O dro i dro, gofynnir i mi sut des i’n rhan o’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Yr ateb yw fy mod wedi cael yr hyn a allech chi ei alw’n epiphani – fel tynnu’r switsh – un noson yn 2016.

Gwelais i daflen yn hysbysebu cyfarfod a oedd Leanne Wood yn ei gynnal yn fy nhafarn leol ac, wedi bod â diddordeb gwleidyddol ond yn anweithgar yn bennaf , es i allan o ddiddordeb.

A ges i fy swyno gan syniadau o ‘genedl rydd, falch’? ‘Cymru sy’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun’? Ddim mewn gwirionedd. Ar eu pennau eu hunain, nid yw’r ymadroddion hyn yn golygu rhyw lawer. Mewn gwirionedd, yr hyn ddywedodd Leanne (ar ffurf wedi’i aralleirio) i wneud i mi, yn ddeunaw mlwydd oed, benderfynu cymryd rhan yn y mudiad cenedlaethol oedd hyn:

  • Mae llawer o bobl Cymru yn eithriadol o dlawd ac maent yn dioddef o ganlyniad i lymder, isadeiledd gwael, a systemau addysg a iechyd sydd wedi dirywio.
  • Mae Cymru gyfan yn dlawd iawn, yn enwedig o’i gymharu â gwledydd eraill y DU.
  • Mae’n rhaid i bobl Cymru fyw gyda chrinj seicolegol, sy’n eu hargyhoeddi eu bod yn israddol, yn dwp, a ddim yn haeddu parch.
  • Ni all San Steffan gynrychioli buddiannau pobl Cymru yn iawn oherwydd mai dim ond canran fach o gynrychiolwyr etholedig, a ymddiriedwyd ynddynt i wneud penderfyniadau ar ein rhan, yw Aelodau Seneddol o Gymru. Ni fydd ein argyfyngau tlodi, iechyd meddwl a diweithdra yn flaenoriaeth iddyn nhw byth.
  • Mae pobl ifanc yn gadael Cymru ar raddfa ddifrifol oherwydd nad oes digon o gyfleoedd gwaith a thai fforddiadwy iddyn nhw.
  • Mae’r wladwriaeth Brydeinig a’i Llywodraeth yn ymerodraethol, gan ymladd rhyfeloedd sy’n ansefydlogi’r Dwyrain Canol ac yn costio’n ddrud eithriadol o ran bywydau dynol, yn ogystal â biliynau o arian trethdalwyr.
  • Pe bai Cymru’n annibynnol, byddem yn cael y cyfle i adeiladu system wleidyddol sy’n cynrychioli ein dinasyddion, sy’n mynd i’r afael â thlodi, diweithdra, yr argyfwng tai, hiliaeth a rhywiaeth ac anghydraddoldeb dosbarth – cenedl heddychlon a rhyngwladol yn erbyn rhyfel ac imperialiaeth.

Roedd y rhain yn ffeithiau syml, gwirioneddol, y gallwn i – ac mae hyn yn hanfodol – weld y dystiolaeth ohonynt yn fy mywyd i o ddydd i ddydd. Cynhaliwyd y cyfarfod tafarn hwn dri mis ar ôl y refferendwm Brexit, pan oedd tipyn o bobl yr oeddwn i’n eu nabod wedi pleidleisio i adael. Pan ofynnais i un pam, dywedodd:

  1. Ni allai ddod o hyd i swydd yn unrhyw le, ni allai neb roedd e’n eu nabod, roedd pethau’n ddigon gwael nad oedd ganddo unrhyw beth i’w golli, a
  2. Nid oedd yn teimlo ei fod yn cael ei gynrychioli gan y sefydliad gwleidyddol. Roedd angen ergyd i’r stumog ar y sefydliad hwnnw.

Mae’r ddau reswm yma’n cyd-daro’n union â’r hyn yr oedd Leanne yn ei ddweud – a dyna’r pwynt rwy’n ceisio ei wneud. Yr allwedd i’r fudiad cenedlaethol yng Nghymru ddylai fod i amlygu’r cysylltiadau rhwng y problemau y mae pobl yn eu hwynebu a chaethiwed ein cenedl o fewn y Wladwriaeth Brydeinig.

Wrth reswm, mae trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch annibyniaeth i Gymru, ond dim ond ymhlith grŵp bychan o boblogaeth Cymru y mae’r trafodaethau hyn yn digwydd – mae’r rhain yn drafodaethau ar yr ymylon. Mae llawer o’r trafodaethau o’r tu chwith allan. Maen nhw wedi datgan y freuddwyd o Gymru annibynnol, heb esbonio pam y bydden nhw am inni fod yn annibynnol yn y lle cyntaf.

Mae’n rhaid inni baentio darlun o’r math o wlad annibynnol yr ydym am ei chael cyn y gallwn gamu tuag ati hi.

Dyna pam yr wyf mor gyffrous am lansio Undod. Hyd yn hyn, mae llawer o’r gweithredu cydlynol, aeddfed a radical yn y mudiad cenedlaethol wedi cael ei gyfyngu at unigolion. Mae Undod yn dod â’r unigolion hyn at ei gilydd fel mudiad wedi ei ymroi i weledigaeth o wlad gydradd, ffyniannus, sy’n wynebu allan at y byd, a chyflawniad hyn trwy ddulliau radical a gweledigaethol nad yw’r sefydliad gwleidyddol wedi llwyddo eu defnyddio. Nid plaid wleidyddol arall yw hi – mae’n fudiad gan y bobl, er budd y bobl.

2 ateb ar “Rhaid i ni rannu darlun o’r Gymru annibynnol yr ydym eisiau”

  1. I have always said we shouldn’t ask the English for something they cannot give… Independance for Wales. It is our birth right and that is something they cannot give us. We should just take it.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.