Ers rhy hir, y mae cyd-sefyll gyda’r gorthrymedig, ac undod gyda’r dosbarth gweithiol a “trueiniaid y ddaear” wedi bod yn rhy bell o lawer o feddyliau’r sawl sydd ar y chwith, o fewn mudiad annibyniaeth Cymru. Ni ddylai undod â sosialwyr tramor fod yn atodiad neu’n gafeat i frwydr annibyniaeth Cymru “go iawn”; mae’n rhan o’r un cyfan organig – ein brwydr ni yw eu brwydr nhw, a’u brwydr nhw yw ein brwydr ni. Rhaid inni ddeall bod buddugoliaeth yn erbyn imperialaeth yn fuddugoliaeth i ddynoliaeth gyfan, tra bod colled yn rhywbeth rydym oll yn ei theimlo.

Mae solidariaeth wedi ei neilltuo ar gyfer gwledydd di-wladwriaeth megis Catalunya, Gwlad y Basg a Chorsica. Mae pob un ohonynt yn achosion urddasol, a dylem barhau i’w cefnogi, ond dylai cyd-gefnogaeth fod yn ddiamod. Rydym yn cefnogi Catalunya a’r Alban oherwydd eu bod yn rhannu ein gweledigaeth byd-eang a bydd eu hymwahaniad o’r gwladwriaethau Sbaeneg a Phrydeinig yn cryfhau achos Cymru. Ond beth am wladwriaethau’r De Fyd-eang, yn America Lladin, Affrica ac Asia, sy’n ymladd i ryddhau eu hunain o oruchafiaeth imperialaidd- onid ydyn nhw hefyd yn haeddu ein cefnogaeth a’n solidariaeth?

Imperialaeth

Roedd Lenin, trwy ei ddealltwriaeth a chymhwysiad caboledig o fateroliaeth ddilechdidol a hanesyddol, nid yn unig yn gallu esbonio’r byd fel ag y mae, ond yn deall hefyd y prosesau gwaelodol sydd yn arwain at natur imperialaidd y gwladwriaethau grymusaf. Dadleuodd yn Imperialaeth: Cyfnod Uchaf Cyfalafiaeth:

Capitalism has grown into a world system of colonial oppression and of the financial strangulation of the overwhelming majority of the population of the world by a handful of “advanced” countries.

Ai ymlaen trwy ddatgan:

Monopolies, oligarchy, the striving for domination and not for freedom, the exploitation of an increasing number of small or weak nations by a handful of the richest or most powerful nations — all these have given birth to those distinctive characteristics of imperialism which compel us to define it as parasitic or decaying capitalism.

Mae’r cenhedloedd “datblygedig” yn ymladd dros yr ysbail drefedigaethol, gan ddyrannu’r byd yn ôl eu mympwy. Nid oedd annibyniaeth wleidyddol i’r hen drefedigaethau yn cyfateb i ryddfreiniad o dra-arglwyddiaeth imperialadd yr economïau “datblygedig”, yn hytrach, mae gan bob gwlad imperialaidd sffêr dylanwad ei hun. Mae’r Ffrancwyr yn parhau i ysbeilio yr Affrig Ffrangeg-ei-hiaith, gyda 80% o’i chronfeydd-wrth-gefn (a amcangyfrifir ei fod yn werth rhyw $500 biliwn) yn cael eu cadw gan Fanc Canolog Ffrainc. Mae NATO, a grëwyd i atal ‘lledaenu comiwnyddiaeth’ yn cynrychioli 70% o gyfanswm gwariant arfau’r byd. Maent yn parhau i gyfeddiannu Afghanistan tra roeddent yn allweddol yn yr ymdrech i ddisodli Cyrnol Libya, Muammar Qaddafi; dyma wlad sydd bellach – wedi “rhyddfreiniad” gan y gorllewin – yn gweld pobl ddu yn cael eu gwerthu yn agored mewn marchnadoedd caethweision. Y gwir amdani yw nad yw gwledydd sy’n cael eu goresgyn a’u hecsbloetio gan bwerau imperialaidd byth mewn cyflwr gwell wedi ymyrraeth.

