dros y newid hwn mewn perchnogaeth o stoc tai cymdeithasol oedd nid ‘Hawl i Brynu’ Thatcher ond yn hytrach y polisi ‘trosglwyddo stoc’ a ddilynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y ddegawd gyntaf o ddatganoli. Yn 2002, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Ansawdd Tai Cymru, cyfres o safonau gwaelodol yr oedd disgwyl i bob tŷ cymdeithasol eu dilyn. Yn dilyn degawd o danfuddsoddi mewn tai cymdeithasol a oedd yn bodoli’n barod, roedd nifer o gartrefi mewn cyflwr gwael ac roedd y safonau yn ymgais i wella hyn. Er hynny, roedd yn amlwg y byddai hyn yn gost sylweddol i’r coffrau cyhoeddus, ac felly mewn ymgais i geisio gwthio’r benthyca oddi ar y fantolen gyhoeddus, rhoddodd Llywodraeth Cymru’r hawl i Gynghorau drosglwyddo eu holl dai cymdeithasol i’r cymdeithasau tai newydd, a byddent yn rhydd i fenthyg o’r sector breifat er mwyn ariannu’r gwaith hyn. Trosglwyddodd hanner o bob awdurdod lleol yng Nghymru eu stoc gyfan, sy’n golygu nad ydynt bellach yn eiddo ar unrhyw dai cyngor. Mae hyn yn cynrychioli preifateiddio crynswm o dai cymdeithasol – ond dan enw gwahanol – bron dros nos.

Hefyd, roedd cyfyngiadau (a wnaeth ond cael eu codi yn ddiweddar) ar faint o arian yr oedd awdurdodau lleol yn cael ei fenthyg i adeiladu tai cyngor newydd yn golygu fod hyd yn oed yr awdurdodau lleol rheiny na wnaeth drosglwyddo eu hasedion i’r sector breifat yn tyfu’n gynyddol ddibynnol ar gymdeithasau tai i adeiladu tai cymdeithasol newydd yn eu cymunedau. Rhwng 2006-07 a 2016-17 dim ond 26 tŷ cyngor a adeiladwyd yng Nghymru gyfan. Tra bo’r darlun wedi gwella ychydig yn y blynyddoedd diwethaf, dim ond 81 a adeiladwyd yn 2017-18 a 57 yn 2018-19. Yn 2017-18, dim ond 15 tŷ cyngor ‘gwirioneddol’ a adeiladwyd yng Nghaerdydd, yr ardal â’r gofyn uchaf, gyda phob ‘tŷ cymdeithasol’ arall yn cael eu hadeiladu gan gymdeithasau tai.

Er bod cymdeithasau tai ‘ddim er elw’, maent yn cael eu rhedeg ar hyd llinellau masnachol, ac yn gweithredu fel busnesau mawr sy’n ceisio canfod ‘gwerth am arian’. Mae pob cymdeithas tai ag asedion a throsiant enfawr, pob un â Phrif Swyddog Gweithredol a nifer uchel o staff cyfathrebu a marchnata, a hefyd yn gynyddol, bwrdd llywodraethu sy’n derbyn tâl. Mae landlordiaid cymdeithasol hefyd â changhennau masnachol sydd â’r nod o berchnogi mwy o dai, gwneud arian wrth rentu, a hyd yn oed gwerthu tai. Er bod nifer rhyfeddol o gymdeithasau tai, mae ambell i gymdeithas fawr yn gynyddol yn sefydlu monopoliau rhanbarthol.

Gan adlewyrchu dylanwad gwleidyddol cynyddol landlordiaid preifat gyda dominyddiaeth y SRP, mae landlordiaid cymdeithasol bellach yn ‘bartneriaid gwerthfawr’ i Lywodraeth Cymru ac yn meddu ar ddylanwad eang yng ngwleidyddiaeth Cymru, gyda grŵp lobïo pwerus, Cartrefi Cymunedol Cymru. Oherwydd eu delwedd flaengar fel ‘mentrau cymdeithasol’ (yn hytrach na chwmniau preifat, sef yr hyn ydynt mewn gwirionedd) mae’r rhaniad rhwng cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru wedi tyfu’n anneglur.

Rhent yn cynyddu mewn tai cymdeithasol

Nid yn y sector rhentu preifat yn unig y mae rhent yn tyfu’n gynyddol anfforddiadwy. Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi gweld cyfres o gynyddiadau rhent uwch na chwyddiant yn y sector dai cymdeithasol, ffaith nad yw wedi cael fawr o sylw. Rhwng 2014/15 a 2018/19 caniataodd Llywodraeth Cymru i landlordiaid cymdeithasol (cymdeithasau tai ynghyd ag awdurdodau lleol) i gynyddu eu rhent cymdeithasol ynghyd â chwyddiant CPI + 1.5 y cant, ynghyd â £2 ychwanegol yr wythnos. Cododd y mater yn 2018/19 pan yr oedd cyfradd chwyddiant uchel yn golygu fod miloedd o denantiaid ar draws Cymru yn wynebu cynnydd yn eu rhent nad oeddent yn gallu ei fforddio. Yn rhannol fel ymateb i hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydd  landlordiaid cymdeithasol â’r hawl i gynyddu eu rhent yn uwch na chwyddiant  2019/20 tra eu bod yn aros am ganlyniadau Adolygiad Polisi Rhent. Fodd bynnag, profodd yr atal mewn termau real i fod yn saib dros dro i denantiaid, gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi setliad rhent 5 mlynedd i’r sector dai cymdeithasol o 2020/21 ymlaen sy’n caniatau i landlordiaid gynyddu eu rhent o chwyddiant CPI yn ogystal ag 1% ychwanegol bob blwyddyn. O ganlyniad, wrth i’r amser cloi ddechrau yng Nghymru, roedd miloedd o denantiaid tai cymdeithasol yn derbyn llythyron yn eu hysbysu y byddai eu rhent yn codi o Ebrill y 1af.

