Ail hanner bywyd Silyn

Dyma Ail hanner bywyd Silyn. Darllenwch ran 1. Ac yntau a’i wraig wedi bod mor hapus yn Nhanygrisiau, dyfalais sawl gwaith beth barodd iddynt adael y lle a mudo i’r Barri. Rhesymau economaidd oedd yn gyfrifol. Yr oedd y dirwasgiad yn y fasnach adeiladu wedi cychwyn ers 1902, ac wedi taro’r diwydiant llechi yn 1903. […]

Dyddiau cynnar Silyn

Dwi’n gwenu wrth feddwl amdanynt – Lenin a Silyn yn sgwrsio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Llundain lle daethant i ‘nabod ei gilydd tua 1903. Ar yr olwg gyntaf, does dim yn debyg rhwng y chwyldroadwr o Rwsia a’r gweinidog Methodist o Ddyffryn Nantlle, ond mae nodweddion cyffredin. Roedd dyddiadau eu geni a marw yn […]

Imperialaeth yr UDA yn Venezuela, ac effaith gwladychiaeth

Ers rhy hir, y mae cyd-sefyll gyda’r gorthrymedig, ac undod gyda’r dosbarth gweithiol a “trueiniaid y ddaear” wedi bod yn rhy bell o lawer o feddyliau’r sawl sydd ar y chwith, o fewn mudiad annibyniaeth Cymru. Ni ddylai undod â sosialwyr tramor fod yn atodiad neu’n gafeat i frwydr annibyniaeth Cymru “go iawn”; mae’n rhan […]

Sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru

Mae trafodaeth ar y berthynas rhwng sosialaeth a’r cwestiwn cenedlaethol yn allweddol i ddyfodol y mudiad dros annibyniaeth i Gymru, sef Undod. Yn y nodiadau hyn dadleuir bod cred mewn creu sosialaeth mewn un gwlad yn ffolineb peryglus. Crynhoir isod ddeuddeg o ystyriaethau perthnasol i’r drafodaeth ar y berthynas rhwng sosialaeth ac annibyniaeth i Gymru. […]