Dyma addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn O’r Pedwar Gwynt. Diolch yn fawr i’r awdur a’r cylchgrawn am roi caniatâd i Undod ei ailgyhoeddi.

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon a’i goblygiadau ar ein cyfer yng Nghymru eisoes wedi cael eu trafod a’u dadansoddi’n huawdl a hynny droeon erbyn hyn, ond i grynhoi: mae’r dinesydd Cymreig cyffredin yn byw o ddydd i ddydd heddiw heb ddysgu nemor ddim am y cynllunio gwleidyddol sydd yn dylanwadu cymaint ar ei fywyd, boed hynny trwy gyfrwng y cyngor lleol, y Senedd yng Nghaerdydd neu lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn San Steffan. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol ar gyfer y gweddillion democrataidd a adwaenwn fel y wladwriaeth Gymreig.

Diolch i’r drefn, cydnabuwyd goblygiadau enbyd y sefyllfa hon gan nifer yng Nghymru. Gwelwyd ymgais gan rai i ysgogi cyhoeddfan ar lawr gwlad trwy eu hymdrechion newyddiadurol eu hunain, sy’n gweithredu ar y cyfan tu hwnt i’r cyfryngau ‘prif ffrwd’. Dyma gyfle gwirioneddol i greu gwasanaeth amgen go iawn, i greu Cymru lle grymusir ei dinasyddion i gynrychioli eu hunain, i arwain eu materion eu hunain, ac i reoli eu disgyrsiau cynhenid.

O ystyried diffygion ein cyfryngau prif ffrwd cyfredol, mae’n ddealladwy mai consyrn cyntaf rhai o’r cyfryngau ‘amgen’ newydd hyn yw ceisio creu cyhoeddfan sydd yn rhoi sylw teilwng i faterion Cymreig a hynny ar raddfa genedlaethol.

Ond er gwaetha’r amcanion hyderus, nobl, mae peryg i’r ymdrech hon i atgyfnerthu’r syniad o genedl arwain at unffurfio cyn pryd yr hyn sydd, er gwell neu er gwaeth, yn gysyniad pytiog a digon annelwig ar y gorau; cam bychan sydd rhwng hyn a dileu grwpiau ymylol a’r ymdrechion i frwydro’n erbyn braint dosbarth – â’r lleisiau sydd eisoes yn dominyddu fwy na heb yn cadw’u gafael ar y breintiau, y llwyfan a’r grym a fwynheir ganddynt yn y gyhoeddfan Brydeinig.

Felly, er bod cyhoeddfan ‘amgen’ y ‘Gymru Newydd’ fel petai’n datblygu ar hyn o bryd, yr un yw’r cwestiynau sydd yn angenrheidiol eu gofyn i’n sefydliadau hirdymor. Pwy sydd â llais yn y cyfryngau Cymreig? A yw’r lleisiau hyn yn estyn yr egwyddor o gyfartaledd? Pa wirioneddau pwysig, heriol sy’n cael eu mynegi? Ac yn bwysicach na dim efallai, rhaid gofyn: a yw’r llwyfannau cyfryngol newydd hyn yn adeiladu persbectif positif o safbwynt dyfodol ein cymdeithas, yn abl i gadw tueddiadau ethnogenedlaethol, rhagfarnllyd ac adain dde eithafol hyd braich – tueddiadau sydd, dylid nodi, yn aml yn cael hwb trwy amryfusedd mewn cyfnodau tanbaid, toredig fel y rhain.

Er mwyn ail-ddychmygu cymdeithas Gymreig mewn modd radical, cymdeithas Gymreig sydd yn gwasanaethu’n well bob un ohonom sy’n byw yn ei libart, rhaid i ni hefyd ailfeddwl mewn modd radical y ffordd y mae ein cyfryngau a’n cyhoeddfan yn gweithredu; rhaid sicrhau bod y platfformau newydd hyn yn ein cynorthwyo yn ein tasg. Cam cyntaf cwbl sylfaenol yw rhoi sylw, wrth roi llais, i anghydbwysedd grym, ac ystyried yn ofalus pa syniadau yr ydym yn rhoi llwyfan iddynt yn ein cymdeithas.