Un esboniad ar gyfer y rhent cynyddol o fewn y sector dai cymdeithasol yw’r cynnydd mewn masnacheiddio ariannu tai cymdeithasol. Yn hanesyddol, roedd tai cymdeithasol newydd yn cael eu hariannu gan fwyaf gan y wladwriaeth naill ai drwy awdurdodau lleol yn codi tai yn uniongyrchol, neu ar ffurf y grant tai cymdeithasol a oedd yn cael ei dalu i gymdeithasau tai i adeiladu tai newydd ar ran Llywodraeth Cymru. Ers 1999, mae cymdeithasau tai wedi derbyn 1.5 biliwn o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu a rhedeg tai cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru a chymdeithasau tai wedi ceisio canfod ffyrdd newydd ‘arloesol’ (h.y. preifat) o ariannu adeiladu tai cymdeithasol tra hefyd yn lleihau’r cyfraniad uniongyrchol sy’n cael ei wneud gan y wladwriaeth. Canlyniad hyn yw bod cymdeithasau tai yn benthyg mwy a mwy o arian o sawl sefydliad sector preifat, megis banciau, buddsoddwyr sefydliadol ac (yn enwedig yn Lloegr) y marchnadoedd bondiau. Mae’r newid hwn wedi cynyddu’r angen i landlordiaid cymdeithasol wthio incwm i wasanaethu’r ddyled hon, sydd yn y pen draw yn arwain at bwysau i gynyddu rhent tai cymdeithasol. Canlyniad y broses hon mewn gwirionedd yw gosod cost adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol ar ysgwyddau tenantiaid tai cymdeithasol presennol. Gyda 49% o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru yn byw mewn tlodi, golyga hyn fod y tlotaf mewn cymdeithas nawr yn talu pris anghymesur ar gyfer tai newydd tra nad yw’n effeithio o gwbl ar bobl gyfoethocach sy’n eiddo ar dai a landlordiaid preifat.

Ffactor arall sy’n cyfrannu at y pwysau i gynyddu rhent o fewn y sector tai cyhoeddus yw’r holl wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan gymdeithasau tai tu hwnt i adeiladu tai newydd, cynnal a chadw tai a rheoli tenantiaeth. Wrth i ddegawd o lymder chwalu cronfeydd llywodraeth leol, mae cymdeithasau tai wedi llenwi’r bwlch i gyflenwi nifer y gwasanaethau yr oeddent yn arfer eu darparu, gan gynnwys rheoli gofodau cymunedol, cynnal gweithgareddau i blant lleol, gweithdai cyflogadwyedd a sesiynau cyngor ar fuddion. Mae’r preifateiddio hwn o wasanaethau cyhoeddus yn cael ei adlewyrchu hefyd yn y sector digartrefedd gyda thwf enfawr mewn elusennau digartrefedd yn rhedeg hosteli, gwasanaethau allgymorth a llety a chymorth yn hytrach na’r wladwriaeth. Darperir nifer o’r gwasanaethau hyn yn effeithlon ac maent er lles rhai tenantiaid. Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau ychwanegol yn rhad, ac yn cael eu hariannu drwy gymysgedd o nawdd grant gan y wladwriaeth a chyrff elusennol, ac incwm sefydledig, megis rhent. Mae hyn yn ffordd arall anghymesur y mae rhai o’n cymunedau tlotaf yn cael eu gorfodi i gario’r baich o dalu i gynnal eu gwasanaethau lleol.

‘Help i Brynu’

Hefyd wedi ei gynnwys yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy mae eu cynllun ‘help i brynu’, a gynlluniwyd i bob pwrpas i helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf drwy gynllun ecwiti ar y cyd lle mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu blaendal. Rhaid i ddarpar brynwyr ariannu 5% o’r morgais eu hunain ac yna mae Llywodraeth Cymru yn pocedu rhan o’r arian gwerthiant. Mae’r cynllun wedi’i gyfyngu i dai newydd. Ers 2014, mae 8,731 o bobl wedi prynu tai trwy’r cynllun hwn. Ers 2018/19 mae Llywodraeth Cymru wedi gwario tua £220m ar Gynlluniau Help i Brynu. Cafodd £210 miliwn ei wneud ar gael ym mis Mawrth 2020 ar gyfer cronfa adeiladu, rhywbeth a groesawyd gan gylchgrawn Grand Designs.

Tra bod Llywodraeth Cymru yn glafoerio dros y cynllun hwn, mae yna wallau amlwg iddo. Yn gyntaf, mae’r ffaith fod y cynllun wedi’i gyfyngu i dai newydd yn awgrymu mai’r gwir pwrpas y cynllun oedd ysgogi’r economi drwy adeiladu tai. Yn wir roedd maniffesto Llafur Cymru yn 2019 yn datgan fod y cynllun: wedi “helpu i ysgogi tyfiant yn y diwydiant adeiladu tai a’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig”. Mae hefyd yn debygol fod Llywodraeth Cymru yn gweld y cynllun fel modd o wneud arian, gan gymryd eu bod am wneud elw pan werthir y tai y maent wedi eu helpu i’w sicrhau am elw o gofio’r cynnydd parhaol mewn prisiau tai yng Nghymru. Mae hyn yn golygu fod Llywodraeth Cymru yn annorfod yn gweld prisiau tai cynyddol fel rhywbeth hanfodol dda.