Mae’r UDA wedi penderfynu mae nhw yw heddlu’r byd. Nid oes yr un pellter daearyddol sy’n rhy bell i bylu chwant rheibus yr UDA i geisio sicrhau dylanwad; gall Affganistan, Fietnam ac Iran oll tystio i hyn. Fodd bynnag, ar ei stepen drws yn America Lladin y mae dylanwad yr UDA ar ei fwyaf. Disodlwyd Jacobo Arbenz, arweinydd Guatemala, gan y CIA, aeth ati wedyn i sefydlu unbennaeth milwrol Carlos Castillo Armas – a hyn oherwydd y ffaith bod y ‘United Fruit Company’ wedi’i gythruddo gan benderfyniad Arbenz i ddosbarthu eu tir segur i’r werin. Ers hynny, mae mwy na 200,000 o bobl Guatemala wedi marw mewn rhyfel cartref tair degawd, wedi’i ddylanwadu’n uniongyrchol gan benderfyniad y CIA i ddisodli Arbenz.

Ers buddugoliaeth Chwyldro Cuba yn 1959 ac “el Movimiento de 26 de Julio” mae’r UDA a’r CIA wedi ymdrechu i newid y gyfundrefn yno. Mae dogfennau y CIA sydd wedi eu datgelu yn swyddogol yn datgan y canlynol:

The majority of Cubans support Castro… The only foreseeable means of alienating internal support is through disenchantment and disaffection based on economic dissatisfaction and hardship.

A:

Every possible means should be undertaken promptly to weaken the economic life of Cuba. If such a policy is adopted, it should be the result of a positive decision which would call forth a line of action which, while as adroit and inconspicuous as possible, makes the greatest inroads in denying money and supplies to Cuba, to decrease monetary and real wages, to bring about hunger, desperation and overthrow of government.

Ymhellach, cyfranodd Llywodraeth yr UDA dros $ 15miliwn i’r gwrthbleidiau yn Chile yn ystod 1970-73 i helpu disodli llywodraeth Salvador Allende, a etholwyd yn ddemocrataidd. Dyma esgor ar gyfnod o reolaeth o dan y Cadfridog Pinochet; dyn a arestiwyd yn 1998 oherwydd troseddau hawliau dynol (a ffrind mawr i Margaret Thatcher, mae werth cofio). Ymhlith nifer o droseddau eraill, roedd yr UDA hefyd wedi cael gwared ar Manuel Noriega yn Panama, unwaith nad oedd o ddefnydd iddynt bellach – a hynny o dan yr enw ffiaidd “Operation Just Cause”. Mae’r Panamaniaid eto i wybod faint o bobl bu farw yn yr ymosodiad hwn. Y wers? Lle bynnag y mae’r UDA yn ymyrryd, mae’r boblogaeth leol yn dioddef.

Venezuela

Ymgyrchwyr sosialaidd yn Caracas, Venezuela yn 2016. Llun gan Luigino Bracci (Comin Creu)

