Mai 1af oedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Gŵyl Banc fel arfer, ond nôl yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai yr Ŵyl Banc yn cael ei symud i Mai 8fed yn 2020 er mwyn dathlu 75 mlynedd ers Diwrnod VE – sef y diwrnod pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd i ben yn Ewrop. Y bwriad oedd cael jambori tridiau i gofio, nes i Covid-19 ymosod a gorfodi newid yn y cynlluniau.

Fyddwn i ddim yn meiddio dweud nad oes yna werth i gofio diwedd y Rhyfel honno. Bellach, dim ond dyrnaid ohonom sydd bellach yn cofio byw drwy’r profiad. Ac yn sicr, mae llawer o’r rhai a fu’n rhan o’r gyflafan wedi treulio oes yn cofio mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Aeth gormod o lawer i’w beddau, llawer yn gynamserol, wedi gorfod byw yr hunllef yn feunyddiol. Wedi methu cau’r drws ar erchyllterau.

Iddyn nhw, nid methu a chofio oedd y felltith, ond methu ag anghofio.

Gweddus yw i ni i gyd barchu hynny. A diolch mai ail-law ydi ein syniadau ni am sut beth oedd bod yn rhan o’r gwallgofrwydd mawr.

Mae yna gofio tawel, myfyrgar, trist, hiraethus, a gwylaidd. Y math o gofio a fyddai cymaint o bobl gyffredin a rwygwyd o gysur eu cyfanfyd i greulondeb rhyfel yn ei wneud. Pobl nad oedd yn dymuno ymladd yn y lle cyntaf, heblaw fod gorfodaeth arnyn nhw. Pobl addfwyn a thyner a garai eu teuluoedd, ac a orfodwyd i ladd eraill oedd yn addfwyn a thyner, ac a garent eu teuluoedd. Pobl na fyddent fyth yn sôn am eu profiadau, gan mor gignoeth oedd yr atgofion. Pobl efo pyllau diwaelod o ddioddefaint yn eu llygaid. Fel milwyr ar hyd yr oesau.

Ond mae yna fath arall o gofio. Cofio sy’n dwyn yr achlysur ar gyfer dibenion gwleidyddol sinigaidd. Cofio sy’n llurgunio’r cofio, yn herwgipio arwriaeth, yn rhamantu trasiedi. Cofio sy’n dathlu militariaeth a jingoistiaeth Prydain Imperialaidd. Dyna’r math o gofio swyddogol a gawn ym Mhrydain.

Y math o gofio sy’n rhoi bri i’r meddylfryd o Brydain unedig yn erbyn Ewrop.

Digon posib mai dyna oedd rhan o fwriad gwreiddiol creu Gŵyl Banc – sef atgyfnerthu Brecsit. Wrth gwrs, bu’n rhaid addasu erbyn hyn. Felly defnyddir yr achlysur i gyplysu ein trafferthion presennol ynghanol yr haint efo ‘rhyfel’ yn erbyn ‘gelyn’ y feirws.

Daw prawf pendant yng ngeiriau Tony Hall, Prif Gyfarwyddwr y BBC:

At a time when many are looking for unity and hope, the BBC will bring households together to remember the past, pay tribute to the Second World War generation and honour our heroes both then and now.

Ceisio ail-greu ‘ysbryd y rhyfel’ (wartime spirit) yn y cyfnod hwn. A thrwy hynny gobeithio tynnu sylw oddi wrth ddiffygion y Llywodraeth yn Llundain (a Llywodraeth Cymru) sy wedi dod a ni i’r fan lle mae mwy o bobl wedi marw o’r haint yn y Deyrnas Gyfunol nag unman arall yn y byd heblaw yr Unol Daleithiau. I Lywodraeth lle mae dweud y gwir yn opsiwn nid yn rheidrwydd, dydi creu hanes ffug yn ddim byd newydd. Ond mae’r llygredd moesol yn mynd yn ddyfnach nag un blaid – mae’n rhan o feddylfryd y Deyrnas Gyfunol.

Gallwn ddeall pam, yn 1945, ar ôl blynyddoedd o ryfel, fod pobl eisiau dathlu efo parti yn y stryd a chroesawu’r hogiau adref. Ond cyfnod gwahanol yw hwn, a rhaid cwestiynu beth sydd wedi ei ddarparu ar ein cyfer eleni. Dyma’r arlwy.

  • Darllediad gan Mrs Windsor
  • Darlledu rhannau o araith Churchill ar ddiwrnod VE
  • Galwadau fideo rhwng Boris, y Windsors a rhai o oroeswyr y Rhyfel
  • Mark Drakeford am efelychu hyn yng Nghymru
  • Carlo yn darllen o ddyddiadur ei daid ar ddiwrnod VE
  • Cyfres o raglenni ar y BBC, yn cynnwys Katherine Jenkins
  • Annog pobl i gynnig llwncdestun i gofio am 3 y pnawn
  • Annog pobl i roi llun o filwr o’r Rhyfel yn y ffenest
  • Pecyn gan y llywodraeth er mwyn creu addurniadau, baneri, gemau a deunydd addysgol
  • Ac i gloi, yn dilyn Mrs Windsor am 9 yr hwyr, annog pawb i gyd-ganu “We’ll Meet Again” a anfarwolwyd gan Vera Lynn adeg y Rhyfel

Diau fod cofio fel hyn yn siwtio llawer. Digon posib fod rhai o’r hen filwyr wrth eu boddau. Ac wrth gwrs fod camp aruthrol yr hen filwr, y Capten Tom Moore, yn codi miliynau i’r Gwasanaeth Iechyd i’w ganmol i’r cymylau (er ei bod yn sgandal mai esgeulustod y Llywodraeth achosodd y prinder yn y Gwasanaeth yn y lle cyntaf).

