Mae banciau bwyd wedi camu i’r adwy yn ystod y blynyddoedd o gyni, a thrwy gydol yr argyfwng corona mae eu hangen fwy nag erioed gyda’r ciwiau ar gyfer parseli bwyd brys yn cynyddu bob wythnos. Ym mis Mawrth, gwelodd Ymddiriedolaeth Trussell, un o nifer o elusennau banciau bwyd y DU, gynnydd o 81% yn y galw.

Mae’n enghraifft o’r awydd dynol i roi cymorth i eraill sydd mewn angen, i’n hatgoffa o’n hymdeimlad o dosturi ac undod cymdeithasol. Fodd bynnag, er ei bod yn bwysig ein bod yn cefnogi banciau bwyd ar hyn o bryd, yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn, ni ellir eu hystyried yn ateb hirdymor i’r broblem o ansicrwydd bwyd. Mae’n hynod annynol ac anghyfiawn, mewn byd lle mae digonedd o fwyd, bod cymaint o bobl yn gallu mynd heb fwyd. Mae eu trafferthion yn arwydd o gymdeithas sydd wedi chwalu. Serch hynny, mae’r blynyddoedd o gyni wedi gweld banciau bwyd yn cael eu normaleiddio yng nghymdeithas Prydain.

Ledled y byd, nid oes gan 2 biliwn o bobl ddigon o fwyd ac maent yn ei chael hi’n anodd i sicrhau’r gynhaliaeth sydd ei angen er mwyn goroesi. Yn y DU, roedd ar fwy na 1,500,000 o bobl angen parsel bwyd brys yn 2018-19 oddi wrth Ymddiriedolaeth Trussell yn unig, a bydd y niferoedd yn 2020 yn uwch nag erioed. Roedd tua 14,4 miliwn o aelwydydd  ar draws y DU yn methu â fforddio gwario digon o arian i fodloni’r deiet a argymhellwyd gan ganllaw Bwyta’n Dda y Llywodraeth.

Yng Nghymru yn 2017, dywedodd 35% o bobl 16-34 oed eu bod wedi poeni y byddent yn rhedeg allan o fwyd, ac roedd 14% o bobl wedi cael profiad o redeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio mwy. Mae hon yn sefyllfa enbyd ac annerbyniol yn yr hyn sydd i fod yn chweched economi fwyaf y byd. Nid yw cymdeithas yn gweithio os yw canran fawr yn wynebu bod â dim digon o fwyd.

Dywedodd Sue Pritchard, prif weithredwr y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, ac sy’n byw yn ne Cymru, “Mae’r pandemig wedi amlygu’r gwendidau yn ein system fwyd”.

Ni wnaeth y pandemig coronafeirws greu’r problemau hyn ond mae wedi eu gwaethygu, ac mae wedi rhoi mwy o bobl ar drugaredd system lem sy’n cosbi’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol. Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn y DU wedi cynyddu’n gyflym i fwy na 2,000,000 o bobol yng nghanol yr argyfwng corona (does dim rheswm i gredu mai dyma fydd yr uchafswm). Byddwn yn gweld llawer mwy o bobl yn colli eu swyddi dros y cyfnod sy’n weddill o’r pandemig a’r ergydion a ddaw yn sgil hynny.

O ddarllen adroddiadau llawer o felinau meddwl a sefydliadau bwyd uchel eu parch, maent i gyd fel petaent yn cilio rhag gwir achos y broblem. Maent yn awgrymu cynyddu’r talebau bwyd sydd ar gael; mae sôn am ‘cywirir yr hyn a fesurir’, ond mewn gwirionedd a yw hynny’n wir? Mae mesur yn bwysig, ond ddylen ni ddim rhagdybio y bydd newid yn digwydd yn awtomatig o ganlyniad i hynny. Edrychwch ar ymagwedd y Cenhedloedd Unedig tuag at ffigurau byd-eang ynghylch diffyg bwyd – os nad ydych yn hoffi’r data, symudwch y pyst. Byddai newid cadarnhaol yn rhagdybio gwladwriaeth resymegol sydd â diddordeb mewn iechyd a lles ei dinasyddion; mewn gwirionedd, rydym yn poeni mwy am gadw grym a chyfoeth yr elît fel ag y mae, gan arwain at anghydraddoldeb pellach.

