Os oes gobaith o lwyddiant i’r mudiad annibyniaeth, mae yna angen dirfawr i sicrhau ymdeimlad o undod ymysg y sawl sy’n cyfrannu.

Waeth inni ddechrau gydag un o’r pynciau yna sydd wedi creu hollt hanesyddol yng Nghymru – sef yr iaith. A gall rhywun gweld yng nghyswllt rhai digwyddiadau fwy diweddar bod anghytundeb, gwaetha’r modd, yn parhau i godi pen.

Wele er enghraifft dau erthygl a gyhoeddwyd amser hyn flwyddyn ddiwethaf, gan aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol oedd yn honni bod y Gymraeg a’r sawl sy’n ymgyrchu drosti yn ei arallu ac yn tanseilio eu statws.

Mae’n wireb hefyd bod rhai ymysg y gymuned radical yng Nghymru sydd yn teimlo mai tynnu sylw y gwna’r Gymraeg oddi wrth bynciau pwysicach – dichon bod nifer ohonom wedi dod ar draws cymeriadau sy’n daer dros achosion lleiafrifol eraill, nad sydd yn gweld yr un dadleuon yn ymestyn i’r Gymraeg.

Mae yna angen inni atgoffa’n hunain o bryd i’w gilydd felly bod y Gymraeg yn rhywbeth y mae’n rhaid inni gyd sefyll drosti, fel rhan o wleidyddiaeth radical yng Nghymru, pa ots beth yw ein perthynas â hi.

Hynny yw, nid ychwanegiad yw consyrn dros y Gymraeg, ond yn hytrach mae ei chefnogi yn ymrwymiad yr un mor annatod i fudiad o’r fath ag ymrwymiad, gweder, i warchod yr amgylchfyd.

Yn hynny o beth mae angen ystyried a chanfod yr iaith trwy’r un prism a phynciau llosg eraill sydd yn ein herio ni yn y Gymru sydd ohoni.

Nid problem ar wahan ydyw sydd yn wynebu problemau oherwydd set gwbl unigryw o amgylchiadau, ond yn hytrach mae cyflwr yr iaith yn symptom o broblemau sydd yn gyfrifol am ddirywiad a rhwystredigaeth yng nghyswllt achosion gwleidyddol eraill.

Ymysg y ffactorau yma mae:

  • diffyg gweithredu cadarnhaol, radical gan wleidyddion – fel yn achos y cynlluniau datblygu, sydd a goblygiadau ehangach na dim ond cynaladwyedd yr iaith
  • y bwlch rhwng polisi ar un llaw a gweithred ar y llaw arall – gyda thargedau ac amcanion sydd mor bell o realiti pob dydd llywodraeth leol a chenedlaethol
  • yr her o godi statws a rhoi bri ar bethau sydd yn arall na’r materol a’r cyfalafol – fe welwir yr agweddau yma yn y dibrisio cyson o’r iaith a’r cwestiynnu parhaol am eu gwerth economaidd – yn yr un modd y mae ein ysgolion a phrifysgolion yn cael eu coloneiddio gan safbwyntiau sydd yn rhoi gwerth yn unig ar sgiliau a chyflogadwyedd

Yn syml, mae’r heriau a wynebir gan yr iaith yn rhai sydd yn ymestyn i bob cwr o’n cymdeithas. Yn hynny o beth, mae dirywiad yr iaith mewn unrhyw gyd-destun yn symptom o broblemau a thueddiadau strwythurol y gymdeithas rydym yn rhan ohoni.

Neo-Ryddfrydiaeth Brydeinig

Rhaid pwysleisio o ran y mudiad felly bod dirywiad yn y nifer o siaradwyr yn y cadarnleoedd traddodiadol yn ganlyniad i wendidau a drygioni neo-ryddfrydiaeth y gyfundrefn Brydeinig; yn yr un modd y mae’r heriau ar draws meysydd fel iechyd, cyflogaeth, ac addysg mewn ardaloedd eraill yn amlygu eu hunain oherwydd yr un ffactorau gwaelodol.

