Darlun gan youtookthatwell

Mae’n amser anodd i Gymru. Mae’r pydew economaidd diddiwedd yn parhau, mae ein hamgylchedd yn dioddef o newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth, nid yw pobl ifanc yn medru canfod tai fforddiadwy yn eu cymunedau, mae mudo ac ail gartrefi’n cynyddu prisiau’r farchnad ac yn bygwth ein hiaith yn y gogledd a’r gorllewin. Mae pobl yn teimlo wedi’u dadrithio, yn ynysig ac heb obaith i wneud gwahaniaeth.

Chwe mis i mewn i Covid ac mae’n hawdd syrthio i’r math yma o besimistiaeth. Mae nifer wedi cael eu hynysu, nifer wedi colli anwyliaid, ffrindiau, cymdogion, nifer wedi dal y coronafeirws neu wedi gorfod gofalu am eraill gyda’r feirws, ac wrth gwrs mae’n rhaid cofio aberth a gwaith caled y gweithwyr allweddol, yr ydym oll mor ddiolchgar iddynt.

A thra’n bod ni yn y niwl Covid hwn, mae bygythiadau eraill yn llechu. Ar ôl gweld cartŵn o donnau o’r coronafeirws, dirwasgiad a newid hinsawdd ar fin torri ar y lan, pob un yn fwy ac â photensial i achosi mwy o ddinistr na’r un blaenorol, cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu am y gweithredu cadarnhaol sy’n digwydd yn ein cymunedau ledled Cymru. Gweithredu sy’n cynnig optimistiaeth am ein dyfodol.

Ffynhonnell: Mackay Cartoons

Fel Aussie, dw i wastad yn gweld y newid rhwng haf a gaeaf yn her. Mae’r dyddiau’n byrhau, mae’r tymheredd yn gostwng a dw i’n teimlo fel y dylwn i aeafgysgu. Ges i ddim fy adeiladu ar gyfer y amodau hyn, ond dewisiais i fyw yma. Y flwyddyn hon, dw i wedi penderfynu herio’r teimladau hyn (mae ond wedi cymryd 19 mlynedd i mi wneud!) a defnyddio’r hydref fel cyfle i fagu optimistiaeth.

Cefais fy ngeni yn Sydney gyda syniad cryf o’r gwerthoedd Aussie o “Mateship” ac “A Fair Go”. Mae’r gwerthoeddd hyn wedi aros gyda mi drwy gydol fy mywyd ac yn dal i gael effaith ar fy ngwaith; yn yr hyn dw i’n dewis ei wneud a sut dw i’n penderfynu gwneud pethau. Mae Mateship yn ymwneud â chysylltu ac eraill, ac ansawdd y cysylltiad hynny. Mae tegwch yn rhan annatod o Mateship, ac yn ystod fy magwraeth, roedd cynnig ‘A Fair Go’ i bawb yn golygu cyfle cyfartal.

Nid yw’n syndod fy mod i felly’n canfod fy hun yn gweithio gydag eraill mewn maes egalitaraidd. Boed yn cefnogi cymuned i weithio gyda’i gilydd a chymryd perchnogaeth o wasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw, datblygu gwasanaethau sy’n torri’r stigma o arwahanrwydd ymysg y mwyaf bregus yn ein cymdeithas; neu gynhyrchu ynni cydberchnogol, mae’r gwerthoedd a ddysgais i yn ystod fy magwraeth 17,000 kilometr i ffwrdd yn fy arwain o hyd yma yng Nghymru.

Felly yn 2012, pan ofynnodd Cyngor Gwynedd i mi reoli eu prosiect Gwynedd Werdd ac edrych ar fuddion economaidd ynni adnewyddadwy ar gyfer y sir roeddwn i wedi ymgartrefu ynddi, roedd gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn gweld sut y medrwn i fanteisio ar ein adnoddau naturiol er budd pawb.