Venezuela yw’r bennod ymfflamychol ddiweddaraf yn y frwydr rhwng y dosbarth gweithiol ac imperialaeth. Mae’r gelynion eisioes yn hysbys inni. Cefnogir Llywodraeth Nicolas Maduro a’r Chwyldro Bolifaraidd gan y bobl frodorol, rheiny o dras Affricanaidd, a’r dosbarth llafurol. Mae’r “llywydd” hunan-gyhoeddedig, Juan Guaido, yn cael ei gefnogi gan y bwrgeisiaid a’r tirfeddianwyr a ffurfiwyd yn bennaf gan y Criollo Venezolanos (y boblogaeth o dras Sbaeneg yn bennaf), yr UDA a’i chynffonwyr imperialistaidd neu “vendepatrias” – Ivan Duque o Golombia a Jair Bolsonaro ym Mrasil. Mae’r wlad, fel llawer un yn America Lladin, wedi’i hollti gan ethnigrwydd. Nid yn unig y daeth yr Ewropeaid gyda chlefydau, marwolaeth a chaethwasiaeth, daethant â’u rhagfarnau hiliol am oruchafiaeth rhai dros eraill. Ni fyddai Hugo Chavez, o dras Amerindiaidd ac Affro-Venezuelaidd, byth yn cael ei dderbyn gan rannau o’r gymuned Criollo-Venezolano na’r gymuned gyfalafol ryngwladol. Ategir y pwynt gan arfer rheolaidd y gwrthbleidiau o alw Chavez yn “mico Comandante” neu’r “Mwnci Cadlywydd” a rhannu cartwnau hiliol o’r hen Lywydd.

Mae sancsiynau llym wedi eu gosod ar Lywodraeth Bolivar; mewn ffaith, o’r 20 gwlad y mae Venezuela yn eu hallforio fwyaf iddynt, “mae o leiaf 17 wedi ymuno â chreu gwarchae neu aflonyddu yn erbyn [y] wlad.” Mae’r gwrthblaid am breifateiddio diwydiant olew Venezuela, y cronfeydd olew mwyaf a adnebid yn y byd. Ynghyd â’r UDA, Brasil a Colombia maent yn dymuno gwledda ar garcas gwladwriaeth Venezuela megis fwltwriaid. Yn wir, roedd yna ymchwydd anferth ym marchnad stoc Caracas wedi’r adroddiadau y byddai Juan Guaido yn cyhoeddi ei hun yn Arlywydd.

Mae’r DU yn bell o fod heb ei bai: gwrthododd Banc Lloegr ryddhau aur Venezuela – sydd bellach werth $ 1.2 biliwn – y mae Venezuela am ei ddefnyddio i dalu am fwyd. Y rheswm honedig oedd y byddai “Mr. Maduro yn hawlio’r aur, sy’n eiddo i’r wladwriaeth, a’i werthu er budd personol.” Mae Guy Verhofstadt wedi bod wrthi yn curo’r drwm imperialaidd oherwydd bod “partneriaid hanfodol yr UE” megis yr UDA wedi cefnogi Juan Guaido. Yn yr un modd, mae Macron wedi collfarnu Maduro, gan honni ei fod yn siarad dros Ewrop tra’n datgan hynny. Yr hyn y mae’r digwyddiadau wedi arddangos yw cyflwr moesol ac ideolegol methiedig rhyddfrydiaeth.

Mae’r UDA – wedi eu gwroli gan fuddugoliaeth Bolsonaro yn sgil carcharu anghyfreithlon Luiz Inacio Lula da Silva ac archgyhuddo (impeachment) Dilma Rousseff (achos arall lle na welwyd unrhyw gydsefyll) – wedi dwysau’r ymdrechion i ddisodli Maduro. Cofier, nid yw’r gynffon yn siglo’r ci. Cafodd hyn ei drefnu o’r cychwyn cyntaf gan yr UDA. Mewn gwirionedd, bu datganiad gan yr UDA y byddent yn cefnogi Juan Guaido cyn iddo hyd yn oed cyhoeddi ei hun yn Arlywydd; dyma’r golau gwyrdd roedd angen arno i ysgogi’r coup d’etat.