Dyma, at ei gilydd, ideoleg economaidd sydd wedi trawsffurfio mewn i ffordd o fyw, neu safbwynt moesol hyd yn oed, sydd yn gosod elw, unigolyddiaeth a’r farchnad a’i gofynion uwchlaw pob dim arall.

Y canlyniad mewn ardaloedd gwledig o Wynedd, Ceredigion a Sir Gar felly yw tai anfforddadwy, economiau lleol sy’n ddibynnol ar ddiwydiannau anwadal, cronni cyfoeth mewn canolfannau dinesig sydd yn tynnu’r ieuenctid o’r cyrion, a diffyg gweledigaeth neu ymrwymiad i herio’r tueddiadau yma, fel petai pobl yn ofni cael eu cystwyo am heresi.

Ac mae’n aruthrol bwysig ein bod ni’n cydnabod bod yr union ffactorau gwaelodol, economaidd yma wrth waith pan yn ystyried tranc ein cymunedau ôl-diwydiannol.

Mae diweithdra, diffyg cyfleoedd a thlodi’r ardaloedd yma wedi treiddio’n ddwfn yma oherwydd yr ideoleg hon, yn gyntaf, wrth gwrs, gyda dinistr y diwydiannau mawrion oherwydd eu ‘aneffeithlonrwydd’ (er bod sawl diwydiant arall, yn enwedig yr un ariannol, wedi dangos eu hunan llawn mor aneffeithlon ac eto’n derbyn help di-ddiwedd).

Yna, yn dilyn y rhaib hwnnw ni welwyd unrhyw ymgais strwythuredig, pellgyrhaeddol i drawsnewid ffawd y cymunedau yma, dim ond atebion gweigion, dros dro, megis denu diwydiannau oedd yn chwilio am ardaloedd rhatach i ecsploetio bron cyn i’w ffatrioedd cael eu codi.

Does yna ddim rhyw lawer mwy wedi digwydd ers datganoli, gwaetha’r modd – a hynny eto’n sgileffaith tra-arglwyddiaeth neo-ryddfrydiaeth yn ystod blynyddoedd New Labour nad oedd yn mynnu’r newidiadau strwythurol i’r drefn byddai wedi gwneud gwahaniaeth i’r cymunedau yma.

Arallu

Ydynt, mae’r symptomau yn rhai gwahanol – colli iaith, pobl ifanc, a chymunedau yw ffawd ein ardaloedd cefn gwlad – dioddefaint, tlodi ac iselder yw ffawd ardaleodd ol-diwydiannol – ond rhaid inni weld ein hunan fel rhan o’r un frwydr.

Dywed y sosialydd traddodiadol yn aml: does yna ddim gwahaniaeth rhwng y gweithiwr yng Nghymru, gogledd Lloegr na’r Alban. Ond eto mae fel petawn ni yng Nghymru ddigon hapus derbyn y syniad bod yna rywbeth sylfaenol gwahanol am y gweithiwr o Flaenau Ffestiniog a Ferndale.

Mae’r cymunedau yma’n cael eu gwahanu o’i gilydd yn ymarferol ac yn seicolegol gan bolisi gwael sydd yn diethrio rhannau o Gymru o’i gilydd, a gan y broses ddrygionus o ‘arallu’ un o’r llall – trwy ddefnydd, wrth gwrs, yr iaith.

Rydym yn annog y syniad o Gymru ryngwladol lle rydym yn hyddysg i fod yn rhan o gymuned fawr y byd, ond yn methu hyd yn oed bod yn gymuned gydlynnol o fewn ffiniau cenedl ein hunain.

Rhaid inni wrthwynebu’r modd y mae’r iaith yn cael ei droi’n arf gan y sawl sydd heb uchelgais i’n pobl a’n gwlad.