Darganfyddom fod gan Wynedd y potensial i gynyrchu digon o ynni adnewyddadwy i gyflenwi’r galw yn y sir, a chael tipyn ar ôl wedyn, gan ddod yn allforiwr ynni adnewyddadwy. Drwy ddatblygu’r holl brosiectau posib, byddai 2200 o swyddi yn cael eu creu, er byddai nifer o’r swyddi’n cynhyrchu paneli solar neu thyrbeini gwynt y tu allan i Wynedd. Byddai cynhyrchu a gosod paneli a thrybeini yn creu £15.6m y flwyddyn, er, eto, nid o reidrwydd yng Ngwynedd. Ond, byddai gwaith cynnal a chadw’r prosiectau’n creu tua £1.2m y flwyddyn o weithgarwch fyddai’n gallu cael ei gadw yn y sir.

Yr hyn wnaeth fy nghyffroi fwyaf oedd gweld nad prosiectau mawr fel ffermydd gwynt neu barciau solar anferthol oedd yn cael yr effaith fwyaf yn lleol, ond datblygiadau bychain, oedd yn fforddiadwy yn lleol. Dyma oedd yn cynnig y gobaith gorau o ran datblygu economi werdd leol. Byddai gosod pympiau gwres mewn cartrefi a busnesau’n unig yn gallu darparu 177 swydd lawn amser ar ei hanterth.

Ond beth am y prosiectau mawr? Sut byddai canfod arian ar eu cyfer nhw? Dylai’r hen ymddygiad Cymreig o wahodd cyfalaf o du allan i Gymru i adeiladu prosiectau a gadael i’r arian lifo allan barhau yn yr un modd? Byddai cymunedau Cymru’n medru derbyn swm nawddoglyd ar gyfer ‘budd cymunedol’ pe bai buddsoddwyr yn hael, ond heb bolisi yn ei le i sicrhau hyn, does dim dal. Nid yw polisi Llywodraeth Cymru ynghylch sicrhau elfen o berchnogaeth leol yn rhoi digon o fanylion er mwyn iddo fod yn arwyddocaol. Rydym yn cael ein gadael yn gofyn i fewnfuddsoddwyr faint y maen nhw eisiau ei roi i “berchnogaeth leol” a’i gwneud hi’n bosib i fuddsoddwyr sefydlu swyddfa ‘leol’ i ddangos ‘perchnogaeth leol’. Opsiwn gwell fyddai symud i ffwrdd o fewnfuddsoddi (arian o’r tu allan) at fuddsoddi mewnol (arian o Gymru). Defnyddio arian sy’n bodoli yng Nghymru a Gwynedd a’n cymunedau amrywiol i gadw buddion cynhyrchu ynni yng Ngymru.

Dyma lle ddes i ar draws ynni cymunedol, sy’n cael ei ddiffinio gan Lywodraeth Cymru fel: sy’n cael ei ddiffinio gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel:

Community energy covers aspects of collective action to reduce, purchase, manage and generate energy.

Community energy projects have an emphasis on local engagement, local leadership and control and the local community benefiting collectively from the outcomes.

Community-led action can often tackle challenging issues around energy, with community groups well placed to understand their local areas and to bring people together with common purpose.”

Yn 2013 doedd pethau ddim mor eglur. Diolch i’r drefn, roedd rhai prosiectau arloesol yn datblygu yng Nghymru y medrwn ni ddysgu ohonynt. Yn Aberhonddu a’r cyffiniau, roedd The Green Valleys yn gwneud gwaith arbennig gyda chynlluniau hydro-drydanol mewn afonnydd a nentydd. Roedd Awel Aman Tawe yn gweithio ar prosiect gwynt uwchlaw Abertawe ac Ynni Sir Gar yn eu cymunedau yn helpu busnesau a phobl i arbed arian drwy leihau eu defnydd o ynni. Roedd rhain yn grwpiau hynod o ysbrydoledig, yn cael eu rhedeg gan bobl egwyddorol, egnïol. Roedd pob un yn hapus i rannu’r hyn yr oedden nhw wedi’i ddysgu a helpu grwpiau eraill ledled Cymru i redeg a sefydlu prosiectau tebyg.