Er mwyn creu rhywbeth gwirioneddol newydd, er mwyn troedio llwybr newydd, mae’n hanfodol ein bod yn creu cyhoeddfan sydd yn fwy nag opsiwn amgen ar gyfer y drefn gyfredol a’i hanghyfartaledd strwythurol; rhaid creu cyhoeddfan sy’n gwrthwynebu mewn modd radical yr elfennau niweidiol hynny sy’n nodweddu’r status quo, boed hynny’n gyfalafiaeth, imperialaeth Brydeinig, partriarchaeth, goruchafiaeth y dyn gwyn, ac ati. Mae’r hegemoni gyfredol hon, sydd wedi treiddio i galon synnwyr cyffredin pob perthynas gymdeithasol ac economaidd, yn gyfangorff, fel y mynegodd Raymond Williams:

‘which is not merely secondary or superstructural, like the weak sense of ideology, but which is lived at such a depth, which saturates the society to such an extent, and which … even constitutes the substance and limit of common sense for most people under its sway’.1

Dyma’r anhawster mawr sydd yn wynebu ymdrechion i sefydlu cyhoeddfan gynhenid Gymreig. Ac os hynny, cwbl annigonol yw atgynhyrchu strwythurau a moesgarwch ffals cyfryngau Prydeinig hegemonaidd a lapio baner Cymru dros y cyfan. Nid yw ychwaith yn fater o sicrhau bod pobl Cymru yn cael mynediad i wybodaeth Gymreig, oherwydd, yng ngeiriau Raymond Williams eto:

‘hegemony has the advantage over general notions of totality, that it at the same time emphasizes the facts of domination.2

Yn yr ystyr hwn, grym hegemoni yw bod ei gyfanrwydd yn ei ganiatáu i amsugno’n rhwydd unrhyw wrthwynebiad a gyflwynir fel cyfryngwr amgen i’r un hen synnwyr cyffredin. Ac felly, i raddau, nid yw’r cyfryngau Cymreig cyfredol – prif ffrwd ac ‘amgen’ fel ei gilydd – yn fwy na chyfalafiaeth Brydeinig yn adennill ei nerth.

Dadleuodd Raymond Williams mai’r hyn sydd ei angen arnom yw cyfryngau gwrthbleidiol, nid cyfryngau amgen:

There is a simple theoretical distinction between alternative and oppositional, that is to say between someone who simply finds a different way to live and wishes to be left alone with it, and someone who finds a different way to live and wants to change the society in its light. This is usually the difference between individual and small-group solutions to social crisis and those solutions which properly belong to political and ultimately revolutionary practice.3

Oherwydd, creu alternatif i beth yn union mae ein cyfryngau ‘amgen’, mewn gwirionedd? Ai gwared arwyddwyr Prydeinig o’n diwylliant ‘cenedlaethol’ y maent ond gan gadw’r gweddill, gan gynnwys yr elfennau hynny sydd yn gwneud y diwylliant yn un dinistriol?

Gorymdaith y Ceffyl Pren Troea, gan Giovanni Domenico Tiepolo

Mae diberfeddu Prydeindod er budd goruchafiaeth ddeisyfedig Cymreictod yn aml yn cael ei gyflwyno oddi mewn i geffyl pren Troea democrateiddio, ond yn y bôn, dim ond rhith yw hwn. Dylai democrateiddio gwirioneddol adlewyrchu cysyniad Williams o drawsffurfiad cymdeithas yn yr ystyr ehangach, yn ddemocratiaeth ddilys:

in which the human needs of all the people in the society are taken as the central purpose of all social activity, so that politics is not a system of government but of self-government, and the systems of production and communication are rooted in the satisfaction of human needs and the development of human capacity.4

Rhaid meddwl yn ddwfn ynghylch pwy sydd â llais, ynghylch pwy sy’n perchnogi moddion cynhyrchu disgwrs. Oherwydd nid yw democrateiddio yn debyg o ddigwydd dim ond trwy unioni’r materion sy’n werth eu trafod (y materion niche bondigrybwyll).

Er mwyn hyn y dylai’r cyfryngau ‘amgen’ Cymreig fodoli yn y pen draw: er mwyn rhoi llwyfan i leisiau sy’n abl i adnabod ein hargyfwng cyfredol, yn abl i gyfrannu at ddatblygu’r fframweithiau sydd eu hangen arnom er mwyn goresgyn ein cyflwr. Tan i ni lwyddo i wneud hyn, rydym yn rhwym o gynyddu maint y dasg ac ailadrodd yr un camgymeriadau ag erioed – dim ond y gallwn bellach eu galw’n broblemau Cymreig, yn gamgymeriadau Cymreig. Er y gall hynny fod yn dderbyniol ar gyfer lleisiau adweithiol sydd eisoes â gafael ar rym, nid yw’n gwneud dim ar gyfer y dinasyddion Cymreig hynny y mae eu lleisiau angen cael eu clywed a’u grymuso’n fwy na neb. Rhaid casglu, felly, nad yw’n cyfryngau ‘amgen’ eto’n barod at y dasg.

[1] Raymond Williams, ‘Base and Superstructure in Marxist Cultural Theory’ mewn Culture and Materialism (Llundain: Verso, 2005), tud. 31–49 (tud. 37).

[2] Ibid, tud. 37.

[3] Ibid, tud. 41–42.

[4] Williams, ‘Advertising: The Magic System’ mewn Culture and Materialism, tud. 170–195 (tud. 187).

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *