Y diwydiant ar dwf

Os ydych chi am ddeall y Gymru gyfoes – sut y mae’n cael ei llywodraethu, ei diwylliant gwleidyddol,  y lefel o barch a roddir i iawnderau dynol sylfaenol – dechreuwch  â’r ffeithiau am garcharu.

Yn ôl pob mesur, mae diwydiant carchardai Cymru yn ehangu. Ceir pum carchar yng Nghymru bellach: Brynbuga (a Prescoed), Caerdydd, Parc, Abertawe, ac, ers 2017, y Berwyn – y carchar mwyaf ym Mhrydain a’r ail fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Yn ystod y degawd diwethaf mae poblogaeth carchardai yng Nghymru wedi dyblu o tua 2,800 i dros 5,000 ynghynt eleni.

Mae llawer o’r twf o ganlyniad i agor Berwyn, ond hyd yn oed cyn i Berwyn agor fe dyfodd poblogaeth carchardai yng Nghymru 25% rhwng 2010 a 2016, yn groes i’r duedd ehangach yn y DG. Roedd cynllun i godi carchar enfawr ym Mhort Talbot, tan i wrthwynebiad lleol roi terfyn arno. Er hyn, mae ehangu’r ystad garchardai yng Nghymru yn parhau i fod yn rhan o bolisi llywodraeth y DG.

Rhwng carchar y Parc a gaiff ei redeg yn breifat, i’r cyflenwad lleol o garcharorion sydd mwy neu lai yn llafurwyr di-dal, mae carcharu yng Nghymru wedi darparu cyfleoedd proffidiol i rai. Croesawyd carchar y Berwyn gan bron â bod pob lefel o lywodraeth oherwydd yr addewid y byddai’n arwain at lewyrch economaidd lleol. Roedd Cyngor Wrecsam yn gyflym i nodi na fyddai ‘dim costau llafur neu rhai llawer is’ i fusnesau lleol, ac y byddai manteision hir dymor carchar newydd yn rhagori ar ‘amgylchiadau marchnad arferol, a’r cylchdro “boom and bust” sy’n bresennol ym myd busnes’.

Mae’r meddylfryd hwn yn adlewyrchu arferiad dyfnach a amlygwyd dros y degawdau diwethaf, lle ceisia llywodraethau Prydeinig briodi neoryddfrydiaeth â pholisiau sy’n gynyddol gosbol. Ers 1990, mae poblogaeth carchardai Cymru a Lloegr wedi dyblu, er mawr fudd i’r cwmniau preifat megis G4S, Serco a Sodexo sy’n eu rhedeg, ynghyd â chwmniau adeiladu megis Landlease a Kier. Ar ôl treulio’r ddegawd diwethaf yn gwanychu gwasanaethau cyhoeddus, mae’r Ceidwadwyr nawr yn addo creu 18,000 o lefydd mewn carchardai ar draws Cymru a Lloegr, rhoi dedfrydau hirach a lleihau’r nifer sy’n cael eu rhyddhau’n gynnar. Mae disgwyl i boblogaeth carchardai’r wladwriaeth Brydeinig gynyddu y tu hwnt i 100,000 yn y blynyddoedd i ddod.

Ac eto, tra bod y diwydiant carchardai yn cael ei ehangu’n ddiderfyn, mae’r cyfrifoldeb gwleidyddol ar gyfer yr amodau mewn carchardai yng Nghymru yn or-gymhleth ac ar chwâl – mwy felly nag yn unrhyw ran arall o’r DG. Mae Cymru fel ffurflywodraeth mewn cyflwr o interregnum. Mae’r carfannau cyferbyniol o undebaeth o fewn y Blaid Lafur a’r wladwriaeth Brydeinig ehangach wedi cynhyrchu senedd etholedig cenedlaethol sy’n wahanol i’r mwyafrif, gan ei bod wedi’i chyfyngu rhag deddfu ar ystod o bynciau eang sy’n ddirgelwch llwyr. Y Senedd sy’n gyfrifol am iechyd carcharorion, eu haddysg a’u lletya ymysg sawl cyfrifoldeb arall ond mae’r rhan helaeth o beirianwaith cyfiawnder troseddol – y llysoedd, yr ystad garchardai a’r rhan fwyaf o’r gyfraith droseddol – o dan orchwyl San Steffan. Mae atebolrwydd ar chwâl; ni ellir dwyn unrhyw ran penodol i gyfrif.