Mae’r rhethreg ynghylch ‘help i brynu’ yn awgrymu’n gryf mai ei bwrpas oedd helpu pobl a oedd yn prynu am y tro cyntaf ac i bobl incwm isel cael troed ‘ar yr ysgol eiddo’. Er hynny, ni roddwyd cap ar incwm y prynwr, ac nid oedd y cynllun wedi’i gyfyngu i bobl a oedd yn prynu am y tro cyntaf chwaith. Roedd diffiniad Llywodraeth Cymru o ‘fforddiadwy’ yn cynnwys tai a oedd yn costio hyd at 300,000 o bunnoedd, gyda’r pris cyfartalog ar gyfer tŷ wedi’i brynu drwy’r cynllun hwn yn costio 200 mil, wrth i brisiau help i brynu (fel prisiau pob tŷ) godi’n aruthrol ar draws Cymru ers 2014 tra bod cyflogau wedi aros yn llonydd. Mae’r tai sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun help i brynu yn gwbl anfforddiadwy i bobl dosbarth gweithiol yng Nghymru, gan mai cyfartaledd cyflog cenedlaethol yw 25 mil ac yn llawer is mewn sawl achos.

Ac yn wir, wrth astudio’r ffigurau, mae yna gynnydd cyson wedi bod yn y nifer o bobl sy’n ennill cyflogau uchel yn defnyddio’r cynllun. Yn anhygoel, nid oedd tua 24% o’r bobl a oedd yn defnyddio’r cynllun yn prynu am y tro cyntaf hyd yn oed. Yn yr un modd, dim ond 4.2% o’r bobl a ddefnyddiodd y cynllun llynedd a oedd yn ennill llai na 20,000 o bunnoedd, nad yw’n syndod o gofio pris cyfartalog ar gyfer tai sy’n rhan o’r cynllun: mae 5% o flaendal ar gyfer tŷ 200,000 dal yn 10,000 – swm enfawr ac afrealistig i’r mwyafrif o bobl dosbarth gweithiol.

Mae’r diffyg cyfyngiadau ar brisiau tai sy’n cael eu cynnwys yn y cynllun yn hurt pan ystyriwn fod y mwyafrif o fenthycwyr morgais ond yn benthyg swm sydd 5 gwaith yn fwy na chyflog unigolyn ar y mwyaf, sy’n golygu bod pobl sy’n ennill cyflog o £25,000 (neu aelwydydd lle mai un unigolyn yn unig sy’n gweithio) ond yn gallu cael morgais ar gyfer tŷ sy’n costio rhywbeth oddeutu £90-125,000. Gyda’u blaendal o 5% ac yna’r Blaendal Helpu i Brynu yn ychwanegol at hynny, y pris y byddai’r mwyafrif o bobl yn gallu ei fforddio byddai tua £140,000, ond nid oes unrhyw un o’r tai help i brynu yn agos at y pris hwn. Mae hyn yn esbonio sut mae cynifer o bobl dosbarth gweithiol wedi eu hatal rhag cymryd rhan yn y cynllun hwn. Yn Lloegr, cafodd cynllun help i brynu y Toriaid ei feirniadu gan sosialwyr a grwpiau rhentwyr ynghyd â’r corff gwarchod gwariant cyhoeddus oherwydd ei fod yn sybsideiddio pobl gyfoethog a chreu elw digynsail i’r datblygwyr tai a oedd yn rhan o’r cynllun. Drwy beidio â thargedu’r cynllun at y rheiny â chyflogau isel, a drwy beidio rhoi cap ar bris y tai a gynhwyswyd yn y cynllun, dynwaredodd Llywodraeth Cymru unwaith eto’r Toriaid yn San Steffan. Er syndod i neb, mae niferoedd helpu i brynu wedi bod yn gostwng yn araf wrth i brisiau tai godi. Mae’r cynllun hwn wedi helpu aelwydydd cefnog gan fwyaf ac mae arian cyhoeddus wedi’i wario yn sybsideiddio blaendaliadau sydd wedi cyfoethogi datblygwyr, gan gynnwys cyfrannwyr ariannol blaenllaw i’r blaid Geidwadol.

Aneurin Bevan yn 1949, yn cymryd cipolowg ar dai cyngor. Fel gweinidog llywodraeth roedd e’n gyfrifol am adeiladu 1 miliwn o dai cyngor.

Cytundebau Adran 106

Un ffordd arall y mae tai ‘fforddiadwy’ yn cael eu darparu yw drwy rwymedigaethau cynllunio, sy’n cael eu hadnabod fel trefniadau ‘adran 106’. Yn ôl rhain, pan mae datblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu (fel arfer fflatiau moethus neu ddrudfawr neu ystadau tai newydd), caiff cytundeb ei wneud ac er mwyn derbyn caniatad adeiladu, rhaid i 10% o bob datblygiad newydd gael ei drosglwyddo at bwrpas tai cyhoeddus (ynghyd â buddiannau cymdeithasol eraill megis, parciau a ffyrdd ayyb). Felly os oes gan ddatblygiad 500 o dai, bydd rhaid i 50 gael eu gwneud yn rhai ‘fforddiadwy’.

