Cymunedau iach yw sail ein bywydau. Dyna gred grŵp o bobl o Wynedd a Môn sy’n datblygu strategaeth amgen ar gyfer datblygu cymunedau. Mabwysiadwyd yr enw “SAIL” gan mai cymuned yw sail popeth.

Sail yr economi. Sail diwylliant. Sail iaith. Sail gwytnwch. Sail cyfartaledd. Sail plethu’r cenedlaethau. Sail celfyddyd. Sail y dyfodol. Sail Cymru.

Fel rhagflas cyn cyhoeddi’r strategaeth yn llawn, dyma ddadansoddiad gan Robat Idris sy’n egluro diffygion cynlluniau swyddogol.

Diffygion y strategaeth swyddogol presennol yng Ngwynedd a Môn

Gwyddom fod Gwynedd a Môn ymhlith yr ardaloedd tlotaf o fewn y Deyrnas Gyfunol. Er enghraifft, yn 2017, Gwerth Ychwanegol Crynswth y Pen ym Môn oedd £14,314 ac yng Ngwynedd £19,969 (Cymru £19,899, y DU £27,298). 1 Cymru yw’r unig wlad o fewn y Deyrnas Gyfunol a welodd gynnydd yn nhlodi plant yn 2017 – 2018 medd adroddiad diweddar a gomisynwyd gan Plant yng Nghymru ac eraill, gyda bron i dri phlentyn o bob deg yn byw mewn tlodi.2

Dydi cynlluniau mawr y gorffennol, megis Trawsfynydd, Wylfa A ac Alwminiwm Môn, ddim wedi datrys y broblem – byddai rhai yn dadlau eu bod wedi gwaethygu pethau. Y wers ydi fod cwmnïau cyfalafol yn eu hanfod yn gwneud cymaint o elw ag y gallant drwy fanteisio ar adnoddau naturiol a dynol lleol, ac ar arian o’r pwrs cyhoeddus, cyn diflannu a gadael problemau ar eu holau.

Anghydraddoldeb sy’ wrth wraidd ein trafferthion, a chyfeiliornus yw meddwl y gallwn ddibynnu ar yr atebion a gynigir yn swyddogol. Yn y bôn, ailgylchu syniadau’r gorffennol mewn dillad newydd mae nhw. Mae’r economegydd o Ffrainc, Thomas Piketty, awdur “Capital in the Twenty-first Century” a werthodd dros 2.5 miliwn o gopiau, wedi rhoi ei fys ar y dolur yn ei gyfrol ddiweddaraf “Capital et Ideologie”.1 Dyma gasgliad y gyfrol 1,232 tudalen:

Nid mater economaidd neu dechnolegol mo anghydraddoldeb: mater ideolegol a gwleidyddol ydyw…..Mewn geiriau eraill, nid yw’r farchnad a’r egwyddor o gystadleuaeth, elw a chyflog, cyfalaf a dyled, gweithwyr â chymwysterau a gweithwyr digymhwyster, brodorion a thramorwyr, paradwysau ariannol a’r egwyddor o fod yn gystadleuol, yn bodoli ynddynt eu hunain.

Nid yw’n syndod bod elit cymdeithas….yn aml yn tueddu i roi gwedd naturiol ar anghydraddoldeb. Hynny yw, ceisir rhoi iddo sylfeini naturiol a gwrthrychol, i egluro bod y gwahaniaethau cymdeithasol sy’n bodoli ar y cyfan, yn bodoli er budd y tlotaf ac er budd cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac mai’r strwythur cyfredol yw’r unig un ymarferol, na ellir ei newid yn sylweddol heb achosi trallod dirfawr.

Dadleuwn fod ein cynrychiolwyr ar y Cynghorau Sir, yn Senedd Cymru ac yn Senedd San Steffan, yn gweithredu yn ôl dymuniadau’r elit cymdeithasol. Efallai nad ydyn nhw yn gweld hynny, ac yn wir gallant gredu eu bod yn gweithredu er budd eu hetholwyr. Ond tŷ ar y tywod yw’r adeilad sy’ ganddynt mewn golwg.

Nid damwain ydi tlodi ein hardaloedd

Mae Dr Dan Evans yn egluro fod cyfalafiaeth angen ardaloedd tlawd yn ei erthygl i’r Sefydliad Materion Cymreig o 2015, felly nid damwain ydi tlodi ein hardaloedd.3

…capitalism in fact needs these depressed, undeveloped regions- they are not an accident, just like unemployment is not an accident….FDI (Foreign Direct Investment) is a false idol. The decision to invest in Wales is not benevolent, as portrayed in the press, but driven solely by profit. It is parasitic: firms come in, make a profit, then leave.

Un o ganlyniadau anffodus hyn yw fod gwleidyddion yn dueddol o lyncu addewidion am rhyw Eldorado rhithiol fel ffordd o ddatrys problemau hirdymor.

