Bydd llwyfannu ‘adroddiant adferiad’ (‘recovery narrative’) ôl-bandemig yng Nghymru – trwy ddathliad a esgorwyd arni gan ‘ryfel diwylliant’ Brexit – yn wrthddywediad llwyr, meddai Frances Williams.

Yn hytrach na chydweithrediad rhyngwladol, ysgogi adroddiannau cenedlaetholgar ymosodol a wnaeth 2020, blwyddyn y pandemig.  Roedd disgrifiad o’r firws fel corff estron wedi arwain at gyfres o ddigwyddiadau yn y Deyrnas Gyfunol (DG) oedd yn atgyfodi buddugoliaethau milwrol dros hen elynion o Ewrop a’r Dwyrain Pell. Fe’u llwyfannwyd gyda’r pwrpas honedig o godi hwyliau pobl,  ac roedd dathliadau coffa’r Ail Ryfel Byd, diwrnodau VE a VJ fel ei gilydd, yn fwy nag erioed – er gwaetha’r cyfyngiadau cloi a mesurau pellhau cymdeithasol a oedd ar waith ar y pryd.  ‘Cawn gwrdd unwaith eto’ oedd sylw parod y Frenhines.

Annhebyg y bydd digwyddiadau o’r fath yn diflannu yn 2021 ond – fel y firws ei hun –  gallant newid eu ffurf.  Fel rhan o ymateb di-droi-nôl Llywodraeth ‘Prydeinllyd’ a ‘Mawr’ i’r pandemig, ymddengys y bydd ‘Cymreictod’ am gael ei ail-bwrpasi er budd gwleidyddol, gan ddefnyddio ‘pŵer meddal’ perswadiol, diwylliannol.

Isod, rwy’n mapio rhai o’r strategaethau a’r tactegau sydd ar waith er mwyn siapio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu Gymraes yng nghyd-destun cyfredol ‘cenedlaetholdeb Covid’ – wedi’i gynhyrfu o’r newydd gan anghydraddoldebau cymdeithasol, iechyd ac economaidd.

Mae’r dull cymhellol a fabwysiadwyd gan lywodraeth Johnson, un sy’n benderfynol o gynnal rheolaeth ganolog, wedi ei gymeradwyo gyda chydsyniad tawel Lywodraeth ‘cyfeillgar’ Lafur Cymru. Dadleuaf bod ffurfiau tebyg (yn hytrach na gwahanol) o economi wleidyddol a llywodraethu yn cynhyrchu sgil-effeithiau tebyg, niweidiol.  Mae’r Llywodraethau yn ymorol? am gymorth sefydliadau diwylliannol yng Nghymru a Lloegr er mwyn chwarae eu rhan mewn ‘rhyfel diwylliant’ cynhennus.

Ail-bwrpasu hanes Cymru

Rhoddwyd sylw neilltuol yn 2020 i arwyr ac arwresau Cymru, er enghraifft, gan yr Amgueddfa Meddygaeth Filwrol. Dewisodd dynnu sylw, trwy drydariad animeiddiedig, at fywyd Betsi Cadwaladr.  Caiff ei disgrifio’n aml fel y ‘Welsh Florence Nightingale’, ac mae ei henw yn gyfarwydd i’r mwyafrif o bobl oherwydd ei ddefnydd gan Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru.  Tra gall yr epithed ymddangos fel anrhydedd, mae’r gymhariaeth yn fwy amwys.  Yn ystod Rhyfel y Crimea, bu ffrae rhwng Cadwaladr, y ferch ddosbarth gweithiol, a’r pendefig Nightingale yr oedd yn anghytuno â hi, ac nid oedd hi’n ufuddhau i’w gorchmynion.

Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae’r amgueddfa wedi mabwysiadu Cadwaladr fel un o’i harwyr: menyw ddigon ‘gwych’ i haeddu ei lle yn ‘hanes meddygol milwrol’.  Mae’r term hybrid hwn ynddo’i hun yn enghraifft o efeillio bwriadol – plethiad sy’n cynnig gwybodaeth feddygol fel atodiad eilaidd i’r mater o gynnal cyfreithlondeb rhyfel.  Dyma feddygaeth megis balm moesegol, ei grym yn ymestyn y tu hwnt i atgyweirio corfforol, gan ryddhau’r gydwybod gythryblus.

