Dyma Ail hanner bywyd Silyn. Darllenwch ran 1.

Ac yntau a’i wraig wedi bod mor hapus yn Nhanygrisiau, dyfalais sawl gwaith beth barodd iddynt adael y lle a mudo i’r Barri. Rhesymau economaidd oedd yn gyfrifol. Yr oedd y dirwasgiad yn y fasnach adeiladu wedi cychwyn ers 1902, ac wedi taro’r diwydiant llechi yn 1903. Parhau i ddirywio yn gyson a wnaeth tan 1913. Gyda cyflogau yn isel, diweithdra yn rhemp, dioddefodd llefydd fel Tanygrisiau yn enbyd. Mudodd y rhai a fedrai i’r maes glo yn Ne Cymru, a lleihaodd aelodau Eglwys Tanygrisiau yn flynddol. “Y mae yma dlodi enbyd, a minnau yn ei ganol yn ddigon drwg fy hwyl” meddai Silyn mewn llythyr at fy nhaid ym 1909. Effeithodd ar ei iechyd, a dioddefodd o’r clefyd melyn. Teimlai fod criw yr ILP yn llaesu ei dwylo a falle mai dyma pam y collodd flas ar wleidyddiaeth, er na phylodd ei sêl dros Sosialaeth. Meddai mewn llythyr at gyfaill,

‘Y mae’n wir yn amhosibl i’r eglwys hon yn ei chyflwr presennol gynnal gweinidog, ac y mae meddwl am fod yn faich ar y gymdeithas yn annioddefol i mi.’

Roedd yn dal i deimlo fel hyn yn 1912, ac yn chwilio am swydd arall. Daeth gwaredigaeth am dymor byr, wrth i David Davies, Llandinam gychwyn mudiad i fod yn Gofeb Genedlaethol i Edward VII, a’r gofeb fyddai cronfa i ymladd TB yng Nghymru. Tom Jones oedd Ysgrifennydd a Threfnydd y mudiad. Gofynnodd David Davies a fyddai Silyn yn fodlon mynd ar daith i’r America efo Côr Meibion y Moelwyn i gasglu arian i’r gronfa, a theithiodd Silyn i Ganada ac America a bu’r daith yn llwyddiant. Hwyliodd yn ôl o Efrog Newydd ar Ebrill 7ed, 1912 gan groesi’r darn o’r môr lle byddai’r Titanic yn suddo wythnos yn ddiweddarach. Pan ddaeth adref, roedd wedi gwella o’r clefyd melyn. Roedd David Davies wedi talu ei gyflog am chwe mis, a rhoddodd ganpunt ar ben hynny iddo am ei wasanaeth.

Agorodd drws arall iddo. Roedd Prifysgol Cymru wedi sefydlu Bwrdd Penodiadau i gynorthwyo myfyrwyr i gael gwaith wedi iddynt adael y coleg. Silyn a benodwyd i’r swydd o ysgrifennydd y Bwrdd. Roedd wedi bod yn gwneud y gwaith yn Nhanygrisiau yn wirfoddol. Fe’i dewiswyd allan o gant o ymgeiswyr. Daeth yn amser ymadael â Thanygrisiau a setlo yn Y Barri.

Yng Nghaerdydd yr oedd Cofrestrfa’r Brifysgol, ond cafodd Silyn gartref yn agos at dŷ Tom Jones yn Ionawr 1913. (Gyda llaw, Silyn oedd yn gyfrifol am ddenu R. Williams Parry o Gefnddwysarn i’r Barri) O fewn llai na blwyddyn wedi iddo gyrraedd, digwyddodd tamchwa Senghennydd lle collodd 439 o ddynion eu bywydau. Gwyddai Silyn fod pobl o Ffestiniog yn gweithio yn y pwll ac aeth yno ar ei union. Cyfarfu hen gyfaill o chwarelwr oedd yn chwilio am ei fab, ond er i Silyn fynd yno bob dydd am ddiwrnodau, ni ddaethpwyd o hyd i’r mab.