Yn waeth na hyn, byddai nifer o’r ffeithiau am garcharu yng Nghymru yn anhysbys heblaw am ymdrechion yr academydd, Dr. Robert Jones. Mawr yw ein dyled i’w ymdrechion yn y blynyddoedd diwethaf o ddadorchuddio gwybodaeth y byddai llawer iawn gwell gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder beidio â’i datgelu. Mae’i adroddiadau ar weithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru yn ddarllen hanfodol. Maent yn dangos system mewn argyfwng, lle mae maint y niwed a’r anghyfiawnder a ddatgelir ond yn cael ei ateb â dihidrwydd llwyr y rhan helaeth o’r dosbarth llywodraethol yn San Steffan.

Wrth i ddosbarthiad brechlyn Cofid-19 arwyddo dychwelyd yn araf tuag at ‘normalrwydd’, dylem fyfyfrio ar yr hyn y mae’r normalrwydd hyn yn ei olygu i’r rheiny sydd ym magl y system.

Methiant cyson

Mae nifer sy’n byw o fewn egin-wladwriaeth Cymru, drwy hap a damwain eu geni, yn llawer mwy tebygol o gael eu carcharu ar ryw bwynt yn eu bywydau. Cymru, yn aml, sy’n cofnodi’r cyfraddau garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop. O ystyried y cysylltiadau sy’n bodoli rhwng amddifadedd a throsedd, efallai na ddylem synnu gan fod un o bob pump oedolyn yn byw mewn tlodi yma.

Mae’r anghyfartaledd mewn carcharu o ran dosbarth a hil, serch hynny, yn gwbl amlwg. Os ydych yn dod o un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, rydych tua tair gwaith yn fwy tebygol o gael eich carcharu na’r rheiny sy’n dod o’r ardaloedd cyfoethocaf. Mae pobl o gefndiroedd Du, Asaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli’n anferthol o fewn poblogaeth y carchardai.

Mae pobl du chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu, tra bod grwpiau ethnig gwyn yn cael eu tangynrychioli ac yn derbyn dedfrydau llai ar gyfartaledd. Mae profiadau plentyndod andwyol yn ffactor cyffredin; mae nifer o garcharorion hefyd yn debygol o fod wedi bod mewn gofal tra’n blant, yn ddiwaith ac yn gaeth i gyffuriau a phroblemau iechyd meddwl ar amser eu dedfrydu.

Rhywbeth sy’n gwaethygu hyn oll, yw bod y system yn diystyrru teulu, tarddle, iaith ac hunaniaeth yn llwyr. Yn 2019, roedd mwy na thraean o’r 4,700 o garcharorion Cymru wedi’u lleoli yn Lloegr, wedi’u gwasgaru ar draws 100 o garchardai, tra bod carcharorion o Loegr yn llenwi bron i chwarter o boblogaeth y carchardai yng Nghymru. Yn y cyfamser, mae holl fenywod o Gymru sy’n garcharorion mewn carchardai yn Lloegr yn unig. Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn aml yn annigonol; ac ar ben hynny, ceir adroddiadau ar hyd a lled yr ystad garchardai o ymyrraeth ar gyfathrebu teuluol a chosbau am siarad Cymraeg.

Yna mae’r mater o ddiogelwch, neu’r diffyg diogelwch. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y nifer sy’n camddefnyddio cyffuriau ac yn hunan-niweidio, a chynnydd mewn ymosodiadau a hunan-laddiadau.

Er i Berwyn gael ei groesawu fel un o’r carchardai mwyaf blaengar, mae’n un sydd â’r lefelau gwaethaf o drais ymysg y carchardai yng Nghymru. Yn rhannau o’r ystad garchardai Saesnig lle mae menywod Cymru yn cael eu dal, mae menywod beichiog wedi cael eu gadael ar esgor heb sylw meddygol, sydd wedi arwain at ganlyniadau trychinebus. Hyd yn oed yn dilyn marwolaeth, yn aml fe anwybyddir unrhyw argymhellion ar gyfer gwella diogelwch carchardai.