Effeithiau hirhoedlog trefedigaethedd

Mae’r portread o Venezuela yn y cyfryngau Gorllewinol yn un o fethiant, ac eto, rhyw hanner gwirionedd yw hyn ar y gorau. Nid cyd-ddigwyddiad mo’r diffyg dadansoddiad hanesyddol a materol y sawl sydd yn ceisio symbylu newid i’r gyfundrefn. Mae’r darlun gorsyml a roddwyd ger bron yn ymdebygu i’r “cwymp” yn y Beibl; roedd Venezuela yn baradwys i’r bobl cyn pechod y Chwyldro Bolifaraidd. Mae’r dadansoddiad anllythrennol yma’n celu canrifoedd o ymelwa a threfedigaethedd sydd wedi gadael effeithiau hirhoedlog lle bynnag y bwrodd gwreiddiau. Dadleuodd Andre Gunder Frank fod amnesia hanesyddol damcaniaethau datblygiad y prif ffrwd yn gwbl anfaddeuol. Dadleuodd mai nid “polisiau anghywir”, diwylliannau “anghynhyrchiol” neu lwc daearyddol a benderfynodd cyfoeth cenedl, ond yn hytrach etifeddiaeth barhaus gwladychiaeth, caethwasiaeth ac echdynnu adnoddau. Dadleuodd Paul Baran, yng ngeiriau Richard Anthony John:

Despite political independence, continued imperialist activity is ensured by domestic reproduction of socio-economic and political structures in accordance with the interest of the rich, formerly metropolitan, powers. For this reason, the development of capitalism in such areas does not replicate that experienced by advanced countries in an earlier period of history… The gulf between these different countries widens not narrows.

Ymhellach, mae Acemoglu, Johnson a Robinson yn awgrymu y gellir esbonio traean yr anghydraddoldeb incwm sydd yn y byd heddiw ar sail dylanwad amrywiol gwladychiaeth Ewropeaidd ar gymdeithasau gwahanol. Dywedant:

Among the areas colonized by European powers during the past 500 years, those that were relatively rich in 1500 are now relatively poor. Given the crude nature of the proxies for prosperity 500 years ago, some degree of caution is required, but the broad patterns in the data seem uncontroversial. Civilizations in Meso-America, the Andes, India, and Southeast Asia were richer than those located in North America, Australia, New Zealand, or the southern cone of Latin America. The intervention of Europe reversed this pattern. This is a first-order fact, both for understanding economic and political development over the past 500 years, and for evaluating various theories of long-run development.

Mae’r Chwyldro Bolifaraidd wedi cael ei gollfarnu gan y bwrgeisiaid gorllewinol oherwydd yr ymgais i dorri i ffwrdd o gylch dieflig y ddibyniaeth hon. Mae Venezuela, fel Ciwba, Fietnam, Nicaragua, Grenada, Iran, yr Aifft, Libya a mwy wedi ceisio dianc rhag yr ymelwa trefedigaethol yma. Trosedd y Chwyldro Bolifaraidd yw gofalu mwy am ei bobl ei hun na chymhellion cyfalaf a’r elit byd-eang. Taniodd Hugo Chavez ysbryd a dyhead y bobl Venezuelaidd i dorri’n rhydd o gadwyni imperialiaeth.

Ceir anawsterau, wrth gwrs, fel unrhyw wlad; ond rhaid inni amddiffyn yr enillion y chwyldro a herio’r syniad bod Venezuela gynt yn nirvana ffyniannus yn yr “hen ddyddiau da” cyn y Chwyldro. Er enghraifft, roedd Cyfraith Organig Llafur a Gweithwyr yn sicrhau 26 wythnos o famolaeth i famau yn ogystal â phythefnos o absenoldeb tadolaeth. Mae gweithwyr yn gweithio uchafswm o 40 awr yr wythnos a rhaid iddynt gael 2 ddiwrnod yn olynol yn ystod yr wythnos ar gyfer amser hamdden. Mae gan bob gweithiwr yn Venezuela yr hawl i dderbyn pensiwn ar ôl ymddeol, gan gynnwys cartrefi. Mae pob amgueddfa a safle hanesyddol yn rhad ac am ddim i’r bobl, mae disgwyliad einioes wedi cynyddu bob blwyddyn o dan y Chwyldro Bolifaraidd, ac mae’r cyfradd llythrennedd wedi cynyddu tua 9% i 97%, tra bod marwolaethau babanod wedi gostwng bob blwyddyn ers dechrau’r Chwyldro. Dyma genedl gydag anawsterau, ond un sydd wedi sicrhau enillion er gwaethaf y mela a gwaharddiadau imperialistaidd. Mae’r rhan fwyaf o bobl Venezuela yn cefnogi eu llywodraeth; pam ein bod ni’n gwybod yn well na nhw?

