Nid ydym yn gwybod pryd y cafodd Iesu o Nasareth ei eni. Mae’r Cristnogion cynharaf yn sôn am ddyddiau ym misoedd Mawrth, Ebrill, Mai a Thachwedd. Mabwysiadwyd Rhagfyr 25ain yn y bedwaredd ganrif yn rhan o’r broses o wneud y Gristnogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth. Lan hyd deyrnasiad Cystennin ddechrau’r bedwaredd ganrif yr oedd bod yn ddisgybl i Iesu yn weithred anghyfreithlon. Gwnaeth tröedigaeth honedig Cystennin drawsnewid y sefyllfa’n llwyr. Credai nifer o’r arweinwyr Cristnogol fod buddugoliaeth wedi ennill ‘y byd’ i Grist ac ystyriwyd yr ymerawdwr fel rhyw fath o gynrychiolydd Crist – ficer i Grist – a blygwyd i’w ewyllys yn llawer rhy hawdd gan ddechrau’r berthynas wasaidd rhwng yr Eglwys a’r wladwriaeth sy’n dal mewn bod mewn llawer man hyd heddiw.

Yr oedd Cystennin yn addolwr yr haul, y Sol Invictus (yr haul anorchfygol), cyn ei dröedigaeth. Erbyn y 4edd ganrif yr oedd Mithras, un o dduwiau Soroastraeth, wedi dod yn bwysig ymhlith milwyr Rhufain. Rhyw esblygiad o Zoroaster, neu Zarathustra, prif broffwyd Soroastraeth oedd Mithras. Yr oedd hwnnw wedi ei eni ar Ragfyr 25ain! Tuedd y Rhufeiniaid drwy eu hanes oedd cyfuno elfennau o’r gwahanol grefyddau – syncretiaeth – ac ym meddwl Cystennin yr oedd Iesu a Mithras yn fynegiannau o’r unig wir Dduw oedd yn cael ei addoli fel y Creawdwr gan y Cristnogion a Sol Invictus gan y Mithraid. Mynnodd Cystennin fod yr Eglwys yn addoli ar ddydd yr Haul (Sol – Sul) a bod genedigaeth Iesu i’w ddathlu ar yr un dydd a genedigaeth Mithras.

Newidiodd tröedigaeth honedig Cystennin natur yr Eglwys Gristnogol, fe ddaeth honno’n llawforwyn i’r wladwriaeth. Yr enghraifft fwyaf trawiadol o’r trawsnewid hwn yw’r ffaith i’r Eglwys a ystyriai militariaeth a rhyfeloedd fel gweithredoedd gwrth-Gristnogol newid ei daliadau. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif daeth yn anghyfreithlon i wrthod ymuno â’r fyddin!

Newidiwyd holl bwyslais y Nadolig – daeth genedigaeth Iesu i fod yn ŵyl o rialtwch a chyfeddach fel yr hen ŵyl Rufeinig a ddathlwyd ar yr un adeg i ddathlu genedigaeth yr haul sef y Saturnalia. Aeth y pwyslais ar ddathlu genedigaeth y baban Iesu, un sydd yn mynd i roi cyfle i bobol i fynd i Baradwys wedi ymadael â’r byd hwn – os ydynt wedi bod yn dawel ac yn ufudd i’r gyfundrefn o dan awdurdod y brenin a’r eglwys drwy eu bywydau.

Aethpwyd ati i newid y stori yn yr efengylau hyd yn oed! Daeth y ‘doethion’ yn frenhinoedd. Magoi yw’r gair yn Efengyl Mathew, ac aelodau o gwlt crefyddol a astudiai’r sêr yn ymerodraeth Persia oedd y rheiny. Rhaid cofio bod astroleg yn cael ei ystyried yn wyddoniaeth barchus yn y cyfnod hwnnw. Yn wir, yr hen astrolegwyr a osododd y sylfeini i ddatblygiadau gwyddonol mewn oesoedd diweddarach. I Iddewon y ganrif gyntaf yr oedd y Magoi yn perthyn i grefydd wahanol, gwareiddiad gwahanol, diwylliant gwahanol ac ymerodraeth wahanol. Daeth cynrychiolwyr y gwahanol egsotig yma i gydnabod Iesu’n Arglwydd. Ond fe drowyd y rhain yn frenhinoedd gan y sefydliad er mwyn parchuso’r gyfundrefn. ‘Edrychwch,’ meddent, ‘brenhinoedd oedd ymhlith y cyntaf i gydnabod Iesu, ac wedi gwneud hynny fe aethant yn ôl i’w gwledydd i deyrnasu unwaith yn rhagor’.