Mae dyfodiad Cofid-19 wedi gwaethygu’r amodau ymhellach. Mae carchardai Cymru wedi wynebu rhai o’r lefelau uchaf o’r feirws; ym mis Mehefin, roedd un pumed o’r holl achosion ar draws Cymru a Lloegr yng ngharchardai Cymru, er mai dim ond 6% o boblogaeth y carchardai cyfan sydd yng Nghymru.

Er bod y feirws wedi amlygu peryglon amlwg carchardai gorlawn, nid yw llywodraeth y DG wedi rhyddhau dim ond ffracsiwn o boblogaeth ‘risg isel’ y carchardai. Mae carchardai Cymru yn parhau i fod yn orlawn ac mae nifer o’r carcharorion wedi’u cyfyngu i’w cell am 23 awr y diwrnod – sydd o bosibl yn torri rhwymedigaethau iawnderau dynol y wladwriaeth. Ymhellach, mae ymweliadau teuluol wedi eu gohirio. O ganlyniad, mae trais a hunan-niweidio yn cynyddu hyd yn oed yn fwy, ac mae rhybuddion clir o ‘niwed anadferadwy’ i iechyd meddwl carcharorion. Mae Donna Wall, sydd â’i mab wedi’i garcharu ar ddedfryd canolradd yn Swydd Caerlyr, wedi lleisio ei phryderon:

Dwi heb gael ei weld ers cyfnod clo’r coronafeirws, a’r tro diwethaf i mi ei weld oedd wyth mis yn ôl. Mae o yn ei gell am y mwyafrif o’r dydd a dyw e ddim hyd yn oed yn mynd mas i wneud ymarfer corff felly beth mae hynny yn ei wneud iddo? Ac mae o dal yn ei gell. Dydyn nhw ddim yn addysgu na dim, felly mae’n rhaid ei fod e’n artaith iddo.

Mae’r system yn gweithio law yn llaw ag argyfwng tai difrifol yng Nghymru, sy’n tywys pobl ar hyd y llwybr o’r carchar i’r strydoedd ac yn amlach na pheidio yn ôl i’r carchar. Datgelodd ymchwil Dr. Jones sut mae cannoedd o bobl yn cael eu rhyddhau er nad oes ganddynt gyfeiriad pendant i fynd iddo: mae hyn yn digwydd i tua 6 person yr wythnos yng Nghaerdydd. Dilyna hyn benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r flaenoriaeth o sicrhau llety i’r rhai sy’n gadael carchar o dan y Ddeddf Dai (Cymru) 2014. Fel y dywed un cyn-garcharor, mae’r rhai sy’n gadael y carchar yn cael eu ‘taflu allan o’r drws’ i bob pwrpas. Mae’r mwyafrif yn parhau i fod yn ddiwaith ar ôl cael eu rhyddhau ac yn gorfod delio â’r stigma a’r rhagfarn barhaol yn eu herbyn oherwydd eu statws.

Mae cyffredinolrwydd ymddangosiadol yr hyn a wneir i garcharion tra maent yng ngofal y wladwriaeth yn adlewyrchu eu safle gwbl ymylol fel dosbarth o fewn cymdeithas Cymru a Phrydain. Mae hefyd yn tanlinellu absenoldeb enbyd atebolrwydd sydd wedi’i ysgogi gan system lle mae ymraniad cyfrifoldebau gwleidyddol yn hollol ddisynnwyr. Mae carcharorion wedi cael eu difreinio, ac mae’r pleidiau gwleidyddol pennaf yn ceisio dawnsio i alaw ddialgar a hunanol cyfryngau sy’n eiddo i filiwnyddion – bob un yn helpu i gynnal ac ehangu yr ystad garchardai fel yr ydym yn ei hadnabod.

Tu hwnt i’r carcharu

Nid oes dim yn anochel am yr hyn sy’n digwydd. Fel y dadleua Loic Wacquant:

Nid yw troi am gymorth i beirianwaith carchardai mewn cymunedau blaengar yn anochel, ond yn fater o ddewisiadau gwleidyddol, a dylai’r dewisiadau hyn gael eu gwneud gyda gwybodaeth llawn o’r ffeithiau a’u canlyniadau.

