Adam Johannes o Gynulliad y Bobl Caerdydd sy’n siarad â Jean-François Joubert, aelod o Québec Solidaire (QS). Ym mis Hydref 2018, cafwyd etholiad hanesyddol yn Québec, gyda’r ddwy blaid sydd yn hanesyddol wedi ymladd i lywodraethu ers cenhedloedd yn derbyn cweir gan etholwyr oedd yn awyddus i weld newid. Plaid adain dde Coalition Avenir Québec (CAQ) fanteisiodd yn bennaf ar hyn, ond roedd yr etholiad hefyd yn llwyddiant i Quebéc Solidaire, plaid radical adain chwith sy’n cefnogi annibyniaeth. Daeth y llwyddiant hwn ar draul y Parti Québecois, y blaid sy’n draddodiadol wedi bod o blaid annibyniaeth, gyda QS yn sefyll ar blatfform gwyrdd gyda pholisïau’n cynnwys rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil, rhwystro adeiladu ffyrdd, lleihau pris teithio ar fws neu drên, a chreu miloedd o swyddi er budd yr hinsawdd.

AJ: Beth yw Québec Solidaire?

J-FJ: Québec Solidaire, ym marn nifer, yw’r blaid sy’n poeni fwyaf am yr amgylchedd. Fyddwch chi ddim yn clywed QS yn dadlau bod rhaid blaenoriaethu swyddi dros faterion amgylcheddol – a hyd yn oed os ydynt yn cynnig mesurau i liniaru’r effeithiau, mae eu hamcanion yn glir. Eu bwriad yw cefnu ar economi sy’n seiliedig ar olew – a hynny yng Nghanada, lle mae gan lobïwyr olew gryn bŵer!

Maen nhw o blaid cyfiawnder cymdeithasol, cyfartaledd, ymyrraeth y wladwriaeth yn yr economi, ac ail-ddosbarthu cyfoeth. Maen nhw’n awgrymu eglurder ieithyddol – y Ffrangeg fel iaith gyffredin i bawb. Nid bwriad hyn yw codi ofn ar bobl – mae’n golygu bod pobl yn ddwyieithog yn hytrach na’n rhoi’r gorau i siarad eu mamiaith.

Mae cynrychiolaeth gyfrannol yn uchel ar eu hagenda. Maen nhw’n blaid ffeministaidd, yn erbyn globaleiddio – neu’n hytrach, maen nhw’n cynnig math gwahanol o lobaleiddio sy’n rhoi pobl cyn cwmnïau. Mae cynllun Québec Solidaire am annibyniaeth yn cynnwys sicrhau bod 11 cenedl frodorol Québec yn sefyll fel cenhedloedd annibynnol a chydnabyddedig gyda’u hieithoedd a’u diwylliannau eu hunain.

AJ: Beth yw hanes y blaid, a beth sydd wrth wraidd dirywiad y Parti Québécois (PQ), y blaid draddodiadol sydd dros annibyniaeth?

J-FJ: Sefydlwyd Québec Solidaire yn 2006 ym Montréal, wrth i blaid adain chwith yr Union des Forces Progressistes a’r mudiad alter-globaleiddio Option Citoyenne ddod at ei gilydd.

Yn 2017, daeth Option Nationale, plaid oedd yn gryf o blaid annibyniaeth, a Québec Solidaire, plaid oedd yn gryf o blaid yr amgylchedd, at ei gilydd. Yn sydyn, dyma bethau’n cwympo i’w lle, yr amgylchedd, yr iaith, diwylliant, a grymuso. Does dim angen i ni dderbyn llai o wasanaethau, mwy o blastig, ysgolion a moddion drud, na chuddio ein mamiaith er mwyn dod ymlaen yn ein bywydau. Roedd opsiynau amgen ar gael, ond nawr roedd popeth yn gwneud synnwyr, a hynny gydag ymdeimlad cynyddol o argyfwng.

Mae Québec Solidaire yn gyfuniad o bobl dalentog, sydd wedi ennill y profiad o ymladd etholiadau ac wedi ennill 10 sedd, 2 o’r rhain yn ninas Québec, sef cadarnle unoliaethwyr adain dde Canada.

Dechreuodd Québec Solidaire gyda llond llaw o bleidleisiau. Ddegawd yn ddiweddarach, roedd y blaid wedi ennill 650,000. Ond o ran strategaeth, roedd yn bwysig cael gwared â siawns y PQ o ennill mwyafrif. Yn hynny o beth, mae hyn yn cynyddu dylanwad QS. Fel maen nhw’n dweud, This Town Ain’t Big Enough for Both of Us…

Mae’r PQ, sy’n draddodiadol o blaid annibyniaeth ac yn blaid adain chwith, wedi tyfu i fod yn gynghrair gwleidyddol ehangach ar ôl dod mor agos i ennill refferendwm annibyniaeth 1995. Wedi hynny, efallai bod y PQ yn cael ei ystyried i fod yn blaid genedlaetholgar saff, heb wir bwrpas, yn ymbellhau oddi wrth eu syniadau ar annibyniaeth, gan golli ffocws o’r herwydd.