Wrth adrodd hanesion y geni bwriad Mathew a Luc yw datgan bod rhywbeth rhyfeddol wedi digwydd gyda genedigaeth Iesu ym Methlehem. Rhywbeth sydd wedi trawsnewid hanes y byd. Mae un wedi dod i’r byd sydd drwy ei fywyd yn mynd i ddangos cymeriad a phersonoliaeth y Creawdwr i’r ddynoliaeth, a gwneud hynny mewn ffordd y bydd pobol gyffredin, fel ni, yn ei ddeall ac yn gallu uniaethu ag ef. Daeth i’r byd fel bod dynol, un sydd wedi ei eni fel pob bod dynol arall.

Mae amgylchiadau’r enedigaeth yn dangos i’r byd ar ochr pwy mae Duw. Ganed Iesu i deulu tlawd mewn amgylchiadau o dlodi. Dywed Luc taw tlodion cymdeithas, y bugeiliaid, oedd y cyntaf i gael gwybod am yr enedigaeth. Dywed Mathew taw estroniaid oedd ymhlith y cyntaf i’w gydnabod. Dywed y ddau efengylydd mai ym mhentref di-nod Bethlehem y ganed Iesu, pentref nad oedd nepell o Jerwsalem, y brifddinas, cartref y pwerus a’r cyfoethog. Anwybyddwyd y brenin Herod a’i lys a’r sefydliad crefyddol yn y deml yn Jerwsalem pan aned Iesu. Mae Duw ar ochr y tlodion a phobol y cyrion, y rhai a ormeswyd, y rhai sy’n dioddef.

Mae’r gwirionedd hwn yn cael ei bwysleisio gan Mair yn ei chân sy’n cael ei adnabod fel y Magnifficat; ynddi mynega Mair ei dealltwriaeth o’r modd y mae Duw yn gweithredu, a’r hyn y mae’n ei ddymuno:

Gwnaeth rymuster â’i fraich,

gwasgarodd y rhai balch eu calon;

tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,

a dyrchafodd y rhai distadl;

llwythodd y newynog â rhoddion,

ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw. (Luc 1:51-53)

Wrth iddo gyflwyno hanes y bugeiliaid mae Luc yn defnyddio teitlau arbennig fel ‘Gwaredwr’ ac ‘Arglwydd’ wrth i’r negesydd (angel) ddisgrifio’r baban newydd-anedig, ac fe bwysleisiodd cân yr angylion taw hon oedd ffordd heddwch. Teitlau a berthynai i Cesar oedd y rhain yn y diwylliant Groegaidd (mi roedd Luc yn anelu ei sylwadau at y Groegiaid), ac ymffrostiai Awgwstws Cesar taw ei ffordd ef oedd yn creu heddwch. Mae Luc yn fwriadol yn herio’r meddylfryd hwnnw, ac mae Mathew’n pwysleisio yn yr hanesyn am Herod yn lladd y plant ym Methlehem, taw ofn, casineb a thrais creulon yw ymateb y pwerus cyfoethog. Honno mewn gwirionedd yw ffordd y grymus. Nid y ffordd honno yw ffordd gwaredigaeth a gobaith.

Nid ffordd Cesar sy’n mynd i ddwyn cyfiawnder a heddwch i’r byd ond ffordd Iesu.

Brwydr fawr ein hoes a chyfrifoldeb ein cenhedlaeth ni yw argyhoeddi’n hunain a’n cyfeillion sy’n dal i gredu taw ffordd Cystennin ac Awgwstws, y pwerus cyfoethog, sy’n mynd i ateb problemau’r byd – yn mynd i achub y byd – nad yw hynny’n wir. Ffordd y Creawdwr sy’n cael ei ‘ymgnawdoli’ yn Iesu sy’n mynd i wneud hynny.

A dyna wir ystyr y Nadolig.

Delwedd: “Ffenestr Cymru”, Birmingham, Alabama gan John Petts

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.