Tra bod olyniaeth llywodraethau’r DG wedi dewis poblyddiaeth cosbol, difaterwch, torri costau a chreu elw – gan hyrwyddo carcharu’n bwrpasol fel nodwedd barhaus o’r system economaidd a chymdeithasol – mae llefydd o gwmpas y byd wedi llwyddo i leihau eu cyfraddau carcharu gydag amryw o gamau amgen. Mae’r Ffindir yn benodol wedi mynd o gael un o’r cyfraddau uchaf yn Ewrop i un o’r rhai isaf drwy gydosod dulliau’n seiliedig ar dystiolaeth â pholisi cymdeithasol ehangach sy’n canolbwyntio ar leihau annhegwch a chryfhau gwasanaethau cymdeithasol.

I Gymru, gyda chyn lleied o’r cyfarpar anghenrheidiol ar gael, mae’n rhaid i’r dasg gyntaf fod yn un amddiffynnol: atal unrhyw ymestyniad pellach o’r diwydiant dinistriol hwn. Nid yw Llywodraeth Cymru yn hollol ddi-rym yma. Dylid sicrhau ei bod yn cadw at eu haddewid i beidio hwyluso mwy o garchardai. Dylai ail gyflwyno blaenoriaethau llety i’r rheiny sy’n gadael y carchar er mwyn atal y cylchdro o garcharu a digartrefedd. Gellid mynd ymhellach a rhoi’r bleidlais i garcharorion mewn etholiadau yng Nghymru, gan roi llais angenrheidiol iddynt, a gwneud yr hawl i lety yn hawl hanfodol.

Os yw Cymru am symud y tu hwnt i’r carcharu, fodd bynnag, fel y mae Undod yn ei ddadlau, byddai’n rhaid i strwythurau gwladwriaethol newid yn ddramatig. Byddai datganoli cyfiawnder neu wladwriaeth Gymraeg newydd, yn darparu’r cyfleoedd angenrheidiol i gael gwared ar fethiannau’r system bresennol.

Ni fydd Cymreictod newydd anedig o reidrwydd yn gwneud yr ystad garchardai yn llai annioddefol, serch hyn. Yn wir, un risg yw y byddai mwy o reolaeth wleidyddol yng Nghymru o fewn y wladwriaeth bresennol yn helpu i ddilysu’r diwydiant carchardai yma, gydag ychydig iawn yn cael ei wneud i’w herio. Dylem hefyd gwestiynu pa mor wahanol y gall system o’r fath weithredu o gymharu â’r un presennol, yn enwedig os yw’r lifrau economaidd mawr yn cael eu hatal a bod Cymru yn parhau o dan hegemoni plaid wleidyddol a oruchwyliodd cynnydd fwyfwy mewn carcharu, carcharu heb brawf, carcharu er diogelwch cyhoeddus, ac yn fwy diweddar, a hwylusodd greu carchar y Berwyn.

Yn gryno, nid yw newid cyfansoddiadol yn ddigon. Fel y nododd Gareth Leaman yn ddiweddar mewn traethawd grymus, os oes newid diwyllianol gwerth chweil am ymddangos o’r pandemig ‘…rhaid iddo gymryd ffurf sydd yn mynd y tu hwnt i ymwrthodiad syml o Brydeindod er mwyn creu ‘Cymreictod’ sydd yn wleidyddol arwyddocaol.’ I’r perwyl hwnnw, dylid herio normaleiddio carcharu ynghyd â’r uniongrededd neoryddfrydol y ffynna ynddo. Fel y dywedodd Angela Davies, y dasg yw i ‘ddychmygu clwstwr o strategaethau a sefydliadau amgen â’r nod pennaf o waredu’r carchar o dirlun cymdeithasol ac ideolegol ein cymdeithas’.

Yr uchelgais a ddylai fod yw sicrhau mai Berwyn yw’r olaf o’i fath yng Nghymru. Os na ellir ei ailbwrpasu ar gyfer dibenion cymdeithasol gwell neu ei ddinistrio’n llwyr, dylem obeithio y bydd unrhyw adfeilion sy’n weddill o sefydliadau o’r fath fodoli fel cofeb yn unig i’n rhybuddio o greulondeb yr oes a fu.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.