Mae Bywydau Duon O Bwys. Datganiad

Dyma’r slogan sydd i’w gweld ar arosfa bws yn Llanrug, Caernarfon, ar y ffordd o Gwm y Glo, wrth dafarn Glyntwrog. Wn i ddim pwy yw’r artist anhysbys, ond mae’r dewis o liwiau yn ddiddorol. Y llynedd, daeth y cefndir coch a’r sgrifen wen yn nodwedd o slogannau ‘Cofiwch Dryweryn’ ac ymgyrch effeithiol i ddysgu pennod bwysig yn hanes diweddar ein cenedl. Falle mai dyna’r ffordd ymlaen. Os na chaiff ein hanes ei ddysgu mewn ysgolion, mi dysgwn ni o drwy slogannau ar waliau’r hen wlad ‘ma. Mae’n gyfoes iawn gan fod eleni yn 80 mlwyddiant ers Y Chwalu. Ond lle mae Epynt, a beth ddigwyddodd yno ym 1940?

Cymdeithas Gymraeg wledig ddiarffordd oedd cymdeithas mynydd Epynt. Sylwch ar amser y ferf – dydi ddim yno mwyach. Mae gweddillion y gymdeithas i’w gweld rhwng Llanfair ym Muallt a Llanwrtyd yn y gogledd, a Phontsenni ac Aberhonddu yn y de. Nid fod gennych hawl i fynd yno i chwilota, gan mai’r Fyddin sy’n tra arglwyddiaethu yno bellach. A dyna ddod at wraidd y mater.

Anghenion dŵr Dinas Lerpwl oedd yr esgus am foddi Tryweryn. Anghenion y Fyddin i ymarfer tanio oedd yr esgus dros chwalu cymdeithas Epynt. Mae yna wastad rhyw esgus on’d oes? A dydyn ni ddim yn sôn am lond dwrn o dai. Gyrrwyd dros ddau gant o bobl a phlant o 54 fferm a thyddyn, ar fyr rybudd er mwyn i’r Fyddin gael ymarfer saethu magnelau. Heddiw mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen 30,000 o erwau yno. Os dymunwch yr hanes yn llawn, darllenwch lyfr campus Herbert Hughes, ‘Mae’n ddiwedd byd yma..’ (Gwasg Gomer 1997). Llyfr arall sgwennwyd ym 1971 yw ‘Epynt Without People’, gan Ronald Davies, ond dydw i ddim wedi cael copi o hwnnw.

Yr hyn a wna Herbert Hughes rhwng dau glawr yw edrych ar y gymdeithas oedd wedi byw yn Epynt ers yr Oes Efydd. Defaid oedd yn pori yno fwyaf, a cheffylau. Yn wir, dyna darddiad y gair Epynt, ‘llwybr ebolion’. Mae cyfeiriad at yr ardal yn Llyfr Llandaf (tua 1135), a chyfeirir at nifer o’r bryniau, Bryn Bugeiliaid, Crug Hisbren, Carn Echan. Oes, mae yna swyn yn yr enwau.

Sioe stalwyni ar fynydd Epynt, 1930

Diolch byth, mae atgofion rhai o’r trigolion wedi eu rhoi ar gof a chadw yn Amgueddfa Sain Ffagan. Mae i’r ardal ei henwogion hefyd – Cefnbrith wrth gwrs oedd cartref John Penry, ac yn yr ardal hon y magwyd William Williams Pantycelyn.

Sut digwyddodd y fath drychineb felly? Yr Ail Ryfel Byd oedd yr achos. Yn fuan wedi cychwyn y Rhyfel, gwelodd y Fyddin ei chyfle.

Roedd Ronald Davies yn blentyn ar y pryd. Pan ar ei feic, gwelodd Hillman Minx lliw khaki yn dod ar hyd y ffordd, ac fe’i dilynodd. Roedd capten y fyddin yn deithiwr yn y car, ac roedd yn egluro i rai o’r ffermwyr fod gan yr Adran Ryfel fwriad i feddiannu’r ardal i’w throi yn Faes Tanio. Cafodd y trigolion wybod fod disgwyl iddynt symud allan erbyn diwedd Ebrill 1940. Roedd yn sioc llwyr i’r trigolion, yn enwedig i’r rhai hynaf oedd wedi byw yn yr un tai drwy eu hoes.

