Mae Undod wedi beirniadu Llywodraeth Cymru mewn cyfres o flogiau am y ffordd mae wedi ymwneud â’r argyfwng Covid-19 o’r cychwyn cyntaf, pan fethwyd a gohirio gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban tan y funud olaf – pan oedd hi’n rhy hwyr i atal miloedd o gefnogwyr rhag teithio i Gaerdydd. Darllenwch y gyfres gyfan.

Mae’r diffyg arweiniad cadarn, y diffygion mewn cyfarpar diogelwch, y problemau efo profion, yr amharch a gaiff Cymru gan Lywodraeth Llundain i gyd yn arwyddion o fethiant esblygiad yn ein sefydliad pwysicaf ers ei sefydlu yn dilyn yr etholiadau cyntaf i’r Cynulliad – fel yr enwyd y babi newydd i gychwyn – ar 6ed o Fai 1999. Dyma’r sefydliad y dylem i gyd fedru ei gefnogi heb feddwl ddwywaith.

Ond nid fel yna mae hi. Llywodraeth ddi-hyder sydd gennym. Llywodraeth sydd, yn y bôn, am aros yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol. Llywodraeth sydd heb ffydd ynddi hi ei hun, nac ychwaith yng ngallu pobl Cymru i fod yn ddigon doeth ac aeddfed i redeg eu gwlad eu hunain. Llywodraeth sydd, ar waethaf dechreuadau brawdgarol a sosialaidd y Blaid Lafur, wedi dewis efelychu efengyl neo-ryddfrydol y Torïaid a Llafur Newydd.

Dyna pam mai llwybr di-ddychymyg mae nhw wedi ei ddilyn o’r dechrau. Ac wrth gwrs hynny ydi’r meddylfryd sy y tu cefn i’r cyhoeddiad fod Llywodraeth Cymru wedi galw ar Gordon Brown a dau arall o aelodau blaenllaw y sefydliad Prydeinig i roi cymorth, i arwain y drefedigaeth fach ofnus lle ‘rydym yn byw allan o hirlwm Covid-19, ac yn ôl i borfeydd gwelltog.

Edrych i’r tu allan am waredigaeth. Ymateb rheolwyr, nid ymateb arweinwyr.

Ond pam Gordon, o bawb? Ac i ba borfeydd?

Gordon – am ei fod yn ffigwr o bwys, yn ddi-ddadl. Ond penodiad gwleidyddol yw hwn. Mae o’n ymgnawdoliad o Lafur yn ei Phrydeindod creiddiol, ac o’i thrawsnewidiad i fod yn blaid sy’n cynnal y drefn yn lle ei diwygio. Cofiwn saga y banciau – y bobl gyffredin fu, a sydd, yn talu am eu hafradlonedd nhw dan oruchwyliaeth Gordon. Cofiwn ymyriad tyngedfennol Gordon yn Refferendwm Annibyniaeth yr Alban, pan gyflwynodd “Y Llw” oedd yn addo pethau i’r Alban am wrthod torri’n rhydd – addewidion nas cyflawnwyd. Cofiwn mai Gordon roddodd i ni yr erchyllbeth a elwir yn “Ddiwrnod y Lluoedd Arfog” – a ddaeth i Landudno yn 2018 ar wahoddiad Cyngor Sir Conwy – sy’n jambori jingoistaidd yn dathlu militariaeth ac imperialaeth wedi ei lapio ym mhlygion gwaedlyd Jac yr Undeb. Afraid dweud fod Gordon wedi cefnogi Blair ar Ryfel Irac.

Mae’r diffyg croeso i Gordon gan Blaid Cymru a’r Torïaid wedi llwyddo yn y gamp anarferol o gael cytundeb rhwng y ddwy blaid! Er am resymau gwahanol, mae’n wir.