Rydym yn gwybod bod cysgu ar y stryd a digartrefedd yn broblem; rydym yn gwybod y rhifau, ond nid ydynt yn gwneud dim yn ei gylch (ac eithrio yn ystod pandemig). Rydym yn gwybod nad oes digon o dai cymdeithasol, ond dydyn nhw dal ddim yn eu hadeiladu. Rydym yn gwybod sawl rhan o garbon deuocsid fesul miliwn sy’n bodoli yn yr atmosffer, ond eto maent yn oedi o ran gweithredu.

A ydym wedi datblygu obsesiwn am fesur problemau fel ffordd o osgoi mynd i’r afael â hwy? A yw hyn oherwydd ein bod wedi bod yn dawedog yn gyhoeddus am enwi’r eliffant yn yr ystafell: sef cyfalafiaeth? Y rheswm y mae’r hinsawdd yn cael ei gwasgu yw er mwyn elw preifat; y rheswm y mae pobl yn byw ar y stryd yw am fod eiddo yn ased buddsoddi a warchodir yn ffyrnig; y rheswm y mae teuluoedd yn mynd i’w gwelyau yn y nos heb ddigon o fwyd yw’r anghydraddoldeb economaidd a’r gost afresymol o fyw, o gymharu ag incwm. Nid oes angen rhagor o adroddiadau arnom i wybod hyn. Sut mae datrys y problemau hyn? Mynd i’r afael â natur wenwynig cymhelliad elw a’i anallu i ddarparu’n ddigonol ar gyfer anghenion sylfaenol pawb.

Yn y pen draw, i fynd i’r afael â’r mater o ansicrwydd bwyd, rhaid inni fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Fel y dywedodd Emma Revie, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, wrth Aelodau Seneddol, “Y broblem yw caledi ariannol. Nid bwyd yw’r ateb i galedi ariannol.” Dywedodd y byddai’n amhosibl i fanciau bwyd barhau i fodloni’r lefel digyffelyb o alw am eu gwasanaethau yn barhaus.

Pan fydd gan deulu ar Gredyd Cynhwysol ond £50 yr wythnos i fyw arno, yna nid yw’n syndod bod yn rhaid i deuluoedd ddewis rhwng bwyta neu wresogi’r tŷ. Fel y dywedodd Anthony Painter, o’r Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA),”Nid yw mân addasiadau i Gredyd Cynhwysol yn ymddangos yn ddigonol.”

Ac fel y noda End Hunger UK “Mae tlodi bwyd yn gofyn am ateb hirdymor, cynaliadwy sy’n mynd i’r afael â’r materion polisi sydd o dan sylw: incwm isel; tangyflogaeth/diweithdra; cynnydd mewn prisiau bwyd; a diwygio lles, wedi’i lywio gan drefniadau monitro ac adrodd rheolaidd ar raddau tlodi bwyd ymhlith ein dinasyddion a gefnogir gan y Llywodraeth.”

Yn y pen draw, rhaid inni ddiwygio ein system wleidyddol ac economaidd bresennol yn sylweddol yn y modd y mae Undod yn arddel wrth weithio tuag at Gymru annibynnol.

Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Fel y gallwn weld, mae ansicrwydd bwyd wedi’i, ‘glymu’n agos at annigonolrwydd incwm y cartref a’r galw ar adnoddau ariannol aelwydydd.’

Dyma oedd gan brif weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, Emma Revie i’w ddweud, “Yr hyn rydym yn ei weld flwyddyn ar ôl blwyddyn yw bod mwy a mwy o bobl yn cael trafferth bwyta oherwydd, yn syml iawn, ni allant fforddio bwyd. Nid yw hyn yn iawn.”

Felly mae prif achos hyn yn eithaf syml: diffyg arian. Mae mynd i’r afael â hyn drwy fudd-daliadau, talebau bwyd, prydau ysgol am ddim a’r tebyg yn ymateb dyrys ac amherffaith sy’n gadael gormod o fylchau—yn enwedig ers cyflwyno llymder. Er gwaethaf blynyddoedd o roi cynnig ar y tactegau hyn, mae mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar barseli bwyd brys.

Yn ddiau, mae agweddau eraill y mae’n rhaid eu hystyried megis diffyg moddion i goginio pryd o fwyd. Mewn fflat un ystafell efallai na fydd gennych fynediad at oergell na stôf, felly mae’n amlwg bod yn rhaid buddsoddi mewn mwy o dai cymdeithasol, ynghyd â diwygiadau i’r sector rhentu preifat, neu’n well fyth, cymdeithasoli tai, er mwyn rhoi terfyn ar y defnydd ohono fel dosbarth buddsoddi ar gyfer dosbarth rhentwyr.

