Echddoe, collasom ni tair cyfaill mewn ymosodiad ar gyfarfod o ymgyrchwyr yng ngogledd ddwyrain Syria. Er nad ydym ni erioed wedi cyfarfod â nhw, ac yr oedden nhw yn byw mewn lle pell, rydym wedi ein uno gan ein brwydr gyffredin dros fywydau menywod. Am roi eu bywydau i’r frwydyr yn erbyn trais patriarchaidd ym mhob ffurf, cawson nhw eu targedu gan ergydiad drôn Twrceg wrth iddynt gyfarfod gyda’i gilydd mewn pentref tu allan i dref Kobane yn Rojava. Ymysg y meirw yw Zehra Berkel, aelod o’r pwyllgor cydlynnu mudiad y menywod Gogledd Ddwyrain Syria Kongreya Star, yn ogystal ag Amina Weysi, y ddynes 60 oed a oedd piau’r tŷ ble yr oedd y cyfarfod, a hefyd yr ymgyrchydd gwleidyddol Hebûn Mele Khelil.

Ar yr un diwrnod cafodd Tŷ’r Menywod (Mala Jin) yn Basirah, Deir-ez-Zor, ei dargedu gan ffrwydriad sylweddol a chafodd yr adeilad ei chwalu. Mae’r tai yma – Tai y Menywod yn lwyddiant anferthol fel rhan o chwyldro y menywod. Cawson nhw eu sefydlu gan mudiad y menywod yng ngogledd dwyrain Syria fel canolfanau am gyfiawnder adferol a man i amddiffyn hawliau menywod. Mae’r ymosodiadau yma yn dod rhai dyddiau ar ôl i Twrci lawnsio cyfres o ymosodiadau awyr yn targedu sawl ardal yn Nghwrdistan sydd yn rhan o wladwriaeth Irac. Yn yr ardaloedd yma mae menywod yn cael sicrwydd o hawliau, cynrychioldeb a safleoedd gwleidyddol cyfartal, gan gynnwys gwersyll ffoaduriaid Maxmur ac ardal Sinjar, ble mae gwynebodd cymuned y Yezidi hil laddiad gan ISIS yn 2014.

Mae’r menywod yma wedi rhoi eu bywydau yn brwydro dros ryddid holl ferched y byd gan gynwnys ein bywydau ninnau. Bydd eu safiad yn byw ynom ni i gyd a’n ymdrechion ni oresgyn patriarchaeth, cyfalafiaeth a’r wladwriaeth. Gyda eu marwolaethau, yr ydym yn gwneud addweid i barhau eu brywydyr yn y gwaith yr ydym yn ei wneud i ddiddymu systemau batriairchaidd ble bynnag yr ydym yn canfod nhw.

Mae menywod yn dioddef trais patriairchaidd mewn sawl ffurf. Mae’r ymosodiadau yma yn dangos bod merched yn trefnu gyda’i gilydd gymaint o fygythiad i system y dyn dominyddol bod y sawl sydd yn ymdrechu i’w gadw yn ei le yn fodlon llofruddio mewn gwaed oer. Er mwyn amddiffyn ein hunain yn erbyn yr ymosodiadau yma, rhaid i ni drefnu ein hunain fel merched â rhyweddau sydd wedi ein gormesu gan adeiladu strwythurau ymreoliaethol. Rydym yn estyn gwahoddiad at bawb sydd yn chwilio i adeiladu mudiad rhynglwadol  yn erbyn patriarchaeth a dros ryddfreindiad rhywedd i gysylltu â ni fel allwn ni drafod gweithredu.

Rydym yn galw ar fenywod ar draws Lloegr, Cymru, yr Alban ac Iwerddon i godi llais er cof am Zehra, Amina a Hebûn, ac mewn undod gyda mudiad menywod Kongreya Star.

Hir fyw chwyldro y menywod sydd yn trefnu a brwydro dros ryddid!

Mewn cariad, gwylltineb ac undod,

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.