Dod â charchariad pobl feichiog a marwolaethau babanod y gellir eu hosgoi yn y carchar i ben

Rydym yn garcharorion, cyn-garcharorion, trefnwyr, academyddion a grwpiau sydd yn gwthio am gyfiawnder cymdeithasol sydd yn torri calon ac yn gandryll wrth glywed y newyddion bod dau fabi wedi marw yn ddiangen yn y carchar dros y flwyddyn diwethaf. Rydym yn galw ar y Weinyddiaeth Cyfiawnder i ryddhau pob person beichiog ar unwaith ac i roi mesurau ar waith yn y llysoedd i ddod â charchariad y rhai sy’n feichiog i ben.

Bu farw un babi yn HMP Bronzefield ym mis Medi 2019 ac un arall yn HMP Styal ym mis Mehefin 2020. Yn y ddau achos rhoddodd y fam enedigaeth mewn cell yn y carchar yn hytrach nag yn yr ysbyty. Mae’r carchardai a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod rhyddhau gwybodaeth yn gyhoeddus ynghylch pam na aethpwyd â’r mamau i’r ysbyty, er eu bod yn esgor. Gellid bod wedi atal y marwolaethau hyn, a’r trawma i deuluoedd y babanod gyda chefnogaeth a mynediad priodol at ofal iechyd.

Rydym yn gwybod fod mynediad i ofal iechyd yn cael ei wrthod yn rheolaidd i bobl yn y carchar ac mae anghenion iechyd penodol pobl feichiog yn aml yn cael eu hanwybyddu. Yn 2018, canfu’r Comisiwn Ansawdd Gofal fod carcharorion wedi marw oherwydd bod staff carchardai wedi methu ag ymateb yn iawn i argyfyngau meddygol. Canfu adroddiad mwy diweddar gan Ymddiriedolaeth Nuffield fod carcharorion yn colli 40% o apwyntiadau ysbyty. Canfu hefyd fod carcharorion wedi cael eu derbyn i’r ysbyty gyda chyflyrau sy’n peryglu bywyd a achosir gan ddiffyg triniaeth ar gyfer diabetes.

Yn ôl ymchwil penodol i amodau ar gyfer pobl feichiog yn y carchar:

‘nid oes ganddynt fynediad at faeth ychwanegol na phenodol i feichiogrwydd, nid oes ganddynt bob amser fynediad hawdd i fydwraig, i arweiniad neu gefnogaeth beichiogrwydd, i ddillad mamolaeth, tabledi llosg y galon a … dim hyd yn oed gwely cyfforddus neu badiau’r fron’ (Abbott a Baldwin 2020).

Bu i archwiliad gan Ymddiriedolaeth Nuffield ddangos ei bod yn debygol fod chwe genedigaeth wedi digwydd y tu allan i’r ysbyty yn 2017-18, mewn celloedd neu ambiwlans yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn cynrychioli tua un o bob 10 genedigaeth i garcharorion a gofnodwyd gan y GIG yn y flwyddyn honno. Er nad yw’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyhoeddi ystadegau ar hyn, canfu ymchwil gan Dr Laura Abbott fod gofal bydwreigiaeth yn aml yn cael ei wrthod i bobl a oedd yn teimlo eu bod yn esgor a bod gan sawl carcharor ac aelod o staff brofiad o enedigaethau yn digwydd mewn celloedd carchar.

Mae’r system garchardai yn rheoli pobl yn seiliedig ar fodelau diogelwch a risg, sy’n anghydnaws â amddiffyn a gofal am fywyd dynol. Nid yw carchar yn amgylchedd priodol ar gyfer menywod beichiog; nid yw’n ffafriol i iechyd y fam na’r babi yn y groth (Abbott a Baldwin 2020). Mae sefydliadau sy’n cefnogi pobl feichiog yn y carchar wedi hysbysu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dro ar ôl tro dros sawl blwyddyn o’r amodau gwael a’r diffyg mynediad at ofal iechyd mewn carchardai, yn ogystal â’r risg ddifrifol y byddai mamau a / neu fabanod yn marw o ganlyniad. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi methu â gweithredu.