Teimlai sawl un mai dros dro fyddai hyn, ac y byddai’r rhyfel drosodd mewn chwe mis. Un ohonynt oedd Thomas Morgan, Glan-dŵr. Er iddo symud, byddai Thomas yn ymweld yn gyson â’i fferm, ac yn cynnau’r tân rhag i’r lle fynd yn damp. Sylwodd y Fyddin ar hyn, a dinistro’r fferm. Dywedwyd wrth Thomas fod y fferm wedi ei ffrwydro ac na fyddai angen iddo ddod yn ôl yno. Yn araf, gwawriodd y gwir ar y bobl leol.

Plaid Cymru oedd yr unig rai geisiodd rwystro’r cynllun, a bu Gwynfor Evans a J.E.Jones yn brysur yn ymweld â thai ac yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Llwyddwyd i drefnu pwyllgor a dirprwyaeth, ond ddaeth dim o hynny. Roedd y Fyddin yn benderfynol o gadw at ei cynllun, ac yn wir, dyma ganfod wedyn fod eu llygad ar yr ardal ers 1912. Oherwydd natur y tir mawnog yn Epynt, roedd yn fwy addas ar gyfer saethu na sawl man arall. Roedd y cyfnod hefyd yn erbyn yr ymgyrchwyr. Roedd Gwynfor Evans yn obeithiol y gellid amddiffyn Epynt, ond y diwrnod y gwnaeth y llywodraeth ei phenderfyniad terfynol oedd y dydd ddewisodd Hitler i oresgyn Norwy. Meddai J.E.Daniel, “Mae Cymru yn fwy diamddiffyn o flaen Swyddfa Ryfel Lloegr nag oedd y Ffindir o flaen Rwsia.”

Ac edrychwch ar yr ystadegau: i ddibenion militaraidd, roedd y Swyddfa Ryfel wedi meddiannu 56,700 o aceri yn Lloegr; 35,500 erw yng Nghymru a 6,000 yn yr Alban. Os ychwanegir Epynt at swm Cymru, mae’r cyfanswm yn 70,000 erw. Roedd Cymru yn cael ei ecsploetio – unwaith eto.

Waun Lwyd

O fewn chwe mis i glywed y newydd gyntaf, roedd pobl yn gadael eu cartrefi am byth. Aeth Iorwerth Peate o Sain Ffagan i dynnu lluniau y troi allan, a daeth ar draws hen wraig 82 oed yn eistedd ar hen gadair ar fuarth y Waun Lwyd. Yno y’i ganed, a’i thad a’i thaid o’i blaen. Meddai’r wraig wrth Iorwerth Peate, “Fy machgen bach i, ewch yn ôl … gynted ag y medrwch, mae’n ddiwedd byd yma.”

Ydi, mae’n hanes trist, ac yn hanes tristach am na chaiff ei ddysgu yn ein hysgolion. Pedairugain mlynedd ers yr Ail Ryfel Byd, mae’r Fyddin yn dal yn berchen ar Epynt, fel ag y maent ar gymaint o lefydd eraill yng Nghymru.

Eleni, rhaid i ni ledu’r hanes am Fynydd Epynt yn y modd y gwnaed efo Tryweryn ym 2019. Roedd bwriad i gynnal rali yno ar Fedi 19, 2020, ond mae hynny yn amhosib mwyach. Yn hytrach, mae’r ymgyrch yn digwydd yn ddigidol. Edrychwch ar Facebook ac dilyn ‘Atgofion Epynt’, mae cyfoeth o wybodaeth a lluniau yno. Ar ffrwd trydar Cymdeithas y Cymod, maent wedi cyhoeddi enw un o’r ffermydd a ddiflannodd bob dydd rhwng Mai a diwedd Mehefin  – Hirllwyn, Bryn-melyn, Llwyn-coll, Gilfach-yr-haidd, Neuadd Fach, Croffte, Cwm-nant-y-moch, Llwynteg-isaf, Cefnbryn-Isaf, Gelli-gaeth, Cefnbryn-uchaf, Lanfraith a Gythane.

Yn wir, mae tudalen Facebook Atgofion Epynt wedi tyfu yn aruthrol ers ei sefydlu ddiwedd Mawrth eleni gyda bron i 700 o ddilynwyr. Efallai mai y cyfraniadau annisgwyl yw’r rhai di-Gymraeg sydd yn cadw’r cof hyd yn oed os na chawsant yr iaith. Gwelir neges fel ‘Cefnioli is the farm of Dadcu and Mamgu Morgan’, neu ‘John was Grampa Nantgwyn’s oldest brother’. Ydi hyn yn rhyfedd? Dydi’r tai ddim yno, dydi’r gymuned ddim yno, dydi’r iaith ddim yno, ac eto – 80 mlynedd yn ddiweddarach, mae pobl yn trafod hyn ar gyfrwng cymdeithasol yng nghanol pandemig.

