Mae sylw mawr wedi bod yn ddiweddar ar y nifer o aelodau sydd wedi ymuno â’r mudiad annibyniaeth yma yng  Nghymru. Mae YesCymru wedi bod wrthi’n ddyfal yn cyfrif y nifer cynyddol o aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn wir mae’r ffigyrau’n drawiadol iawn: mae’r aelodaeth wedi cynyddu o tua 2,500 ar ddechrau’r flwyddyn i dros 16,000, sy’n golygu mai YesCymru yw’r ail sefydliad gwleidyddol mwyaf yng Nghymru o’u cymharu trwy’r mesurau arferol.

Nid anodd yw egluro’r twf digynsail yma: mae dulliau gwahanol cenhedloedd datganoledig y DU o sut i fynd i’r afael â Choronafirws wedi cynnig cipolwg o’r posibiliadau gwleidyddol sy’n bodoli pan gaiff gwledydd eu rhyddhau o lywodraethiant llipa San Steffan. Yn bwysicaf oll, mae wedi rhoi hyder i bobl bod delfryd o’r fath yn werth ymladd drosti.

Ac eto, tu hwnt i’r don hon o frwdfrydedd, a’r gwaith gwych y mae YesCymru wedi’i wneud i normaleiddio’r syniad o annibyniaeth, erys ychydig o gwestiynau allweddol sydd eto i’w hateb yn llawn. Yn bennaf oll, beth nawr? Sut mae mudiad yn troi ei haelodau newydd i fewn i ymgyrchwyr gwleidyddol? Beth all aelodau’r mudiad ei wneud go iawn, y tu hwnt i roi eu henw (a’u harian) i gefnogi’r achos?

Debyg iawn bod rhain yn gwestiynau rydym yn eu gofyn yn Undod hefyd, ac yn wir maent yn gwestiynau y bydd rhai nad sy’n aelodau yn gofyn ohonom yn ogystal. O siarad â’n haelodau, mae’n ymddangos mai cwestiwn arall a ofynwyd yn aml yw: ‘Pam ymuno ag Undod, pan allech chi ymuno â YesCymru?’

Dylai’r ateb fod yn glir: rydym am anelu y tu hwnt i ymgyrchu dros refferendwm ar annibyniaeth, ac ymhellach na phlannu hadau ‘indycuriosity’ ymhlith cyfran ehangach fyth o boblogaeth Cymru. Mae’r rhain yn brosiectau sy’n cael eu harwain yn fedrus gan YesCymru yn ogystal â sefydliadau eraill, a gallwn gynnig cymorth iddynt.

Yn ein tro, mae gennym y rhyddid i drafod y materion materol rydym ni, fel mudiad eang ac unedig i’r chwith, yn eu hadnabod fel y rhai sydd yn gyrru’r awydd hwn am wladwriaeth Gymreig annibynnol: y galw i ddarparu tai addas, i adennill ein strydoedd, i amddiffyn pawb sy’n dewis galw’r wlad hon yn gartref, ac yn y blaen. Nid oes angen aros am Gymru annibynnol er mwyn ymladd dros yr achosion hyn: gallwn ddechrau’r gwaith nawr, drwy weithredu yn ein cymunedau ni.

Mae llawer ohonom eisoes yn gwneud hyn mewn sawl modd, ond trwy Undod rydym yn dod â’r llu cyfoethog o ymgyrchu asgell-chwith yng Nghymru ynghyd i greu ffrynt poblogaidd go iawn. Y cam nesaf yw sicrhau bod yr ymgais yma yn un ystyrlon, drwy ddatblygu ein strategaeth ar y cyd i sicrhau bod llais y chwith Gymreig sy’n cefnogi annibyniaeth yn cael ei glywed. Dyna beth y byddwn ni’n gweithio arno, gyda’n gilydd, yn ystod y flwyddyn newydd hon.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.