Mae’r mater hwn bellach hyd yn oed yn fwy brys oherwydd pandemig Covid-19. Mae menywod beichiog wedi’u cynnwys ar restr y llywodraeth o’r rhai sy’n glinigol fregus yn sgil COVID-19. Yn ogystal â hyn, mae carchardai wedi ymateb i’r pandemig trwy gadw carcharorion dan glo mewn celloedd am 22 – 24 awr y dydd. Mae hyn yn cynyddu’r risg y bydd pobl feichiog i fynd i esgor mewn celloedd neu’n methu â chael mynediad at ofal mamolaeth. Cydnabu’r llywodraeth hyn gydag addewid ym mis Mawrth 2020 i ryddhau menywod beichiog  a menywod â babanod yn Unedau Mamau a Babanod yn y carchar er mwyn caniatáu iddynt hunan-ynysu’n ddiogel yn y gymuned. Er gwaethaf yr addewid hwn, yn ôl y ffigurau diwethaf a nodwyd gan y llywodraeth ar 18 Mehefin, dim ond chwech o bobl feichiog ac 16 mam newydd sydd wedi’u rhyddhau. Rydym yn galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i weithredu ar unwaith ar yr addewid hwn a rhyddhau pob person beichiog a mam sydd â babanod mewn Unedau Mamau a Babanod, er mwyn atal niwed a marwolaethau pellach.

Trwy gydol beichiogrwydd, dylid darparu gofal a chefnogaeth i bobl tuag at y lles, y diogelwch a’r urddas gorau posibl iddynt hwy eu hunain a’u babanod. Ni all ac ni fydd carchar byth yn gallu darparu hyn.

Mae angen i’r llywodraeth weithredu ar unwaith ac rydym yn mynnu bod pob carcharor beichiog a mam sydd â babanod mewn Unedau Mamau a Babanod yn cael eu rhyddhau o’r carchar erbyn 1 o Dachwedd, 2020 gyda chefogaeth a lle i fyw addas. Os na wneir hyn byddwn yn parhau i ymgyrchu nes bod y galw hwn yn cael ei ateb.

Adnoddau

https://www.theguardian.com/society/2019/oct/04/baby-dies-in-uk-prison-after-inmate-gives-birth-alone-in-cell

https://www.theguardian.com/society/2019/nov/22/hmp-bronzefield-baby-death-prison-births

https://www.independent.co.uk/voices/styal-prison-stillborn-baby-female-inmates-healthcare-pregnancy-birth-a9578861.html

http://www.russellwebster.com/pregnant-prisoners/

http://www.russellwebster.com/prison-baby-death/

https://www.birthcompanions.org.uk/resources/193-pregnancy-and-childbirth-in-english-prisons

Grwpiau Radical / Ymgyrchoedd

Prisoner Solidarity Network

Community Action on Prison Expansion Campaign

The Class Work Project

Desolation Radio

United Families & Friends Campaign

Kurdish Solidarity Network Jin

Merched Undod

Southall Black Sisters

Women’s Strike Assembly

Community Action on Prison Expansion

Cradle Comunity

Trans Prisoner Alliance

Cambs Prisoner and Detainee Solidarity

Kurdish Women’s Movement UK Representation

Shoal Collective

IWW Cymru

Anarchist Black Cross Brighton

Cardiff Food Not Bombs

London Prisoner Solidarity Coalition

Rob Griffiths, General Secretary of the Communist Party of Britain

Mymuna Soleman, Privilege Cafe

Carcharorion / Cyn-garcharorion

John Bowden

Nicole Rose

Baris Aksoy

Kevan Thakrar A4907AE

Christian Barabutu A5064AV

Sarah Jane Baker

Academwyr

Dr Emily Luise Heart, University of Liverpool

Dr Joey Whitfield, Cardiff University

Dr Laura Abbott

Dr Michaela Booth

Dr David Scott, The Open University

Dr. Nicholas S.M. Matheou, University of London

Dr Roxanna Dehaghani, Cardiff University

Dr Robert Jones, Cardiff University

Dr Nicola Harding, Lancaster University

Lorenzo M. Bondioli, Ph.D. candidate Princeton University

Ilya Afanasyev, Research Fellow, Higher School of Economics, Moscow

Dr. Leila Ullrich, Lecturer in Law, Queen Mary University of London

Dr Lucy Bell Surrey University

Dr Julia Downes, The Open University

Francesca Esposito, Research Fellow at the Centre of Criminology, University of Oxford

Professor Elspeth Webb, Retired Professor of Paediatrics and Child Health, Cardiff University

Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Charlotte Williams, Registered Midwife, London

Catrin Jones, Holistic Birthworker / Doula

Gwleidyddion

County Councillor Steve Collings Deiniol, Bangor

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.