Mae trafodaeth ar y berthynas rhwng sosialaeth a’r cwestiwn cenedlaethol yn allweddol i ddyfodol y mudiad dros annibyniaeth i Gymru, sef Undod. Yn y nodiadau hyn dadleuir bod cred mewn creu sosialaeth mewn un gwlad yn ffolineb peryglus. Crynhoir isod ddeuddeg o ystyriaethau perthnasol i’r drafodaeth ar y berthynas rhwng sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru.

Hwyrach bod rhai yn gweld y nodiadau hyn yn ormod o ddamcaniaethu, ond dylid ymwrthod â’r fath feirniadaeth. Heb theori a heb ddadansoddi dim ond ail adrodd methiannau’r gorffennol a wnawn ni.

1. Yn hanesyddol bu rhyngberthynas cenedlaetholdeb a sosialaeth yn fater anodd, yn ddamcaniaethol yn ogystal ag yn ymarferol.1

2. Methodd sosialaeth yn Ewrop yn yr ugeinfed ganrif, i raddau helaeth, oherwydd grym a gafael ideolegol cenedlaetholdeb, yn enwedig cenedlaetholdeb gwladwriaethau mawr Ewrop (‘socialism foundered on the rock of nationalism‘). Rhoddodd mwyafrif gweithwyr Ewrop deyrngarwch i’r genedl-wladwriaeth o flaen undod cyd-wladol y dosbarth gwaith.

3. Mae ymdriniaeth Lenin o’r cwestiwn cenedlaethol ym 1913 yn sylfaenol, o leiaf yn ddamcaniaethol.2 3 Nodir isod chwe phwynt allweddol; sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ym 1913.

3.1. Mater o ddemocratiaeth yw hunan-lywodraeth cenedl. Os yw pobl yn dymuno hunan-lywodraeth yna gormes a gorthrwm fuasai i eraill eu rhwystro.

3.2. Gwrthgyferbynnir cenedlaetholdeb adweithiol gormeswyr a chenedlaetholdeb radical/chwyldroadol y gorthrymedig. Felly, ni ddylai sosialwyr gefnogi cenedlaetholwyr yn ddiwahân. Yn hytrach, dylai sosialwyr bwyso a mesur os yw mudiad cenedlaethol penodol yn flaengar neu’n adweithiol ac ar sail hynny benderfynu cefnogi neu ddim. Gellir yn aml wahaniaethu rhwng Cenedlaetholdeb gyda C fawr y cenedl-wladwriaethau imperialaidd a chenedlaetholdeb gyda c fach y mudiadau rhyddid cenedlaethol.

3.3. Cyfraniad damcaniaethol holl bwysig Lenin oedd ei ymdriniaeth o’r berthynas ddilechdidol rhwng economi a gwleidyddiaeth. Yn unol â hanfodion Marxiaeth mae’r economi yn sylfaenol ond mae Lenin yn gweld bod y lefel wleidyddol yn lled annibynnol, neu’n rhannol ar wahân i’r lefel economaidd.

3.4. Oherwydd arwahanrwydd cymharol y lefel wleidyddol mae’n ystyrlon i genhedloedd ddeisyfu ac ennill rhyddid gwleidyddol os ydynt yn dymuno hynny.

3.5. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif roedd cyfalafiaeth wedi hen gychwyn ar weu economïau gwledydd Ewrop drwy’i gilydd. Yn gynyddol, gydol y ganrif, daeth economi gwledydd yn llai annibynnol ac yn fwy cyd-ddibynnol.

3.6. Ateb Lenin i’r cwestiwn cenedlaethol oedd cefnogi annibyniaeth wleidyddol i genedl os oedd hyn yn cydfynd â’r symudiad at sosialaeth rhyngwladol. Gyda’i rhyddid dylai gwlad rhoi gorau i beth o’i sofraniaeth er mwyn y manteision o fod yn rhan o undeb economaidd ehangach. Yr hyn a welai Lenin fel ateb, yn y bôn, oedd Undeb o Weriniathau Sosialaidd Ewrop. Trychineb hanes oedd i chwyldro Rwsia gael ei ynysu gan fethiant y chwyldro yng ngweddill Ewrop yn y cyfnod hwnnw.

4. Mae’r broses o drawswladoli a globaleiddio’r economi wedi mynd rhagddi’n gynyddol tros y can mlynedd diwethaf sy’n golygu bod annibyniaeth economaidd gwledydd bellach yn hollol anymarferol. Mae hyn yn fwy gwir am Gymru na bron unrhyw wlad arall oherwydd bu’r economi mor ryngwladol ac agored ers dyddiau cynnar y chwyldro diwydiannol ac yn gynyddol felly rwan.

5. Yr ateb i Gymru yw annibyniaeth wleidyddol ond cyd-ddibyniaeth economaidd. Hynny yw, grym gwleidyddol annibynnol ond gyda’r grym hynny dylid dewis rhoi’r gorau i beth sofraniaeth er mwyn bod yn rhan o undeb economaidd rhyngwladol. Dadleuodd Lenin bod annibyniaeth wleidyddol yn golygu cadw’r hawl i dynnu allan o unrhyw undeb economaidd gyda gwledydd eraill. Ei ddilechdid twt oedd mai dim ond yr hawl i ymadael ag undeb sy’n sicrhau dewis gwirioneddol i fod, ac i barhau i fod, yn aelod o undeb cyd-wladol.

