Safwn mewn undod gyda phobl yn y Rhondda, sydd wedi dioddef trychineb llifogydd yn difetha eu cartrefi am y trydydd tro eleni. Cefnogwn alwad Leanne Wood am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd cyson hyn. Mae Wood, Aelod o Senedd Cymru dros Rhondda, yn honni bod angen cymorth brys i atal hyn rhag digwydd eto, gan ddweud bod pobl yn grac ac yn rhwystredig, ac y gellid bod wedi gwneud gwaith eisoes i atal y llifogydd y tro hwn.

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Rhondda, wedi galw am “atebion” yn hytrach nag ymchwiliad. Fodd bynnag, bydd unrhyw ymchwiliad digonol heb os yn seiliedig ar ganfod y diffygion sylfaenol, ac felly sut y gellid eu trwsio. Credwn felly fod hyn yn gam sinigaidd ar ei ran, oherwydd mai ei blaid ef, wrth gwrs, fyddai’n cael ei gosod o dan y chwyddwydr.

“Mae peryglon naturiol yn anorfod; nid felly’r trychineb” meddai Lucy Jones, sylw perthnasol iawn gan y seismolegydd byddai modd ei gymhwyso i’r dilyw.

Yr hyn sydd fwyaf rhwystredig yw’r nifer o wleidyddion fydd yn disytyru hyn ar sail y syniad cyfeilornus mai trychineb “naturiol” yw hyn. Mae’n eithriadol pa mor gyflym bydd y bobl yma’n awgrymu eu bod yn ddi-rym yn wyneb yr argyfwng. Ond, dylai fod cwestiynau difrifol ynghylch yr hyn sydd wedi achosi’r llifogydd hyn, ac i ba raddau y maent yn ganlyniad o ddiffygion isadeiledd. Yn achos y lifogydd ym mis Chwefror, honnodd llawer mai un o’r prif achosion oedd y ffaith fod draeniau a chwlfertau wedi’u blocio. Er bod effeithiau parhaus llymder o’n cwmpas o hyd, yr hyn a anghofir yn aml yw sut y mae wedi effeithio ar ein isadeiledd cyffredin, bob dydd (megis systemau draenio). Dyma pam mae trychinebau fel llifogydd yn drychinebau gwleidyddol yn y bôn. Wrth i’r argyfwng hinsawdd ddatblygu, ac wrth i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn fwy cyffredin, dylem ddisgwyl gweld gwleidyddion yn honni nad oes ganddynt y grym i ddelio â thrychinebau “naturiol” o’r fath. 

Unwaith eto, mae pobl yn garedig iawn wedi rhoi arian i helpu’r aelwydydd yr effeithiwyd arnynt, gan ddangos yr ysbryd cynnes, cefnogol y buom hefyd yn dyst iddo ym mis Chwefror. Tra’n bod ni’n gobeithio’n fawr y bydd hyn yn cynnig rhywfaint o gymorth a chefnogaeth i’r rheini sydd ei angen, rhaid inni ochel hefyd rhag caniatau i’r cronfeydd yma ddefnyddir gan bobl fel Bryant (sydd wedi sefydlu ei dudalen GoFundMe ei hun) i dynnu sylw (yn fwriadol hyd yn oed) oddi wrth methiannau llywodraethol hanfodol y gellid eu hosgoi. Er nad yw’r codi arian hyn o reidrwydd yn “llenwi” unrhyw wasanaeth penodol a ddylai fod wedi’i ddarparu gan y wladwriaeth, credwn y gallai osod cynsail peryglus lle mae rhoddion yn gweithio fel plastr ar gyfer gorchuddio problemau sylfaenol, gan ganiatáu i’r rhain gael eu hanwybyddu.

Yr hyn sy’n peri pryder yw ei bod yn ymddangos bod hyn yn arwydd o duedd gynyddol gan wleidyddion o ran troi’n uniongyrchol at fodelau elusennol yn wyneb diffygion y Llywodraeth. Yr ydym wedi gweld y patrwm hwn gyda’r ymdrechion diweddar i godi arian ar gyfer y GIG, gyda charedigrwydd y bobl yn cael ei ecsbloetio gan elît a ddaeth â’r GIG i’w liniau, ac sy’n fwy na pharod i droi darpariaethau cymdeithasol pwysig yn elusennau. Yr ydym yn disgwyl i’r elît ddyblu ar ymdrechion o’r fath pan fydd yr argyfwng economaidd sydd ar y gorwel yn diflannu, felly mae angen inni barhau i fod yn effro i unrhyw ymdrechion ‘top i lawr’ gan wleidyddion elît i godi arian er mwyn dargyfeirio sylw oddi wrth yr hyn sydd wir yn achosi argyfyngau o’r fath.

Y tu hwnt i hyn, mae angen i lywodraeth (llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru) ac asiantaethau cysylltiedig dderbyn cyfrifoldeb yng nghyswllt y llifogydd hyn, ac agor dadl ehangach ynghylch perygl llifogydd a lliniaru yn y dyfodol. Nid yw’n ddigon i troi allan y dŵr ac yna i dalu teuluoedd â rhoddion elusennol bob tro. Yn hytrach, mae angen inni gael dull o adeiladu a chynnal seilwaith priodol sy’n lleihau a, lle bo’n bosibl, osgoi llifogydd yn llwyr yn y dyfodol. Mae’r dasg hon yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i arbenigwyr honni bod angen i ni ddatblygu ein gallu i wrthsefyll llifogydd yn wyneb argyfwng yr hinsawdd. Fodd bynnag, gyda’r newyddion diweddar nad oedd Llywodraeth Cymru ond wedi cyflawni 4% o’i tharged o blannu 2,000 hectar o goed y flwyddyn yn 2019-20, mae’n amlwg nad yw strategaethau newid hinsawdd yng Nghymru yn fawr mwy na geiriau gwresog ar hyn o bryd. Gyda methiant o’r fath mewn golwg, ymddengys bod y cynig dinod o gadw cymunedau’n ddiogel rhag llifogydd wedi dod yn syniad radical ac iwtopaidd yn y Gymru sydd ohoni.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.