Oes lle i Epynt felly yn Cam nesaf Cymru?

Mi fyddwn i yn dweud fod yna. Mae tynnu cerflun Colston ym Mryste a’r digwyddiadau ddilynodd wedi codi trafodaeth ddifyr iawn am yr hyn ddylid ei goffáu a sut y dylid ei goffáu. Mae cofgolofnau unrhyw wlad yn dadlennu llawer am hanes y wlad honno. Yn yr un modd, mae’r pethau nas cofnodir yn deud mwy. Mae yn rhan o’r dilechdid, mae’n drafodaeth barhaus.

Fel y dywedais o’r blaen, mae Tryweryn wedi ennill ei blwyf yn hanes Cymru, dydi Epynt ddim. Ai oherwydd fod Tryweryn yn saffach i’w drafod nac Epynt? Mae Capel Celyn dan y dŵr, a hynny yn barhaol. Gallwn drafod gwerth ymddiheuriad Dinas Lerpwl am yr hyn ddigwyddodd, ond nid yw’r sefyllfa am newid.

Yn Epynt, mae’r tir yn dal yno. Pan gymrodd y Fyddin 30,000 o erwau ym 1940 i’w droi yn faes tanio, roedd awgrym y byddai’r tir yn cael ei ddychwelyd unwaith y byddai’r rhyfel drosodd. Mae 75 mlynedd wedi mynd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Nid yn unig mae Epynt yn dal yn nwylo’r Fyddin, maent wedi cymryd mwy o dir ers hynny. Onid yw’n hen bryd i’r Fyddin adael Epynt? Yn yr awyrgylch presennol, onid yw maes tanio yn hen ffasiwn bellach fel dull rhyfela? Dadl Rhodri Glyn Thomas yn ddiweddar yw fod Llywodraeth Prydain wedi gwario biliynau o bunnoedd yn flynyddol ar atalfa niwcliar yn hytrach nac ymosodiad seibyr. Dylai’r arian hwnnw fod wedi mynd i baratoi ar gyfer pandemig. Os ydi arfau niwcliar yn amherthnasol bellach, beth am faes tanio?

Cwestiwn arall am Epynt yw ydyn ni yn hapus fod tir Cymru yn cael ei ddefnyddio fel man i ymarfer lladd? Yn yr ystyr hwn hefyd, mae’n wahanol i Dryweryn. Nid maes cäedig yw Epynt, ond man lle clywir ffrwydron yn gyson. ‘Danger Area’ yw’r geiriau ar y map. Mae’n berygl i bobl o’r tu allan, ond mae hefyd – fel y gwyddom yn iawn – yn beryg bywyd i’r milwyr sydd yn ymarfer yn ddyddiol ar Epynt. Ac wedi i’r milwyr berffeithio eu crefft ar Epynt, mae ei sgiliau yn amlwg yn beryg bywyd i’r dinasyddion yn Afghanistan neu wledydd eraill yn y Dwyrain Canol.

Y drafodaeth ar gyfer Cam nesaf Cymru yw nid yn unig sut i gofio Chwalfa Epynt, ond sut mae ymagweddu at Epynt heddiw. Beth yn wir ddylid ei wneud â’r lle? Dywedir fod y Fyddin efo perthynas go lew bellach efo’r bobl leol. Dywedir fod well gan bobl weld y Fyddin ym meddiant Epynt na’r Comisiwn Coedwigaeth. Ond ai dewis rhwng dau ddrwg ydyw? O gael y dewis, beth garai pobl Brycheiniog ei weld ar Epynt heddiw? Yr hawl i ddewis yw y mater sylfaenol. Ac o drafod hyn, mae’r un cwestiwn yn berthnasol i bobl y Fali ar Ynys Môn, i bobl Llanbedr ym Meirionnydd, i bobl Aberporth yn Aberteifi, ac i bobl Castell Martin yn Sir Benfro (heb sôn am y drafodaeth ddiweddaraf am Amgueddfa Filwrol ym Mae Caerdydd). Ym mhob un o’r safleoedd hyn bydd dadl cyflogaeth yn codi, a rhaid wynebu honno. Onid oes cyflogaeth amgenach yng Nghymru na chynnal y diwydiant lladd?