AJ: Fe gyfarfûm am y tro cyntaf wedi streic hir gan fudiad myfyrwyr Québec yn erbyn codi ffioedd dysgu, oedd yn weithred o’r un anian ag Occupy yn erbyn llymder ac anghydraddoldeb.

Roedd y Printemps Érable, neu Wanwyn y Fasarnen, yn gynghrair unigryw. Ar y pryd, dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi cytuno gyda llawer o’r syniadau oedd yn cael eu cyflwyno gan rai unigolion. Efallai dy fod ti’n cofio ei fod yn adeg wallgof, ond prydferth. Ond cytunodd pawb i roi eu gwahaniaethau i’r naill ochr er mwyn canolbwyntio ar un peth: gwrthod gwneud addysg yn fusnes.

Chwaraeodd y cyfryngau cymdeithasol rôl ar y pryd. Roeddem fel petai ni’n gallu ymwneud ag amrywiaeth eang o bobl, o bob math, a cymaint mwy na heddiw. Dyna sut y des i gysylltiad gyda thi Adam, ond hefyd gyda phobl yn yr Alban, Catalonia, Ffrainc, Lloegr a hyd yn oed Pacistan!

AJ: Beth ddigwyddodd yn yr etholiad?

Mae gwleidyddiaeth yn Québec yn rhanedig ar sail iaith. Mae gwirionedd i’r ystrydeb: mae’r rheini nad ydynt yn ystyried eu hunain i fod yn rhan o gymuned Québec na’n siarad Ffrangeg yn cefnogi’r Blaid Ryddfrydol, a’r rheini sy’n siarad Ffrangeg yn tueddu i ffafrio cymysgedd o bleidiau ar y chwith ac ar y dde. Dros ugain mlynedd yn ôl, arweiniodd y Parti Québecois refferendwm dros annibyniaeth gan greu cynghrair eang. Wedyn, aeth nifer o’r pleidiau hynny ar drywydd gwahanol.

Y tro hyn, mae’n edrych fel petai’r ddwy hen blaid draddodiadol, sydd fel arfer yn llywodraethu yn eu tro, wedi colli allan i bleidiau newydd. Enillodd Rhyddfrydwyr Québec 31/125 o seddi gyda 1,001,037 o bleidleisiau, sy’n agos i’w sgôr isaf erioed. Enillodd y PQ 10/125 o seddi, eu nifer isaf ers 40 mlynedd, gyda 687,995 o bleidleisiau, eu sgôr isaf erioed. Efallai mai dyma fydd etholiad olaf y PQ.

Mae’n debyg bod y newid hwn yn gysylltiedig â niferoedd isel yn pleidleisio, diffyg ffydd etholwyr o achos sgandalau llygredd a pholisïau annigonol o ran cynnig gwir newid, yn ogystal â diffyg cyfeiriad/arweiniad oddi wrth y ddwy brif blaid.

Enillodd plaid newydd Coalition Avenir Québec (CAQ) yr etholiadau, gyda 74/125 o’r seddi (1,509455 o bleidleisiau), gyda Québec Solidaire yn synnu pawb gan ennill 10 o seddi a 649,503 o bleidleisiau, eu sgôr orau erioed.

AJ: Elli di ddisgrifio’r sefyllfa ieithyddol?

JF-J: Mae Canada wedi’i rhannu mewn i gymunedau Ffrangeg a Saesneg eu hiaith, yn enwedig yn Québec, Ond a bod yn onest, o ran ystadegau yn y gorffennol, mae’r gwir raniad yn bodoli rhwng y ‘rheini fyddai ddim yn mynd yn agos i’r Ffrangeg’ a phobl amlieithog.

Mae pobl amlieithog yn debygol o gefnogi annibyniaeth i’r un graddau â phobl Ffrangeg eu hiaith, ac mae hyn hefyd yn gallu bod yn amlwg mewn cymunedau brodorol.

Yn ddaearyddol, mae rhaniad rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Yn Québec, mae siaradwyr Ffrangeg yn tueddu i fyw yn y dwyrain a siaradwyr Saesneg mwy diweddar yn debygol o fod yn y gorllewin.

Nid yr un yw’r frwydr dros ennill cydnabyddiaeth i’r Ffrangeg yng Nghanada ag ennill cydnabyddiaeth i Québec yng Nghanada, gan mai Québec yw’r unig le yng Nghanada heddiw lle mae’r Ffrangeg yn iaith y mwyafrif. Felly pan fo pobl Québec yn anfon eu trethi i helpu grŵp bach o siaradwyr Ffrangeg yn Toronto, dinas fwyaf Canada sydd hefyd yn Saesneg ei hiaith, rhaid meddwl ai ‘helpu Canadiaid Ffrangeg eu hiaith’ yw hyn, neu wastraffu adnoddau prin. Unwaith i ni dalu ein trethi, rydyn ni’n colli rheolaeth ar yr arian. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion Canada. Yn fy marn i, dydy darparu gwasanaethau cyfieithu i’r Ffrangeg ar gyfer diwydiannau niwclear a thar ddim yn llawer o gysur.