Byddai cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu i sicrhau bod pobl yn gall talu am anghenion sylfaenol fel llety, bwyd a chyfleustodau -o gofio mai’r sector preifat sy’n darparu’r rhain yn bennaf ar hyn o bryd. Byddai hyn yn ychwanegol at daliadau i’r rhai ag anghenion cynyddol megis taliadau anabledd, budd-dal cymorth plant (a dylem gael gwared ar y terfyn dau blentyn), a budd-dal diweithdra.

Pan gyrhaeddodd pandemig Covid-19 Gymru, roeddem eisoes mewn sefyllfa fregus, ond drwy gydol y pandemig ac ar ei ôl, bydd y sefyllfa fregus yn gwaethygu at lefelau nas gwelwyd ers 1945. Yn syml ddigon, ni fydd llawer o bobl yn gallu dod o hyd i swydd, ac efallai y bydd yn rhaid i’r sawl sy’n lwcus i ddod o hyd i swydd newydd ar ôl y pandemig gymryd swydd sy’n talu llai na’r un flaenorol. Felly, bydd mwy o bobl yn cael trafferth i gael deupen llinyn ynghyd, ac i roi bwyd ar y bwrdd yn y degawd nesaf, os na fyddwn yn cynnig dewis arall sy’n gwbl wahanol i’r patrwm presennol o fynd i’r afael â thlodi bwyd. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar system iechyd sydd wedi’i llethu gan effeithiau degawd o doriadau, ynghyd ag effeithiau grychdonnog firws andwyol.

Mae Valerie Tarsuk, sy’n Athro prifysgol ym maes maeth yng Nghanada, yn galw ar Lywodraeth Canada i roi incwm sylfaenol cyffredinol ar waith am y rheswm hwn. Ni ddylid gadael mynediad at fwyd iach i’r farchnad; mae’n hawl ddynol sylfaenol ac yn fater o iechyd cyhoeddus. Ni ddylem anwybyddu’r sefyllfa greulon hyn mwyach. Mae tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn broblem fyd-eang am reswm: cyfalafiaeth fyd-eang.

Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cydnabod nad yw ein gallu i fwydo a sicrhau llety i’n hunain yn ddibynnol ar werth ein llafur (mewn byd sydd â syniad gwyrdroëdig o werth), na chwaith ein mynediad at gyflogaeth. Mewn dyfodol lle bydd llawer mwy o swyddi yn cael eu disodli gan awtomeiddio, bydd datgysylltu ein gwerth fel dinesydd o’n llafur yn gynyddol bwysig. Gall incwm sylfaenol cyffredinol ryddhau pobl i wneud gwaith sy’n bwysig iddynt, ein cynorthwyo i ofalu am ein gilydd, a dechrau ar y broses hir o ailddosbarthu cyfoeth, rhywbeth y mae ei ddirfawr angen mewn byd lle mae canran fach iawn yn berchen ar y mwyafrif helaeth o arian drwy gyfoeth heb ei ennill.

Galwodd Undod am incwm sylfaenol cyffredinol fel mesur brys i helpu i ddelio ag effeithiau covid. Fel y noda Tegid  Roberts yn ei ddarn i nation.cymru, gallem ddefnyddio’r argyfwng corona fel cyfle i dreialu’r incwm sylfaenol yn y byd go iawn. Mae Roberts yn cyfrifo y byddai £500 ar gyfer pob person o oedran gweithio–mae 1,900,000 o’r bobl hyn yng Nghymru – yn costio £950,000,000 y mis. Byddai rhedeg yr arbrawf am 12 mis yn costio tua 16% o gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) Cymru. Neu i’w roi mewn ffordd arall, gallai Jeff Bezos, prif weithredwr a sylfaenydd Amazon, fforddio talu hyn am fwy na 150 o flynyddoedd allan o’i werth net ei hun yn unig. Fodd bynnag, nid yw Bezos yn debygol o wneud hynny.

Ceir dadl, fodd bynnag, bod yn rhaid i unrhyw incwm sylfaenol cyffredinol a weithredir fod yn ddigonol. Mae Sefydliad Bevan yn awgrymu swm o £213 yr wythnos, yn seiliedig ar ymchwil gan Sefydliad Fraser Allander yn yr Alban. Mae eu hymchwil yn awgrymu y byddai’n lleihau tlodi gan 25 pwynt canran, a thlodi plant gan 17 pwynt canran. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol o’r swm hwn yn cynrychioli dwywaith yr hyn y byddai person sengl dros 25 oed yn disgwyl ei gael drwy’r credyd cynhwysol.