Y broblem yw bod datblygwyr mewn gwirionedd yn osgoi’r cytundebau hyn yn gyson ac yn rheolaidd (gan nad oes ganddynt ddim diddordeb mewn adeiladu tai fforddiadwy) ac nid ydynt yn wynebu unrhyw gosb am beidio â dal eu hochr nhw o’r fargen. Mae hyn yn wybodaeth gyffredin yng nghylchoedd cartrefedd yng Nghymru, ond nid yw’n cael ei drafod yn aml y tu allan iddynt. Er enghraifft, tra bod dros 1800 o unedau tai fforddiadwy wedi ennill caniatad cynllunio yng Nghymru’r llynedd, dim ond 604- llai na hanner- gafodd eu hadeiladu. Mae’r llwybr hwn felly yn un hynod annibynadwy ar gyfer creu tai cymdeithasol neu fforddiadwy newydd ac mewn gwirionedd yn rhoi carte blanche i ddatblygwyr: caiff caniatad cynllunio ei ennill heb gyfrifoldebau, heb ddisgwyliadau. Dyma strategaeth sydd er lles datblygwyr a phrin neb arall.

Ail gartefi

Mae’r argyfwng hefyd wedi gweld ail danio’r ddadl segur am ail gartrefi yng Nghymru. Yn nyddiau cynnar y panig, heidiodd miloedd o berchnogion ail gartrefi (ynghyd â thwristiaid dosbarth gweithiol ar eu ffordd i barciau carafanio) i Gymru.

Mae’r mater o berchnogaeth tai haf yn ei hanfod yn un dosbarth. Mewn gwledydd eraill ym Mhrydain ac Ewrop, lle mae’r broblem yn un tebyg, mae’r mater o berchnogaeth tai haf yn cael ei ddeall yn nhermau dosbarth a pherthynas grym anghyfartal, ond yng Nghymru mae’r mater wedi’i droi fel ei fod ond wedi’i fframio yn nhermau cenedl, iaith a diwylliant. Tra bo’r materion hyn wrth gwrs yn bwysig, maent wedi eu gosod ar warthaf dosbarth, sydd yn y pen draw yn penderfynu ar fynediad rhywun i’r farchnad dai. Mae ardaloedd ‘gwledig’ golygfaol Cymru (mewn gwirionedd, y mannau cyntaf i’w diwydiannu yng Nghymru) yn rhai o’r mwyaf difreintiedig yn Ewrop. Mae’r ardaloedd hyn wedi wynebu tanfuddsoddi systematig gan y DG a Llywodraeth Cymru ac wedi’u gadael ag isadeiledd gwamal ac ychydig swyddi, fel y mae cyfleoedd yn cael ei ganoli yng Nghaerdydd.

Mae pobl ifanc yn gadael y cymunedau hyn yn eu lluoedd oherwydd diffyg cyfleoedd, a hefyd oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau, yn rhannol oherwydd bod y tai haf sy’n aros yn wag am y mwyafrif o’r flwyddyn wedi gwthio prisiau tai yn uwch. O ganlyniad, mae’r iaith Gymraeg fwyfwy o dan fygythiad yn ei chadarnleoedd cynt, llefydd sydd wedi tyfu’n dlotach ynghyd â thyfu’n anghyfartal o ran demograffeg, gyda llai o bobl ifanc yn aros yno.

Eto yn wahanol i ardaloedd dinesig Cymru, nid yw tlodi tai yng nghefn gwlad Cymru o reidrwydd oherwydd diffyg stoc tai. Mewn sawl awdurdod lleol mae’r tai sydd eu hangen i ateb y galw lleol yno, ond eu bod yn sefyll yn wag fel cofebion i’r anghyfiawnderau dosbarth a grym o fewn ein cymdeithas, lle y gall rhai pobl fod yn eiddo ar sawl tŷ tra bod pobl dosbarth gweithiol methu fforddio un. Mae yno bellach 24,423 o dai haf yng Nghymru, gyda’r mwyafrif wedi eu lleoli o fewn ardaloedd gwledig Cymru, gyda 4,900 yng Ngwynedd a 4,072 yn Sir Benfro.

Dadansoddiad

Yn fwy na unrhyw fater arall, mae tai yn datgelu gwacter honiadau Llywodraeth Cymru i fod yn gymdeithasol ddemocrataidd neu’n ‘radical’. Er eu rhethreg radical, mae eu hymateb i’r argyfwng tai cyn ac yn ystod COVID-19 yn dangos y graddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddominyddu gan ystyriaethau cyfalafol a’r graddau y mae pobl ‘blaengar’ yng Nghymru wedi eu rhwymo’n ideolegol â neoryddfrydiaeth.

Mae strategaeth dai Llywodraeth Cymru yn cynrychioli yn y pendraw ymgais i ffurfio cynghrair gyda busnesau mawrion (landlordiaid preifat, adeiladwyr tai mawr, landlordiaid cymdeithasol) er mwyn datrys yr argyfwng tai heb wario arian cyhoeddus. Eu bwriad yw cynyddu tai ‘fforddiadwy’ gan ddefnyddio’r sector breifat (datblygwyr mawr) i ymestyn y cyflenwad ac yna cynnwys canran bach o dai fforddiadwy ym mhob datblygiad, fel bod y nifer o dai fforddiadwy yn cynyddu’n araf wrth i ddatblygiadau newydd gael eu hadeiladu. Mae datblygwyr yn tyfu’n gyfoethog ac mae awdurdodau lleol yn cael ambell i dŷ fforddiadwy. Mae pawb yn ennill, mewn theori.

