Cyflwyniad

Mae’r diwydiant amaeth wedi bod ynghlwm â thir Cymru o’r dechrau.

Fel un o’r gyfres Cam nesaf Cymru bwriad yr erthygl yma yw ceisio cyflwyno peth o gefndir amaeth yng Nghymru i gynulleidfa drefol, a cheisio gofyn rhai cwestiynau am y diwydiant ei hun. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gall amaethwyr a phobl Cymru greu gwell perthynas efo’i gilydd. Perthynas fydd yn dibynnu ar barch at bobl, at dir, at natur, at anifeiliaid, ac at fwyd. Perthynas i wella doluriau.

Gallwn droi’r diwydiant amaeth yng Nghymru oddi ar lwybr dinistriol agri-fusnes ac at lwybr gwaraidd. Drwy gefnogi ffermydd teuluol Cymru mae gwneud hynny. Bydd cynnwys pobl gyffredin yn nyfodol y defnydd o dir yn rhan o’r weledigaeth. Mae’n rhan o’r frwydr dros gael dyfodol llewyrchus a theg i ni gyd.

Cafwyd darlun cignoeth o’r dyfodol enbyd allai wynebu y diwydiant amaeth yng Nghymru yn erthygl rymus Siwan Clark The End of Welsh Farming? ar blog Undod yn ddiweddar. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi trychineb o’r fath. Fel arall, bydd y tirlun, y bobl, y bwyd, y cymunedau a’r iaith i gyd yn newid er gwaeth. Bydd y dirywiad a welwyd dros y degawdau – ac yn wir y canrifoedd – yn prysuro.

Os na fedrwn ni ail-ddychmygu cymunedau’r tir, yna bydd y broses o ddiflaniad y fferm deuluol yn prysuro, hyd yn oed os gellir goresgyn y bygythiad o gytundebau masnach dinistriol.

Bydd Undod yn cefnogi ymdrechion i arbed y diwydiant unigryw hwn, sy nid yn unig yn rhoi bywoliaeth uniongyrchol i ffermwyr, ond yn cynnal llawer o fusnesau eraill yn ogystal â bod yn greiddiol i wead y gymdeithas wledig, ac i lunio’r tirlun.

Ond beth am edrych ar sut mae’r diwydiant wedi cyrraedd y lle hwn? Sut y torrwyd y cwlwm rhwng y rhan fwyaf o bobl efo’r bwyd mae nhw’n ei fwyta? Beth yw lle amaethyddiaeth o fewn bywyd Cymru gyfan, nid o fewn cefn gwlad yn unig? Ac os daw’r diwydiant drwy’r argyfwng sy ar ei warthaf, ydi’r strwythur presennol yn cyfateb i anghenion ein pobl y tu hwnt i’r diwydiant ei hun? Beth yw’r croeswyntoedd sy’n tynnu’r diwydiant i bob cyfeiriad? Gwyntoedd sy mor rymus fel ei bod yn tynnu’r llechi oddi ar y to, a bygwth dymchwel y muriau a fu mor gadarn.

Troes galwedigaeth lle ‘roedd pobl yn gweithio ochr yn ochr yn frwydr unigolion i oroesi dan bwysau cynyddol. “Dau heddiw lle bu deuddeg” fel y dywedodd Dic Jones, yr athrylith o fardd oedd yn ffermwr ei hun. Efallai nad oes gan y plant ddiddordeb, neu fod y fferm bellach yn rhy fychan i roi bywoliaeth i genhedlaeth newydd. Gwelwn gymaint o ffermwyr yn gweithio ar eu pennau eu hunain am oriau meithion, gan raddol golli’r frwydr ariannol a chorfforol. Cerwch i unrhyw farchnad anifeiliaid a mi welwch fod cyfran uchel o’r ffermwyr mewn cryn oedran, a sawl un yn amlwg yn gloff gan grud cymalau.

‘Does dim rhyfedd fod unigrwydd a phroblemau meddyliol ar gynnydd. A dim syndod chwaith mai’r diwydiant hwn sy efo nifer uchel o hunan-laddiadau a damweiniau yn y gweithle.

A oes modd i ni ddychmygu dyfodol amgen i’n cymunedau gwledig? A hynny mewn modd fydd yn cynnig gweledigaeth i gyfannu ffermwyr, amaethu cynaliadwy, amgylchedd iach, bioamrywiaeth, diwydiannau gwledig, bywyd cymunedol pentrefi, a chynnal y Gymraeg. Diwydiant sy’n cael ei ddeall a’i werthfawrogi fel rhan canolog o fywyd Cymru, yn lle cael ei weld (os cael ei weld o gwbl) fel diwydiant sy’n dadfeilio a llawn o stereoteips o’r oes o’r blaen.