Cytunodd y llywodraeth geidwadol i gydnabod Québec fel cenedl gyflawn nôl yn 2006, gyda’r amod na fyddai goblygiadau gwleidyddol na chyfreithiol i hyn; dyma enghraifft nodweddiadol o agwedd Canada! Ac mae wyth miliwn ohonom ni yn Québec, dychmygwch sut mae hi i gymunedau brodorol!

AJ: Beth am Coalition Avenir Québec? Ydy’r blaid yn eithaf adain dde?

JF-J: Mae CAQ yn eithaf agos i boblyddiaeth adain dde, er, yn ‘arddull Québec’, sy’n golygu nad ydyn nhw wedi cyrraedd lefelau echrydus Trump eto.

Dydy CAQ ddim yn cwestiynu lle Québec yn Ffederasiwn Canada, maen nhw’n croesawu tyngu llw i’r Frenhines (sy’n orfodol), maen nhw eisiau gostwng trethi, lleihau gwasanaethau, ac mae’n edrych yn debyg eu bod nhw’n ystyried preifateiddio asedau sy’n berchen i’r llywodraeth.

Ymysg eu blaenoriaethau, mae cefnogaeth i’r lobi tar o Orllewin Canada, ac felly maen nhw’n cefnogi gosod pibellau olew mewn i’r Unol Daleithiau a thrwy ffordd forol Saint Laurent at Ewrop. Efallai mai dyma fydd sail y gwrthwynebiad mwyaf iddynt oddi wrth y bobl. Mae’r amgylchedd yn uchel o ran blaenoriaethau’r rhan fwyaf, ond hyd yn hyn, mae’r galw i weithredu wedi bod ar goll.

AJ: Sut mae neo-ryddfrydiaeth yn effeithio ar Québec a Chanada?

JF-J: Mae Quebéc fwy neu lai wedi cael ein hamddiffyn oddi wrth y neo-ryddfrydiaeth mwyaf llawdrwm a llymdra, efallai gan ein bod bron wedi ennill annibyniaeth yn 1995 gyda 49.42% o’r bleidlais.

Ond heddiw, mae hyn yn newid yn gyflym. Mae materion amgylcheddol yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg, ac mae’r CAQ yn awyddus iawn i breifateiddio.

Rhaid rhoi hyn i gyd mewn i’r persbectif cywir, fodd bynnag. Mae Gorllewin Canada yn cynnwys adnoddau tar sylweddol all ddarparu’r byd cyfan gydag olew am y 200 mlynedd nesaf. O bosib, bydd hyn yn creu trychineb amgylcheddol sylweddol.

Roedd y Ceidwadwr Stephen Harper arfer cynnal cyfarfodydd ar lefel uchel gyda gwleidyddion yn y DU; roedd dod o hyd i gwsmeriaid ar gyfer yr olew hwn yn un o’i flaenoriaethau. Mae Justin Truedau, Prif Weinidog Rhyddfrydol Canada hefyd yn cynnal cyfarfodydd lefel uchel gyda gwleidyddion y DU i ddod o hyd i farchnadoedd ar gyfer olew’r tiroedd tar. Pan roedd y blaid canol chwith, y Democratiaid Newydd, yn agos yn y polau piniwn, doedd dim dewis gan eu harweinydd ond cefnogi economi’r tiroedd tar, er bod eu harweinydd yn cael ei ystyried i fod yn amgylcheddwr. Ar y chwith ac ar y dde, mae popeth yng Nghanada nawr am y tiroedd tar, am bibellau olew, ac am allforio.

Fodd bynnag, mae gan Québec adnoddau pŵer trydan dŵr sylweddol. Mae’r 11 cenedl arall yn Québec, sy’n cynnwys yr Innu, Atikamek, Mohawk a’r Cree wedi’u rhannu mewn i nifer sylweddol o gymunedau ac felly heb lawer o ddylanwad gwleidyddol. Fodd bynnag, rydym oll yn rhannu pryderon ynghylch y diriogaeth.

Pan fyddwn ni’n annibynnol, gallwn oll rwystro prosiectau pibellau olew ar ein tiriogaeth, neu fuddsoddi’r arian mewn ffordd wahanol. Heddiw, mae pawb yng Nghanada yn ariannu’r tiroedd tar a’r diwydiant niwclear trwy ein trethi, er enghraifft. Byddai annibyniaeth oddi wrth Ganada yn galluogi Québec i ffurfio cytundeb newydd yn seiliedig ar wladoli adnoddau naturiol, fydd yn ein galluogi i ailddosbarthu’r cyfoeth yn fwy hafal, yn ogystal â heddlua’r diriogaeth yn fwy priodol. Gall yr argae pŵer trydan dŵr barhau i ddarparu trydan am genedlaethau. Ar hyn o bryd, y diwydiant olew sy’n deall y cyfle hwn orau, ond pan fydd pawb wedi deall hwn gallwn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed yn y byd, a rhoi tro ar awgrymu agenda gwahanol.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.