Ychydig wythnosau yn ôl fe ddigwyddodd rhywbeth tra anarferol. Cyhoeddwyd darn gan Y Guardian oedd yn rhoi sylw i Gymru. Ymhellach – er gwaethaf y ffocws ar Brecsut – llwyddwyd osgoi hanesyn arall ar ffurf antur mewn i’r Heart of Darkness a’r ymgais diweddaraf i esbonio pam bod y brodorion wedi hunan-niweidio yn y fath modd sadomasochistaidd, trwy gyfrwng y ddefod o wallgofrwydd a alwyd yn ‘Refferendwm’.

Yr oedd, yn hytrach, yn fyfyrdod rhesymegol ar y pos cyfansoddiadol sy’n wynebu’r Deyrnas Gyfunol gyfan. Nid syndod, efallai, bod cyfraniad o’r fath wedi ymddangos trwy law Athro’r Gyfraith, a oedd yn eistedd mewn sefyllfa gymharol saff ochr draw’r Iwerydd, yn ‘nhwr ifori’ Prifysgol Princeton. Mae sicrhau bod yna gefnfor rhyngoch chi a’r basket of deplorables yn y DU yn un ffordd o sicrhau’r pellter gofynnol i allu sylwebu ar y sefyllfa gyda phen weddol o glir.

Ac eto, sathrwyd y gobaith o fyfyrdod gwerthfawr ar sefyllfa Cymru arni’n syth bin gan y pennawd: ‘A Semi-Brexit, with just England and Wales leaving the EU, is the solution’.

Yn wir, dyma oedd y senario gwaethaf i Gymru (wedi’i awgrymu eisoes gan rai o’r Alban ac Iwerddon fel yr ateb amlwg), yn cael ei weu i mewn i ddarlun digon real o ddyfodol posib, wedi’i gyflwyno mewn modd synhwyrol a meddylgar gan Academydd Americanaidd.

Undeb ranedig

Yn wir, afaelgar iawn oedd ateb Kim Lane Scheppele yn ei symlrwydd. Dylai’r DG dilyn enghraifft pobloedd eraill lle – o fewn yr un wladwriaeth – mae rhai rhannau o fewn yr UE ac eraill ar y tu allan. Y fantais a ddaw i’r rhannau tu allan i’r UE yw’r hyblygrwydd cymharol sydd ganddynt wrth ddewis eu trefniadau, o gymharu gyda’r gwladwriaethau sofran sydd ar y tu allan (mae’r Ynys Las yn un enghraifft).

O safbwynt yr UE byddai hyn yn gymharol syml; yn wir mae’r cymhlethdod mwyaf yn codi i Gyfansoddiad Prydain, gan gynnwys dosbarthu’r pwerau angenrheidiol er mwyn galluogi cytundebau rhyngwladol byddai’n caniatáu Cymru a Lloegr i adael, tra’n caniatáu Gogledd Iwerddon a’r Alban i aros – gan ddatganoli’r holl gyfreithiau a gwmpesir gan yr UE fel bod modd i’r gwahanol wledydd saernïo’r perthynas gofynnol gyda’r corff hwnnw o gyfraith.

Roeddwn wedi gweld troeon y sawl rwyf yn edmygu – Adam Ramsey a Gerry Hassan yn eu plith – yn aberthu dyfodol Cymru ar allor y freuddwyd hon o’r rapproachment Gaeleg-Undeb Ewropeaidd. Bûm yn fawr fy llid.

Roedd tystio i’r ddadl hon gan academydd o Princeton – nad oedd gan y cyfiawnhad o hunan-ddiddordeb – yn ormod o lawer imi.

Twitt

Yn fy nghynddaredd, es ati i gyfansoddi edefyn estynedig ar Twitter yn crynhoi fy mhryderon ynghylch y senario hwn.

“Gymaint ag y mae’n ddiddorol clywed persbectif o Princeton ar Brexit,” doethinebais, “mae’r darn hwn gan Kim Lane Scheppele yn broblemus tu hwnt.”

Es ymlaen,

“Yn gyntaf o beth, gofynnwyd i bobl Cymru a oeddem yn cefnogi ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd, nid a oeddem am i Gymru gadael gyda Lloegr yn unig. Os cyflwynir unrhyw gynnig o’r fath yma, mi fydd yn ofynnol trefnu Refferendwm ar wahân i Gymru gan ei fod yn gynnig cwbl wahanol, ac un lle y bydd ewyllys y Cymry yn gorfod cael eu parchu, yn hytrach na’u bod yn cael ei danseilio neu draflyncu gan fudd y Saeson.”