Dyfodol lle mae pobl ifanc nid yn unig yn medru ond eisiau aros yn eu cynefin. Dyfodol lle mae modd i bobl heb lawer o gyfalaf gael mynediad i amaethu. Dyfodol sy’n dathlu’r gorau o’r hen Gymru wledig, a hynny heb droi cefn gwlad yn amgueddfa, ond yn hytrach yn adeiladu ar seiliau’r gorffennol.

Y gobaith yw datblygu diwylliant gwledig sy’n rhan o’r byd cyfoes, ond ar delerau sy heb ildio y rhuddin gwerthfawr. Diwylliant sy’n hyderus wrth wynebu’r dyfodol, yn lle bod yn ansicr ac amddiffynnol.

Beth am droi’r mantra cyfoes ar ei ben, fel mae Sel Wilias o Cwmni Bro wedi ein dysgu i wneud? Y gred fod ardaloedd gwledig yn barasitiaid sy’n dibynnu ar y metropolis am gynhaliaeth. Ond y gwir ydi mai’r metropolis sy’n sugno adnoddau o’r ardaloedd gwledig heb ddeall eu gwerth. Pobl, bwyd, dwr, mwynau, coed. Ac ar ben hynny yn darparu lle i ddianc o brysurdeb dinesig ac adnewyddu corff ac enaid.

Yn y pendraw rhaid i ni – pob un ohonom ni – fod yn gyfrifol am y tir. Ganrifoedd yn ôl dywedodd Hen Ŵr o Bencader wrth y brenin Harri yr Ail mai ni, y Cymry, “a fydd yn ateb dros y cornelyn hwn o’r ddaear”.

Cefndir amaeth yng Nghymru

Gweithdy ffermwyr yw y tir

Mae arwynebedd Cymru yn rhyw 8,000 milltir sgwâr. Amcangyfrifir fod tua 88% o’r tir yn cael ei ffermio. Mynydd-dir neu ucheldir yw cyfran helaeth ohono, sy’n cael effaith ar y dull o ffermio. Cawn dywydd gwlyb yma! Cymru yw un o wledydd gwlypaf Ewrop. Ar gyfartaledd mae Blaenau Ffestiniog yn cael 120 modfedd o law bob blwyddyn. Mae’r glaw ynghyd â’r hinsawdd gymedrol yn ffafrio tyfu porfa.

Tir glas – porfa – yw 75% o’r tir a ddefnyddir, a mae 80% o hwnnw yn Dir Llai Ffafriol (term a ddefnyddir ar gyfer tir sy’n anos i’w ffermio, ac yn cael cymorthdal uwch na thir da). Maint daliad amaethyddol yng Nghymru ar gyfartaledd yw 120 erw (48 hectar), sy’n llai nag yn Lloegr a’r Alban, ond mae amrywiaeth anferth o fewn y ffigwr hwn.

Mae tua 24,000 o ddaliadau amaethyddol (2018), ond mae 10,000 o rhain yn fychan iawn.

Mae gwerth ariannol tir yn amrywio’n fawr, gan ddibynnu ar ei ansawdd. Yn ddiweddar (diwedd 2019) gwelwyd rhywfaint o leihad yn ei werth oherwydd ansicrwydd yn dilyn Brecsit, a daeth llai o dir ar y farchnad. Gall cytundeb masnach anffafriol gael effaith pellach wrth gwrs.

Ar gyfartaledd, gwerth tir amaethyddol a werthwyd yng Nghymru (3ydd chwarter 2019) yw: Tir pori £6,000/erw (lawr 7.7% o 2018); Tir âr £8,500 (lawr 5.6%); Mynydd-dir £1,000 (lawr 23.1%). Ond gwelwyd prisiau ar adegau yn y blynyddoedd diwethaf o £12,000 i £15,000 yr erw am dir efo galw mawr amdano.

Gwelwyd dirywiad aruthrol ers yr Ail Ryfel Byd yn ansawdd y tir o ran bioamrywiaeth. Collwyd 99% o feysydd gwair traddodiadol. Diflannodd llawer o gynefinoedd megis corsydd. Rhwygwyd gwrychoedd allan. Aeth adar oedd gynt yn gyffredin yn brin.

Ers talwm – hanes cefn amlen!

Credir fod pobl wedi bod ar dir Cymru ers o leiaf 30,000 o flynyddoedd, ac yn barhaol yn dilyn yr Oes Iâ ddiwethaf tua 10,000 i 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Helwyr a chasglwyr ddaeth gyntaf, yna ffermwyr Neolithig tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd Prydain bellach yn ynys ar wahân i Ewrop a’r Iwerddon. Y ffermwyr yma ddechreuodd y broses o glirio’r fforestydd a chreu porfeydd. Yn ddiweddarach daeth diwylliannau Celtaidd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, a’u hiaith yn ogystal â’u technolegau. Daeth y Rhufeiniaid, daeth y Normaniaid. Daeth y mynachod gyda’u dulliau newydd hwy o ffermio eu tiroedd helaeth, fel yn Ystrad Fflur, Glyn y Groes, Penrhys a Bassaleg.