Llwyddodd Silyn yn ei swydd ond yna daeth y Rhyfel Mawr. Er yn credu mewn heddwch rhwng gwerinoedd byd, ac er iddo gael ei siomi fod gweithwyr gwledydd yn ymladd ei gilydd, bu ei ramantiaeth yn drech nag o. “Twrnameint ydoedd brwydrau bywyd i Silyn drwy ei oes a thrwy bob oes” meddai R. Alun Roberts. Cynigiodd ymuno â’r Fyddin er ei fod yn 43 oed, ond nid oedd ei iechyd yn ddigon da. Bu’n annerch cyfarfodydd recriwtio gyda Owen Thomas i gael dynion i ymuno â’r Gatrawd Gymreig, a helpodd i ffurfio Adran Gymreig o’r OTC (Officer’s Training Corps) gan gael myfyrwyr i ddod yn swyddogion. Pan gasglodd Cymry America bum mil o bunnau i Lloyd George i helpu’r Cymry, gofynnodd Lloyd George i Silyn fod ar y pwyllgor i weinyddu’r arian. Sefydlwyd ffatrioedd i weu sannau Blaenau Ffestiniog, Talysarn a Bethesda.

Roedd criw o Gymry diwylliedig yn byw yn Y Barri, ac o’r criw hwn y deilliodd y cylchgrawn, Welsh Outlook yn Ionawr 1914 wedi syniad gan Tom Jones y dylid cael cylchgrawn am fywyd Cymru i’r di-Gymraeg. David Davies oedd yn ei ariannu, ac roedd Silyn ar y Bwrdd Golygyddol.

Erbyn 1917, roedd y rhyfel wedi rhygnu ‘mlaen ers tair blynedd pan laddwyd Hedd Wyn, bardd a adwaenai Silyn yn dda ers dyddiau Tanygrisiau. Cyhoeddwyd pedwar englyn o waith Silyn yn Welsh Outlook am Hedd Wyn, ac roedd Silyn yn awyddus i gael cerflun ohono yn ei bentref genedigol. Roedd wedi ymweld â’i fedd yn Fflandrys fwy nac unwaith ac wedi cael y Comisiwn Beddau i ychwanegu’r geiriau ‘Y Prifardd Hedd Wyn’ ar y garreg. Cyhoeddodd ‘Cerddi’r Bugail’ sef gwaith Hedd Wyn yn 1918, llyfr a aeth i ail argraffiad. Silyn oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Coffa Cenedlaethol i Hedd Wyn, ac i’r gronfa hon aeth elw Cerddi’r Bugail. Erbyn 1923 yr oedd cerflun o Hedd Wyn, o waith Merrifield, wedi ei osod ganllath o fan geni Hedd Wyn yn Traws.

Wedi’r Rhyfel, ail-drefnwyd y Bwrdd Penodiadau gan mai’r pwyslais oedd cael swyddogion o’r lluoedd arfog yn ôl mewn gwaith. Silyn oedd y swyddog dros Gymru, ac nid swydd hawdd mohoni. Gweithiodd Silyn yn galed yn y gwaith tan 1922 gan sefydlu gweithdai mewn hanner dwsin o lefydd ar draws Cymru i’r cyn filwyr ddysgu pob math o wahanol grefftau gyda pedwar mil a hanner wedi cael hyfforddiant mewn rhyw grefft neu’i gilydd. Tristwch pethau oedd prinder swyddi yn ystod y 20au.

Mis Mai 1927. Mary Silyn sydd wrth y delyn a’r dyn ydi J F Rees, darlithydd cyntaf i gynnal dosbarth i chwarelwyr ym Mlaenau Ffestiniog ar Hanes Diwydiannol.

Yn ystod y Rhyfel, roedd Mary Silyn wedi ei phenodi yn Drefnydd y Land Army i ferched yng Nghymru. Symudodd i’w hen gartref yn Llanrhychwyn, a phrynodd Silyn y fferm. Yma bu Mary’n byw gyda’r plant a dod i’r Barri pan fyddai angen iddi. Roedd Silyn wrth ei fodd efo’r bywyd gwledig,

‘Nis gwn pa ryw falltod ddaeth arnaf erioed i awyddu am goleg a galwedigaeth sy’n rhoi cur yn fy mhen, a minnau wedi’m galw i drin y ddaear a bwyta fy mara trwy chwys fy wyneb.’