Camais wedyn ar fy mlwch sebon:

“Ymhellach, mae’n anwybodus o’r materion yna sy’n ganolog wrth esbonio Wexit a’r modd y roedd yn bleidlais annemocrataidd – a gynhaliwyd wedi etholiadau blinderus y Cynulliad – wedi’i ymladd ar sail diddordebau Saesneg, oherwydd gwendidau ein cyhoeddfa, a’r ffaith i’r drafodaeth cael ei boddi gan y Wasg Lundeinig.”

Ac ymlaen i’r Coup de Grace

“Mae hefyd yn dangos diffyg dealltwriaeth neu gydymdeimlad gyda chanlyniadau’r hyn a gynigir o safbwynt Cymru fel gwlad, lle byddai’r cytundebau a fyddai’n dilyn unwaith eto yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddiddordebau Saesneg, yn niweidiol i’n heconomi, ein cymunedau a’n hiaith. Dyma Gymru megis yr “oen aberthol”.

Wrth gwblhau’r edefyn roeddwn wedi fy nghynddeiriogi i’r pwynt roeddwn yn ystyried mai peth da byddai rhannu fy meddyliau gyda’r awdur. Cyn imi gael cyfle i ailystyried es ymlaen i ddanfon nodyn eglurhaol iddi a chopi o’r edefyn anghymedrol – neu, o fod ychydig yn garedicach i fi fy hun, angerddol.

Rwy’n falch imi wneud.

Gwrth-naratif

Roedd ymateb yr Athro Scheppele yr hyn mae rhywun yn dod i ddisgwyl o academyddion Americanaidd: yn agored a hawddgar ei natur, gydag elfen dda o hiwmor a phwyllogrwydd (o gymharu â natur austere ambell un o’i thebyg ym Mhrydain). Ymhellach, aeth ymlaen i ddarparu’r manylion o fersiwn wreiddiol ei herthygl:

“dywedais yn y darn [gwreiddiol] hwnnw bod Cymru erbyn hyn wedi newid ei meddwl i ‘aros’ fel y dengys y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydlynu’n strategol gyda Llywodraeth yr Alban am beth amser ac felly a siarad yn ymarferol, dim ond Lloegr byddai’n debyg o adael.”

“‘Does dim yn yr hyn y dywedais yn atal proses ddemocrataidd o fewn Llywodraeth ddatganoledig sydd yn dod i gasgliad gwahanol na’r Refferendwm gwreiddiol. Gwn y byddai Llywodraeth Cymru yn aros i mewn petai’n cael y dewis hwnnw, ac yn ôl pob tebyg byddai ail Refferendwm, wedi’i ymladd y tu allan i’r sŵn o Loegr, yn dod i’r un casgliad hefyd. Roedd y darn – i ddechrau – yn dweud fy mod yn meddwl y byddai – ac y dylid – Cymru aros.”

“Y cymhlethdod gyda Chymru, wrth gwrs, yw bod y sustemau cyfreithiol Cymreig a Seisnig yn llawer iawn mwy integredig nag yw’r sustem Seisnig gyda naill ai Gogledd Iwerddon neu’r Alban. Fy nghynnig – os fydd Cymru am aros yn yr UE gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon – yw y byddai’n cryfhau hunaniaeth gyfansoddiadol Cymru o fewn cyfraith gyfansoddiadol y DU.”

Ceir yma stori wahanol i’r un a adroddwyd yn y papur – a gweud y lleia. Yn hytrach na chymhathu Cymru o fewn Lloegr er mwyn sicrhau lled-brexit ‘glân’ er lles y DU, yr hyn a awgrymir dylai ddigwydd yw bod Cymru yn gallu pleidleisio eto ar ei haelodaeth o’r UE – ac mewn amgylchiadau o’r fath yr hyn sy’n debygol o ddilyn yw ein bod yn pleidleisio i aros. Dyma baratoi’r ffordd ar gyfer creu Cymru gyda sustem gyfreithiol annibynnol a DG ffederal, lle byddai Cymru’n parhau i fod yn yr UE fel rhan o’r hyn y byddai rhai am ei alw, mae’n siŵr, yn Undeb Celtaidd.

Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn disgwyl ymateb o’r fath. Teimlwn braidd fel y cymydog crac yn cnocio ar ddrws ffrynt y tŷ drws nesaf i gwyno am y parti, dim ond imi gael fy ngwahodd i mewn ac eistedd i lawr gyda chwrw, a chael mwynhau sgwrs bleserus.