Mae ôl a dylanwad amaethu gan ddynoliaeth ar dir Cymru i’w olrhain ymhell iawn. Tirlun sy wedi ei greu a’i reoli gan ddyn sydd gennym i raddau helaeth. Rhan bwysig o’r drafodaeth yw ystyried os ydyw dyn yn gweithio efo’r ddaear neu yn ei herbyn yn yr oes hon.

Yn wleidyddol, bu cefn gwlad yn lwyfan i sawl pennod yn hanes Cymru – Deddfau Cau Tiroedd Comin, Terfysg Beca, Rhyfel y Degwm, Rhyfel y Sais Bach, Gwrthdystiadau yn erbyn cig rhad yn y Porthladdoedd yn 1997, Gwrthdystiad Tanwydd yn 2000. Gellid honni fod pob un o’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â brwydro yn erbyn grym, gorthrwm, tlodi a chyfalaf.

Heddiw – cipolwg ar y diwydiant

Tua 52,000 o bobl (2018) sy’n gweithio ar ffermydd Cymru, sy’n cynnwys pobl rhan amser. Mae hyn o gwmpas 4% o’r gweithlu (canran uwch na Lloegr). Mae’r niferoedd wedi disgyn yn sylweddol dros y blynyddoedd, ond teg dweud fod nifer wedi symud i weithio i gontractwyr sy’n gweithio bron yn gyfangwbl ar ffermydd. Mae tuedd i weithwyr o dramor gael eu cyflogi ar ffermydd yn y degawd neu ddwy ddiwethaf, ond nid i’r un graddau ag yn Lloegr.

Mae busnesau eraill yn dibynnu ar ddiwydiant amaethyddol iach, fel cyflenwyr bwyd anifeiliaid, peiriannau amaethyddol a milfeddygon. Ac wrth gwrs mae’r sector bwyd a diod yn dibynnu’n helaeth ar amaeth am ei ddeunyddiau crai. Dywedir fod ffermydd teuluol Cymru mewn perthynas economaidd o ryw fath efo 40 i 80 o fusnesau eraill, llawer o fewn eu hardaloedd.

Os edrychwn ar y bobl a gyflogir gan y diwydiant amaeth? drwyddo draw yna mae’r ffigwr tua 220,000 neu 17% o’r gweithlu.

Cig coch, defaid ac eidion yn bennaf, a llaeth yw’r prif gynhyrchion. Mae da byw yn werth 51% a chynhyrchion da byw yn werth 35% Mae 29% o ddefaid ac 11% o wartheg y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru. Mae 60% o wartheg Cymru yn y sector laeth (ffigurau o 2016).

Cymharol fychan yw’r sector tyfu cnydau ar gyfer pobl, a hynny o ganlyniad yn bennaf i ddiffyg tir âr addas.

Ffermydd teuluol yw llawer iawn o fusnesau amaethu yng Nghymru – gallant fod yn berchen ar eu tir, yn denantiaid llawn, efo cytundeb rhannu tir efo’r perchennog, neu yn dal tir am dymor yn unig. Gall yr un busnes fod mewn sawl categori! Erbyn heddiw nid yw’r tir a ffermir gan un teulu neu fusnes mewn un ‘parsel’ mewn llawer iawn o achosion.

Mae nifer helaeth o fusnesau fferm wedi arall-gyfeirio, rhai ers degawdau, i feysydd fel twristiaeth, ynni a sawl cyfeiriad arall. Yn aml iawn yr anhawster o greu elw digonol trwy ffermio yn unig sy wedi cyflymu hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal mae llawer o ffermwyr yn entrepreneuriaid mentrus.

Yn gyffredinol, mae’r iaith Gymraeg yn gryfaf ac yn iaith naturiol mewn ardaloedd amaethyddol. Mae’r cymunedau hyn wedi cyflenwi siaradwyr Cymraeg naturiol fel darlledwyr a diddanwyr (Eleri Sion, Tudur Owen ac Eddie Ladd i enwi ond tri), gan alluogi Cymru gyfan i werthfawrogi cyfoeth ein tafodieithoedd. ‘Does dim ond rhaid gwrando ar hen recordiadau o rai o hen gymeriadau ardaloedd fel Epynt a’r Wenhwyseg i sylweddoli beth sy’n cael ei golli yn ieithyddol pan fydd cymdeithas amaethyddol yn gwanychu a diflannu.