Y Tra-Chwith a rhamantiaeth Farcsiaeth orllewinol

Lle mae’r swn byddarol o gefnogaeth i’r Chwyldro Bolivaraidd? Pam oedd y gefnogaeth, os oedd o gwbl, o blaid Frente Sandinista de Liberación Nacional yn Nicaragua yn “gefnogaeth feirniadol”? Mae’r chwith yn Ewrop wedi’i llethu gan Eithafiaeth y Tra-Chwith (ultra-left) – yr hyn a ddisgrifiwyd gan Lenin fel gwleidyddiaeth purdeb: ailadrodd athrawiaethol o ‘wirioneddau’ comiwnyddiaeth bur”. Ymddengys bod y Chwyldro Bolivaraidd, yng ngolwg y Chwith Gorllewinol, wedi methu yn yr un modd â’r Chwyldroadau Dwyreiniol fel y disgrifiwyd gan Roland Boer:

The resentment of Western Marxists against the successful Eastern revolutions manifests itself in a complex mix of dismissal and unbearable romanticism. As for the latter, it appears in the position that the perfect revolution is yet to come, that it will happen at an undefinable utopian moment in the future. The criteria for what constitutes such a romantic moment constantly shift, depending on which position one takes, but they all remain in the future, have not yet been realised, offer as yet unimaginable qualitative change and certainly don’t need an army. Needless to say, all of the successful Eastern revolutions fail the test, for they inevitably came to grief, were betrayed, fell from grace, turned away from romantic revolutionary ideals. In short, they ‘failed’.

Ni welwyd amddiffyniad chwyrn o’r Chwyldro Bolifaraidd oblegid nid yw’n cyfateb i’n syniadau chwith-eithafol o’r hyn y dylai chwyldro fod. Troeon dywedodd Lenin bod y chwyldro ei hun “mor hawdd â chodi pluen”, y rhan cymhleth yw saernio sosialaeth ei hun.

Rhaid inni balu’n ddwfn i’n hymwybyddiaeth er mwyn deall pam nad yw llawer o’r rhai sydd ar y “chwith” yn y Gorllewin yn cefnogi llywodraethau Maduro a gweithwyr eraill ar draws y byd. Awgrymodd Franz Fanon, y cymdeithasegydd chwyldroadol, mae’r tueddiad Ewropeaidd cyffredinol i gynnal agweddau siofinistaidd sydd a’r bai, a’u bod wedi llyncu’n ddiarwybod prosiect “gwareiddiad” Ewropeaidd:

Some Europeans were found to urge the European workers to shatter this narcissism and break with this un-reality. But in general, the workers of Europe have not replied to these calls; for the workers believe, too, that they are part of the prodigious adventure of the European spirit. All the elements of a solution to the great problems of humanity have, at different times, existed in European thought. But Europeans have not carried out in practice the mission which fell to them, which consisted of bringing their whole weight to bear violently upon these elements, of modifying their arrangement and their nature, of changing them and, finally, of bringing the problem of mankind to an infinitely higher plane.

Mae’n bryd inni benderfynu gyda phwy rydym yn bwriadu sefyll, ac i dderbyn nad ydym yn deall amodau materol gweithwyr Venezuela neu unrhyw wlad arall yn well na’r bobl sy’n byw yno. Mae’n bryd i ni y ‘Gorllewinwyr’ bwrw ymaith iau ein himperialaeth, a sefyll ochr yn ochr â gweithwyr y byd. Mae’n bryd inni ddeall nad yw’r rhwystrau yma yn eilaidd i frwydrau ni’n hunain, ond bod buddugoliaeth i Miguel Diaz-Canel, Evo Morales, Nicolas Maduro a Daniel Ortega yn fuddugoliaeth yn erbyn ymyrraeth imperialaidd i bob un ohonom.

