Mae hi’n bleser cael eich gwahodd i lansiad mudiad blaengar newydd dros annibyniaeth i Gymru.

Siaradwyr:

  • Nia Edwards-Behi
  • Sandy Clubb
  • Dan Evans (Desolation Radio)
  • + mwy

Dydd Sadwrn 26th mis Ionawr 2019
11yb tan 3yp
Yr Hen Goleg, Aberystwyth, SY23 2AU

Digwyddiad lansiad Undod ar Facebook


Am 11yb, ar 26ain mis Ionawr 2019, cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Yr Hen Goleg, Aberystwyth, gan fudiad newydd sy’n arddel annibyniaeth radical i Gymru. Mae’r grŵp yn cyfarfod dan yr enw Undod ac yn barod i lenwi bwlch hanfodol o fewn y mudiad annibyniaeth, mewn gwlad sydd â threftadaeth sosialaidd amlwg ac sydd – yn fwy dim – angen newid radical yn ei gwleidyddiaeth.

Bydd y grŵp yn pwysleisio’r angen i annibyniaeth ymgorffori gwerthoedd a pholisïau a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ansawdd bywyd y mwyafrif o bobl. Mae’n bwriadu ymgyrchu ar y materion allweddol sy’n achosi dioddefaint ac anghyfiawnder yn y Cymru sydd ohoni, gan geisio gwireddu newid yn y presennol; fodd bynnag, bydd yn gweithredu ar sail y ddealltwriaeth mai rhyddid o’r wladwriaeth Brydeinig adweithiol yw’r unig beth all wir sicrhau ffyniant parhaol i gymunedau Cymru.

Darllenwch egwyddorion Undod.

Y gobaith yw y bydd y grŵp yn derbyn cefnogaeth o bob rhan o Gymru a’i phobl amrywiol, ac y bydd – yn ogystal â chyfrannu at wleidyddiaeth ymarferol – yn denu cyfraniadau gan wneuthurwyr polisi, academyddion ac eraill sy’n dymuno helpu i dychmygu a gwireddu Cymru annibynnol wir flaengar.

Yn ogystal â chefnogi undod rhyngwladol, bydd ffocws ar feithrin cydsafiad rhwng cymunedau yng Nghymru. Rhagdybiaeth sylfaenol yw’r ffaith – er gwaethaf y symptomau gwahanol – bod cymunedau amrywiol Cymru yn wynebu heriau mawrion oherwydd cyfalafiaeth ddilyffethair.

Golyga hyn bod ein cymunedau ôl-ddiwydiannol yn fregus ac yn llwyr ddibynnol ar gyfalaf tramor, tra bod ein cymunedau gwledig yn gweld eu pobl ifanc yn ymadael, argyfwng tai a thranc y Gymraeg, wedi’i ysgogi gan bolisïau rhanbarthol gwan gan Lywodraeth Cymru a grym prynwriol llethol o’r tu allan.

O dan yr amgylchiadau hyn, a chyda’r bygythiad cynyddol o’r adain dde eithafol yng Nghymru a thu hwnt, ni all y rhai sydd yn credu mewn cydraddoldeb, cyfiawnder a dyfodol cynaliadwy sefyll i’r neilltu.

Ni allwn gadael ein pobl yn ysglyfaeth i’r wladwriaeth Brydeinig lygredig, na chwaith caniatáu i siofinyddiaeth wleidyddol elitaidd wreiddio yma. Ymhellach, mae datganoli wedi dangos ei bod yn analluog i’n hamddiffyn rhag gormodedd y Torïaid.

Mae’n hen bryd i ni, pobl Cymru, uno, er mwyn gwireddu’r i ni’n hunain yr egwyddorion hynny rydym yn hanesyddol wedi sefyll drosto yn y byd: cydraddoldeb, cyfiawnder a heddwch.

Felly dewch gyda ni, i gydsefyll – mewn Undod.

Un ateb ar “Undod: dewch i lansiad y mudiad dros Annibyniaeth Radical i Gymru”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.