Croeswyntoedd geirwon

Trafodwn rai problemau penodol gan eu gosod o fewn cyd-destun ehangach. Y bwriad yw ystyried eu natur, a’r meddylfryd gwahanol sydd ei angen i geisio cael atebion sydd yn llesol i ffermwyr ac i’r gymdeithas drwyddi draw. Yn yr ystyr ddyfnaf, mae tir Cymru yn eiddo i ni i gyd. Dyna pam mae lles y tir a’r bobl sy’n byw a gweithio ar y tir yn bwysig – mae’n greiddiol i’n lles ninnau.

Cynigir rhai syniadau allai arwain at dawelu rhai o’r croeswyntoedd hyn.

Perchnogaeth

Mae bod yn berchen tir yn golygu bod yn berchen pŵer. Dyna wers hanes – y mwyaf o dir, y mwyaf o rym. Dyna pam y collwyd cymaint o waed drosto yng Nghymru a ledled y byd drwy’r broses o goloneiddio (a chyn hynny) dros y canrifoedd.

Bellach mae perchnogi tir – a’r adnoddau naturiol sy ynghlwm – yn gallu cael ei weld fel buddsoddiad cyfalafol yn unig. Mae hyn yn broses sy’n digwydd mewn nifer o wledydd eraill. Effaith hyn yw codi pris tir a gwasgu pobl gyffredin allan o amaeth. Dyna sut y cafwyd gweithwyr ar gyfer y chwyldro diwydiannol – drwy droi pobl oedd yn gymharol hunan gynhaliol yn werin heb dir (‘landless peasants’) oedd yn ddibynnol ar weithio i eraill. Dechrau’r broses mewn sawl achos oedd eu gosod mewn cymaint o ddyled fel na allent fyth dalu’r ddyled yn ôl. Mae’n dal i ddigwydd, mewn gwledydd sy’n wynebu grym cyfalafiaeth o’r newydd, fel yn Romania. Dadwreiddir pobl, chwelir cymunedau, ac o fewn cenhedlaeth neu ddwy mae’r cyswllt efo’r tir wedi mynd, a’r dealltwriaeth am ble a sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, heb sôn am iaith a diwylliant.

Er mwyn sicrhau elw a thalu benthyciadau rhaid i’r tir ‘weithio’ yn galetach – felly llai o amrywiaeth planhigion mewn tir pori, cadw mwy a mwy o anifeiliaid, peiriannau anferthol, defnydd o gemegolion a gwrtaith, llai a llai o lafur cyflogedig, ffermio mwy a mwy o dir. I’r ffermwyr sy wedi goroesi dros genedlaethau – fel y rhan fwyaf o’n ffermydd teuluol – mae hyn yn ffordd o ffermio na fyddai llawer wedi ei dewis heblaw eu bod yn teimlo fod yn rhaid iddynt.

Ac os byddan nhw yn rhoi’r ffidil yn y to, bydd y ffarm yn aml yn cael ei phrynu gan ffermwr cyfagos lleol, neu gan gwmni agri-fusnes, sy’n edrych ar echdynnu popeth posib o’r tir, ac yn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gymorthdal gan Lywodraeth. Gall fferm deuluol dyfu i fod yn agri-fusnes – nid estron mohonynt o angenrhaid.

Penllanw’r broses raddol hon yw’r argyfwng a welwn yng Nghymru ar hyn o bryd.

Felly mae’r ffordd mae perchnogaeth wedi datblygu yng Nghymru wedi dod a ni i fan lle mae llawer o ffermwyr teuluol yn berchen ar eu tir, ond nifer helaeth sy ddim. Mae yna stadau helaeth sy’n eiddo i dirfeddianwyr ‘bonedd’ yn dal i fodoli, a mae nhw yn aml wedi newid eu strategaeth i ffwrdd o osod tenantiaeth lawn, ac yn dueddol i un ai ffermio eu hunain, neu osod y tir ar wahanol fathau o gytundebau. Gall hyn arwain at broblemau pellach o ddirywiad yn y gymdeithas wledig, gan fod tŷ ffarm sy’n dod yn wag yn aml yn cael ei osod fel tŷ haf, neu ei werthu ar y farchnad agored i brynwr cefnog. Nid yw’r mater hwn wedi cael sylw haeddiannol hyd yma.

Cofiwn fod nifer o stadau mawrion wedi eu hadeiladu ar sylfeini amheus yn y lle cyntaf.  Dyma rai o’r sylfeini. Cefnogi’r ochr ‘iawn’ yn y brwydrau am goron Lloegr; priodasau strategol sy’n clymu sawl stad efo’i gilydd (ambell dro efo tiroedd helaeth yng Nghymru a Lloegr); dwyn tir adeg cau’r Tir Comin; defnyddio arian o ffynonellau anfoesol fel y fasnach gaethweision. Yn y broses ‘roedd yr ‘uchelwyr’ Cymreig gwreiddiol yn raddol droi yn bileri’r drefn Brydeinig – ac yn dal i fod.