Ac i ba borfeydd gwelltog y cawn ein harwain tybed? Yn ddi-os, y blaenoriaeth fydd ar fynd yn ôl cyn gynted a phosib i’r model cyfalafol sy’ wedi chwalu cymaint ar ein cymunedau a’n gwlad. Mae’r ffaith fod dau arall o Grŵp Gordon yn aelodau o’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn galonogol, ond eto i gyd mae nhw’n gweithio i sefydliadau sy’n meddwl yn nhermau modelau economaidd treuliedig. Mae Rebecca Heaton yn gweithio i Drax, yn dilyn cyfnodau efo Shell a BP ac yn arbenigo ar bio-mas (cwmni cynhyrchu trydan ydy Drax sy efo pwerdy anferth sy wedi newid o losgi glo i bio-mas). Mae Paul Johnson yn gweithio i’r Institute of Fiscal Studies – ond rhwng 2007 a 2010 roedd yn ddirprwy bennaeth Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth, pan oedd Gordon yn Ganghellor y Trysorlys – ai cyd-ddigwyddiad yw ei apwyntiad tybed? Canfyddiad, hyd yn oed os yn anghywir, o ddrysau’n troi. Ond mewn gwirionedd nid collfarnu’r ddau unigolyn yw’r bwriad yma – ond gofyn pa broses feddyliol a ddilynwyd i’w dewis.

Rhaid gofyn y cwestiynau amlwg am natur y Grŵp yma, o’r hyn a ddatgelwyd hyd yn hyn. Byddai’n ymarferiad gwerth chweil i gefnogwyr Undod feddwl am bobl fyddai’n gymwys i’r gwaith!

Pam na fedr Llywodraeth Cymru gael hyd i bobl sy’n byw yma, yn ‘nabod y wlad a’i phobl a’i phroblemau unigryw a dyrys, ond hefyd yn gwybod am ei photensial?

Pam nad oes yna unrhyw sôn am unigolion sy’n cynrychioli mudiadau cymunedol?

Pam nad oes yna economegwyr yng Nghymru sy’n ddigon cymeradwy?

Pam nad oes yna rhywun i gynrychioli’r bregus, y lleiafrifoedd a merched?

Pam na chymerwyd y cyfle i gydnabod fod yr hen ffyrdd wedi methu, a fod yn rhaid chwilio am ffyrdd newydd o drefnu ein bywydau?

Mae’r atebion i gyd yn deillio o feddylfryd Llywodraeth Cymru. Dyna yw dagrau pethau – fod ein prif sefydliad gwleidyddol yng Nghymru yn meddwl yn nhermau’r Deyrnas Gyfunol gyfalafol dro ar ôl tro ar ôl tro. A heb dderbyn nad ydi’r Deyrnas Gyfunol ddim yn malio’r un botwm corn am Gymru.

Ddydd Mercher dywedodd Jeremy Miles yng nghynhadledd y wasg y gallai’r pandemig coronafeirws gael effaith dyfnach ar Gymru oherwydd y boblogaeth yn hŷn a’r proffil economaidd. ‘Does dim sôn yn yr adroddiad o’r gynhadledd fod Mr Miles wedi rhoi rhesymau pam fod Cymru mewn sefyllfa mor wael ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth un blaid…

Ychwanegodd na fedrwn ni ddim mynd yn ôl i “fusnes fel arfer” a fod yn rhaid cynllunio Cymru ar gyfer y dyfodol gan gael ein llywio gan “gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol”. Dyna, byddem yn meddwl, oedd bwriad “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015”, ond dangosodd y cyfnod yn dilyn pasio’r ddeddf mor ddi-rym a di-ddannedd a fu hyd yma.

Anffodus felly fod penodiad Gordon – a gyhoeddwyd gan Mr Miles – yn tanseilio’r rhethreg aruchel yma. Gordon Brown YW Mr Busnes Fel Arfer!

Cwestiwn hollol rethregol i gloi. A fyddai Albanwr arall a alwyd gan yr hanesydd Kenneth O Morgan yn “arloeswr mwyaf ac arwr mwyaf Llafur” wedi adnabod y blaid sy wedi rhedeg Llywodraeth Cymru o’r dechrau un fel y Blaid Lafur y bu ganddo ran mor enfawr yn ei sefydlu?

Go brin, Keir Hardie, go brin.

Nodiadau

Un ateb ar “Gordon yr Injan Fawr: penodiad gwleidyddol”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.