Er hynny, fel yr ydym wedi’i weld, nid yn unig y mae’r tai ‘fforddiadwy’ hyn mewn gwirionedd yn hurt o anfforddiadwy a’r cynllun ‘help i brynu’ heb gael ei dargedu at bobl a chyflogau isel, nid ydynt chwaith wedi cael eu hadeiladu ar raddfa a fydd yn cael unrhyw effaith ar yr argyfwng cyflenwad hyd yn oed pe baent yn fforddiadwy.

Yn ychwanegol i ddiffygion strategaeth ‘tai fforddiadwy’, mae’r ‘tai cymdeithasol’ yng Nghymru sy’n cael eu hadeiladu wedi, i bob pwrpas, eu preifateiddio a’u his-gontractio’n llwyr, o barthau’r sector ‘nid-er-elw’ sydd mewn gwirionedd yn cael ei fasnacheiddio fwyfwy. Mae cyfrifoldeb cartrefi y tlotaf yn y gymdeithas wedi’i drosglwyddo o’r wladwriaeth i’r cyrff hyn nad ydynt wedi eu hethol nac ychwaith wedi eu rheoleiddio’n ddigonol, sy’n gweithredu fel busnesau mawrion, sy’n ddibynnol ar nawdd preifat er mwyn adeiladu a chynnal eu tai, ac yn gwbl warthus wedi cynyddu rhent i rai o’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas ac sydd hefyd yn troi tenantiaid allan heb unrhyw ganlyniad i hynny. Mae’r sector tai cymdeithasol fel y mae’n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru yn anemocrataidd.

Gan fod tai cymdeithasol wedi’u preifateiddio gan Lywodraeth Cymru, a bod tai ‘fforddiadwy’ yn anfforddiadwy oherwydd nad oes neb yn gallu cael morgais, mae nifer enfawr o bobl dosbarth gweithiol yng Nghymru yn gorfod dibynnu ar fyd digyfaddeuant y sector rhentu preifat. Oherwydd diffyg tai cymdeithasol, mae’r sector hefyd yn ‘bartner’ allweddol yng nghynllun gwrth-digartrefedd Llywodraeth Cymru, er ei fod yn amlwg yn amhriodol i’r diben hwn.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru o ffurfio cynghrair a chyfalaf er mwyn ateb galw tai Cymru wedi bod yn fethiant trychinebus. Nid oes hanner digon o dai wedi’u hadeiladu, ac mae’r hyn sydd wedi’u hadeiladu yn anfforddiadwy neu wedi’u hynysu o reolaeth ddemocrataidd a hynny yn nwylo cymdeithasau tai. Mae’r argyfwng tai yn parhau’n un aciwt.

Trwy ddibynnu ar landlordiaid preifat a datblygwyr tai enfawr i ddatrys yr argyfwng tai, mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio cytundeb dieflig: nid oes gan ddiddordebau cyfalafol ddim diddordeb mewn datrys yr argyfwng tai oherwydd nid yw tai fforddiadwy naill ai’n broffidiol neu’n ddymunol iddynt. Pan fo’r gofyn am dai yn uchel fel y mae yn awr, yna mae datblygwyr a landlordiaid mewn rheolaeth lwyr. Mae modd iddynt godi’r hyn a fynnent am dai sy’n aml o safon isel iawn oherwydd nad oes gan bobl unrhyw ddewis arall, achos y dewis arall yw bod yn ddigartref. Pe bai’r cyflenwad yn cynyddu ochr yn ochr â’r galw, a phe bai gan bawb fodd o gael lloches, byddai’n anodd iddynt wneud elw. Mae felly o fantais iddynt gadw’r cyflenwad yn isel ac i fod yn weithgar wrth atal cynnydd yn y nifer o dai sy’n cael eu hadeiladu- dyma pam y maent yn osgoi’n gyson gytundebau s106 neu’n gwrthod adeiladu tai fforddiadwy ac yn cwyno am reoliadau iechyd a diogelwch yn cael eu hychwanegu i dai newydd. Mae’r sector hwn yn gyson yn lobio’r Llywodraeth i ‘dorri biwrocratiaeth’ (hynny yw, gofynion iechyd a diogelwch) ac i gyfyngu ar ofynion mwyaf llipa’r Llywodraeth i gynnwys tai fforddiadwy mewn datblygiadau, oherwydd bod y gofynion syml hyn yn effeithio ar elw.

