Cyfrannwyd y darn hwn gan Angharad Dafis, cynrychiolydd cefnogwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre.

Croesewir dyfarniad pellgyrhaeddol Comisiynydd y Gymraeg fod Dinas a Sir Abertawe wedi methu cymryd y cam statudol hanfodol o gyflawni asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned cyn mynd ati i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Dywed y Comisiynydd:

Yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw y gallasai’r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol i’r un a wnaed.

Hynny yw pe bai’r Cyngor wedi cyflawni’r asesiad yn gywir, gallasai drysau ysgol Felindre fod ar agor o hyd. Fel y saif, nid ydynt. Yn hytrach na dilyn argymhellion y Comisiynydd i ddefnyddio’r ysgol er lles y gymuned a’r Gymraeg, penderfyniad y Cyngor yw gwerthu’r ysgol mewn ocsiwn yn Llundain.

Gobeithio y bydd dyfarniad y Comisiynydd yn gweithredu fel rhybudd i awdurdodau lleol byrbwyll eraill ledled Cymru. Mae ysgolion Cymraeg gwledig yn sefydliadau cenedlaethol yn eu hawl eu hunain ac mae eu cynnal yn dyngedfennol i ddyfodol y Gymraeg yn enwedig pan fo grymoedd y farchnad yn gallu newid natur ieithyddol a chymdeithasol cymunedau dros nos.

Gan na fedda’r Comisiynydd y grym i wyrdroi’r penderfyniad i gau’r ysgol, mae’r datganiad wedi dod yn rhy hwyr yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre – ysgol a leolwyd yn y Parsel Mawr – y gymuned â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn Sir Abertawe oll, 38.% o’i chymharu ag 11% ledled y sir. Pentref Felindre yw’r Cymreiciaf erbyn hyn o bentrefi’r Parsel Mawr ac mae’r ganran yno felly yn uwch na’r 38%. Mae cau’r ysgol wledig olaf Gymraeg yn y pentref Cymreiciaf yn sir Abertawe yn ddiamau yn mynd i newid natur y gymuned am byth.

Mewn deddfwriaeth yn ymwneud ag unrhyw beth heblaw’r iaith Gymraeg, mi fuasai’r Cyngor wedi gorfod talu am eu camwedd wrth ddewis mynd yn groes i’r canllawiau a’r rheolau. Nid oes cyfundrefn ddigon cadarn yn ei lle i atal cyrff fel hyn rhag gweithredu’n ddi-hid tuag at gymunedau Cymraeg.

Gan mai’r unig beth oedd yn mennu ar y Cyngor oedd her yn y llysoedd a’u bod yn tybio nad oedd grymoedd y Comisiynydd yn rhai digon eang i fedru ymestyn i her o’r fath, bwrw mlaen yn ddidrugaredd â’r cau a wnaethant er pob apêl ar iddynt oedi nes bod y Comisiynydd wedi cyflawni ei ymchwiliad. Erbyn i’r Comisiynydd gyhoeddi ei adroddiad terfynol, aeth blwyddyn a mwy heibio ac mae’r ysgol eisoes wedi bod ar gau ers tymor ysgol cyfan.

  • Dylai fod gan y Comisiynydd y grym i atal cau ysgolion gwledig Cymraeg nes bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.
  • Dylai fod ganddo hefyd y grym i wyrdroi’r penderfyniad oni ddilynwyd y broses yn gywir, (fel yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre lle bu’r methiannau addysgol a ieithyddol ar ran y Cyngor yn niferus).
  • Caewyd ysgol Felindre dan gochl darparu cymharol ychydig o lefydd ychwanegol mewn ysgolion oedd eisoes yn bodoli. Nid yw’r ychydig lefydd ychwanegol hyn yn gwneud iawn am golli ysgol Gymraeg mewn pentre naturiol Gymraeg.
  • Bu’r Cyngor ac eraill yn gibddall ers chwarter canrif a mwy wrth fethu gweld mor amhrisiadwy oedd yr adnodd yn Felindre ar gyfer twf addysg Gymraeg a hyfywedd yr iaith ledled y sir.
  • Mae angen i Gomisiynydd y Gymraeg allu gosod cosbau o ddifri ar Gynghorau sy’n cyflawni’r fath gamweddau yn enwedig y rhai hynny lle ceir ymagweddu gwrthwynebus i’r iaith fel yn achos Cyngor Dinas a Sir Abertawe. Heblaw hynny parhau i weithio’r system ac i filwrio yn erbyn y Gymraeg a wnânt. Nid cosb o ddifri yw cyhoeddi tor-safon, pa niferus bynnag y bo’r rheiny, wedi i’r ysgol gau. Does yna ddim ysgol Gymraeg wledig arall ar ôl yn sir Abertawe gyfan i’r Cyngor ei chau.
  • Mae’r Comisiynydd wedi awgrymu pwysigrwydd ystyried mesurau lleddfu y gellid eu cymryd gan gynnwys y canlynol:

Ariannu mentrau neu weithgareddau dan arweiniad y fenter iaith.