Cawsant gi gan dad Hedd Wyn, ac roedd y teulu yn gyflawn wedi dyfodiad Mot.

Ddechrau 1919, mae Welsh Outlook yn rhoi sylw i fater Ymreolaeth i Gymru gan gyhoeddi copi o Fesur Ymreolaeth E T John. Meddai Silyn mewn llythyr at Tom Jones,

‘Yr wyf am ymuno â’r Undeb Cymru Rydd newydd a gwneud popeth a allaf i gael Ymreolaeth i Gymru…. Cyhyd ag y bo tynelau rhwng Caerdydd a Llundain, bydd y damned moles yn symud yn ôl ac ymlaen o hyd…. Os caf fy nghicio allan o’r Weinyddiaeth Lafur am gymryd rhan ry amlwg, rhaid ei ddioddef, dyna’r cwbl.’

Yn Y Barri y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1920 a gwnaed Silyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Llên. A’r rhyfel ar ben, nid trechu’r Almaenwyr oedd y nod mwyach ond ‘gwneud y wlad yn un gymwys i arwyr fyw ynddi’. Addysg a diwygiadau cymdeithasol oedd y cyweirnod bellach a dechreuodd y Sosialydd a’r gwerinwr ymddeffro yn Silyn unwaith eto. Roedd tuedd ynddo i fwynhau bod yn ŵr mawr yng nghwmni gwŷr mawr ac yr oedd ei waith fel Swyddog Gwladol yn rhoi digon o gyfle iddo, megis ei ddau weithdy i Dywysog Cymru yn 1921. Ond nid yma oedd ei galon. Meddai wrth Tom Jones, wrth sôn am Lafur yn paratoi i lywodraethu, a’r Miner’s Federation yn dewis un graddedig yn asiant iddynt,

‘y mae’n iechyd i galon dyn siarad â hwy [y dynion ifanc] ar ôl rhagrith a pharchusrwydd felltith yn y cylchoedd swyddogol yr wyf yn troi ynddynt yn awr….’

Soniodd fod y tir wedi ei fraenaru a daeth amser bwrw’r had i mewn,

‘Petaswn bymtheg mlynedd yn ieuengach, ni phetruswn. Yr wyf yn gwneud fy ngorau i wthio’r dynion ieuanc yn eu blaenau.’

Daeth swydd Cofrestrydd y Brifysgol yn wag ac yr oedd gan Silyn awydd ei chael gan y gallai fod yn gyswllt byw rhwng y Brifysgol a phobl Cymru. Yn anffodus, yr oedd John Rowlands yn ŵr pur ddylanwadol ar y pryd, ac roedd Silyn wedi pechu yn ei erbyn. Heb wybod pwy oedd, roedd gwr dieithr yn siarad efo Silyn dros bryd mewn gwesty. Roedd o ar ei ffordd i’r Llys i bleidleisio am Gofrestrydd am iddo gael cais personol gan John Rowlands i fwrw ei bleidlais yn erbyn ‘y dyn ofnadwy ‘na, Silyn Roberts – ei fod yn Sosialydd ac yn Folshefydd nad oedd yn byw gyda’i wraig’! Afraid deud, ni chafodd Silyn mo’r swydd.

Gyda llai o filwyr clwyfedig yn chwilio am waith, lleihaodd cylch gwaith Silyn, ac ym 1922, daeth llythyr o Fangor i ddweud iddo gael ei benodi yn Athro Dosbarthiadau Tu Allan i Goleg y Brifysgol. Cychwynnodd ar y swydd honno ar Hydref y cyntaf. Yn ystod y Gaeaf cyntaf, roedd ganddo bedwar dosbarth tiwtorial yn astudio Economeg – ym Mrynrefail, Edern, Dolwyddelan a Thrawsfynydd. Yn Llanrhychwyn y bu’n byw ar y cychwyn, ond aeth y teithio yn ormod, yn enwedig dringo’r llechwedd o Drefriw i Tŷ Newydd ymhob tywydd. Roedd dros ei hanner cant bellach. Prynodd dŷ yn Ffordd y Coleg a’i alw yn ‘Rhoslas’ ar ôl y darn o dir lle roedd ei gartref yn blentyn. Wedi ei farw, prynodd y WEA y tŷ, dyna lle bu ei swyddfa am weddill y ganrif.

