Bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’r blog hwn yn ymwybodol ein bod wedi tynnu sylw blaenorol at ddinistr araf ond pendant ein prifddinas gan y cyngor presennol, dan arweiniad y Blaid Lafur.  Mae’r bygythiad i Tramshed Grangetown, a chroesawu Amgueddfa Filwrol Brydeinig ar stepen drws ein Senedd, ond yn ddwy ddameg o’r helbul ehangach y mae ei holl ddinasyddion yn ei brofi;  mae gan bob cymdogaeth stori i’w hadrodd o ddryllio adeiladau ac amgylchfyd Caerdydd.

Wrth wraidd y mater hwn mae democratiaeth; ac i fanylu, diffyg democratiaeth.  Nodweddir hyn gan amharodrwydd y cyngor i ymgysylltu mewn unrhyw ffordd ystyrlon â’r dinasyddion; mae’r bobl sy’n talu eu cyflogau yn cael eu hystyried yn rhwystr i’w osgoi, neu’n wrthwynebwyr i’w tanseilio.  Prin yw’r straeon am lwyddiant o berswadio’r cyngor i wyrdroi datblygiadau diangen a digroeso.

Rhan o’r broblem yw eu parodrwydd i blygu glin i ddatblygwyr nad ydynt yn atebol inni o gwbl, ac agwedd ddiymadferth y Cyngor yn boenus o amlwg yn eu hanallu i wasgu pecynnau ariannol cymesur o’r busnesau hyn, sy’n ddyledus i’r cyngor trwy ddeddfwriaeth gynllunio.

A dyma adnabod y broblem ganolog arall, sef ein sustem gynllunio ofnadwy, gymhleth, sy’n ei gwneud yn agos at amhosibl i bobl Caerdydd – neu unrhyw drigolion ledled cymunedau Cymru – sicrhau troedle a sefyll eu tir.  Rhaid ffieiddio at y prosesau yma sydd yn rhan o gymdeithas ddemocrataidd gyda llywodraeth sydd i fod, yn ôl y sôn, yn ‘agos at y bobl’.

Ni allwn fod yn siŵr bod y cynghorwyr eu hunain hyd yn oed yn deall y rheolau, ond gwn eu bod yn caniatáu iddynt wneud esgusodion, gwadu cyfrifoldeb a chuddio eu diffyg asgwrn cefn neu ddiffyg  gofal am y bobl y maent yn eu cynrychioli.

Y Pwyllgor Cynllunio

Diolch byth bod yna rai sy’n ceisio newid materion, ac mae’n rhaid i ni i gyd groesawu ymdrechion Cymdeithas Ddinesig Caerdydd wrth geisio tynnu sylw at ddiffygion y sustem hon a’r modd y gall newid ddechrau nawr.  Maent newydd lansio ymgyrch i sicrhau bod cadeirydd Pwyllgor Cynllunio’r cyngor yn cael ei benodi’n annibynnol fel bod modd clywed llais y cyhoedd.

Y Pwyllgor Cynllunio yw’r corff y mae pob cais datblygu yn cyrraedd ar ben ei daith, ac fel rydym wedi tystio iddi gyda gwastatai parhaus Caerdydd, ei ddull gweithredu cyfredol yw croesawi mwyafrif o ddatblygiadau, heb awydd ail feddwl.

Dyma’r corff a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar gau’r Paddle Steamer, cwympo Tafarn y Roath Park, adeiladu ar ein lleoedd gwyrdd fel Coed Flaxland a Dolydd y Gogledd, a chodi cywilydd ar Barc Britannia, Bae Caerdydd.  Nhw yw’r bobl sydd wedi llywyddu dros dranc Guilford Crescent, cwympo coed Suffolk House, a dinistrio Parc Sanitorium – i enwi ond ychydig o’u penderfyniadau mwy diweddar.

Un o’r prif broblemau gyda’r trefniant presennol yw mai’r blaid mewn grym, i bob pwrpas, sy’n penodi’r cadeirydd – swydd ddylanwadol a phwysig dros ben.  Mewn pwyllgor o ddeuddeg, yn ogystal â bod y person sy’n cyfarwyddo’r busnes, mae gan y Cadeirydd ddwy bleidlais.  Yn ymarferol, golyga hyn os oes pleidlais gyfartal bydd gan y person hwnnw bleidlais ychwanegol i orfodi penderfyniad, tra ar yr adegau hynny pan mae’r pwyllgor yn gweld absenoldebau, bydd ganddynt ddylanwad anghymesur.

O safbwynt y dinesydd cyffredin sydd am i’w lais gael ei glywed, y person olaf rydych chi ei angen mewn swyddogaeth o’r fath yw rhywun nad sy’n annibynnol ei feddwl a gweithred.  Rydych chi am iddyn nhw gael eu gwarchod rhag unrhyw ddylanwad gan gabinet y Cyngor (Llafur), a bod modd iddynt arwain trafodaeth a gwneud penderfyniadau yn ôl eu teilyngdod – ac mewn ffordd sy’n ymateb i bryderon y cyhoedd, nid hoffterau penaethiaid eu plaid.

Fodd bynnag, mae’r Blaid Lafur sy’n rheoli ar hyn o bryd, ac yn arwain yn afieithus dryllio’r ddinas, yn gallu corlanni eu cynghorwyr, i sicrhau bod gan eu cabinet eu dewis dyn.

Yn gyntaf mae ganddyn nhw broses enwebu fewnol lle mae’n debygol y bydd Russell Goodway a’i fath – yr aelod cabinet gyda’r brîff datblygu – yn gallu milwro’r bleidlais adain dde y tu ôl i’w dewis Cadeirydd.