Ysgogwyd dewis yr Amgueddfa i dynnu sylw at ffigurau hanesyddol Cymru – yn cynnwys Cadwaladr – gan y bwriad i ehangu ac ail-leoli o Aldershot yn Surrey i Fae Caerdydd yn 2022. Fel y nodwyd mewn llawer i hysbys blaenorol gan Undod, mae’r datblygiad hwn wedi’i wrthwynebu gan lawer ym mhrifddinas Cymru, am amryw resymau.  Ymysg y corws o wrthwynebiad roedd cwynion gan bobl sy’n byw yn Nhrebiwt, sy’n gartref i rai o’r cymunedau diaspora hynaf yng Nghymru. Trydarodd un cerddor awgrym amgen: gallai ‘Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt’ ddathlu ‘bywydau a gwaith pobl yr ardal, yn hytrach na mawrygu marwolaeth a dinistr.’

Llwyddodd yr ymgyrch gyhoeddus yn erbyn yr Amgueddfa ar y safle newydd hwn orfodi newid yn y negeseuon cyhoeddus. Bellach mae’r sawl sydd wrth y llyw yn honni y bydd arddangosfeydd yn ‘adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol Bae Caerdydd fel porthladd.’ Awgrymwyd addasu pellach gyda’r syniad o Amgueddfa Cerddoriaeth y Fyddin fel modd o leddfu ar nodau cras yr anghydweld.  Mae’r Amgueddfa wedi cyflogi’r asiantaeth hysbysebu, Isobel, i helpu gyda brandio a chodi arian yn y dyfodol.  Aneglur ydyw faint o arian sydd wedi’i wario ar y gwaith cysylltiadau cyhoeddus yma, ond o gymryd cipolwg ar wefan Isobel, debyg y bydd y costau yn cyrraedd y degau o filoedd.

 

Ymgyrch ehangach

Mae modd ystyried yr anghydfod lleol hwn am hanesion dosbarth, hil, hawl a pherthyn fel rhan o ymgyrch ehangach sy’n cael ei hwyluso gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Er bod Whitehall yn helpu ariannu – gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi yn cyfrannu hyd at ddwy filiwn o bunnoedd ar gyfer cartref newydd – cefnogir yr Amgueddfa arfaethedig gan Gyngor Dinas Caerdydd, sy’n awyddus i ‘ddenu buddsoddiad’. Mae’r Cyngor wedi pwysleisio effaith lleddfol Amgueddfa sy’n rhoi blaenoriaeth i hanes meddygol, dros yr elfen filwrol.  Ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, mewn llythrennau bras i bwysleisio’r pwynt hwn: ‘Gadewch imi fod yn eglur, Amgueddfa MEDDYGAETH Milwrol ydyw.  Gallaf ddeall pam y gallai pobl wrthwynebu amgueddfa sy’n mawrygu rhyfel, ond nid wyf yn siŵr bod amgueddfa sydd ag arddangosfeydd megis cerbyd Florence Nightingale, offer deintyddol a milfeddygol, a mintai diweddar i frwydro Ebola yn gwneud hynny.’

Mae’r cyferbyniad hwn hefyd wedi’i derbyn yn ddi-gwestiwn gan sylwebyddion eraill sy’n mynnu nad ‘Nid yw’r prif bwrpas yw ymwneud â chymryd bywydau, ond yn hytrach eu hachub’.

Digwyddiad diwylliannol arall sy’n edrych yn debyg o gyfrannu at strategaeth o ddrysni twyllodrus yw ‘Festival UK’, wedi’i glustnodi ar gyfer 2022, gyda chynigion cychwynnol yn cael eu datblygu yn 2021. Dyrannwyd y swm o 120 miliwn gan Theresa May yn 2018, ac yn fuan fe gafodd ei fedyddio’n ‘Ŵyl Brexit’ gan y beirniaid.  Cafodd y syniad ei awgrymu yn y flwyddyn yr oedd May yn gobeithio sicrhau cytundeb Brexit, a hithau’n llai na chynnil yn ei gobaith y byddai’r ŵyl yn ‘cryfhau ein hundeb werthfawr’.  Penodwyd cyn Meistr y Seremonïau ar gyfer y Gemau Olympaidd, Martin Green, i guradu’r Ŵyl yn 2019. Yna cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Nicky Morgan, ei fod yn ‘Gyfle gwych i hyrwyddo pob dim sy’n arbennig am y DG’.  Byddai ‘nid yn unig yn dathlu ein gwerthoedd a’n hunaniaethau,’ meddai ond ‘yn helpu i ddenu busnes a buddsoddiad newydd.’ Mae rhesymeg economaidd, gyda defnydd o eiriad penodol, yn cael eu cyflwyno i gefnogi’r Amgueddfa Meddygaeth Filwrol a Gŵyl y DG fel ei gilydd.

