Pwy ydym ni?
Rydym yn fudiad democrataidd, sosialaidd, gweriniaethol a sefydlwyd i sicrhau annibyniaeth i Gymru.
Ers rhy hir, mae dosbarth gweithiol Cymru wedi eu gwahanu a’u gosod yn erbyn ei gilydd yn bwrpasol ar sail iaith, lleoliad, hil, anabledd a rhywedd. Y gwirionedd yw bod yr heriau sy’n wynebu dosbarth gweithiol Cymru, beth bynnag yw ein lleoliad, ein hiaith, ein lliw, ein rhywedd, ein rhywioldeb neu ein crefydd, i gyd yn dellio o’r un ffynhonnell: cyfalafiaeth neoryddfrydol sy’n cael ei weithredu gan y wladwriaeth Brydeinig a’i weithredu gan y setliad datganoli yma yng Nghymru.
Un o’r rhesymau y dewisom alw ein hunain yn Undod oedd i gadw mewn cof fod gan y dosbarth gweithiol fwy yn gyffredin â’i gilydd nag sydd ganddynt ag elitiau gwleidyddol a busnes y wlad hon. Mae ein haelodau yn dod o bob cwr o Gymru a thu hwnt ac rydym yn cael ein llywio gan draddodiadau amrywiol y chwith sydd i’w canfod yma ac ar draws y byd. Rydym yn undebwyr llafur, yn drefnwyr cymunedol, ymgyrchwyr iaith, amgylcheddwyr, ymgyrchwyr heddwch ymysg pethau eraill. Credwn fod cael cynghrair eang ar draws y chwith yn gweithio gyda’i gilydd yn hanfodol i greu delwedd o annibyniaeth sydd nid yn unig yn ystyrlon ond yn effeithlon hefyd. Mewn undod mae nerth!
Beth ydym ni’n ei wneud?
Mae Undod yn ymroddedig i sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru, ond er mwyn cyflawni hyn mae’n rhaid i ni ymladd o blaid hawliau pobl ddosbarth gweithiol nawr. Ni allwn ni eistedd yn eiddil yn aros i’r wladwriaeth weithredu neu i’r addewid pell o refferendwm ddyfod. Os ydyn ni eisiau bod yn annibynnol fel gwlad, mae’n rhaid i ni weithio fel unigolion grymus yn cydweithio gyda’n gilydd yn ein cymunedau nawr. Mae etholiadau yn gyfrwng cyfyng – mae mwy i wleidyddiaeth na phleidleisio: mae gan bobl gyffredin y grym i newid eu cymunedau er gwell heddiw. Byddwn yn defnyddio ein hawliau democrataidd i ymgynnull ac i fynegi ein barn i wneud hyn. Byddwn yn arddel yr hawliau hyn i’r eithaf, drwy weithredu uniongyrchol di-drais er mwyn sicrhau ein hamcanion a lledu ein gwerthoedd. Byddwn hefyd yn gweithio i drefnu o fewn ein cymunedau, i adeiladu’r sefydliadau angenrheidiol fydd ei angen ar Gymru annibynnol y dyfodol ar hyn rydym ei angen yn ddirfawr heddiw, er mwyn gwella bywydau pobl Cymru nawr.
Mae ein haelodau yn ymwneud ag ymgyrchoedd amrywiol ar draws Cymru: yr iaith, hawliau tenantiaid, yn erbyn digartrefedd, yn erbyn militariaeth, y diwydiant carchardai a’r diwydiant niwclear, ymgyrchu amgylcheddol a llawer mwy. Mae aelodau Undod wedi dechrau ar y gwaith o wasanaethu addysg wleidyddol yng Nghymru yn barod, ac yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi dechrau cynnal grwpiau darllen asgell chwith a sesiynau trafod byw ar hyd a lled y wlad.
Yn ddiweddar, mae aelodau Undod yng Nghaerdydd wedi bod yn rhan o ymgyrch gwrth-foneddigeiddio yn erbyn Cyngor Caerdydd, yn helpu i dynnu ynghyd nifer o’r grwpiau ar draws Caerdydd sydd wedi eu heffeithio gan agenda datblygu neoryddfrydol arweinwyr y ddinas. Mewn ardaloedd mwy gwledig, mae ein haelodau wedi chwarae rôl ganolog yn ymgyrchu yn erbyn y bil amaeth niweidiol, ac yn rhan hanfodol o’r protestiadau ar draws Cymru llynedd.
Yn ystod yr argyfwng COVID-19 parhaus, mae ein haelodau wedi bod yn weithgar mewn grwpiau cymorth lleol ac wedi cydweithio gydag undebau llafur, grwpiau asgell chwith eraill a gweithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd i ddrafftio llythyr a arwyddwyd gan dros 1200 o weithwyr allweddol a helpodd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella safonau diogelwch o fewn y Gwasanaeth Iechyd. Roedd ein haelodau hefyd yn greiddiol i sicrhau PPE i weithwyr Cymru o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru.
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y math o waith rydym yn ei wneud, ac yn gobeithio ei wthio ymhellach yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae’n hanfodol bwysig bod y chwith yng Nghymru nid yn unig yn unedig, ond yn drefnus a gweithgar ac yn ymroddedig i wella amodau materol bywyd pobl yma gan ddechrau heddiw.
Ymunwch â ni
Credwn fod pawb, beth bynnag fo’u cefndir, yn gallu cyfrannu rhywbeth i’r mudiad. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi ymwneud â gwleidyddiaeth neu ymgyrchu o’r blaen – mae gennym ni gyd sgiliau amrywiol, cryfderau a phrofiadau gall fod yn ddefnyddiol iawn, hyd yn oed os nad ydynt yn ymddangos yn ‘wleidyddol’ yn y modd arferol. Rydym yn ymroddedig i fod yn fudiad democrataidd ac mae gan bob aelod yr hawl i ddweud eu dweud mewn cyfarfodydd rheolaidd.
Rydym yn cael ein noddi’n llwyr gan ein cefnogwyr a’n haelodau. Os ydych yn rhannu ein egwyddorion, ystyriwch roi cyfraniad misol i gronfa ymgyrchu Undod.