Fel y noda Anthony Painter o’r RSA “Mae’r rhan fwyaf o bobl yn elwa o incwm sylfaenol cyffredinol, ond y rhai ar incymau isel sy’n elwa fwyaf.”

Dylid ariannu’r incwm sylfaenol cyffredinol drwy system drethu raddoledig sy’n ceisio trethu’r cyfoethocaf i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cynyddol. Awgrym arall yw y gallem ariannu incwm sylfaenol cyffredinol drwy dreth incwm negyddol, sef rhywbeth y mae gan Gymru y pwerau i’w wneud ar hyn o bryd o fewn y setliad datganoli. Mae Tegid Roberts  wedi archwilio sut y gellir cyflawni hyn yng Nghymru drwy system treth incwm raddoledig.

Mae modd dechrau ar hyn nawr drwy ‘lliniaru meintiol i’r bobl ‘ (argraffu arian a roddir yn uniongyrchol i bobl yn hytrach na drwy ddyled i fanciau) er mwyn helpu i sbarduno’r economi ar ôl cofid–mae busnesau mawrion eisoes yn cael eu hachub gan San Steffan yn y modd hwn. Pa ffordd well o ddysgu’r wers o chwalfa ariannol 2008 o’r diwedd, a rhoi’r arian hwnnw’n uniongyrchol i bobl, yn hytrach na defnyddio mesurau cyni sy’n ddinistriol yn economaidd ac yn gymdeithasol?

Gellir defnyddio incwm sylfaenol cyffredinol fel rhan o strategaeth bontio i symud i ffwrdd o economi sy’n ceisio am rent, tuag at un teg a chynaliadwy sy’n gwerthfawrogi ymddygiad cyfrifol yn gymdeithasol.

Mae beirniaid incwm sylfaenol cyffredinol yn honni nad yw’n ateb i bopeth, ac y byddai’n well canolbwyntio’r ewyllys gwleidyddol ar wella gwasanaethau cyhoeddus drwy ddull gweithredu o’r enw gwasanaethau sylfaenol cyffredinol (universal basic services). Eu dadl yw na fydd incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i’r afael â’r problemau strwythurol sylfaenol sy’n achosi tlodi. Maen nhw’n iawn, wrth gwrs, ond ydy gwasanaethau sylfaenol cyffredinol neu incwm sylfaenol cyffredinol yn eithrio’r llall yn llwyr? A hyd yn oed os nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn mynd i’r afael â’r rhesymau sydd wrth wraidd y broblem, nid yw hynny’n ei wneud yn llai buddiol. Pan nad oes gan bobl ddigon o fwyd, y peth cyntaf i’w wneud yw sicrhau eu bod yn gallu fforddio digon o fwyd. Ar ôl hynny gellir ystyried yr achosion gwraidd a gwynebu’r ffaith bod angen dulliau gweithredu chwyldroadol.

A allwn ni wella gwasanaethau cyhoeddus a rhoi incwm sylfaenol cyffredinol ar waith? Mae beirniaid yn dadlau na fydd y dosbarth cyfalafol byth yn cytuno iddo, ond a ddylai hynny ein rhwystro rhag rhoi cynnig arno yng nghyd-destun Cymru? Rhaid i ni ochel rhag caniatáu i’n ffenestr Overton gael ei diffinio’n rhy gul a cholli’r cyfle i weld newid mwy radical yn hytrach na cheisio dwyn perswâd i ddiwygio yn unig. Efallai bod argyfwng corona’n rhoi cyfle i ni roi incwm sylfaenol cyffredinol ar waith ar unwaith. Os nad nawr, pryd?

Ni ddylid ystyried gwasanaethau sylfaenol cyffredinol nac incwm sylfaenol cyffredinol yn ateb ar ei ben ei hun. Mae arnom angen gwell seilwaith cyhoeddus, gwell wasanaethau cyhoeddus ac mae arnom angen digon o arian i allu prynu’r hanfodion sydd eu hangen arnom i fyw bywyd dynol, gweddus, o fewn cyd-destun cymdeithas sydd wedi’i breifateiddio’n helaeth. Hyd yn oed os nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn berffaith, onid yw’n sicr yn werth rhoi cynnig arni?