Mae’r dull hwn yn fath newydd o undebaeth gymhellol a rheolaethol sydd yn cael ei amlygu gan yr ymdrechion i wrthwynebu mudiadau annibyniaeth ymledol yr Alban a Chymru (a rheiny yng ngogledd Iwerddon sy’n cefnogi Iwerddon unedig).  Mae’r pandemig wedi ysgogi’r mudiadau hyn ymhellach.  Mae ‘uned i’r undeb’ o fewn rhif 10 Downing Street bellach wedi’i neilltuo i’w tanseilio, gan ofyn am stamp Jac yr Undeb fel dyfais frandio ar frechlyn Rhydychen (yn ôl adroddiadau’r papurau newydd fis Tachwedd diwethaf.)

Mae “Undebaeth 2.0” yn coleddu gorffennol trefedigaethol Prydain fel etifeddiaeth gadarnhaol, gyda gwirioneddau anghyfleus yn cael eu gwadu.  Unwaith eto, mae ‘Prydain Fawr’ yn cael ei byddino fel brand mewn marchnad fyd-eang, fel rhan o’r hyn y mae rhai’n awgrymu yw ymgais wirioneddol – os lledrithiol – i lansio yn ogystal “Ymerodraeth 2.0”.  Mae’r hen gyfeillgarwch â chyn-drefedigaethau (gwyn) Prydain yn cael eu hadfywio gyda’r gobaith o gytundebau masnach newydd, trwy gynghreiriau megis ‘anzuk’ (Canada, Awstralia, Seland Newydd).  Yn y cyfamser, nôl yn y DG, mae bil y farchnad fewnol yn clymu pedair gwlad mewn un economi wleidyddol, gan adael y setliad datganoledig yn deilchion (ymddengys nad oedd wedi ‘setlo’ wedi’r cyfan, ac yn bellach yn cael ei ystyried gan Johnson yn ‘drychineb’).

Ymhellach, ceisiodd Johnson achub y blaen ar unrhyw archwiliad o orffennol imperialaidd Prydain yn ystod blwyddyn a welodd ffrwydrad o brotestiadau Black Lives Matter ar lefel byd-eang.  Yn y modd yma gellir darlledu’r gân werin Gymraeg, Ar Lan y Môr o Ddinbych-y-pysgod fel rhan o noson olaf y Proms, ochr yn ochr â pherfformwyr dan bwysau (gan y BBC, sydd ei hunan dan warchae) i ganu geiriau Rule Britannia.  ‘Rwy’n credu ei bod hi’n hen bryd inni roi’r gorau i unrhyw embaras ymgreiniol am ein hanes, ein traddodiadau, a’n diwylliant,’ barnodd Johnson wrth iddo gamu mewn i’r gyflafan yn y cyfryngau.  Condemniodd unrhyw fyfyrio ar hanesion trefedigaethol y gorffennol fel gweithred niweidiol – math ar ‘hunan-edliw’ diangen.  Yn wir, roedd ailasesiad hanesyddol yn arwydd o wendid a ‘wetness’ (gan ail-bwrpasu term Thatcher ar gyfer y rhai yn ei chabinet nad oedd yn rhannu ei phendantrwydd Monetaraidd).

 

Niwed nid Iachâd

Wedi ymhel gyda’r sawl sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yng Nghymru – yn enwedig y rhai sy’n gwrthod y dull atchweliadol (regressive) hwn – nid mater ymylol yw diwylliant, o safbwynt y gêm galed o wleidyddiaeth ‘go iawn’.  Yn hytrach mae’n eistedd wrth galon ymgyrch propaganda sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gyflyru’r farn gyhoeddus (er yn gudd a heb ei gydnabod fel y cyfryw).  Y tu hwnt i ganiatáu ailstrwythuro cyllid celfyddydau yng Nghymru gyda gogwydd penodol, mae strategaethau o’r fath yn mynd at galon y cwestiwn o bwy sy’n berchen ‘gemau’r goron’ – term dadlennol yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden ar gyfer y sefydliadau hynny sydd werth eu hachub: ‘Wyddoch chi, y Royal Albert Halls ac ati.’