Tirfeddianwyr pwysig arall yw’r Cynghorau Sir. Mae ganddynt bortffolio o ffermydd, fel arfer yn dyddynnod neu ffermydd cymharol fychan. Bwriad rhain yn wreiddiol oedd i roi troed ar yr ysgol ffermio i bobl ifanc, gan eu galluogi i hel dipyn o arian a magu anifeiliaid cyn symud ymlaen i fferm fwy. Bellach mae’r sustem, tra’n dal i fodoli, wedi gweld problemau dyrys. Mae ambell i Gyngor yn dewis gwerthu man-ddaliad neu fferm ar y farchnad agored, o dan bwysau ariannol byddant yn hawlio mae’n debyg. Felly mae’r cyfle i berson ifanc brwdfrydig wedi mynd.

Mae Cyngor Sir yn dewis gwerthu yn cau y drws ar ffyrdd amgen o edrych ar sut i ddefnyddio’r tir a ffermio er budd y gymuned leol, fel y gwelwyd yn achos Fferm Trecadwgan ger Solfach yn ddiweddar.


Trecadwgan – astudiaeth achos

Bu ymdrech lew gan ardalwyr i brynu’r fferm er mwyn creu menter gymunedol fyddai wedi cynhyrchu bwyd i bobl leol, a dysgu’r grefft o ffermio i’r trigolion.  Crewyd cynllun busnes credadwy, a gwrthwynebwyd penderfyniad y Cyngor yn chwyrn, gyda deiseb o fil o lofnodion. Sawl gwaith ‘roedd y gymuned yn credu eu bod wedi cael cytundeb gyda’r Cyngor Sir i brynu’r fferm, ond drylliwyd y gobeithion.

‘Roedd gweledigaeth gyffrous ac adeiladol i greu cymuned o gwmpas y fenter. Yn lle hynny gwelodd y Cyngor yn dda i roi buddion ariannol tymor byr o flaen dymuniad y gymuned i adeiladu rhywbeth fyddai o wir werth, a hwnnw’n barhaol, ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Dyma fel y mynegodd, Gerald Miles o fferm Tŷ Rhys ger Tŷ Ddewi, y Cymro o ffermwr sydd ei hun yn tyfu cnydau ar gyfer ei ardal leol, y weledigaeth ar gyfer y fferm:

“Cynnwys pobl ifanc a phlant yn y fferm ac adfer parch at fwyd. Rhaid i ni ddod a chariad yn ôl i dyfu bwyd. Tyfu gyda’n gilydd a bwydo ein gilydd. Cadw’r fferm yn ôl y bwriad gwreiddiol, tyfu a darparu bwyd ar gyfer y gymuned, gyda’r gymuned.”

A oes yna well gweledigaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol?

Dyma fideo byr o Gerald yn egluro’r weledigaeth cyn i’r fferm gael ei gwerthu i bobl o Gaerloyw:

Tristwch affwysol oedd i’w glywed yn llais Gerald wrth ymateb i’r newydd fod y fferm wedi ei gwerthu.


Dyma rai atebion posib:

Banc tir. Mynediad at dir i’w ffermio yw’r maen tramgwydd anorchfygol i lawer. Mae hyn yn arbennig o wir am ffermwyr ifanc. Ond gallai banc tir fod yn fodd o hybu cymunedau sy am dyfu bwyd eu hunain hefyd.

Adfer Tir. Gwyddom yn iawn y gall arian cyhoeddus gael ei wario i brynu tir – er enghraifft ar ôl y troi allan gwarthus ar Epynt 80 mlynedd yn ôl. Dylid difilitareiddio y tir a’i adfer i ddefnydd amaethu heddychlon yn unig.

Ffermydd Cyngor. Dylai fod yn anghyfreithlon i Gyngor Sir werthu eu ffermydd – fel y gwnaed yn achos Trecadwgan.

Uchafswm o dir/cymorthdaliadau. Mae’n afresymol fod gormod o dir yn nwylo un unigolyn, busnes neu stad. Mae’n hollol anghywir hefyd fod busnesau mawr yn cael symiau enfawr o arian gan y trethdalwr.

Olyniaeth. Nid yw’r ffaith fod y rhan fwyaf o bobl sy’n rhedeg ffermydd yn eu pumdegau a’u chwedegau yn arwydd o ddiwydiant iach. Mae nifer sy’n hŷn na hynny. Mewn sawl achos, ‘does gan ffermwr neb i’w olynu yn y busnes. Gallai Banc Tir brynu’r fferm, a gosod y fferm i ffermwr ifanc.