Mae’r wladwriaeth bellach yn bartner israddol o ran tai ac mae’n llwyr ddibynnol ar y sector preifat er mwyn datrys yr argyfwng tai, ond fel yr ydym wedi’i weld, nid oes gan y sector hwn ddim diddordeb mewn datrys yr argyfwng hwn. Gan fod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar landlordiaid a datblygwyr, nawr mae wrth raid yn annalluog neu’n amharod i wrthsefyll landlordiaid a datblygwyr pan ddaw at bethau megis hawliau tenantiaid neu dai fforddiadwy. Drwy ganolbwyntio ar ddatrysiadau tymor byr maent wedi dod yn wystl i ddiddordebau cyfalafol. Gyda’u cyfran o’r farchnad dai’n cynyddu’n gyflym, mae landlordiaid wedi tyfu’n fwy pwerus a dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Hyd yn oed pe bai rhywun yn derbyn bod SRP yn gorfod cael ei ddefnyddio fel ateb tymor byr ar gyfer yr argyfwng tai (rhywbeth na ddylai unrhyw sosialydd ei wneud), ymateb pragmataidd, teg a thymor byr fyddai wedi bod i gyflwyno rheolaeth ar rent i helpu tenantiaid, gan fod y sector nawr yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi pwrpas ‘tai cymdeithasol’. Fodd bynnag, o ganlyniad i’w dibyniaeth strwythurol ar SRP, mae gweinidogion tai Llywodraeth Cymru wedi yn hytrach dewis rhoi sylw i ‘ofidion landlordiaid‘ wrth lunio polisi wrth drafod materion megis troi allan a rheoli rhent. Maent wedi amddifadu tenantiaid a dewis rhoi rhwydd hynt i landlordiaid, gyda’r unig ymgais at reoleiddio’r sector hyd yn hyn yn dod yn ffurf y cynllun dibwys o ysgafn, ‘rhentu’n ddoeth’. Roedd agwedd Llywodraeth Cymru at hawliau tenantiaid yn ystod yr argyfwng hefyd wedi ei lywodraethu gan eu hawydd i beidio â chynddeiriogi landlordiaid SRP (byddai ataliad ar rent wedi gwneud hyn).

Mae’r mater o dai wedi dangos sut mae materion sy’n wynebu’r dosbarth gweithiol yng Nghymru, dim ots lle y maent, pa iaith maent yn ei siarad na lliw eu croen, yn dod o’r un gwreiddyn: cyfalafiaeth neoryddfrydol. Mewn dinasoedd gallwn alw’r mater o ddadfreiniad tai yn ‘foneddigeiddio’, ond yr hyn mae’r broses hon yn cyfeirio ati yn syml yw pobl dosbarth gweithiol ymhobman heb y gallu i sicrhau llety saff a sicr y mae pawb yn ei haeddu, gan fod tir a thai wedi’u troi’n nwyddau er mwyn eu gwerthu ar gyfer elw. Yng Nghaerdydd mae hyn yn ymgorffori ei hun wrth i ddatblygwyr tai a’r cyngor brisio nifer anghymesur o bobl dosbarth gweithiol BAME allan o’u cymunedau sydd wedi eu hesgeuluso’n systematig, fel y gall boneddigeiddio barhau a’i ddisgrifio fel ‘gwelliant’. Yng nghefn gwlad Cymru mae hyn yn ymgorffori’i hun wrth i bobl leol dosbarth gweithiol orfod gadael eu cymunedau oherwydd diffyg swyddi a thai, gyda’u cymunedau’n cael eu trawsnewid i barciau chwarae ysbeidiol i’r cyfoethog. Yr un yw’r rheswm gwaelodol hyd yn oed os yw’n cymryd ffurfiau gwahanol mewn mannau gwahanol.

Beth allwn ni ei wneud?

Yn y DG, tra bod y rhan fwyaf o bobl eisiau i’r gwasanaeth iechyd aros yn eiddo cyhoeddus ac yn cydnabod bod gofal iechyd yn hawl dynol, nid ydym yn ymestyn yr un rhesymeg i faes tai, er ei fod yr un mor bwysig i’n hiechyd a’n cymdeithas. Mae lloches yn iawnder dynol, ac ni ddylai pobl fyw mewn trallod er mwyn cadw to uwch eu pennau wrth i eraill elwa ar eu tristwch. Mae pawb yn haeddu sefydlogrwydd a sicrwydd. Yn union fel y dylai gofal iechyd fod yn rhad ac am ddim ac yn rhydd o ddylanwad marchnad, dylai tai hefyd gael eu heithrio o resymeg cyfalafiaeth a chymelliant elw.

Nid yw dosbarth gwleidyddol Cymru, o ba bynnag blaid, yn wynebu ansicrwydd tai. Nid oes raid iddynt rentu eu tai. Oherwydd eu dosbarth a’u cyfoeth materol, maent wedi eu hynysu’n llwyr o frwydrau mae’n rhaid i’w hetholwyr eu hwynebu. Dyma’r rheswm pam nad yw tai yn flaenoriaeth wleidyddol yng Nghymru. Ein dyletswydd ni yw gorfodi pobl i gymryd sylw, ac i newid y synnwyr cyffredin ynghylch tai – i wneud i bobl ei ystyried fel hawl ac nid fel rhywbeth moethus neu ased i’w ffetisheiddio.

Gall yr argyfwng tai fod wedi ei ddatrys yn gyflym ac yn hawdd gan lywodraeth sosialaidd, gan ei fod yn fater syml o gyflenwad. Mae gennym y dechnoleg a’r arbenigedd i adeiladu tai cynaliadwy i bawb. Y cam cyntaf tuag at wneud hyn yw drwy ymgyrch eang gan y wladwriaeth i adeiladu tai cymdeithasol ynghyd ag ailberchnogi pob tŷ gwag ac ail gartrefi. Drwy wneud hyn, bydd Cymru yn gallu torri ei ddibyniaeth ar gyfalaf i gyflenwi’r angen hanfodol dynol hwn. Dyma’r cam cyntaf angenrheidiol mewn gwaredu’r cymhelliant elw o faes tai. Mae’n hanfodol fod tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu a’u perchnogi gan y wladwriaeth, nid gan ddatblygwyr mawr neu landlordiaid cymdeithasol, ac nid drwy gyfaddawdu megis cytundebau 106. Bydd adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa eang yn creu cylch rhinweddol a fydd yn cael effaith ymhell tu hwnt i’r sector tai cyhoeddus drwy leihau’r gofyn bydd yn cael yr effaith o ostwng rhent yn y SRP a phrisiau tai yn y tymor byr a chanolig. Mae hefyd yn angenrheidiol os ydym am roi terfyn ar ddigartrefedd.