Mae gwefan ddwyieithog Festival UK yn ymfalchïo mewn gwerthoedd Prydeinig: ‘agored, gwreiddiol, optimistaidd’.

Ceir croeso cynnes i ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys y Gymraeg, o fewn Undebaeth 2.0, sy’n defnyddio pwysau economaidd – a llwgrwobrwyo amlwg – er mwyn sicrhau bod artistiaid tlawd a sefydliadau celfyddydol yn parhau mewn cardod yn hytrach na chael gafael ar eu ffawd.  Gellir ei ystyried yn gynllun bwriadol i ddistewi lleisiau trafferthus a fyddai fel arall yn ceisio hwyluso myfyrio beirniadol neu foesegol ar anghyfiawnderau’r gorffennol, a thywyllu unrhyw oleuni maent yn ei daflu ar anghyfiawnderau sy’n parhau yn y presennol. Cyplysir ansicrwydd ariannol â bygythiad uniongyrchol – tacteg y moron a’r ffyn.  Mae’r pwysau hyn yn ‘rhaeadru’ trwy haenau llywodraeth – ac yn ymledu ar draws teyrngarwch gwleidyddol plaid – i drwytho normau cymdeithasol.

Roedd Green ei hun yn ddigon hirben i gyfaddef mewn cyfweliad â’r Guardian ym mis Ionawr 2020 y bydd yn ‘her fawr ennill cefnogaeth y sawl sydd yn amheus yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru’ (y sawl a gyfeiriwyd ati’n ddiweddarach fel ‘killjoys’ a ‘snarks’ gan feirniaid).  Parhaodd Boris Johnson gyda’r bwriad o glustnodi’r arian ar gyfer yr Ŵyl arfaethedig hon, er gwaethaf y

pwysau cyllidol a achoswyd gan y pandemig, a thrwy wneud hynny, cynnal ei adroddiant optimistaidd o’r ‘ucheldir heulog’.  Bellach talfyrrwyd enw’r ŵyl i’r acronym, F UK * 2022, sef ‘teitl arfaethedig’ eto i’w gadarnhau (i’w newid, yn ddi-os, yn ôl yr hyn y mae digwyddiadau yn ei bennu).

 

Gyda’n Gilydd?

Ers dyfodiad y pandemig, mae Green wedi gweld cyfle addasu’r ffocws tuag at ‘fframio adroddiant iachaol’ trwy F UK * 2022, gan ‘ddod â phobl ynghyd’ trwy ddiwylliant.  Heb os, y mae’r grŵp o bobl yr awgrymir sydd angen eu dwyn ynghyd yn un sylweddol –  ‘cynhwysol’ mewn ystyr absoliwt.  Yn ôl ei ganfyddiad ef, mae Green eisiau i’r ŵyl gyffwrdd â bywydau ‘66 miliwn o bobl ’(h.y. pawb sy’n byw yn y DU).

‘Ni fydd yn dwyn pobl ynghyd’ meddai’r artist Stephen Pritchard gan wfftio honiad Green.  Mae Pritchard, ymchwilydd ac ymgyrchydd sy’n byw yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad dros ddemocratiaeth ddiwylliannol.  Mae’r mudiad hwn ‘yn cydnabod bod 2020 yn drobwynt yn y modd y mae diwylliant yn ei ystyr ehangaf yn cael ei ddeall, ei gefnogi a’i lywodraethu, ledled y DG.’

Fel Green, mae Pritchard yn ymhel â gwyliau diwylliant ar sail profiad yn y maes, ond bod hynny wedi ymwneud â gwrthwynebiad, yn hytrach na chefnogaeth.