Sicrhau fod cyfleusterau ac adnoddau’r ysgol yn parhau i fod ar gael i’r gymuned er mwyn, er enghraifft, fod yn fan cyfarfod neu’n ganolfan ar gyfer derbyn gwasanaethau lleol megis gwasanaeth llyfrgelloedd, mynediad i dechnoleg gwybodaeth ayb.

Arweiniad neu gefnogaeth y Cyngor i’r gymuned er mwyn eu galluogi i sefydlu mentrau cymdeithasol er budd y gymuned.

Go brin fod bwriad Cyngor Dinas a Sir Abertawe i werthu’r ysgol mewn ocsiwn yn Llundain am ddeg o’r gloch y bore yn yr Intercontinental Hotel yn Park Lane ar 13eg Chwefror 2020 yn gydnaws â’r awgrym uchod. Gwerthu’r ysgol gan gwmni arwerthwyr Allsop, ym marn y Cyngor, fydd yn dod â’r gwerth gorau i drethdalwyr dinas a sir Abertawe. Dengys hyn gyn lleied y maent yn ei ddeall am werth cymunedau Cymraeg a chyn lleied o werth y maent yn ei osod arnynt. Yn y cyfamser mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wario miliynau lawer ar greu rhagor o dyrau concrid yng nghanol dinas Abertawe. Prin y byddant yn ddigon haelfrydig i estyn ychydig geiniogau i gymuned wledig Felindre.

Rob Stuart

Yn rhyfedd iawn y mae arweinydd y Cyngor Rob Stuart wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i ofyn a fu cynnal ymchwiliad ar fethiannau Cyngor Dinas a Sir Abertawe i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg yn ddefnydd da o arian cyhoeddus. Pe na bai Dinas a Sir Abertawe wedi torri’r gyfraith yn y lle cyntaf, ni fuasai angen ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae fel pe na bai deddf gwlad rywsut yn rhywbeth y mae gofyn i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, yn wahanol i’w threthdalwyr, gydymffurfio â hi.

Nid yw’r Cyngor wedi dysgu gwers. Fe ddylai fod wedi ymgynghori a chynnal asesiad o ba effaith ar y Gymraeg a gâi’r penderfyniad i werthu’r adeilad yn hytrach na’i ddefnyddio ar gyfer dibenion cymunedol. Ni wnaethant hynny, ac felly parhau i wawdio ac i sarhau’r Gymraeg a’i siaradwyr a wna’r Cyngor. Mae cwyn bellach wedi ei chyflwyno i’r Comisiynydd i’r perwyl hwn. Ond yr un fydd yr hanes. Araf iawn y mae’r olwynion yn symud er lles y Gymraeg. Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad i’r methiant diweddaraf hwn ar ran y Cyngor, erbyn i hynny ddod i fwcwl, bydd yr ysgol wedi ei hen werthu. Dengys hyn fod angen mynd i’r afael o ddifri â diffygion enbyd Mesur y Gymraeg. Onid yw’n llwyddo i gyflawni’r hyn a ddywedir ar y tun, mae angen ei ddiwygio.

Mae pob deddf, canllaw, côd, Gweinidog Addysg a chorff wedi methu yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Mae’r Cyngor wedi cael trwydded i anwybyddu a mynd yn groes i’r cyfan. A’r gymuned Gymraeg sydd ar ei cholled.

Breuddwyd gwrach yw miliwn o siaradwyr pan fo cyfundrefnau megis Cyngor Abertawe yn cael rhwydd hynt i ddiystyru cyfoeth cenedlaethau o bobl ar ddarn arbennig o dir ar amrantiad.  Fesul tiriogaeth y derfydd y Gymraeg. Rhaid i ni fod yn llafar.

Darlun gan Esyllt Lewis, o’r llyfryn Mawr a Cherddi Eraill gan Dyfan Lewis

Ymuno â'r Sgwrs

1 Sylwadau

  1. Diolch am erthygl ardderchog – a thrist.
    Dagrau pethau yw fod Cynghorau Sir sy’n honni eu bod o blaid y Gymraeg yn mynnu cau ysgolion gwledig Cymraeg am resymau simsan iawn. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ceisio cau ysgolion Bodffordd a’r Talwrn, er fod y ddwy yn fynnu a’r ddwy gymuned yn enghreifftiau sy bellach yn brin o gymunedau naturiol Gymraeg.
    Cytuno’n llwyr fod y diffyg yn y ddeddfwriaeth yn golygu fod y niwed wedi ei wneud a mai “codi pais wedi piso” yw’r cyfan y gall y Comisiynydd ei wneud.
    Yn amlwg, rhithiol ydi’r slogan “miliwn o siaradwyr”. A llawn mor bwysig yw y dylid ymgyrraedd at “filiwn o ddefnyddwyr”.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.