6. I ba fath o undeb economaidd ddylai Cymru berthyn? Undeb ar lefel y Deyrnas Gyfunol neu ar lefel Ewropeaidd? Mae’n amlwg mai undebau cyfalafol yw’r Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd presennol. Yn hytrach, sôn ydym yma am bosibliadau Cymru o fewn undeb sosialaidd; ond ar ba lefel, Prydain neu Ewrop?

Cred rhai o’r Chwith Prydeinig yn y ‘British Road to Socialism’, neu rhyw fersiwn cyfoes o’r gred. Dyma sydd wrth wraidd cefnogaeth y Blaid Gomiwnyddol Brydeinig a rhai o’r hen do yn y Blaid Lafur, gan gynnwys Corbyn, i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Cam gyda chymrodion egwyddorol, megis Corbyn, fuasai labelu eu safbwynt yn orsyml fel cred mewn ‘socialism in one country‘. Y pryder yw y gall eu safbwynt fraenaru’r tir ar gyfer syniadau peryglus ‘National Socialism’. Hyn yn gonsyrn go iawn oherwydd bod cymaint o’r boblogaeth ym Mhrydain wedi’u hymddieithrio oherwydd diffygion cyfalafiaeth ac yn troi at genedlaetholdeb Prydeinig adweithiol. Hyn yng nghanol dryswch ynglŷn ag identiti yng nghyfnod fag end yr ymerodraeth Brydeinig.

7. Drwyddi draw mae’r rhelyw o fudiadau sosialaidd tir mawr Ewrop yn ymwrthod â’r syniad o geisio ymgyrraedd at sosialaeth mewn un gwlad. Yn hytrach, maent yn gweld yr angen am drawsnewidiad/chwyldro ar lefel Ewrop. Nid ydynt yn credu mewn ffordd Almaenig neu Ffrengig, fel y cyfryw, at sosialaeth.

8. Beth, felly, yw’r ateb i sosialwyr yng Nghymru? Yn bendant mae cwestiwn cenedlaethol Cymru yn rhy bwysig i’w adael i genedlaetholwyr Cymreig ac yn rhy bwysig i’w adael allan gan sosialwyr-fel y gwna’r rhelyw o ‘sosialwyr’ unoliaethol Prydeinig. Drwyddi draw, bu ac y mae’r chwith Prydeinig yn ddall i imperialaeth ac i Genedlaetholdeb Prydeinig.

Yn gryno, yr ateb yw annibyniaeth wleidyddol i Gymru a chyd-ddibyniaeth economaidd mewn Undeb o Weriniaethau Sosialaidd Ewrop. Dadleuir bod y ddau amcan, annibyniaeth wleidyddol a sosialaeth, yn plethu drwy’i gilydd. Mae deisyfiadau cenhedloedd darostyngedig Ewrop am ryddid yn rhan annatod o’r frwydr dros Ewrop sosialaidd.

9. Sut mae ymgyrraedd at Undeb o Weriniaethau Sosialaidd Ewrop? Drwy frwydr ddosbarth yn bennaf ond bod cwestiynau eraill fel ecoleg a’r amgylchedd, ffeministiaeth, heddwch, hawliau dynol, democratiaeth cyfranogol ac yn y blaen yn allweddol, fel hefyd y mae iaith a diwylliant yn ei ystyr ehangaf. Buasai llywodraeth radical yng Nghymru, ynghŷd â’r gymdeithas sifil a chymunedau, yn medru hybu newidiadau diwylliannol a fuasai’n cyfrannu at greu’r amodau a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol ar gyfer trawsnewid sosialaidd. Mae ymdriniaeth Gwyn Alf Williams o berthnasedd syniadaeth y Marxydd o Sardinia, Antonio Gramsci, i sefyllfa Cymru yn allweddol i ddeall rôl diwylliant mewn trawsnewid gwleidyddol.4 5

10. Mae atebion sosialaidd i gwestiynau cenedlaethol yn Ewrop yn greiddiol i’r frwydr dros sosialaeth. Mae mudiadau cenedlaethol radical yn hanfodol i drawsnewidiad Ewrop. Mae brwydr Catalonia a Chymru dros ryddid cenedlaethol yn rhan annatod o greu Ewrop sosialaidd. Felly, o safbwynt creu Ewrop sosialaidd mae brwydr sosialwyr Cymru a Chatalonia dros annibyniaeth yn un. Fel yn achos unoliaethwyr Sbaen, ni fedr unoliaethwyr Prydeinig ddeall hyn a dyna pam eu bod, i bob pwrpas, yn fud ar ormes Catalonia.