Yn y Barri ym 1906 y sefydlwyd y gangen Gymreig gyntaf, ac yn Wrecsam yn 1908 y cafwyd y dosbarth cyntaf yn y Gogledd, ond roeddent yn dal i gael eu gweinyddu o Loegr. Rhoddodd Silyn dystiolaeth ym 1916 i Ddirprwaeth Frenhinol oedd yn chwilio i waith Prifysgol Cymru, a chofiai am ei ddosbarthiadau cynnar ym Mlaenau Ffestiniog.

‘Y mae mudiad addysg fel hwn [WEA] yn datblygu cymeriad cenedl, peth pwysicach hyd yn oed na datblygu ei deall’

meddai Silyn. Hoffai’r adnod yn Ioan 8, 38 a phregethai arni yn aml, ‘A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.’

Chwarelwyr a gweithwyr tir oedd y rhan fwyaf o aelodau y dosbarthiadau cyntaf. Yn Gymraeg y darlithiau Silyn i’w ddosbarthiadau, gan roi tystiolaeth ym 1925 i’r Pwyllgor ar Le’r Gymraeg yn Addysg Cymru, gan nodi prinder gwerslyfrau Cymraeg. Ar Economeg y byddai’n darlithio amlaf, ond roedd ganddo ddosbarthiadau mewn Llenyddiaeth Saesneg hefyd, ac yr oedd fwy yn ei elfen yn trin llenyddiaeth. Meddai David Thomas,

‘Weithiau, byddai awr o drafodaeth ar economeg yn arwain i adrodd darnau helaeth o Shelley, ei gerddi mwyaf chwyldroadol, a Silyn yn llwyddo i roddi tân mewn pwnc a allai fod yn ddigon sych.’

Aeth Silyn ati i sefydlu Rhanbarth Gogledd Cymru o’r WEA, gan ysgrifennu ysgrifau i’r Dinesydd a’r Undeb Addysg y Gweithwyr. Daeth i fod yn 1924 gyda Thomas Rees, Prifathro Bala Bangor yn Gadeirydd a Silyn yn ysgrifennydd. Cafwyd stafell yn y Brifysgol ac aeth Silyn i brynu stôl i’r teipist am swllt, cwpwrdd a chrac ynddo am chwe swllt a chafwyd bargen wrth gael teipiadur. Dyna gychwyn y WEA yng Ngogledd Cymru. Bu raid canfod arian i dalu cyflogau yr athrawon, gan i’r Bwrdd Addysg newid ei bolisi ym 1924. Llwyddodd Silyn i gael cefnogaeth gan Undebau Llafur, undebau athrawon, cymdeithasau cydweithredol a chyfeillion ymhob man.

Rhwng 1925 a 1930, sefydlodd Silyn 14 cangen newydd. Erbyn 1930, roedd y WEA yn gyfrifol am 63 dosbarth. Roedd y Cyngor Cerdd yn gyfrifol am 7 a cholegau Bangor ac Aberystwyth yn gyfrifol am 42 yng Ngogledd Cymru, ond dosbarthiadua WEA oeddent i gyd yn yr ystyr mai’r WEA oedd tu cefn iddynt megis o’r dechrau. Tyfodd y myfyrwyr o 450 i 2,300 – y cyfartaledd uchaf yn ôl y boblogaeth yn yr holl deyrnas. Roedd Rali yn cael ei chynnal bob blwyddyn, Ysgolion Bwrw Sul ac Ysgolion Undydd ym Mangor. Aent ar daith feic i fannau diddorol, heb sôn am Ysgolion Haf Coleg Harlech. Silyn a Williams Parry oedd yr athrawon am y pythefnos.

Wedi dod i fyw i Fangor, ail afaelodd Silyn yn ei waith llenyddol, gan sgwennu bywgraffiad i daid David Davies Llandinam, trosi drama gan J O Francis, Gwyntoedd Croesion. Bu’n barddoni hefyd.

