Roedd y caffi cymunedol ym Mhenygroes Yr Orsaf yn gyfforddus lawn ar nos Sul, Mawrth 15ed, 2020. Roedd y bardd lleol, Karen Owen, yn cynnal noson yng nghwmni Aled Jones Williams, ac roedd y caffi newydd ddathlu blwyddyn o fod mewn bodolaeth. “Roedd pethau yn dod yn eu blaen yn dda iawn” meddai Ben, un o’r sylfaenwyr. Sefydlwyd Siop Griffiths fel menter gymdeithasol dair mlynedd ynghynt, wedi i’r gymuned godi dros £50,000 i brynu’r hen siop ironmongers yng nghanol y pentref a’i droi yn gaffi.

Yr hen ddyddiau – ffermwyr ifanc mewn cyfarfod yn Yr Orsaf

“Bwriad menter Siop Griffiths oedd dangos bod y gymuned yn gallu creu pethau eu hunain. Wedi blwyddyn o waith adeiladu, roedd y tŷ drws nesaf yn barod i groesawu’r ymwelwyr cyntaf – dyna fyddai’n sicrhau incwm i’r fenter. Roedd y caffi, efo Pam yn coginio bwyd cartref, wedi ennill ei blwyf, ac roedd y gweithdy yn y cefn wedi ei addasu i fod yn Ganolfan Ddigidol. Wedi misoedd o beintio, roedd y lle ar fin cael ei agor ddechrau Ebrill. Roedd hwyliau da ar bawb.”

Eto, roedd pryderon am Covid-19. Roedd yna gysylltiadau teuluol efo Ewrop. Roedd Gethin, mab Pam yn y caffi, wedi dod adref i gael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd. Roedd wedi gadael ei wraig a’i fab bach yn Sbaen, a doedd dim caniatâd iddo fynd yn ôl atynt. Roedd Elliw, merch leol, wedi bod yn yr Eidal am chwe mis, yn gweithio mewn cwmni theatr cymunedol i blant. Daeth hi adref ar Chwefror 26, ddeuddeg diwrnod cyn i ffiniau’r Eidal gau ac i’r WHO gyhoeddi fod Covid 19 yn bandemig. Roedd gweddill y grwp theatr – 14 ohonynt – yn sownd mewn un tŷ ym Milan.

Wythnos ar ôl dod yn ôl cafodd Elliw y swydd o Gydlynydd Trafnidiaeth Gymunedol, a dechreuodd weithio o Siop Griffiths. Yn 26 oed, roedd yn rhannu swyddfa efo Greta, merch o’r un oed oedd eisioes yn gweithio i Siop Griffiths ers mis Awst fel Swyddog Datblygu a Marchnata. Roedd Greta wedi cael chwe mis prysur yn dod i nabod pawb a threfnu gweithgareddau lu. Roedd yn edrych ymlaen at weld y llety yn agor. Y trydydd ar y tîm oedd llanc deunaw oed, Daniel, oedd yn brentis digidol dan nawdd Rank, ac roedd o fewn dyddiau i gael symud i’w ofod newydd yn y Ganolfan Ddigidol. Dim ond aros i’r paent sychu oedd o.

Newidiwyd swyddi’r rhain dros nos. Y noson farddoniaeth ar Fawrth 15fed oedd y noson olaf i’w chynnal yn Yr Orsaf am amser maith. Ar y dydd Llun stopiodd Greta, Elliw a Daniel weithio ar eu prosiectau. Penderfynodd Siop Griffiths i ofyn iddynt ddechrau trefnu ymateb y gymuned i Covid-19. Ar y dydd Gwener, caeodd drysau Caffi’r Orsaf. Erbyn y bore canlynol roedd slogan newydd ar wal ym Mhenygroes, ‘I gadw’n saff, cadwch ddigon pell’.

Y caffi

Roedd y gwaith oedd wirioneddol angen ei wneud yn gwbl amlwg – sef cefnogi’r gymuned a chadw cysylltiad gyda phobl hŷn a bregus. O fewn dyddiau, roedd taflen wedi ei llunio a’i hargraffu – dan enw Grŵp Cefnogi Penygroes Covid-19. Roedd bwriad deublyg i’r daflen, casglu enwau gwirfoddolwyr, a helpu pobl oedd yn hunan-ynysu. Erbyn yr 20fed o Fawrth, roedd taflen yn cael ei dosbarthu i bob tŷ ym Mhenygroes. Drannoeth, caeodd yr ysgol uwchradd a’r ysgol gynradd yn y pentref, ac roedd gorchymyn i bawb aros adref.

“Rydan ni mor falch inni weithredu’n fuan. Bu cyfarfod lleol yn Llanllyfni, y pentref nesaf, ar Fawrth 17, felly bu Dyffryn Nantlle ar y blaen i’r datblygiadau” meddai Ben.

Gwirfoddolwyr yn dosbarthu taflenni yn Nhalysarn

Yn niffyg unrhyw ganllawiau ffurfiol, bu rhaid i’r gweithwyr geisio rhoi trefn eu hunain ar waith. O fewn llai na thair wythnos, roedd system yn ei lle gyda dros hanner cant o wirfoddolwyr yn y pentref a dros 80 wedi gofyn am gymorth. Erbyn Ebrill 4ydd, roedd taflenni yn cael eu rhannu ym mhentref Talysarn, filltir i ffwrdd, i bentref oedd heb Grŵp Cefnogi. Roedd Talysarn yn bentref Cymunedau yn Gyntaf ac mewn deng mlynedd, buddsoddwyd miliwn o bunnau yno. Eto, nid oedd grŵp cefnogi wedi codi, sydd yn peri i rywun feddwl bod angen mwy na phwmpio arian i adfywio cymuned.

Pecynnau i wirfoddolwyr

Mae’r drefn yn ei lle bellach, ond roedd hi’n anodd ar y cychwyn, gan nad oedd canllawiau gan Lywodraethau Prydain na Chymru. Cododd y mater o gadw gwirfoddolwyr yn saff mewn cyfnod mawr o ansicrwydd. Sut oedd pobl hŷn i dalu am y nwyddau, gan nad oeddent yn bancio yn electronaidd? Sut oedd mynd â’r deunydd i’w tai? Pob tro roedd angen i’r grŵp, fel sawl cymuned arall, chwilio am y wybodaeth a sefydlu trefn, gyda chanllawiau gan yr awdurdodau yn dilyn yn hwyr.

“Bob bore, rydym yn cael cyfarfod ar y wê i gynnal ein gilydd” eglura Ben. “Does gen i ond edmygedd at ein gweithwyr ifanc. Yr ydym yn gofyn llawer ganddynt, ac y maent wedi troi ati yn frwd i addasu. Dydi o ddim yn waith hawdd, yn enwedig mewn cyfnod o bryder. Rhaid iddynt ddelio â materion tu hwnt i’w profiad, sut i sgwrsio efo pobl efo dementia ac anghenion o bob math. Mae’n waith sy’n gallu bod yn emosiynol iawn, achos efo pobl rydan ni’n delio.”

Mae Ben yn hŷn ac yn tynnu ar ei brofiad pan oedd o’n llanc ifanc yn Nhredegar yn ystod Streic y Glowyr. “Mae’r cyfnod hwn yn f’atgoffa o gyfnod y streic” meddai. “Roedd hwnnw yn enghraifft o fobileiddio, gydag Undeb y Glowyr a’r cymunedau yn gweithio gyda’i gilydd. Ac roeddem yn gwybod na fyddai pethau byth yr un fath wedi hynny. Mae hwn yn gyfnod tebyg, dydi pethau byth am fod yr un fath eto.”

Oes yna ddiffygion wedi bod? “Oes” atebodd Ben. “Y ffordd mae’r llywodraethau wedi paratoi ar gyfer y pandemig, wedi gadael i’r afiechyd gael gafael ar y boblogaeth, wedi methu amddiffyn gweithwyr efo offer argyfwng ac wedi methu darparu awyryddion. Mae’r ymateb bob tro wedi rhoi’r economi – a’r cyfoethog – yn gyntaf.”

Oes yna ysbrydoliaeth? “Oes, yn bendant” atebodd Ben. “Mae Partneriaeth Ogwen wedi troi ati i wneud y gwaith ym Methesda, a Chwmni Bro Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog, rhain oedd y grwpiau oedden ni mewn cysylltiad â hwy cynt. Mae Cofis Curo Corona wedi ei sefydlu yng Ngahernarfon. Mae dwsinau o grwpiau cefnogi yng Ngwynedd a channoedd trwy Gymru.”

“Felly mae hyn wedi profi dau beth – nad yw’n wir deud bod pobl yn apathetig – maent yn dod i lenwi’r bwlch pan ddaw’r galw. Mae hyd yn oed y curo dwylo bob nos Iau i’r gwasanaethau gofal yn dangos bod teimlad cryf o undod ymysg pobl. Yn ail, dydi o ddim yn wir nad oes yna synnwyr o gymuned. Mae Covid-19 wedi dangos fod yna gryfder gwirioneddol mewn cymunedau. Yn wir, pan mae pethau yn mynd i’r pen, dim ond y synnwyr o gymuned a gofal pobl dros ei gilydd sydd gennych.”

Oes gwers arall? “Mae sawl grŵp yn yr ardal wedi bod yn cydweithio ar yr economi sylfaenol. Mae Covid-19 wedi dangos i ni beth oedden ni’n ei wybod yn barod – fedrwch chi ddim gwahanu cymuned, cymdeithas a’r economi. Hefyd, mae’r argyfwng wedi dangos pwy sy’n creu’r cyfoeth yn ein cymdeithas. Mae’r staff gofal, y bobl stacio sillfoedd, gweithwyr y cyngor, i bobl ar gytundebau sero-awr neu’r hunan-gyflogedig, maen nhw i gyd wedi parhau i weithio i’n cynnal, ac mewn argyfwng go iawn, dydi’r bancwyr a’r biliwnêrs heb gyfrannu dim.”

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.