Yn ystod y cyfnod hwn o ymchwilio, un eiliad arwyddocaol oedd teithio i’r Alban a chlywed ffarmwr o’r Alban yn adrodd stori am gwmni datblygu rhyngwladol oedd yn cynnig rhoi rhent da iawn i osod tyrbeini gwynt ar ei dir. Meddyliodd; ‘os ydyn nhw’n cynnig rhent mor dda, mae’n rhaid eu bod nhw’n gwneud yn dda o’r peth”. Fe aeth yntau ati i osod tri o’i dyrbeini ei hun, gan gymryd perchongaeth o ddulliau cynhyrchu ac ennill lot fawr iawn yn fwy na’r hyn roedd y cwmni’n ei gynnig fel rhent.

Yn ôl gartref yng Ngwynedd, roedd yna sôn mewn cymunedau ledled y sir am fantais ein mynyddoedd a’r dŵr sy’n llifo i lawr eu hochrau er mwyn cynhyrchu ynni. Pan wnaethom ni gynnal ein cyfarfod ynni cymunedol cyntaf ym Mhlas Tan y Bwlch, daeth 15 o gymunedau i rannu eu gobeithion, eu profiadau a’u straeon am brosiectau posib.

Ymweliad Hydro â Phlas Tan y Bwlch, 2013

Gwnaeth DEG (Datblygiadau Egni Gwledig), y fenter gymdeithasol dw i’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn gweithio gyda nhw, ymddangos o ganlyniad i’r gwaith hwn. Ein gweledigaeth oedd gweld gogledd-orllewin Cymru fel casgliad o economïau lleol, cysylltiedig a lliwgar yn cydweithio gyda’i gilydd i fanteisio’n llawn ar fuddion ein treftadaeth naturiol, rhannu’r bwriad i gynyddu gallu’r ardal i ymdopi gyda’r cynnydd mewn cost tanwyddau ffosil a gwella ein hamgylchedd naturiol. Yn ddiweddar, rydym wedi ychwanegu “tra’n cefnogi cymunedau yn y newid at gymdeithas di-garbon” gan fod pobl wedi dechrau sylweddoli bod angen i gymunedau weithredu ynghylch newid hinsawdd.

Sylweddolom mai’r unig ffordd o arbed gwasanaethau cymunedol (siopau, tafarndai a mannau cymdeithasol) neu ddatblygu’r isadeiledd angenrheidiol fel gwasanaeth ynni lleol, ynni adnewyddadwy a gwefru ceir trydanol oedd drwy wneud y peth ar ein liwt ein hunain. Mae’r ffydd yn llywodraethau San Steffan a’r Senedd wedi cael eu colli ers amser. Yr unig ffordd y gallwn ni gadw’r buddion fel cynnydd mewn gweithgarwch economaidd – gwaith a thâl teg am y gwaith hwnnw, buddion fel cydlyniant cymunedol, lleihau arwahanrwydd, gwella ein amgylchedd lleol a’n cymunedau lleol – yw i wneud pethau ein hunain.

Daeth DEG â 15 o grwpiau o Wynedd gyfan ynghyd i greu rhwydwaith a dull i rannu profiadau a’r hyn ry’n ni wedi’i ddysgu. Fe wnaeth y rhwydwaith hwnnw wedyn ymuno ag Ynni Cymunedol Cymru helpu lleisiau gogledd-orllewin Cymru i gael eu clywed yng Nghaerdydd wrth ehangu rhwydwaith Ynni Cymunedol Cymru i ardaloedd Cymraeg eu hiaith a gwledig. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi helpu cymunedau ledled Cymru i gysylltu a dysgu gyda’i gilydd.

Heddiw, mae DEG yn cefnogi dros 60 o gymunedau ar brosiectau ynni, ac mae gan Ynni Cymunedol Cymru dros 70 o aelodau yn eu helpu i greu amodau yng Ngymru sy’n galluogi prosiectau ynni cymunedol i ffynnu, a chymunedau i lewyrchu.