Yn y tymor canolig a hir dylai sosialwyr fod yn anelu at dorri sylweddol yn y nifer o bobl sy’n ddibynnol ar y sector rhentu preifat ar gyfer llety, yn enwedig teuluoedd a’r henoed. Ni ddylai’r SRP fod yn fan i leoli pobl ddigartref, gan ei fod yn anaddas. Yn y tymor byr rhaid i’r sector hwn gael ei reoleiddio yn llym. Ni ddylai mwy o arian cyhoeddus gael ei roi ym mhocedi landlordiaid preifat ac fe ddylid cyflwyno capiau ar rent yn syth. Mae tir hefyd yn hanfodol i’r frwydr hon – os yw tir cyhoeddus am barhau i gael ei werthu i ddatblygwyr gan awdurdodau lleol bydd yn llawer iawn anoddach i ddinasyddion wrthod cynlluniau adeiladwyr i adeiladu tai anfforddiadwy ar dir gwyrdd cyhoeddus. Rhaid i ni ymwrthod â’r naratif ei fod yn ddewis rhwng caeau gwyrdd neu dai fforddiadwy, yn enwedig pan mae’r tai sy’n cael eu hadeiladu yn anfforddiadwy a chynifer o dai yn sefyll yn wag. Rhaid i dir fod yn eiddo’r gymuned, a’r gymuned – nid cyfalafwyr – ddylai ddewis yn ddemocrataidd sut i’w ddefnyddio.

Bydd Llywodraeth Cymru heb os yn protestio gan ddweud bod ei dwylo wedi’i chlymu a bod ei ‘chynghrair’ â’u ‘partneriaid’ ym myd busnes yw’r unig ffordd bosibl oherwydd cyfyngiadau ar ei phwerau benthyg ac ar ddiffygion fformiwla Barnett. Er hynny, mae cipolwg ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn dangos bod miliynau o fewn ei chyllideb tai all gael ei wario yn fwy effeithlon pe bai’n fwy difrifol am adeiladu tai cymdeithasol newydd mewn modd blaengar. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21 yn rhoi £223m i’r Grant Tai Cymdeithasol, cynnydd o’r £138m a oedd ar gael yn 2018/19, ond mae miliynau yn fwy y gellir ei fuddsoddi. Fel yr ydym wedi’i weld, maent wedi gwario £220 miliwn ar eu cynllun help-i-brynu diwerth ac wedi clustnodi mwy ar gyfer cynlluniau  hunan-adeiladu hurt tebyg. Gallasai’r arian hwn fod wedi adeiladu nifer sylweddol o dai cyngor ‘gwirioneddol’.

Mae Llywodraeth Cymru yn taflu symiau enfawr o arian cyhoeddus at ddatrysiadau byr-dymor. Er enghraifft: cynllun peilot a lansiwyd llynedd lle’r oedd Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel asiant osod gan rentu fflatiau SRP ar ran landlordiaid mewn cynllun PFI lle’r oedd y wladwriaeth yn ysgwyddo’r holl risg a’r landlordiaid yn cymryd elw mawr ac ennill grantiau i wneud eu tai yn rhai y gellid byw ynddynt. Yn debyg i hyn, ac yn wahanol i bob gwlad arall, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn ei strategaeth ‘wrth-digartrefedd’ a ‘thai yn gyntaf’ drwy’r sector rhentu preifat oherwydd nad oes ganddi gyflenwad digonol o dai cymdeithasol, un o’r rhagamodau ar gyfer y cynllun hwn. Yn hytrach, maent yn awr yn rhoi symiau enfawr i landlordiaid preifat ar ffurf cymhelliant ariannol i’w hannog i gymryd rhan, gan gynnwys 6 mis o rent o flaen llaw a buddion parhaol drwy gydol y denantiaeth.

Mae’r sefyllfa hurt hwn yn dangos faint o angen sydd ar gyfer stoc dai sydd ar Lywodraeth Cymru, a pha mor annoeth mae’i phartneriaeth â datblygwyr wedi bod. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn economi ffug wedi’i dylunio i gwrso penawdau sydd wedi eu gadael yn ddibynnol ar ddatblygwyr a landlordiaid ac yn y pen draw heb helpu gyda’r argyfwng tai mewn unrhyw fodd ystyrlon.