Marchnadoedd

Mae’r Deyrnas Gyfunol yn mewnforio 48% o’r bwyd sydd ei angen, cyfran sy’n tyfu. Byddech yn meddwl mai prif waith ffermwyr yma yw bwydo ein pobl ein hunain. Pam felly mae cymaint o bwyslais gan y diwydiant amaeth ar gadw marchnadoedd i allforio iddyn nhw ar agor? I symleiddio rhesymau cymhleth iawn, prisiau’r farchnad yw’r bwgan.

Datblygodd grym archfarchnadoedd i’r fath raddau fel y gallan nhw fwy neu lai gynnig beth bynnag mae nhw eisiau i ffermwyr, heblaw fod yna brinder dros dro o rhywbeth neu’i gilydd. Gallant wasgu pris a gytunwyd i lawr hefyd – ‘Rhaid i ti gymryd ceiniog yn llai am bob un o dy fresych achos mi allwn ni fewnforio cyflenwad rhatach. Fyny i ti, Mistar Ffarmwr, os ti am dderbyn y pris neu adael i’th fresych bydru yn y cae… o, dydan ni ddim eisiau y rhai sy’n rhy fawr neu’n rhy fach chwaith.’

Felly mae ffermwyr Cymru am gadw masnach cig oen a chig eidion efo Ewrop, gan fod y prisiau yn well, ar adegau pan fydd archfarchnadoedd yma yn mewnforio cig o Seland Newydd, efallai. Mae corff penodol, Hybu Cig Cymru, yn chwilio am gwsmeriaid dramor, yn ogystal ag yma, mewn llefydd fel y Dwyrain Canol hyd yn oed. Mewn difri calon, methiant marchnadoedd dilyffethair sy wedi dod a ni i hyn.

Mantra’r farchnad yw ‘Bwyd Rhad!’. Dydi hynny ddim yn gyfystyr a bwyd da, maethlon, wedi ei fagu i safonau iechyd a lles da. Mae’n diraddio parch at fwyd. Mae’n gwneud i ffermwyr weithio’n galetach i aros yn eu hunfan yn ariannol, efo cost i’w hiechyd corfforol a meddyliol. Mae’n cynyddu milltiroedd bwyd yn ddiangen. Tra ‘rydyn ni i gyd yn ddiolchgar fod yna ddigon o fwyd ar y silffoedd, mae’n hen bryd i ni holi beth, yn union, yw cost y bwyd ‘rhad’ yma mewn termau heblaw am rhai ariannol yn unig. Y gost i’r amgylchedd, y gost i gymunedau.

Daeth Marchnadoedd Ffermwyr yn boblogaidd dros y blynyddoedd diweddar, ond talcen caled mae nhw’n ei gael i dorri trwodd i fod yn brif ffrwd.

Dyma rai atebion posib:

Bwyd lleol. Mae angen ymestyn y dulliau o gyflenwi bwyd lleol trwy greu partneriaethau efo ffermwyr lleol ar raddfa eang. Dylai hyn fod yn arferol ymhobman, yn lle bod yn eithriad cymharol brin.

Ar ben hynny credwn fod angen cefnogaeth go iawn ar gymunedau sy am dyfu bwyd eu hunain. Gwelwn fod hyn yn dalcen caled am sawl rheswm, ond byddai cynnydd yn y prosiectau hyn yn gwneud cymaint o les i ail-gysylltu pobl efo’u bwyd.

Dyma fideo (35 munud) gan y mudiad rhyngwladol Access To Land sy’n edrych ar y sefyllfa mewn gwahanol wledydd – y problemau a’r llwyddiannau.

Prosesu a dosbarthu. Datblygodd y dulliau presennol i siwtio archfarchnadoedd ac agri-fusnes. Dydi rhain o ddim help i’r ddelfryd o gyflenwi bwyd mor lleol a phosib, a lleihau milltiroedd bwyd. Mae’n groes i’r graen fod anifail sy wedi ei fagu’n ofalus yn gorfod teithio filltiroedd lawer ar ei siwrnai olaf, am nad oes yna ladd-dy o fewn pellter rhesymol.

Mae angen gweld os oes modd creu economïau bwyd lleol, sy’n cynnwys nid yn unig y cynnyrch syth o’r fferm, ond bwydydd a diodydd a wneir allan ohonynt. Fel arfer, y deunydd crai yw’r pethau rhataf yn y cynnych terfynol, a’r cynhyrchwr heb weld cyfran uchel o’r elw terfynol.