Yng ngeiriau Marx, “mae cymdeithas yn ei chyfanrwydd yn rhannu’n gynyddol i ddau lwyth gelyniaethus”. Rydw i wedi penderfynu y byddaf yn sefyll gyda’r bobl ac yn erbyn cyfalafiaeth, imperialiaeth, tlodi a rhyfel.

Gyda phwy safwch chi?

Ymuno â'r Sgwrs

2 Sylw

  1. If there is a legacy of colonialism in Venezuela and of course there is then it is personified by the revolting petit-bougeois, pseudo anti-imperialist, anti-working class fascistic regime of Maduro. How often is the British and Welsh left going to return to the poisoned well of Stalinism and neo-Stalinism using a bogus form of anti-imperialism to back vicious and murderous Third World regimes against popular revolts and socialist revolutions. The most recent example of the utter degeneration of the left was its truly gob-smacking support for the Assadist Butchery in Syria cheer-leading the merciless slaughter of the very people whose side we should have been on unconditionally. Now it backs Maduro against a mass revolt against his fascistic policies leaving the opposition to him in the hands of pseudo democrats and imperialists. If you are on the side of the masses and the working class in Venezuela you are not on the side of Maduro. If you are on the side of Maduro you are in the wrong camp of the great imperialist-anti imperialist split. The Bolivian Revolution, so-called, was a stolen revolution, a thwarted revolution, a counter-revolution. Learn some lessons: the revolution must be permanent or it is nothing. The ANC regime in South Africa is one of the most revolting on the planet. That is because the revolution against apartheid was stolen by petit-bourgeois nationalists and their Stalinist enablers who established a regime that machine guns miners. That government is imperialism’s agent in South Africa. It is not a radical anti-imperialist or socialist regime. The opposite. The lesson for Wales? There can be no capitalist road to independence any more than there can be socialism in one country. Can you imagine an independent capitalist Wales. It would be a fascist hell hole and in no way in reality independent.

  2. Diolch am yr erthygl. Mae’r Unol Daliethau wedi bod yn ceisio tanseilio Venezuela ers etholiad Hugo Chavez yn 1999. Mae’r ymdrechion yn cynnwys cefnogi’r coup a fethodd yn 2002, ariannu mudiadau ‘cymdeithas sifil’ i helpu creu anrhefn yn yr wlad, a chefnogi pleidiau asgell dde fel Voluntad Popular, plaid Juan Guaido.

    Datganodd Juan Guaido ei hun yn Arlywydd ‘dros dro’ Venezuela wythnos yn ol. Gofynnodd y Guardian ‘pwy yw Juan Guaido?’, heb ateb y cwestiwn, ar wahan i nodi ei froliant i Arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro, am “ei hymrywmiad i ddemocratiaeth a hawliau dynol”. Mae sawl person, tu mewn a thu allan i Brasil, wedi disgrifio Bolsonaro fel ffasgydd. Felly pwy yw Juan Guaido? Mae’r rhan o’r ateb fan hyn: https://grayzoneproject.com/2019/01/29/the-making-of-juan-guaido-how-the-us-regime-change-laboratory-created-venezuelas-coup-leader/.

    Mae sawl enghraifft yn America Ladin o’r Unol Daliethau yn ariannu grwpiau i gael gwared o lywodraethau nad ydynt yn eu hoffi. Dros y 3 blynedd ddiwethaf sianelodd y National Endowment for Democracy, corff hyd braich llywodraeth yr UDA, $4.2 miliwn i Nicaragua i fudiadau myfyrwyr, busnesau a ‘NGOs’ cyn y trais yna llynedd.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *