Traddodwyd y ddarlith gyhoeddus hon ar-lein trwy gyfrwng y Saesneg ar ddydd Sadwrn 20fed Mehefin 2020.
Cyn ymddeol, roedd Yr Athro Elspeth Webb yn betiatregydd cymunedol ac yn Athro Iechyd Plant ym mhrifysgol Caerdydd, yn gweithio am flynyddoedd ar hawliau plant, gwasanaethau amddiffyn plant, anghydraddoldebau iechyd, a chynnwys hawliau dynol yn y cwricwlwm hyfforddi meddygol.
Gyda phlant yn parhau i gwympo trwy’r craciau yn yr economi Covid-19, y ddadl ynglŷn ag ail-agor ysgolion yn defnyddio plant bregus fel propiau, a galwadau am ddiddymu carchardai yn ein gwthio i afael ag achosion sistemig trais a throsedd, mae hi’n fwy bwysig nac erioed bod y chwith – o’r diwedd – yn meddwl am y plant.