11. Fel y gwnaeth Raymond Williams ddadlau, gall sosialaeth gymryd amrywiol ffurf mewn gwahanol wledydd yn unol â chymeriad a hanes gwledydd gwahanol. Yn achos Cymru, gellir rhagweld y balans rhwng rôl y wladwriaeth a’r gymuned mewn trefn sosialaidd yn gymharol gryf i gyfeiriad y gymuned.6

12. O osod y nod o Gymru annibynnol o fewn Undeb o Weriniaethau Sosialaidd Ewrop mae modd cynllunio camau i’w cymryd i gyrraedd y nod. Nid dyma’r lle i drafod y camau; tasg ar y cyd i sosialwyr yng Nghymru a thu hwnt yw cynllunio’r ffordd ymlaen. Mae’n amlwg bod camau y gallasai llywodraeth radical yng Nghymru eu cymryd i’r cyfeiriad hwn, hyd yn oed gyda’i grymoedd cyfyngedig presennol. Pe cymerir un enghraifft yn unig–mae’n hen bryd gofyn pam bod mwy na 85% o arian cyhoeddus ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghymru ar ffurf cymorthdaliadau i gwmniau cyfalafol trawswladol tra bod cymunedau a’r economi sylfaenol yn gorfod ymgreinio am friwsion. Mae’r un ffaith hon yn dangos yn glir mai Llywodraeth sy’n gwasanaethu cyfalaf preifat, ar draul cymuned, sydd ganddom ar hyn o bryd yng Nghymru. Nid oes rhaid i bethau fod fel hyn, hyd yn oed dan y drefn sydd ohoni.

Cyfeiriadaeth

  1. Munck, R. (1986) The Difficult Dialogue: Marxism and Nationalism. Zed Books.
  2. Lenin, V.I. (1913) Theses on the National Question. (Gweler: Lenin Internet Archive (2004))
  3. Löwy, M. (1976) Marxism and the National Question. New Left Review 96.
  4. Williams, G.A. (1984) Marcsydd o Sardiniwr ac Argyfwng Cymru. Efrydiau Athronyddol 1984. Prifysgol Cymru.
  5. Podlediad Desolation Radio (2018)
  6. Williams, R. (2008) (gol. Daniel Williams) Who Speaks for Wales?: Nation, Culture, Identity.

7 ateb ar “Sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru”

  1. Felly os nad yw sosialydd yn credu mewn annibyniaeth I Gymru ‘dyn nhw ddim yn sosialydd Cymreig? Dadansoddiad cul a ffals Sel. Ofni ydw i taw annibyniaeth yw nod y mudiad hwn ac nid sosialaeth. Mae llawer iawn o’r mudiad cenedlaethol ar hyn o bryd yn anffodus yn y fusnes o ddistrywio’r Chwith Eang…y datblygiad a oedd mor bwysig yn hanes fodern Cymru…gan gydweithio adeg Streic y Glowyr, yn WAAM, yn y mudiad iaith, yn y WTUC, i ennill ddatganoli….Chwalu a rhannu. .. neu gyd- ymgyrchu – beth yw’r dyfodol?

  2. Meic, pan ddadleuodd Marx ac Engels dros annibyniaeth i’r Iwerddon, oedden nhw’n chwalu’r ‘Chwith Eang’ felly? Oedd eu dadansoddiad nhw’n un cul a ffals?

  3. Mae enw y mudiad yn eironig dros ben. Mae’n glir nad oes undod tu fewn i’r bobl sy’n gwthio am annibyniaeth. Yn symud tuag at y Dde mae llawer ohonyn nhw. Dyna i radde sydd wedi arwain at y grwp newydd yma yn cael ei ffurfio.Tra ar y llaw arall ych chi’n pwysleisio eich pellter o ‘sosialwyr Prydeinig.’ Mae angen mwy o gydweithredu ar y chwith yn y sefyllfa sydd ohoni yn hytrach na rhannu.

  4. Dwi’m yn siwr o’r rwtsh Marcsiaeth – Leniniaeth ‘na, ac yn bersonol ni fyddaf yn fodlon byw mewn unrhyw beth tebyg i Undeb Sosialath Ewrop. ‘Swn i’n lawer hapusach byw mewn gwlad sydd yn aelod o Gynghrair Gwledydd Ewrop lle mae’r aelodaeth yn wirfoddol ac sydd wedi’i selio ar egwyddorion sosialaeth rhyddfrydol/anarchaidd.

    Dim ond ffurff arall o imperialaeth yw Marcsiaeth-Leniniaeth, sydd wed’i drochi gan waed.

  5. You run a right-wing national organisation if you don’t think your country can go through socialist, collective construction of it’s economy. You pay lip service to the word ‘socialist’ an indoctrinate people into your liberal anti-communist, anti-socialist perspective on the world.

    Welsh people can pick up any ‘radical’ liberal views they want at the end of the day colonialism and imperialism still happens because of their self/material interest.

    You should push for the abolition of British colonial laws. That means the end of Irish partition, and support of national liberation movements, and a break from ruthless European chauvinism.

    Your fantasy for a ‘Union of Socialist Republics of Europe’ is a white supremacist pipe-dream.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.