Tra’n cael y drafodaeth hon, gallwn fynd ati rhag blaen i baratoi deunydd dysgu ar Epynt. Yn rhy aml, yr ymateb a gawn yw ‘wyddwn i ddim am hyn’. Roedd yn wir yn fy achos i yn bersonol. Tra cefais fy nysgu am bob cam o’r Ail Ryfel Byd mewn cwrs Safon O am ddwy flynedd, ches i erioed fy nysgu am Epynt. Byddai wedi bod yn ddadl ddifyr ar lawr y dosbarth – yn ystod cyfnod enbyd o fygythiad rhyfel, ai teg oedd gyrru dau gant o bobl o’u tai i wneud lle i faes tanio? Wedi’r rhyfel, oedd hi’n deg fod y Fyddin wedi dal ei gafael ar 30,000 erw?

Y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfnod sy’n amlwg. Ers 1940, synau bomio sydd i’w clywed ar Epynt. Tir gwag ydyw, heb ddim cartrefi na phobl. Am fil o flynyddoedd cyn 1940, bu cymdogaeth yno, bu pobl yn cyd-addoli, cyd-fyw, yn gwarchod y tir, ac yn cynnal diwylliant. Pa un o’r rhai hyn yw’r mwyaf gwâr?

Gwybedog

Nid fod popeth yn Eden berffaith yn Epynt cyn 1940 ychwaith. Digwyddodd un o’r hanesion tristaf gan mlynedd yn ôl ym 1923. Arferai pobl Plas Glan-bran fynd i hela, a byddai bugeiliaid Epynt yn ennill dipyn o arian o godi’r adar wedi iddynt gael eu hela. Un dydd, saethwyd gŵr Gwybedog ar ddamwain. Cafwyd meddyg i ddod o Lanwrtyd, a chafodd lawdriniaeth – ar fwrdd y gegin, heb unrhyw boen laddwr. Llwyddwyd i dynnu’r fwled o’i gorff. Ond rhaid bod y trawma yn ormod iddo, gan iddo farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Roedd yn dad i saith o blant, a’r seithfed heb ei eni eto. Pan anwyd hwnnw, fe’i bedyddiwyd yn Iorwerth, a bu fyw yn Gwybedog tan 1940. Wynebodd ef ei drawma ei hun yn y flwyddyn honno.

Felly roedd anghyfiawnder yn y tir cyn 1940. Pa synnwyr oedd fod pobl gyffredin yn codi adar marw i fyddigion? Pa synnwyr sydd mewn gorfodi pobl o’i cartrefi er mwyn i eraill gael dysgu lladd? Mae geiriau Iorwerth Davies wedi glynu yn fy nghof. Dwy ar bymtheg oed oedd o yn gadael Epynt. Ond mae’r gofid yn dyfnhau wrth iddo fynd yn hŷn. Wrth heneiddio, roedd yn sylweddoli fwy fwy faint y golled.

Merch ac wyres Iorwerth sy’n gofalu am y dudalen Facebook y dyddiau hyn ac yn bugeilio yr atgofion. Mewn dyddiau a fu, os oedd teulu mewn trafferthion ar Epynt, byddent yn gosod cyfnas wen ar y llwyni yn arwydd i eraill, a byddai cymdogion yn dod draw i helpu. Dwi’n gweld y dudalen Atgofion Epynt yn fersiwn fodern o’r gyfnas wen. Un peth pwysig iawn allwn ni ei wneud i helpu yw lledaenu’r neges, adrodd y stori, a thrafod pa ddyfodol garem ei weld i Epynt.

Ymuno â'r Sgwrs

2 Sylw

  1. I remember some of the people of the Epynt . They were my family. The nearest I can describe it when they gathered was a collective unspoken feeling. How do I describe that? Have you ever been to a large family funeral where the family have a shared feeling and experience but have no need to talk about it. It just binds and holds them together. I think that is the nearest I can describe. It is the only comparison that I can make.

    They always went ‘up the hill’ and never referred to it as a mountain and always said ‘The Epynt .

  2. Wales did not – and could not have remained neutral in WW2. Despite the decision of Plaid Cymru’s leadership to declare themselves as such. At the time Europe was being engulfed in a campaign of blitzkrieg by the forces of fascism. Sacrifices were required. My father was trained on tanks for Normandy at beautiful Lulworth in Dorset on land seized by the War Dept – and still held by them. These areas should have been returned after the war – as happened at Penyberth subsequently. Let us remember the sufferings of the occupied countries particularly when considering our losses. Our own were painful but smaller in scale.My great uncle died in the navy in the course of the war. Having said all this, the sadness of crossing Epynt – where one of my relatives would have had taken services – is still deep. I am not sure if the term just war applies. But it was definitely, unfortunately, a neccessary one.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.