Mae hyn wrth gwrs yn cael eu hategu gan bolisi addysg nad sydd wedi dod yn agos at wireddu’r twf sydd angen er mwyn ymateb i’r gofyn am addysg Gymraeg na chwaith sicrhau mwy o gydraddoldeb ar draws y gwastad ieithyddol.

Mae’r drwgdeimlad at yr iaith mewn ardaloedd tu allan i’r fro yn codi’n aml o’r ffaith bod pobl yn teimlo’r anghyfiawnder o beidio a siarad yr iaith, tra’n gweld y manteision sy’n codi o’r gallu hwnnw.

Dim ond ewyllys ac ymdrech gwirioneddol i wthio ymlaen agenda’r miliwn o siaradwyr all fynd i’r afael a hyn.

Y ffordd ymlaen

Rhaid gofyn felly, beth sydd angen inni wneud. Ac o safbwynt y Cymry Cymraeg mae angen inni gydnabod y braint sydd gennym o siarad yr iaith.

Braint o safbwynt cael mynediad at ran sylweddol o’n treftadaeth, braint o ran manteision cyffredinol dwyieithrwydd, a braint o safbwynt cyfleoedd.

Heb gydnabod hynny mae’n anodd meithrin y cydymdeimlad sydd angen gyda’r sawl nad sydd yn medru’r iaith ac yn gweld ac yn teimlo’r rhwystrau o’r herwydd.

Llaw yn llaw a hynny, wrth gwrs, mae eisiau gwneud gwaith gwell o fynegi natur ddeuol, amwys y fraint yma hefyd, er mwyn amlygu pam rydym ni yn aml yn teimlo dan warchae yn ein profiadau beunyddiol.

Mewn rhai cymunedau mae’n anodd gweld y gymuned Gymraeg fel un sy’n dioddef, pan mae rhannau helaeth o’r gymuned honno yn byw bywydau cymharol llewyrchus (ac un eironi o’r prosesau rydym yn trafod yw’r ffaith bod nifer o’r sawl sy’n gadael eu cymunedau yn y gogledd a’r gorllewin yn ymgatrefu mewn ardaloedd o Gaerdydd, gan godi prisiau tai sydd wedyn yn gorfodi pobl i adael eu cymunedau nhw).

O ran y di-Gymraeg, beth sy’n rhesymol i ofyn? Gellid gofyn iddynt ‘hawlio’r’ Gymraeg i’w hunain i raddau, ond nid oes modd i hynny gofyn caffael yr iaith o reidrwydd.

Rhaid derbyn yn y lle cyntaf bod dysgu iaith fel oedolyn nad sy’n iaith gymunedol yn her enfawr nad sy’n o fewn cyrraedd i nifer o bobl am wahanol resymau.

A’r gwir amdani yw, nad yw’r iaith yn gonsyrn arbennig i nifer fawr o bobl, ac nid oes modd newid hynny.

Ond wedi dweud hynny, gallwn obeithio a disgwyl bod y di-Gymraeg yr un mor barod i sefyll lan dros yr iaith a’r Cymunedau Cymraeg pan maent dan warchae, a’r hyn fyddan nhw wrth amddiffyn achosion eraill.

I’r perwyl yma mae yna waith i wneud er mwyn ehangu ymwybyddiaeth o’r iaith, ei rol hanesyddol wrth i’r Genedl Gymreig ffurfio, ac wrth gwrs yr anghyfiawnderau hanesyddol yn eu herbyn.

Felly mae angen magu mwy o gydymdeimlad a ddealltwriaeth, ac yn bôn, dangos bod ymgyrchu dros yr iaith yn un enghraifft arall o’r agenda radical sydd angen arnom yng Nghymru er mwyn sefyll lan dros gymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder – achosion sydd yn rhai byd-eang wrth gwrs, a sydd angen cysylltu ni yn ein tro gyda phobloedd ledled y byd, o wledydd lleiafrifol Ewrop i bobl frodorol yr Americas, yr Affrig, ac Asia.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.