Mae’r argyfwng COVID-19 yn cyflwyno cyfle unigryw i gynyddu’n sylweddol y gwaith o adeiladu tai cymdeithasol newydd drwy fuddsoddiad uniongyrchol gan y wladwriaeth. Bydd adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa eang yn torri gafael datblygwyr mawr ar y farchnad dai ac mae’r nifer o’r datblygwyr tai preifat sy’n debygol o fod yn adeiladu ar raddfa eang yn y dyfodol agos yn isel wrth iddynt aros i’r farchnad dai ‘wella’ wedi sioc economaidd y pandemig. Mae cydweithio â datblygwyr preifat yn annhebygol o greu unrhywbeth yn agos at y nifer o dai y mae Cymru ei hangen ac mae’i diffyg gweithgarwch yn golygu bod nifer o weithwyr yn y diwydiant tai yn gallu ei ffeindio’n anodd canfod gwaith yn y tymor byr neu ganolig. Bydd felly yn atgyfnerthu economi Cymru. Er mwyn galluogi meddiannu adeiladau newydd, mae’n rhaid i ni wrthod cynllun PFI Llywodraeth Cymru yn llwyr, y ‘model buddsoddi cydfuddiannol‘, a sefydlu sefydliadau llafur uniongyrchol yn lle, (cwmniau adeiladu o dan berchnogaeth y wladwriaeth) i wneud y gwaith o adeiladu ac adnewyddu (gan gynnwys gwaith isadeiledd) ar raddfa eang, yn hytrach nac allanoli gwaith i’r sector preifat, fel y mae’n rhaid i ni ar hyn o bryd. Byddai’r sefydliadau hyn yn darparu prentisiaethau o safon uchel a swyddi i filoedd o weithwyr. Ymhellach, bydd cyfleoedd gwaith enfawr yn gysylltiedig ag ôl-osod tai cymdeithasol presennol, i’w gwneud yn garbon niwtral a’u cynnwys yng nghadwyn gyflenwi weithgynhyrchu y tai modern sydd eu hangen arnom, gydag adeiladu pethau fel paneli solar a deunyddiau inswleiddio. Nawr yw’r amser i fod yn feiddgar.

Mae peth sôn wedi bod yn barod y gall Llywodraeth Cymru edrych i gynyddu ei phwerau deddfu wrth iddi geisio delio â’r argyfwng. Heblaw isadeiledd gwyrdd a digidol, mae’n annhebygol fod yna nifer o gyfleoedd buddsoddi i Lywodraeth Cymru allu darparu’r budd economaidd a chymdeithasol o adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol fforddiadwy go iawn.

Gofynion Polisi Tai

Yn dilyn y dadansoddiad uchod, rydym yn mynnu:

  • Ymgyrch ar raddfa eang i adeiladu tai cymdeithasol gan y wladwriaeth, yn null tai cyngor traddodiadol, o ansawdd uchel, carbon isel sy’n eiddo i’r wladwriaeth. Dylai fod o leiaf 14 mil o dai yn cael eu hadeiladu bob blwyddyn, gan osgoi caeau gwyrdd. Dylai 100% o dai fod yn dai cymdeithasol neu’n wirioneddol fforddiadwy, gan ddisodli’r farchnad yn llwyr ym maes tai.
  • Dylid diddymu pob cymdeithas dai, a dylid dod â’u holl eiddo o dan reolaeth ddemocrataidd awdurdodau lleol. Dylid cyflogi’r holl staff yn dilyn y broses hon o ail-wladoli. Gall hyn gael ei wneud yn hawdd pe bai Llywodraeth Cymru yn peidio â rhoi’r grant tai cymdeithasol i landlordiaid cymdeithasol.
  • Yn hytrach, dylid adeiladu ac adnewyddu tai drwy sefydliadau llafur.
  • Rhaid i’r penderfyniadau ynghylch tai fod yn ddemocrataidd a thryloyw. Efallai y bydd angen seneddau dinasyddion fel bod gan  denantiaid cymdeithasol ac eraill llais uniongyrchol a rôl wrth wneud pob dewis.
  • Ailbwrcasu pob tŷ gwag yn syth. Mae awdurdodau lleol naill ai’n amharod neu’n analluog ar hyn o bryd i ddefnyddio’r grymoedd sydd ganddynt i wneud hyn, felly mae Llywodraeth Cymru angen dyrannu arian a chanllawiau llym i bob awdurdod lleol ar gyfer y dasg hon.
  • Gwaharddiad llwyr ar ail gartrefi. Pob ail gartref i’w ailbwrpasu ar gyfer tai cymdeithasol. Yn y tymor byr, cau diangfeydd sy’n caniatau i ail gartrefi gael eu defnyddio i osgoi treth.
  • Trethi llym ar dai sy’n cael eu defnyddio yn bennaf ar gyfer AirBnB.
  • Newid y diffiniad o dai fforddiadwy fel ei fod yn cyd-fynd â’r cyflog cyffredin yng Nghymru sef 25 mil o bunnoedd.
  • Cael gwared ar Help i Brynu.
  • Gwahardd troi allan gan bob cyflenwr tai. Nid yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd yn bosibl heb wahardd troi allan.
  • Cyfyngiadau rhent ar bob tŷ yn y SRP fel sy’n bodoli ym Merlin.
  • Gweithredu ‘rhentu’n ddoeth’ yn drwyadl ym mhob awdurdod lleol, gan sicrhau fod landlordiaid gwael yn cael eu dirwyo a’u taflu oddi ar y gofrestr landlordiaid a’u heiddo yn cael eu hatafaelu.
  • Ni ddylai dyletswyddau dros ddigartrefedd gael eu gosod yn y sector rhentu preifat. Dylai Tai yn Gyntaf gael ei weithredu drwy ddefnyddio tai cymdeithasol sy’n eiddo i’r wladwriaeth. Ni ddylai arian cyhoeddus gael ei roi i landlordiaid.
  • Mewn ardaloedd gwledig, sicrhau fod rhestr yn gaeedig ac mai pobl leol sy’n cael y flaenoriaeth.
  • Ailysgrifennu’r strategaeth cynllunio genedlaethol gan sicrhau goruchwyliaeth drylwyr a bod cymunedau lleol yn cael eu cynnwys mewn modd ystyrlon wrth wneud penderfyniadau cynllunio.
  • Sefydlu ymddiriedolaeth tir cymunedol er mwyn i gymunedau lleol ei ddefnyddio i brynu tir.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.