Dadl ddilys arall yn erbyn incwm sylfaenol cyffredinol yw y gall yr arian fynd i ddwylo’r rhentwyr yn y pen draw. Yn benodol i argyfwng corona, rhaid cyfuno’r incwm sylfaenol cyffredinol â chanslo dyled rhent, (neu o leiaf gostyngiad yn yr hyn sy’n ddyledus i rentwyr), neu bydd yr arian yn diweddu yn nwylo’r sector rhentu preifat, gyda’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn amcangyfrif y bydd 45% o gost net y cynllun cadw swyddi yn mynd i dalu rhent, morgeisi a dyledion eraill. Mae’r Sefydliad hefyd yn nodi argymhellion eraill sy’n ceisio tynnu’r pwysau oddi ar y rheiny sydd â dyledion uchel o’u cymharu ag incwm. Wrth gwrs, nid yw Llafur na’r Ceidwadwyr wedi dangos awydd i herio’r rhentwyr. Mae Ysgrifennydd Tai Cysgodol y Blaid Lafur, Thangam Debbonaire, hyd yn oed wedi galw canslo rhent yn ‘anflaengar iawn’ ac ‘yn groes i werthoedd Llafur’. Wrth symud ymlaen, dylem fod yn edrych ar reoli rhenti difrifol, neu gwell fyth dileu cyfalafiaeth rhentwyr yn y farchnad eiddo a sicrhau tai fforddiadwy i bawb. Un rheswm pam nad oes gan bobl ddigon o arian i roi bwyd ar y bwrdd yw eu bod yn talu gormod o rent. Mae incwm rhent yn ymgorfforiad o gyfoeth heb ei ennill.

Gallai mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd, ynghyd â newidiadau systemig i’r system fwyd–a fyddai’n cefnogi mabwysiadu deiet iach yn ehangach–hefyd gael y sgil-effaith a groesawir o helpu i fynd i’r afael â’r materion iechyd cysylltiedig. Mae bwyd iachus yn fwyd drud, fel y dengys cost y canllaw Bwyta’n Dda. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Cyngor Moeseg Bwyd ddadl ar incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y system fwyd ac roedd y panel o’r farn ei fod yn ‘syniad grymus gyda’r potensial i sicrhau manteision net sylweddol i’n systemau bwyd a’n cymdeithas.’ Roeddent hefyd o’r farn bod ganddo’r ‘potensial i wneud cyfraniad mawr wrth fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd aelwydydd.’

Dywedir bod achosion tlodi bwyd yn gymhleth, ond mewn gwirionedd, mae’n weddol syml, o leiaf yn ein cymdeithas bresennol. Mae’n ymwneud yn bennaf â bod â digon o arian i ‘brynu deiet iach sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol’ yn ôl Cynghrair Tlodi Bwyd Cymru. Byddai incwm sylfaenol brys yn ystod y pandemig coronafeirws yn ein galluogi i gasglu data byd go-iawn ar p’un ai yw’n fecanwaith effeithiol ar gyfer dileu tlodi bwyd yng Nghymru, yn hytrach na’i liniaru’n unig. Mewn byd lle mae cyfoeth yn cael ei fonopoleiddio’n gynyddol gan y 10% uchaf, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cynnig cyfle i symud tuag at fyd tecach lle mae pobl yn gallu fforddio’r hanfodion. Mae’n ymddangos mai dyna’r peth lleiaf y dylem anelu ato. Ni fydd papuro dros y craciau mewn system les sydd wedi’i disbyddu yn ddigon i ateb yr her sy’n ein hwynebu. Mae’n greulon gadael i’r drosedd o dlodi bwyd barhau mwyach. Mae’n bryd rhoi cynnig ar ddull gwahanol o weithredu.

Llun gan AnemoneProjectors

Un ateb ar “Anfon ymaith bwgan tlodi bwyd yng Nghymru, drwy Incwm Sylfaenol Cyffredinol”

  1. To update this article:
    1. No reference is made to the Food Box scheme costing £15m to mid August. Ministers have been asked to indicate the future of the scheme.
    2. Many other factors contribute to food insecurity other than income. Illness and inability to prepare food, Internet access and lack of transport are others. This is covered well in a Welsh Food Alliance survey and report (2009) on growing malnutrition in an ageing population.

    3. In assessing food insecurity, the UK Food Standards Agency found the numbers using food banks or food charities remained relatively stable between April (8%) and May (7%) but those with a child in their household were significantly more likely to do so (7). https://www.food.gov.uk/sites/default/files/media/document/covid-19-consumer-tracker-report.pdf

    15% of respondents reported food insecurity in May due to not being well enough to shop or cook food (17% in April). 18% reported this in May due to having no means to get to the shops (19% in April). 26% reported this in May due to being unable to get a delivery (down from 32% in April) (7) WHICH? have also reported concerns of vulnerable people and called for permanent solutions (9)
    (Extract from a forthcoming proposal for a Welsh National Food Service from Co-ops & Mutuals Wales)

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.