Yn ei swydd efo’r Bwrdd Penodiadau, ni allai ymwneud llawer â gwleidyddiaeth, ond bwriodd iddi eto wedi dod i fyw i Fangor. Ef oedd Trysorydd Ffederasiwn Pleidiau Llafur Gogledd Cymru ac ef oedd ymgeisydd Llafur am y Cyngor Sir yn un o wardiau Bangor, er na fu’n llwyddiannus. Bu’n annerch sawl cyfarfod a gweithiodd ar bapur Llafur, Y Dinesydd Cymreig, e.e. cyfres o 16 o ysgrifau ar ‘Fethiant Cyfalafiaeth’ a dwy ysgrif yn 1929 ar ‘Bywyd yn Rwsia’.

Pan glywodd am y Chwyldro yn Rwsia ym 1917, teimlodd fod chwyldro debyg i’r Chwyldro Ffrengig wedi digwydd, un mwy bendithiol gan ei fod yn un economaidd yn ogystal ag yn un boliticaidd. O’r diwedd, roedd Sosialaeth wedi ei sefydlu yn un o wledydd mawr y byd.

A dyma ni’n ôl i gychwyn yr erthygl hon, yn Ystafell Ddarllen yr Amgueddfa Brydeinig efo Silyn un ochr i fwrdd, a Lenin yr ochr arall ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Un dydd, trodd Lenin at Silyn a dweud yn gynhyrfus, “Karl Marx has been reading this book!” Vladimir Ilyich Ulyanov oedd enw’r tramorwr ifanc, a phan ddigwyddodd Chwyldro Rwsia, sylwodd Silyn mai dyma briod enw Lenin. Ysgrifennodd at Lysgennad Rwsia yn Llundain i gadarnhau hyn.

Cofiwn hefyd be ddywedwyd am y Silyn ifanc, os oedd cynnwrf, roedd rhaid iddo gael bod yn rhan ohono. Ysai Silyn am gael gweld y wlad Sosialaidd, a daeth y cyfle yn 1930 pan oedd yn nesau at ei 60 oed. Dan Undeb Cymdeithasau Cydweithredol Rwsia, trefnodd dyn o Gonwy, T A Leonard, daith i’r wlad, ac ymunodd Silyn â hwy. Pan aeth Leonard yn wael yn Leningrad a gorfod mynd adref, dewiswyd Silyn fel arweinydd y parti. Sgwennodd beth am y profiad i’r Goleuad wrth hwylio o Lundain,

‘Soviet y morwyr sy’n llywodraethu’r llong ac yn rhoi ei orchmynion i’r capten!…. Ar y llong, y mae’r morwyr yn ethol soviet y llong, a’r soviet sy’n setlo’r polisi ynglŷn â’r fordaith, ond gadewir y manylion i’r swyddogion.’

Cyrhaeddodd Leningrad ar Fehefin 11, mynd i Moscow, Kiev, Rostof, Karkof i Moscow, a chyrraedd Hull ar Orffennaf 8 ar y llong Siberia. Dyma sut y sgwennodd i Nanw ei ferch o Leningrad, ‘Rwy’n ysgrifennu’r p/c hwn ym Mhlas y Tsar… Cefais hwyl fawr efo rhai o filwyr y Fyddin Goch y bore ‘ma… mi wnes i chwerthin dros y lle.’

Yna o Moscow, ysgrifennodd,

‘Yr ydym yn byw mewn gwlad lle y mae popeth yn newydd, lle y mae pob wyneb wedi ei oleuo â gobaith, ac yn eiddgar am droi’r breuddwyd yn sylwedd.’

Pryder iddo oedd absenoldeb gwŷr busnes o Brydain yn y wlad. Gwelodd gannoedd o Americainiaid ac Ellmyn, ond neb o Brydain er fod nifer y di-waith ym Mhrydain yn tynnu at ddwy filiwn. Ond bu’r cyfnod yn Rwsia yn adnewyddiad iddo. Dywedodd mewn llythyr o Kiev ei fod ‘yn iach fel ceffyl, ac yn teimlo ugain mlynedd yn ieuengach.’ Dychwelodd yn llawn brwdfrydedd a sêl cenhadol ac edrychai ymlaen i siarad am y gwyrthiau a welodd yn digwydd yn Rwsia.