Yr anghenfil unllygeidiog

Gyda dyfodol Cymru bellach yn edrych yn llawer mwy llewyrchus(!), erys dim ond un cwestiwn, sef beth a ddigwyddodd yn y broses golygu?

O edrych eilwaith ar yr erthygl wreiddiol mae’n bosib gweld awgrym o’r naratif arall yma, yn gryno iawn mewn cromfachau yn yr ail baragraff o’r darn, lle nodwyd byddai modd i Lywodraeth Prydain anrhydeddu’r Refferendwm trwy ‘permitting England and Wales (if it still wants to) to exit’. Yn fy rhwystredigaeth, rhaid imi gyfaddef imi ddarllen hwn fel sarhad pellach oedd yn awgrymu y gallasai’r un endid o GymruaLloegr meddwl eilwaith – ond wrth edrych yn ôl wedi esboniad yr awdur, mae’n bosib gweld hwn fel yr unig gyfeiriad byr i’r dyfodol amgen a awgrymwyd gan Scheppele.

Ni ddaw cyfeiriad arall i’r dyfodol hwn, wrth i Gymru a Lloegr ddod yn un endid at ddibenion y ddadl. Mae hyn yn nodweddiadol o’r modd y mae’r wasg Lundeinig ehangach yn trin Cymru (yr eithriad amlwg yw gwaith gwych Aditya Chakrabortty): mae’n arddangos mewn modd cwbl enbyd sut y mae Cymru yn cael ei hesgeuluso’n llwyr gan ohebiaeth y brif ffrwd Brydeinig, a sut mae ein lle ni yn y byd a’n dyfodol yn cael eu hysgrifennu ar ein rhan.

Wrth gwrs, realiti’r naratif yma sy’n cael ei lyncu gan y rhan fwyaf o’r cyhoedd a nifer o wleidyddion yng Nghymru. Dyma Gymru heb ewyllys ei hun, heb arwyddocâd, sydd yn gweithredu fel atodiad i Loegr, i’w trin yn y fath modd y mae’n creu cyn lleied o drafferth a phosib. A dyma’r naratif sy’n cael ei atgynhyrchu yn ein meddyliau, myfyrdodau a gweithredoedd. Pa syndod yr ydym yn gweld ein hunain fel gwlad sydd yn “rhy fach, yn rhy dlawd, ac yn rhy ddibynnol ar Loegr”.

Gall y ddadl uchod, wedi ei chyflwyno’n llawn, cynrychioli cyfle gwirioneddol i Gymru ail feddwl ei sefyllfa a chynnig cyfiawnhad er mwyn dianc rhag y trobwll dieflig rydym wedi cwympo mewn iddi. Adroddiant rhyddfreiniol, hyd yn oed, lle’r ydym yn rheoli ein ffawd ac yn penderfynu ar ein dyfodol a’n perthynas â’r UE ar delerau ein hunain. I academydd Americanaidd, heb ragdybiaethau neu ragfarnau hanesyddol yn pwyso arni, ymddengys yr agwedd yma’n un rhesymol a rhesymegol at y sefyllfa.

Yn yr un modd ag yr ydym erioed wedi pleidleisio i adael gyda Lloegr yn unig, nid ydym erioed wedi pleidleisio i adael gyda ‘no-deal’, ac felly rydym yn deilwng o ddewis arall ar y mater – yn enwedig o ystyried y modd y mae Llywodraeth Prydain wedi ein hanwybyddu yn ystod y broses. Hyd yn oed pe byddem yn pleidleisio i adael unwaith eto, byddai pob achos i ddadlau – ar hyd y llinellau y Deyrnas Gyfunol ymwahanedig mae Scheppele yn dychmygu – bod gennym yr un hawl i awdurdod dros ein cytundebau rhyngwladol a’n trefniadau gyda’r UE.

Yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, y mae’r stori hon yn dyst i bwysigrwydd cyfryngau Cymreig sy’n ffocysu ar stori Cymru’n gyntaf – tra hefyd yn awgrymu mai’r hyn sydd angen ar gyfryngau o’r fath yw trem ar Gymru nid o safbwynt y DG, a phwysau’r rhagdybiaethau hanesyddol a’r (diffyg) disgwyliadau sydd ynghlwm a hynny. Yn hytrach, mae angen i ni weld Cymru o safbwynt y byd sy’n bodoli tu hwnt.

Ymuno â'r Sgwrs

1 Sylwadau

  1. Diolch Huw. Mae degawdau (canrifoedd?) o weld Cymru trwy lygaid Lloegr wedi’n dallu. Mae angen mwy o sgwennu fel hyn i agor ein llygaid.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.