Pan roddodd George Osbourne bum miliwn o bunnoedd tuag at Arddangosfa Fawr o’r Gogledd, bu Pritchard yn gwrthwynebu oherwydd nawdd BAE Systems.  Byddai hyn wedi golygu defnyddio elw a enillwyd trwy werthiant arfau proffidiol i Saudi Arabia i ariannu’r digwyddiad diwylliannol ‘pŵer meddal’ hwn.  Cynhaliodd boicot llwyddiannus, a arweiniodd at BAE yn ildio eu lle fel noddwr  oherwydd y pwysau cyhoeddus.  Ystyrir F UK * 22 gan Pritchard fel y diweddaraf mewn cyfres o fentrau rhanbarthol a grëwyd er mwyn dwyn i gof ‘gogoniant’ Ymerodrol y gorffennol – gyda’r bwriad o hyrwyddo masnach y dyfodol, yn seiliedig ar gytundebau anfoesol.  Ar ôl clywed am F UK * 2022, seiniodd Pritchard rybudd cynnar ynghylch bwriad y prosiect, i rheiny yn y cenhedloedd datganoledig: ‘Oni all y cenhedloedd datganoledig weld bod hwn yn brosiect Torïaidd cynhennus sy’n ceisio adfywio undebaeth yn sgil #Brexit?’

Ond mae F UK * 2022 yn derbyn cefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru.  Mae Gerwyn Evans wedi’i benodi i weithio o dan y teitl Pennaeth Rhaglenni i ‘Creative Wales’.  Derbyniodd cymeradwyaeth yn ogystal gan yr Arglwydd Elis-Thomas yn ei rôl fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.  ‘Rwyf wedi cyffroi’n lan gan gyfle arall i godi proffil rhyngwladol Cymru fel cenedl fach greadigol, yn llawn dop gyda phobl dalentog a chyfeillgar, ar lwyfan y byd’.

Pery Elis-Thomas yn y modd gwenieithus hwn, gan adnabod dim ond ‘pobl gyfeillgar’ yn hytrach na gelyn estron, firaol neu fel arall: ‘Mae Coronavirus wedi gosod heriau enfawr a digynsail ar wead ein bywyd cyffredin yng Nghymru, yn yr un modd a’n ffrindiau ledled y DU, ac rydym yn cymeradwyo’r gwytnwch a’r creadigrwydd sydd wedi eu harddangos hyd yn hyn.  Mae’r ŵyl hon yn gyfle euraidd i’n meddyliau creadigol sy’n brysur flodeuo i ffynnu ymhellach wedi’r pandemig, ac arddangos ein talent i’r byd unwaith eto.’

 

Y Faneg Felfed

Awgrymwyd y ddeinameg pŵer sydd ar waith rhwng Cymru a Lloegr mewn perthynas â pholisi diwylliannol, trwy adroddiad yn manylu ar ymyrraeth gyhoeddus fygythiol gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, mis diwethaf. Cymerodd Oliver Dowden y cam o wrthwynebu’n n bersonol i ddatblygiad o fewn Amgueddfa’r Cartref, yn Hackney (fel Trebiwt, ardal sydd â phoblogaeth ethnig amrywiol).  Pan benderfynodd yr Amgueddfa cael gwared ar gerflun o’r perchennog caethweision Robert Geffre o’u hadeilad, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, dywedwyd wrthynt yn ddi-flewyn ar dafod mai nad ‘gwaredu cerfluniau, gwaith celf a gwrthrychau hanesyddol eraill mo’r ateb cywir.’  Teimlai Cyfarwyddwr yr Amgueddfa ei bod ‘dan fygythiad’ gan y gwaharddiad hwn.  Roedd y ‘dethol’ cyhoeddus yma wedi arwain at gamdriniaeth o’r staff yr amgueddfa ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ystod yr hyn a gyfaddefodd oedd yn bennod ‘trawmatig’.  Hyd yn hyn, erys y cerflun.

Wrth ysgrifennu am y digwyddiad hwn mewn papur newydd cenedlaethol, disgrifiodd un Athro Prifysgol yr ymreolaeth sydd yn eiddo i’r Cyngor Celfyddydau Lloegr trwy addasiad o drosiad enwog ‘hyd fraich’ Maynard Keynes. Yn yr achos hwn, fe gasglodd bod y pellter hwnnw’n agosach at ‘hyd figwrn’ (knuckle length).  Aeth yn ei flaen i amlygu’r ‘cyferbyniad’ yn agwedd y cenhedloedd datganoledig, sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i fynd i’r afael ag enghreifftiau o fynegiant trefedigaethol y gorffennol.