Gochelwn rhag coelio’r fersiwn yma o hanes heb gydnabod fod yna wirioneddau eraill am ryfel nad yw Llywodraeth Llundain – na Llywodraeth Cymru o ran hynny – am i ni holi rhyw lawer amdanynt. Oherwydd i ni gael ein cyflyru i dderbyn myth y sbloet chwerw-felys, ramantaidd am yr Ail Ryfel. Rhyfel cyfiawn. Rhyfel arwrol. Rhyfel na ellid ei osgoi. Rhyfel gwneud ein rhan. Rhyfel dros ryddid.

Effaith y myth yma yw ceisio atgyfnerthu y syniad o Brydain Imperialaidd, Frenhinol, bwysig.

Creu ymdeimlad fod Prydain ar grwsâd cyfiawn yn y byd, ac yn deilwng o’i phriod le fel un o’r gwledydd sy’n cyfrif. Dyma’r hanes a gyflwynir nid yn unig i oedolion, ond i blant, er mwyn llywio eu byd-olwg i gyfeiriad penodol – sef mai Oes Aur Prydain oedd yr Ymerodraeth, fod y ddau Ryfel Byd yn anturiaethau cyfiawn, a fod Prydain yn dal i fod yn Bŵer Mawr. A dro ar ôl tro, sonnir am “uno’r wlad” – sef y Deyrnas Gyfunol, a pheidio a chydnabod y gwledydd unigol.

Ac yn y dyddiau yma yn arbennig, creu hinsawdd lle mae unrhyw gwestiynu am y pethau hyn yn gyfystyr a brad, ac yn ennyn casineb yr haid.

Dyna pam mae hi’n hawdd i Lywodraethau gael rhwydd hynt i wneud pethau sy’n wrthun. Gwerthu arfau rhyfel i Sawdi Arabia, a’r arfau yn cael eu defnyddio i ladd y diniwed yn yr Yemen. Adnewyddu Trident ar gost anhygoel o uchel. Mynnu bod â rhan flaenllaw mewn rhyfeloedd tramor fel yn Irac ac Afghanistan. Mae’n anorfod fod pobl gyffredin y gwledydd mae Prydain yn ymosod arnynt yn cael eu lladd wrth y miloedd bob tro. Ac wrth gwrs mae hyfforddiant milwrol yn dad-ddynoli dyn ac yn ei droi yn beiriant sy’n fodlon gwneud pethau na fyddai fyth yn breuddwydio am eu gwneud fel arfer. Trais yn arwain yn anochel at ragor o drais.

Mae’r gallu i fedru ymarfer grym milwrol yn gyffur mae’r wladwriaeth Brydeinig yn hollol gaeth iddo.

Yn y cyfamser, mae’r darnau o ddynion a ddaw allan o’r Lluoedd Arfog yn cael eu gor-gynrychioli mewn sawl maes truenus. Dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol. Methu dygymod efo bywyd pob dydd. Yn garcharorion. Yn ddigartref ac yn cysgu ar y stryd. A rhain yn aml yn bobl wedi eu targedu i ymuno yn y lle cyntaf am eu bod yn dod o drefi tlawd, a’r Lluoedd Arfog yn cynnig dihangfa.

Nhw sy’n talu’r pris am freuddwydion ffôl y rhyfelgwn. Nhw sy’n galluogi’r diwydiant arfau i ymelwa. Nhw sy’n cael eu rhoi o’r neilltu a chael eu anghofio – heblaw pan fydd angen sioe.

Dydi dweud “diolch” am ddiwrnod ddim yn trwsio dy gorff, nac yn iachau dy feddwl, na chwaith yn dod a’th ffrindiau yn ôl.

