Mae Undod yn cydsefyll gyda’r holl bobl sy’n wynebu llwybrau peryglus ac unigolion didrugaredd sy’n elwa arnynt wrth geisio cyrraedd glannau Prydain, o ganlyniad i systemau mewnfudo creulon y DU a’r UE. Rydym yn ymuno gyda galaru’r plentyn 16-oed a gollodd ei fywyd yn Sianel Lloegr, ac yn condemnio’r ymosodiad ar ymfudwr arall 20 oed a ddioddefodd ymosodiad wrth iddo gyrraedd lannau Caint. Rydym yn gwrthwynebu’r trais – strwythurol, unigol, economaidd, amgylcheddol, milwrol a rhethregol – sy’n gyrru pobl o’u cartrefi, dim ond i’w cosbi am geisio un arall.

O Sianel Lloegr, i Fôr y Canoldir, i ‘Lwybr y Balcanau’, mae ffoaduriaid ac ymfudwyr yn dioddef triniaeth anwaraidd ac yn cael eu lladd i gadw ffiniau’r DU yn “ddiogel”. Ac eto, nid yw’r DU yn ddiogel. Nid oes unrhyw ddiogelwch mewn gwladwriaeth lle mae 216,000 o gartrefi yn wag tra bod 320,000 o bobl yn ddigartref. Nid oes unrhyw ddiogelwch mewn gwladwriaeth sy’n caniatau i dros 60,000 o’i dinasyddion farw o Covid-19 er mwyn amddiffyn “yr economi”. Nid oes unrhyw ddiogelwch mewn gwladwriaeth lle mae rhai yn byw mewn moethusrwydd tra bod miliynau’n byw gyda thlodi bwyd. Nid oes unrhyw ddiogelwch mewn gwladwriaeth y mae ei ddarlledwr cyhoeddus yn gofyn am foddi plentyn 16 oed, “Onid oes rhaid bod elfen o gyfrifoldeb personol?”

Fel mudiad dros annibyniaeth radical Cymreig, rydym yn ceisio hunan-benderfyniaeth i Gymru er mwyn gwahanu o’r wladwriaeth Brydeinig imperialaidd, senoffobig, hiliol, nid er mwyn creu gwladwriaeth ethno-genedlaetholgar ein hunain. Yn y Gymru annibynnol mae Undod am adeiladu, bydd croeso bob amser i ffoaduriaid ac ymfudwyr.

Ni fu’r bygythiad i ddiogelwch y DU nac yng Nghymru erioed yn deillio o ymfudwyr, ond o system sy’n ystyried bywydau rhai yn eiddo i’r elites i elwa ohonynt. O greu casineb yn erbyn “torwyr streic” Gwyddelig llwglyd yn y 19eg a’r 20fed ganrif, i feio mewnfudwyr am “yrru cyflogau i lawr” neu “godro’r system fudd-daliadau” heddiw, mae’r rhai sydd mewn grym bob amser wedi ceisio beio “pobl o’r tu allan” am eu creulondeb eu hunain. Yn rhy aml, mae’r Chwith Brydeinig wedi bod yn rhy barod o lawer i gyd-adrodd y stori hon; Ni fydd Undod byth yn ailadrodd y syniadau yma. Yng ngeiriau’r awdur Sarah Kendzior, “Difriwch y rhai sy’n gadael i bobl farw, nid y rhai sy’n ei chael hi’n anodd byw.”

Yr hyn gallwch chi ei wneud:

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.