Yna, pan ddaw’r bleidlais yng nghyfarfod cyffredinol y Cyngor ar y 26ain o Dachwedd – lle bydd pob cynghorydd yn pleidleisio ar y swydd hon – mae’r Lafur yn gwneud yr hyn a elwir yn ‘chwipio’r bleidlais’.  Mae pwysau ar eu cynghorwyr (sydd yn y mwyafrif wrth gwrs) i bleidleisio dros eu dyn. Gall y broses hon fod mor annymunol ag y mae’n swnio, gyda phob math o ffyrdd i sicrhau bod pobl yn dilyn dymuniadau’r arweinwyr.

Y canlyniad terfynol, wrth gwrs, yw bod y sawl sy’n rheoli’r Blaid Lafur yn ethol y sawl well ganddyn nhw ar gyfer y rôl.

 Yr hyn sydd i’w wneud

Dyma mae Cymdeithas Ddinesig Caerdydd yn ei wrthwynebu.  Mae’n amlwg o ran ceisio datgymalu annemocratiaeth ein gweithdrefnau cynllunio, mae sicrhau Cadair sy’n gwrando arnom ni, ac nid eu cydbleidwyr a all fod ym mhoced datblygwyr, yn anghenraid sylfaenol.

Mae angen rhoi pleidlais rydd i gynghorwyr, i ethol pwy bynnag maen nhw’n meddwl yw’r unigolyn gorau ar gyfer y swydd, waeth beth fo’u plaid.  Nid oes angen inni dynnu sylw chi at oblygiadau’r Blaid Lafur – sydd ar hyn o bryd ar flaen y gad sy’n dinistrio’r ddinas – yn gosod eu dyn yn ei le.  Rydym oll wedi bod yn dyst i’r canlyniadau dros fisoedd di-ddiwedd.

A phwy yw’r dyn hwnnw’n debygol o fod?  Wel, mae’r arian saff ar y Cadeirydd presennol, Keith Jones, ac mae chwilota’n sydyn ar y we yn codi cwestiwn dilys: ai dyn a gafodd ei ddiarddel o’r blaid yn ystod tymor blaenorol y cyngor yw’r person sy’n debygol o sefyll i fyny i arweinwyr y blaid, i sefyll yn gryf mewn gwrthwynebiad i’w gofynion, a gwrando i ni, pobl Caerdydd, a Chymru o ran hynny? (un o ganlyniadau bod yn brifddinas y genedl, p’un a yw rhywun yn ei hoffi ai peidio, yw bod Caerdydd yn cynrychioli’r genedl gyfan).  O ystyried y datblygiadau y mae wedi llywyddu drostynt yn ystod ei dymor cyfredol yn y swydd, mae’r cwestiwn yn un brys.

Y dinistr parhaus i Gaerdydd, hyd yn oed yn ystod y cloi mawr, cymeriad gwrth-ddemocrataidd ein gweithdrefnau cynllunio, a’r angen am annibyniaeth meddwl a gweithred wrth galon y broses hon, yw’r rhesymau ein bod ni’n cefnogi Cymdeithas Ddinesig Caerdydd a’u gofynion.

Ymunwn felly â Chymdeithas Ddinesig Caerdydd gan alw ar Gyngor Caerdydd i:

  •  Gynnal pleidlais y Cadeirydd Cynllunio wedi’i recordio, yn ei gyfarfod cyffredinol blynyddol
  •  Gwneud hynny ar sail pleidlais rydd, lle na chaniateir i aelodau’r cabinet bleidleisio.

Ar ben hynny, rydym yn cefnogi eu beirniadaeth ehangach o’r pwyllgor cynllunio, yn enwedig y tawelu systematig o gynghorwyr lleol a dinasyddion yn ystod busnes pwyllgor.

Gallwch gymryd rhan trwy e-bostio’ch cynghorwyr i’w hannog i fynnu newid, a dechrau’r busnes hanfodol o helpu pobl y ddinas i adfer rheolaeth.  Dyma ein cynrychiolwyr, ni sy’n pleidleisio drostyn nhw, a ni sy’n talu eu cyflogau.  Mae’n bryd iddyn nhw wrando arnon ni.

Mae’n bryd inni hawlio nôl Ein Dinas Ni.

4 ateb ar “Rhaid hawlio nôl Ein Dinas Ni”

  1. Cardiff is being demolished. We tax paying Cardiffians are never heard. Beautiful buildings destroyed. Green areas stolen from us. All to line someones pocket.

  2. I think the jobs and homes created by this development is relevent and you have lost credibility by leaving this out.

  3. Hi NIMBY, all governments, national and local, create work through some of the policies they enact. That’s a given. The problem is that Cardiff is going to become increasingly unliveable if we’re content to let the council push through every scheme with zero accountability. Look at the detail of what is going on, not the marketing. Cardiff belongs to its people.

  4. I have been worried about Cardiff for a long time and I’m pleased, thanks to the programme last night on S4C with Sean Fletcher, I’ve found other concerned people. I live in Pembrokeshire and feel that Cardiff is the Capital City of the whole of Wales and therefore belongs to all of us and I think all of us should be sitting up and paying attention to everything that is happening there. I was shocked that the music venues were demolished, then we hear that Cardiff will have the tallest building in Wales (why do we need that, people will be working from home) . There doesn’t seem to be any account taken of the people who live there. The Bay, as far as I am concerned, is a very uninteresting place, except for the Millenium Centre and the Sennedd, of course! What happened to the history, it has been buried, or ignored. I find the situation very sad, unless we do something now to save the character of our Capital City it will be too late.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.