Rŵan, bu dwy fordaith dyngedfennol ym mywyd Silyn. Ar y cyntaf, yn dychwelyd o’r Unol Daleithiau i Brydain, bu’n hynod o ffodus, gan osgoi y rhew a ddinistriodd y Titanic wythnos yn ddiweddarach. Ar yr ail, ni chafodd yr un lwc. Cafodd fordaith hyfryd o Leningrad a mynediad i Gamlas Kiel, ond cyn dod o’r gamlas, aeth y llong drwy gwmwl o fosgîtos. Pigwyd Silyn deirgwaith ar ei wyneb ac o fewn 24 awr, roedd ei wres yn 102°F. Bu meddyg y llong efo fo drwy’r nos ac erbyn cyrraedd Llundain, roedd yn well. Pwysodd y meddyg arno i aros ar y llong am ddiwrnod neu ddau, ond dal y trên i Fangor wnaeth Silyn, a bu yn ei wely am rai dyddiau.

Wedi iddo wella, trodd ati i sgwennu a darlithio am hanes Rwsia. Erbyn Awst 9ed, roedd wedi mynd i Goleg Harlech i ddarlithio yn yr Ysgol Haf. Ond dychwelodd yr hen dwymyn yn ystod yr wythnos, bu raid iddo ddod adref yn sydyn, a bu farw ar Nos Wener, Awst 13 yn 59 oed. Y daith i Rwsia oedd uchafbwynt ei fywyd, ac roedd yn dda iddo gael ei gwneud. Fel hyn yr ysgrifennodd mewn llythyr o Fangor,

‘Am rhyw dair wythnos, bum yn byw mewn byd newydd, ac yno y carwn aros. Petawn 30 mlynedd yn iau, yr wyf yn sicr yr awn i Rwsia i fwrw fy nghoelbren gyda’r chwyldroadwyr, ond yn awr nid oes gennyf ond fy hen esgyrn i’w cynnig iddynt. Pobl ifanc sy’n llywodraethu yng Nghymru heddiw…. O na chawn fyw am ddeugain mlynedd arall i weld ffrwyth yr arbraw aruthrol yma yn Rwsia. Ond er na chaf fyw i’w weld, gallaf ddymuno i’m cyfeillion â’m holl galon y llwyddiant y maent yn ei haeddu gymaint.’

Mewn llythyr at Mary Silyn o Rostov, soniodd am orymdaith o ugain mil o Folshefics Rostof yn canu a dawnsio dan fyrdd o faneri coch, a channoedd o fandiau.

‘Torf yn moli am waredigaeth’ mewn gwirionedd. Yr oedd pawb yn edrych wrth ei bodd, y merched i gyd yn eu sannau sidan, miloedd ar filoedd ohonynt, merched a meibion yn cerdded weithiau fraich ym mraich. Yr oedd yn olygfa y peth mwyaf ardderchog a welais erioed.’

Ac fel dywedodd fy nhaid, ‘Yn sŵn oratorio y daith fawr hon, a’r gobeithion gloywon ….yr aeth Silyn o’r byd yma, gan adael ffrwyth ei athrylith a’i lafur a’i gariad a’i ffydd yn gynhysgaeth i ninnau ar ei ôl.

Cofiant Silyn gan David Thomas (Gwasg y Brython, 1956)

Gweddus fyddai gorffen gyda phennill olaf ei hen gyfaill, R. Williams Parry, o’i gerdd, ‘Yn Angladd Silyn’. Mae’r bedd mewn mynwent ym Mangor.

‘O na bai marw’n ddechrau taith
Trosodd i’r paith diwethaf,
Lle cilia’r teithwyr tua’r ffin
Fel pererin araf,
Cyn codi ar y gorwel draw
Ei law mewn ffarwel olaf.’

Crynhowyd y wybodaeth o fywgraffiad fy nhaid i Silyn ‘Silyn’ gan David Thomas, Gwasg y Brython, Lerpwl, 1956. Mae gennyf gopiau os oes rhywun yn dymuno cael un.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.