Map o gymunedau y mae DEG wedi gweithio â nhw yng ngogledd-orllewin Cymru.

Mae’r grwpiau cychwynnol hynny wedi datblygu prosiectau sydd wedi trawsnewid eu cymunedau lleol ac mae’r llwyddiant hwnnw wedi cael ei ailadrodd, fel yn y fferm wynt gymunedol fwyaf, y prosiect solar to mwyaf, a’r cynllun hydro mwyaf i’r de o’r Alban , y safle cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol sy’n galluogi pobl leol i gael budd o drydan lleol a mwy. Mae’r prosiectau hyn a llawer mwy wedi cael eu cydnabod ar lefel y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r cymunedau hyn a’r bobl ysbrydoledig sy’n creu’r prosiectau yn dangos yr hyn y fedrwn ni ei wneud pan rydym yn cymryd cyfrifoldeb (a’r risg) o fuddsoddi yn ein adnoddau ein hunain (naturiol, pobl ac isadeiledd)

Erbyn hyn mae gennym o leiaf 43 o grwpiau ynni cymunedol. Yn 2018, fe wnaeth grwpiau ynni cymunedol godi £9.4m, gan cynnwys £4.6m mewn buddsoddiad cyfranddaliadau. Fe wnaeth £3.6m o fenthyciadau, a £1.1m o grantiau gefnogi prosiectau, fel paneli solar ar Benrhyn Gwyr a datblygiad gwynt 500-kW yn agos at Lambed yng Ngheredigion.

Ffynhonnell: Adroddiad Cyflwr y Sector, Ynni Cymunedol Cymru 2020

Mae grwpiau ynni cymunedol gyda prosiectau llwyddiannus wedi gwario £160,000 mewn arian budd cymunedol yn 2018, yn cefnogi prosiectau ar gyfer datblygiad economaidd lleol – fel creu swyddi – a darparu addysg a chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu cymunedau lleol. Un enghraifft yw Ynni Sir Gar, sydd wedi defnyddio arian o’u tyrbin gwynt i osod technoleg i fesur effeithlonrwydd ynni, paneli solar, a phwyntiau gwefru ceir trydanol ar adeiladau cymunedol. Mae YnNi Teg wedi rhoi £10,280 i’w hysgol leol er mwyn adeiladu ardal ddysgu awyr agored ac yn ystod y cyfnod clo diwethaf, gwnaeth grwpiau ynni cymunedol yng Nghymru sicrhau bod bwyd yn cyrraedd pobl fregus, ynysig a sâl. Gwnaeth DEG godi £7,000 i gefnogi eu cymuned leol yng Nghaernarfon.

Ffynhonnell: Ynni Cymunedol Cymru, Adroddiad Cyflwr y Sector 2019

Mae’r buddion o ynni sydd mewn perchongaeth leol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fuddion economaidd. Drwy gyflawni gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae ynni cymunedol yn darparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ynghyd â’r economaidd. Dylai’r buddion amgylcheddol fod yn amlwg; lleihad anferth yn yr allyriadau carbon sydd o fewn ein system drydan a dealltwriaeth well ymhlith cyfranogwyr o’r pynciau pwysig, fel lleihau defnydd trydan, effaith newid hinsawdd a lleihau ôl troed unigolion i enwi ond rhai. Efallai mai fy nghefndir gwyddorau cymdeithasol sydd wrthi, neu’r gwerthoedd “Mateship” unwaith eto, ond y buddion cymdeithasol sy’n sefyll allan i mi.

Mae ymchwil gan y Local Trust yn dangos bod gan ardaloedd mwy tlawd sydd â chapasiti cymunedol gwell ac isadeiledd cymdeithasol fel mentrau cymdeithasol lefelau gwell o iechyd a lles, lefelau uwch o bobl mewn gwaith a llai o blant yn byw mewn tlodi o gymharu a ardaloedd tlawd sydd heb y pethau hyn.

Mae selogion mentrau cymdeithasol fel y Plunkett Foundation, sydd wedi bod yn gweithio o fewn y maes ehangach y mae ynni cymunedol yn bodoli ynddi ers 100 mlynedd wedi dangos sut mae prosiectau cymunedol yn lledu. Rydym yn gweld clystyrau’n datblygu o amgylch prosiectau llwyddiannus wrth i gymunedau gerllaw efelychu prosiectau. Mae yna glystyrau o siopau cymunedol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a thafarndai cymunedol yn y gogledd-orllewin er enghraifft. Nawr rydym yn gweld yr un peth yn datblygu ym maes ynni cymunedol. Cymerwch aelodau Cyd Ynni, er enghraifft – Abergwyngregyn, Bethesda, Llanberis, Mynydd Llandegai a Moelyci – pob un yn gymunedau o gymoedd llechi Gwynedd. Er enghraifft mae aelodau consortiwm Cyd YnniAbergwyngregyn, Bethesda, Llanberis, Mynydd Llandegai a Moelyci – sydd yn gymunedau cymoedd llechi Gwynedd.

Mae fy mhrofiad hefyd yn dangos pan fydd cymuned yn llwyddiannus mewn un fenter, maent yn dechrau chwilio am bethau eraill i’w gwneud. Mae ynni cymunedol, fel mentrau cymdeithasol eraill, yn codi hyder yn ein gallu i edrych ar ôl ein gilydd. Mae’n dangos yr hyn sy’n bosib pan rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac yn rhoi’r gorau i aros am ryw arwr o’r tu allan i ddod i ddatrys ein problemau.

Gwnaeth Awel Amen Tawe ddatblygu’r prosiect gwynt cymunedol mwyaf yng Nghymru, ar ôl gwaith caled ac amser hir. Roedden nhw’n arloesi mewn maes cyfangwbl newydd, ond ar ôl y llwyddiant hwnnw, maent wedi symud ymlaen i ddatblygu ystod eang iawn o brosiectau. Y mwyaf ohonynt yw Egni, y datblygiad ynni solar mwyaf uchelgeisiol yn hanes Cymru. Gwnaeth Ynni Ogwen, ar ôl datblygu eu prosiect hydro, ddatblygu’r prosiect ynni lleol cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol fel bod pobl leol yn gallu cael trydan yn lleol oherwydd ei fod wedi’i gynhyrchu’n lleol. Yna, sefydlwyd Heuldro, sy’n rhoi paneli solar ar adeiladau cymunedol ym Methesda i leihau eu costau rhedeg. Gwnaeth Ynni Sir Gâr sefydlu TrydaNi, sef rhwydwaith gwefru ceir cymunedol, ar ôl llwyddiant eu prosiect gwynt. Mae YnNi Teg yn darparu gwasanaeth datblygu ynni cymunedol proffesiynol ac wedi dechrau YnNi Newydd, sef fferm solar fwyaf y Deyrnas Gyfunol. Mae llawer mwy o enghreifftiau hefyd.

Os oes diddordeb gennych chi mewn cymryd rhan neu gefnogi ynni cymunedol, mae yna gynigion bondiau ar gael heddiw, sy’n eich galluogi chi i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn prosiect ynni cymunedol ac ennill arian yn ôl. Gallwch hefyd dderbyn e-byst CyfranNi, gwasanaeth gan Ynni Cymunedol Cymru sy’n rhoi gwybodaeth i chi am ragor o gyfleoedd a datblygiadau ym maes ynni cymunedol

Mae ynni cymunedol yn magu hyder, ac mae hynny’n ddigon i roi gobaith i mi at y dyfodol. Pan ydych chi’n cyfuno hyn â’r buddion cymdeithasol eraill, yr adnewyddu economaidd, yr effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, dylai fod yn ddigon i wneud unrhyw un yn optimistig. Nid dim ond optimistiaeth chwaith ond gobaith a chred ein bod yn medru creu’r Gymru rydym am ei gweld drwy weithio gyda’n gilydd. Drwy rannu “mateship” a rhoi “a fair go”.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.