Do, fe gyhoeddodd Mark Drakeford adolygiad o gerfluniau trefedigaethol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd).  Ond mae gafael Llywodraeth Cymru ar gyllid cyhoeddus i’w teimlo y tu ôl i ddatganiadau cyhoeddus o’r math o fwriad (da) yn y celfyddydau.  Ceir awgrym bod y ‘migwrn’ yn cael ei deimlo yng Nghymru hefyd, er efallai ei fod wedi’i wisgo mewn melfed.  Cafodd Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor stŵr, er enghraifft, gan yr Is-Ganghellor am wrthwynebu codi cerflun i anrhydeddu HM Stanley yn Ninbych yn 2011 – ac eto yn 2020, pan wnaed galwadau pellach i’w symud.  Mae Selwyn Williams yn tybio bod ‘rheolau buddion masnachol cul’ ​​ymhlyg yn y cerydd a dderbyniodd am fod yn rhy ‘wleidyddol’.  Mae artistiaid, curaduron ac ymchwilwyr eraill yn son am atal tebyg, ond maent yn ‘amharod i fynd ar goedd’ – awgrym ynddo’i hun o ‘shifft’ yn ‘niwylliant diwylliant’.

Hyrwyddwyd F UK * 2022 gan un aelod o’r Cyngor Celfyddydau (CCC)  fel ‘cyfle diddorol’ i sefydliadau celfyddydol Cymru.  Wrth siarad mewn fforwm caeedig, fe gydnabuwyd ganddynt fod yr enw Gŵyl Brexit yn un sy’n debygol o fod yn ‘gusan angau’ i unrhyw ddathliad a gynhelir gan sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.  Fodd bynnag, ceisiwyd tawelu meddyliau’r sawl a oedd yn bresennol mewn fforwm zoom, bod y prosiect bellach yn ‘wirioneddol annibynnol’ er gwaethaf ei darddiad.  Anogwyd sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i geisio am arian ymchwil a datblygu sylweddoli ar y sail y ffaith bydd ‘o leiaf un o’r deg prosiect olaf yn sicr o ddod o Gymru’.  Fe wnaethant ychwanegu, heb fawr o eironi: ‘Yn ​​sicr nid mater i’r Cyngor i’w drefnu na saernïo mohoni.  Mae angen i ni gadw draw… ’

Mae amnaid ac amrantiad o’r fath yn nodwedd gyffredin o fywyd yng Nghymru lle mae rhwydweithiau proffesiynol a rhwydweithiau o gyfeillgarwch yn aml yn fwy agos atoch na’r rhai yn Lloegr.  Ond ni ddylai trefn gysurus o’r fath ein dallu rhag gweld y modd y mae pŵer yn symud trwy haenau llywodraeth, trwy werthoedd normadol neoryddfrydol, i lawr i gyrff anllywodraethol ‘annibynnol’, i bocedi sefydliadau celfyddydol a chodau unigolion (lle mae’r wobr ariannol yn cyrraedd, os cyrraedd o gwbl, fel arian man).

 

Y ‘Art Wash’ mwyaf erioed

Nid pob artist na sefydliad celfyddydol yng Nghymru sy’n fud ar bwyntiau o’r fath, nac yn cael eu perswadio gan frolio’r Arglwydd Elis-Thomas.  Mae Rhiannon White, Cyfarwyddwr Theatr Common Wealth, sydd yn uchel ei pharch, yn gwreiddio ei harfer diwylliannol yng nghyd-destun ei chefndir dosbarth gweithiol Cymreig a’i gwerthoedd sosialaidd.  Yn gefnogwr i Pritchard, mae hi hefyd yn angerddol dros ddemocratiaeth ddiwylliannol.  Y gred hon sydd wedi ei harwain i ffwrdd o’r llwyfan i greu dramâu – yn hytrach na dim ond eu ‘gosod’ – ymhlith profiad byw cymunedau dosbarth gweithiol Cymru.  Wrth siarad yn uniongyrchol ag Undod, disgrifiodd F UK * 2022 fel ‘digwyddiad Art Wash mwyaf a allai ddigwydd erioed!’