Beth am gael strategaeth bendant o greu diwydiant bwyd yn lleol sydd efo’r ffermydd teuluol yn gonglfeini, ac isadeiledd sy’n galluogi cyflenwi a dosbarthu bwyd, a chreu cynnyrch a diodydd sy’n defnyddio cymaint a phosib o gynnyrch y fferm? Mae arian Llywodraeth wedi cael ei wario ar bethau gwaeth o lawer!

Amgylchedd

Gosodiad syml: mae’r amgylchedd yn cael ei lunio gan amaeth.

Nid yn unig yr amgylchedd a welwn, ond yr amgylchedd nas gwelwn, fel y meicrobau a’r pryfetach yn y pridd, ac yn wir natur y pridd ei hun.

Dyma enghreifftiau o sut mae ffermio yn cael effaith ar yr amgylchedd: patrymau aredig; pa fath o hadau gaiff eu plannu; faint a pha fath o gemegolion a ddefnyddir, dwyster y ffermio; defnydd o wrtaith artiffisial neu naturiol; gwrychoedd; cloddiau; draenio tir. Yn gyffredinol, mae ffermio yng Nghymru yn llai dwys nag yn Lloegr oherwydd natur y tirwedd i raddau helaeth. Serch hynny, mae yna broblemau dyrys iawn wedi dod i’r amlwg. Gwrandewch ar araith Iolo Williams a mi gewch eich syfrdanu pa mor ddifrifol yw pethau. Dyma fo yn lawnsiad  ‘State of Nature’ yng Nghaerdydd 2013 (16 munud).

Diflannodd 99% o feysydd gwair Cymru ers yr Ail Ryfel Byd. 99%!

Gall llygredd o ffermydd ladd cannoedd os nad miloedd o bysgod. Mae pryder am effaith cemegolion ar wenyn. Daeth ofnau am effeithlonrwydd cyffuriau gwrthfiotig. Gall drewdod o fferm ddiwydiannol ddwys amharu ar ansawdd bywyd. Ond cael eu gwthio i lawr y llwybrau hyn gafodd ffermwyr. Yn yr un modd ag y ceisiwyd gwthio hadau wedi eu newid yn enetig arnyn nhw.

Nid yw hyn o les i neb yn y pendraw, ac yn sicr ddim o les i’r ffermwyr. Mae’n anghynaladwy – i’r diwydiant ac i’r tir.

Dyna pam mae taliadau i ffermwyr yn ddiweddar, ac yn ôl pob tebyg yn y dyfodol, wedi eu llunio i hybu polisïau sy’n well i’r amgylchedd. Mae ffermwyr Cymru bob tro yn ymateb i’r gofynion sy arnyn nhw. A dyna lle mae yna lygedyn o obaith – os gall y gofynion arnynt newid fel bod yr holl gyfraniad mae nhw’n ei wneud yn cael ei gloriannu a’i dalu yn iawn. Ond rhaid i’r manylion fod yn gywir yn y rheolau a’r taliadau. Rhaid i’r sgwrs rhwng ffermwyr a’r cyhoedd fod ar sail dealltwriaeth.


‘O’r Mynydd i’r Môr’ – astudiaeth achos

Cyflwynodd yr elusen ‘Dad-ddofi Prydain’ (‘Rewilding Britain’) gynllun ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yn ardal sy’n ymestyn o Bumlumon i Fae Ceredigion. Dyma glasur o ymgais gan bobl o’r tu allan efo bwriadau da i wthio syniadau am sut i reoli tir, er enghraifft drwy gyflwyno rhywogaethau a ddiflannodd ganrifoedd yn ôl, gan beidio siarad yn gall efo pobl oedd wedi llwyddo i oroesi yno ers canrifoedd. Rhywsut aeth bwriad yr elusen i geisio creu economi a allai ddatblygu law yn llaw gyda chadwraeth a dad-ddofi ar goll yn y sgwrs. Cythruddwyd ffermwyr lleol. Bellach mae’r elusen wedi tynnu allan o’r cynllun a’i drosglwyddo i bartneriaeth mwy lleol, sy’n bwriadu datblygu’r prosiect mewn modd mwy cynhwysol. Yr hyn na wnaeth yr elusen wreiddiol oedd ystyried fod y ffermwyr cynhenid eu hunain yn rhan bwysig o fioamrywiaeth!


Dyma rai atebion posib:

Nwyddau cymdeithasol. Allwn ni ddim dweud ar hyn o bryd sut gyflwr fydd ar y farchnad ar gyfer cynnyrch traddodiadol ffermydd Cymru. Ond gallwn fod yn hyderus y bydd galw cynyddol am y pethau mae cymdeithas eu hangen. Bioamrywiaeth, gwarchod cynefinoedd, sinc carbon, atal llifogydd i enwi rhai. Gall ffermwyr gyflenwi y rhain i gyd – ond rhaid i’r fargen gymdeithasol hon gael ei hariannu’n iawn a rhesymol. Dylai unrhyw fargen gyda Llywodraeth gynnwys ystod o bobl leol y tu allan i’r cylch arferol. Gallai gynnwys cytundeb i ddarparu tir i dyfu cnydau bwyd ar gyfer y gymuned leol – gall y ffermwr dyfu’r cnydau, neu y gymuned, neu bartneriaeth. Yr egwyddor bob tro ddylai i’r arian aros yn lleol.