Buddugoliaeth yn erbyn Ffasgaeth a gofir ar ddiwrnod VE. Ffasgaeth a ddatblygodd mewn sawl gwlad ac a gafodd rwydd hynt i dyfu’n rym maleisus a chreulon. I raddau, crëwyd yr amgylchiadau ar ei gyfer gan anghyfiawnder Cytundeb Versailles ar ôl y Rhyfel Mawr. Fedrai Hitler ddim ffynnu mewn gwlad gytbwys a theg. Yna dangosodd Franco yn Sbaen nad oedd gan wledydd eraill stumog i wrthwynebu os nad oedd eu buddiannau nhw yn cael eu bygwth – dim ond sosialwyr cyffredin (gan gynnwys Cymry) o’r gwledydd hyn welodd y peryg a mynd i gefnogi’r Weriniaeth yn Sbaen. Safai Llywodraeth Prydain o’r naill du yn swyddogol, ond mae tystiolaeth fod llawer o’r sefydliad Prydeinig yn cefnogi Franco. Yno yn 1937 y gwelwyd y bomio diwydiannol ar drigolion tref boblog gyntaf oll gan yr Almaenwyr a’r Eidalwyr, fel y cofiwn o ddarlun enwog Picasso o Gernika/Guernica yng Ngwlad y Basg. (Yn dilyn pwysau gan y cyhoedd yma, ac yn groes i ddymuniad y Llywodraeth, rhoddwyd lloches i 200 o blant o Wlad y Basg yng Nghymru).

Methiant i wrthwynebu yn ddigon cynnar a olygodd, yn y pendraw, fod pobl gyffredin o sawl gwlad wedi eu llusgo i’r gyflafan. Amcangyfrifir fod o 70 i 85 miliwn o bobl wedi colli eu bywydau.

Efallai na ddylem synnu at hynny chwaith – buddiannau tybiedig y wladwriaeth gaiff y flaenoriaeth bob tro, nid tegwch neu gyfiawnder sefyllfa benodol. Edrychwch beth ddigwyddodd yng Ngwlad Groeg. Wythnosau yn unig ar ôl i’r Almaenwyr gael eu trechu yno yn 1944 gan y Partisaniaid – dewrion gwerin gwlad – rhoddodd Churchill orchymyn i filwyr Prydain danio ar dorf heddychlon yn Athen, a rhoi gynnau i Roegwyr asgell dde oedd wedi ochri efo’r Natsiaid. Lladdwyd 28, ac anafwyd cannoedd. Rhesymeg Churchill oedd fod comiwnyddiaeth yn rhy gryf ymysg y Partisanisiaid, ac y byddai hynny yn drysu ei gynlluniau i adfer y Frenhiniaeth yno, a chadw Comiwnyddiaeth draw. Dechrau y Rhyfel Oer cyn diwedd y rhyfel go iawn! Dyna i chi ddangos fod ystyriaethau buddiannau tybiedig Prydain yn bwysicach na chyfiawnder a rhyddid – fel yn achos Sbaen. Felly y bu, a felly y mae.

Mae’r ffordd y mae’r fuddugoliaeth yn erbyn Ffasgaeth yn cael ei chofio yma ar ddiwrnod VE yn dangos nodweddion o’r union feddylfryd honno.

Gallwn gael ein tywys i lawr y llwybr dinistriol hwnnw, yn enwedig a ninnau wedi ein cyflyru i dderbyn cyfyngiadau ar ein hawliau arferol (am resymau dilys, mae’n deg dweud) yn y cyfnod unigryw hwn. Caiff y darllenydd ystyried os yw rhai o’r nodweddion a gysylltir â Ffasgaeth yn amlygu eu hunain yma:

  • Arweinydd cryf, carismataidd
  • Tagu gwrthwynebiad
  • Asgell dde eithafol
  • Dinasyddion militaraidd
  • Rhyfel ac imperialaeth i adfywio gwladgarwch
  • Symboliaeth ramantaidd i greu myth am y ‘genedl’
  • Hiliaeth

Wrth gwrs, dydyn ni ddim wedi gweld pethau fel gwladwriaeth un blaid, defnyddio grym corfforol i ddileu gwrthwynebwyr, a throi cefn yn llwyr ar ddemocratiaeth. A nid yw Johnson, ar waetha’i ffaeleddau amlwg, yn yr un cae a’r triawd ofnadwy o Hitler, Mussolini a Franco. Ond dylem ochel rhag y rhai sy’n sefyll yn y cysgodion yn disgwyl eu cyfle.

Cyfnod hynod o fregus i ryddid yw hwn ar sawl ystyr.

Mae’r celfi sydd i law bellach yn golygu nad oes yn rhaid, o anghenraid, defnyddio trais eithafol i reoli. Daeth oes cloddio data, ysbio digidol a chloffrwymau dyled a chyfalaf i’n dofi. A daw rhagor yn y dyfodol, pethau fel Deallusrwydd Artiffisial. Y bobl fydd yn rheoli’r pethau hyn fydd yn ein rheoli ni.

Cofiwn rybudd Niemoller: “Yn gyntaf mi ddaethon nhw am y Sosialwyr”…

Byddwn effro, byddwn eofn, byddwn gadarn.

A chofiwn y meirwon yn weddus, yn wylaidd a thawel.

Cyfeirnodau

  • Dathliadau https://www.gov.uk/government/news/her-majesty-the-queen-to-send-a-message-to-the-nation-to-mark-75th-anniversary-of-ve-day
  • Gernika/Guernica https://en.wikipedia.org/wiki/Bombing_of_Guernica
  • Groeg https://www.theguardian.com/world/2014/nov/30/athens-1944-britains-dirty-secret

 

Un ateb ar “Diwrnod VE – a’r gwirioneddau eraill am ryfel”

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.