Pan ddaeth un sefydliad cenedlaethol at White i wneud cais am gyllid F UK * 2022 gwrthododd gan ei fod yn ‘mynd yn groes i’m gwerthoedd’.  Ei chred hithau yw bod rhaid i sefydliadau celfyddydol gofyn eu hunain mewn modd mwy ystyrlon: ‘Ar gyfer pwy rydych chi’n gwneud y gwaith?’ gan dynnu sylw at y ffaith bod rhai lleisiau radical wedi cael eu corlannu trwy gyfaredd arian fawr.  Mae White yn gwrthod cymeradwyo cyfranogaeth o’r fath ar sail rhyw syniad amhenodol o ‘ddiniweidrwydd’.  Mae hi’n mynnu ei bod hi’n bosibl cynnal safiadau moesol.  Ond mae hi’n ystyried sefydliadau yn fwy atebol nag unigolion llwglyd, gan fod y cyntaf yn barod i dorri ymgysylltu cymunedol o blaid cadw rhaglenni artistig ‘craidd’.

Mae’r sefydliad, Migrants in Culture, yn datgan yn yr un modd, ‘Nid ydym yn galw am gywilyddio unigolion a sefydliadau, a fydd yn gorfod derbyn yr arian hwn i oroesi.’ Mewn gwrth-naratif hir a gyhoeddwyd mewn ymateb i F UK * 2022, mae’r grŵp yn datgan sut y maent ‘fel ymfudwyr sy’n gweithio yn y celfyddydau yn gwybod nad yw ein creadigrwydd yn meddu ar genedligrwydd’. Mae eu gweledigaeth yn un amserol, wedi’i gosod ymhlith y ffiniau newydd sy’n cael eu taflu i fyny gan ennyd presennol y pandemig.  ‘Credwn y buasai Martin Green – Prif Swyddog Creadigol F UK * 2022 – mewn “ecoleg” celfyddydol atebol a moesegol, yn ailddyrannu cyllideb £120 miliwn yr ŵyl gyda’r bwriad o adferiad teg i’r sector celfyddydau a diwylliannol … lle nad yw ein gallu i oroesi’r pandemig yn ddibynnol ar ddosbarth, hil na chenedlaethol. ‘

Graffig wedi’i gynhyrchu gan Migrants in Culture mewn ymateb i Festival UK 2022

Daw eu datganiad fel her i’w chroesawu i’r rhai sy’n cymryd safbwynt hanfodol o ‘Gymreictod’ yn seiliedig ar gred mewn Cymreictod ‘go iawn’, neu’n fwy niweidiol fyth, purdeb ethnig.  ‘Nid oes y fath beth â chreadigrwydd y DG’ y mae Migrants in Culture yn ategu.  Felly hefyd gallwn ddod i’r un casgliad am greadigrwydd Cymreig.  Yr hyn sydd yn parhau heb os yw cyfundrefn ​​o gyllid celfyddydol ar sail cymhorthdal, un sydd wedi’i lleoli’n gadarn o fewn strwythur pŵer datganoledig sy’n llunio cynhyrchiad diwylliannol mewn modd rhagweithiol – trwy fodelau ail-law o frandio corfforaethol, cenedlaetholgar.

Nawr ein bod yn wynebu’r addewid llwm o sefydliadau celfyddydol Cymru yn wynebu dinistr heb arian y wladwriaeth, mae’r egwyddorion a’r rhagdybiaethau y dyrennir cyllid o’r fath arnynt – ‘amrywiaeth’, ‘cymuned’ a ‘chydraddoldeb’ – yn cael eu hamlygu fel sloganau (hunan)marchnata.  Mae’r Cyngor Celfyddydau yn gweithredu fel gweinyddwr statws eilradd, ar gyfer system o nawdd gwladwriaethol, pen-i’r-gwaelod.  Mae cymunedau dosbarth gweithiol a duon yng Nghymru wedi cael eu hecsbloetio am eu gwerth ‘offerynnol’ yn hyn o beth, gan gynnwys cael eu hymrestru yn fwyaf diweddar fel yr ‘art washers’ ar gyfer F UK * 2022.