Cymorthdal neu gytundeb?

Gallwn roi ateb parod i rai sy’n cwyno fod ffermwyr yn cael cymhorthdal: mae nifer o ddiwydiannau yn dibynnu ar y Llywodraeth fel eu prif gwsmer. Beth fyddai cwmnïau arfau heb arian enfawr ar ffurf cytundebau gan y Llywodraeth? Lle fyddai y diwydiant niwclear? Bargen llawer well, a defnydd llawer mwy moesol o arian, yw ei wario ar ddeilliannau amgylcheddol a diogeledd bwyd o gefn gwlad. Felly dim ots am y teitl – yr egwyddor sy’n bwysig, sef bod yr arian yn talu am bethau angenrheidiol, nid fel modd o dâl elusennol i esmwytho ergydion y farchnad fwyd.

Gwrthdaro

Dyma rai pynciau sy’n achosi gwrthdaro a phegynnu rhwng ffermwyr a phobl eraill.

Llysieuaeth a Feganiaeth; Llês Anifeiliaid; TB; Cadwraeth; Llygredd Amgylcheddol; Mynediad Cyhoeddus; Carbon a Hinsawdd; Biwrocratiaeth.

Gall y ‘bobl eraill’ fod yn Lywodraeth, sefydliadau rheoleiddio, elusennau, neu garfannau o bobl efo ymgyrch benodol.

‘Does dim gofod yma i drafod y pynciau hyn, ond beth sy’n nodweddiadol ohonynt i gyd yw fod yna deimlad o ddiwydiant dan warchae sy’n cael mwy a mwy o drafferth i ganfod llwybr fedr ail-gysylltu trwch y boblogaeth efo nhw a’u gwaith.

Mae yna elfen gref o ‘ni a nhw’. Ffermwyr yn meddwl nad ydi pobl y dref yn deall y wlad. Pobl y dref yn meddwl fod ffermwyr yn cwyno’n dragywydd, yn gyfoethog, ac yn dinistrio natur. Gor-symleiddio, wrth gwrs, ond mae elfen o wirionedd hefyd.

Teg dweud fod yna rai materion lle nad oes bosib cael cytundeb, nac o bosib cyfaddawd, rhwng pobl sydd ar eithafion pwnc penodol. Y peth pwysig i’w gofio yw nad ydi y rhan fwyaf o bobl ar yr eithafion! Mae natur a thôn trafodaeth yn bwysig os am ganfod datrysiadau y gall y boblogaeth yn gyffredinol eu deall a’u cefnogi.

Dyma rai atebion posib:

Gadael y seilo! Gydag arweiniad hirben o du’r diwydiant a pharodrwydd i drafod efo’r cyhoedd byddai modd troi y pynciau lle mae gwrthdaro yn fannau cychwyn i ail-lunio’r diwydiant amaeth a’r economi wledig. Gall cyfathrebu effeithiol chwalu’r ‘nhw a ni’. Nid yn unig y mur o gamddealltwriaeth rhwng ffermwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol, ond rhwng ffermwyr a charfannau penodol fel amgylcheddwyr.

Rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd. Nid ‘pobl y dre’ yw’r unig rai sy angen dysgu. Erbyn hyn mae llawer o bobl yn byw yn y wlad sy heb gyswllt uniongyrchol efo amaeth.

Deall pa gynnyrch mae’r cyhoedd ei angen. Mae bwyd yn brif gynnyrch, ond mae cynhyrchion a deilliannau gwerthfawr eraill. Dyna lle mae cychwyn y sgwrs am sut i droi y pethau hyn yn fywoliaeth.

Casgliad

“Mae Rhyfel yn rhy bwysig i’w adael i’r cadfridogion” meddai’r gair. Yn yr un modd mae’r rhyfel dros ddyfodol y tir a ffermio yn rhy bwysig i’w adael i’r gwleidyddion. Oherwydd rhyfel ydi o mewn gwirionedd. Mae’n frwydr fyd-eang, a’n tasg ni yng Nghymru yw sicrhau nad ydi ein darn fach ni o’r blaned – a’r ffermydd teuluol fedr ei gwarchod – ddim yn cael eu rhoi yn offrwm ar allor ariangarwch ymosodol cyfalafiaeth.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.