 

Casgliad

Wrth leoli hunaniaeth Gymreig yng nghyswllt rhyngwladoliaeth yn hytrach na Phrydeindod, mae Undod yn darparu fforwm gwerthfawr i rannu, cysylltu a thrafod strategaethau ar gyfer y dyfodol nad ydynt yn efelychu modelau trefedigaethol y gorffennol.  Mae angen i ni ddarganfod ffyrdd o greu undod sy’n gwneud y mwyaf o’n gwahaniaethau, yn hytrach na chaniatáu iddynt achosi rhaniadau pellach neu ddolur.  Mae angen llunio cyffredineddau’n ofalus er mwyn i ffurfiau newydd o solidariaeth cyniwair.  Dichon y gellir creu cysylltiadau rhwng academyddion sydd â diddordeb ynghylch sut y gall cynghreirio gweithio’n ymarferol, cymaint â mewn theori, mewn cyd-destun Cymreig.  Dyma le mae potensial ar gyfer ‘croesdoriadaeth’ yn gorwedd ar draws ffiniau hil a dosbarth.  Gall y rhain danseilio’r naratifau gwyrdroëdig sy’n cael eu cynnig mewn modd mor dwyllodrus – ac mor effeithiol – gan y Dde.

Mae Pritchard wedi dangos bod ymgyrchoedd cyhoeddus llwyddiannus yn bosibl, a rhwydweithiau’n cael eu diriaethu pan wneir lle i amheuon preifat gael eu mynegi’n gyhoeddus.  Fel yr awgryma White, rwyf wedi ceisio bod yn ofalus yma i bwy yr wyf yn siarad, gan gyfyngu ar y niwed y gallaf ei achosi i eraill.  Yn ddiau, mae staff CCC yn destun diwylliannau sefydliadol trahaus sy’n rhaeadru i lawr o Lywodraeth Cymru trwy linellau rheolaeth hierarchaidd.  Ond o fewn y diwylliannau (gweithiol) hyn, mae yna daer angen cadw lle am atebolrwydd personol.  Mae angen i ni ddatgelu a gwasgaru ‘rhyfeloedd diwylliant’ heb inni o reidrwydd dod yn rhan ohonynt.

Mae’r llw hipocrataidd yn gwahodd meddygon ‘yn gyntaf, na wna niwed’. Trwy’r prosiectau diwylliannol a ddisgrifir uchod, mae’r rhagosodiad hwn wedi cael ei droi ben-i-waered: gellir lliniaru niwed trwy falm ‘diwylliannol’, i’w dodi ar ôl y digwyddiad.  Mae’n wrthdroad niweidiol, gan ei fod yn gwahodd dolur yn y dyfodol, tra’n esgeuluso’r niwed sydd eisoes wedi’u cyflawni.  Yn hytrach na dathlu gorfodol, mae yna bellach angen galar ar y cyd: nid yn unig am y rhai sydd wedi marw yn y pandemig, ond am y sefyllfa druenus a ganiataodd i’r firws ecsbloetio anghydraddoldeb i’r fath graddau marwol.

Bydd niwed yn cael ei achosi i artistiaid yng Nghymru, wrth iddynt weithio mewn sector sydd wedi’i chrebachu yn y tymor hwy, gan wariant enfawr un-tro a dros-dro.  Bydd y mecanweithiau sy’n galluogi craffu democrataidd ac atebolrwydd hefyd yn cael eu llurgunio a’u hosgoi yn y broses.  Ceir eironi na ddylid ei hanwybyddu yn y ffaith mai Llywodraeth Gymru (Llafur) sy’n tanseilio pwerau datganoledig nhw eu hunain trwy’r cymeradwyaeth hwn o Undebaeth 2.0.  Wrth i’n cyfeillion a’n teuluoedd ddarparu’r data ar gyfer mapiau marwolaethau, i’w hail-lunio gan y pandemig, mae ein bywydau a’r ffiniau yr ydym yn byw oddi fewn iddynt yn y fantol, fel erioed o’r blaen.  Ymhell o fod y ‘tonic sydd ei angen arnom’ yng Nghymru, diod gyda dos dinistriol yw F UK * 2022: gwenwyn ar ffurf meddyginiaeth.

 Cwblhaodd Dr Frances Williams ei PhD ar bwnc y Celfyddydau mewn Iechyd mewn perthynas â datganoli ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion yn 2019. Mae hi’n byw ac yn gweithio rhwng Gogledd Cymru a De Llundain.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.