Gwelwyd enghraifft ym Mhenybont yn ne Cymru gyda chyhoeddiad cwmni Ford eu bod am gau eu ffatri yno gyda 1,700 o swyddi yn mynd.4 Ac eto, cynigir yr un mathau o atebion i ni ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd fod cwmni Ineos, sy wedi codi gwrychyn llawer oherwydd ei gefnogaeth i ffracio a’r diwydiant olew, am sefydlu ffatri yn agos i hen ffatri Ford, gyda 200 o swyddi i gychwyn ac addewid am 500 yn y pendraw. ‘Does dim syndod yn y byd fod arian Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn cefnogi Ineos – er fod ei berchennog, Sir Jim Ratcliffe, yn cael ei gydnabod fel y dyn cyfoethocaf yn y DU gyda £21biliwn i’w enw.5 Ar ben hynny, mae’n byw ym Monaco er mwyn osgoi talu treth.6 Mae hyn yn berthnasol i Wynedd a Môn am fod yr union feddylfryd gwleidyddol hwn yn bodoli yma hefyd.

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru7 yn cefnogi Cais Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru8 “ble bo ffocws y twf economaidd ar arloesedd mewn sectorau economaidd gwerth uchel”.

Yr enghraifft amlycaf yw Wylfa B, sydd bellach wedi ei atal. Cefnogwyd Wylfa gan Lywodraeth Cymru9 , Llywodraeth y DU10, a Phrifysgol Bangor.11 Dyma oedd conglfaen economaidd Ynys Môn ac i raddau helaeth Gwynedd, a dyma gynsail y Cynllun Datblygu Lleol mae’r ddau Gyngor yn ei rannu. 12 Y gwir plaen yw fod dyfodol economaidd Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei osod yn ddi-gwestiwn yn nwylo ychydig o bobl mewn ystafell yn Tokyo – sef bwrdd Cwmni Hitachi.13

Treuliwyd dros ddeng mlynedd a gwariwyd arian14 ac amser swyddogion yn cefnogi’r atomfa ar draul syniadau economaidd eraill. Oes yna rhywrai am gael eu galw i gyfri am hyn? Oes yna ymddiheuriad am ddadrithiad y bobl ifanc oedd wedi disgwyl cael gwaith yno? Oes yna unrhyw ystyried o faint o swyddi fyddai wedi cael eu creu erbyn hyn, pe buasai’r arian a wariwyd i gefnogi Wylfa wedi ei wario i gefnogi mentrau cymunedol a busnesau lleol? Oes yna unrhyw ailfeddwl am ffolineb parhau efo’r freuddwyd niwclear am Wylfa a Thrawsfynydd? Breuddwyd sy’n fyw ac yn iach ym meddyliau gwleidyddion lleol ar Ynys Môn a Gwynedd, a Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Cyfunol.15 16 A breuddwyd sy’n anwybyddu yn llwyr y dystiolaeth gynyddol nad oes angen ynni niwclear i gyflenwi ein anghenion, ac yn ogystal nad oes modd adeiladu atomfeydd mewn pryd i ddadwneud effeithiau newid hinsawdd, fel y dywed y “World Nuclear Industry Status Report 2019”:

Stabilizing the climate is urgent, nuclear power is slow. It meets no technical or operational need that these low-carbon competitors cannot meet better, cheaper, and faster.

Ar ben hynny mae’r swigen niwclear yn dal i hybu Adweithyddion Modiwlaidd Bychan (Small Modular Reactors) ar waetha’r hyn a ddywed y World Nuclear Industry Status Report,17 sef:

United Kingdom. Rolls-Royce is the only company interested in participating in the government’s SMR competition but has requested significant subsidies that the government is apparently resisting. The Rolls-Royce design is at a very early stage but, at 450 MW, it is not really small.

Nodwn fod y Bwrdd Uchelgais yn dweud:

Gallai dros 5,000 o swyddi gael eu creu, yn ogystal â busnesau a thai newydd (gan gynnwys tai fforddiadwy).

Mae’r math yma o osodiad yn ein hatgoffa o’r ieithwedd a ddefnyddid pan gafwyd cyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” a chafodd yr ardaloedd hyn chwistrelliad anferth o arian o Ewrop o dan raglen Amcan Un – ac eto chafodd yr economi ddim ei thrawsnewid, ac mae tlodi’r ardal dal i olygu ein bod yn gymwys i dderbyn arian o Ewrop.18 Mae erthygl 19 yr Athro Calvin Jones, Prifysgol Caerdydd, yn “The Conversation” yn trafod mewn manylder agweddau o’r dull yma o ariannu, a sut y mae angen edrych o’r newydd ar broblemau ein hardaloedd tlotaf.

Enghraifft arall o ailgylchu syniadau o’r ganrif o’r blaen yw Ardal Menter Eryri, sef safleoedd Maes Awyr Llanbedr ac atomfa Trawsfynydd.20 Ymddengys fod aelodau’r Bwrdd Cynghori efo cysylltiadau efo’r diwydiannau niwclear a / neu hedfan milwrol,21 a ‘does yna ddim cynrychiolaeth o fudiadau cymunedol. Credwn fod yna elfen anfoesol yn y datblygiadau a gefnogir. Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi £500,000 i gefnogi datblygiad Maes Awyr Llanbedr, sy’n gartref i Snowdonia Aerospace Ltd22 (cwsmeriaid yn cynnwys y cwmnïau arfau Qinetiq, BAE a Thales) a lle y bydd adar angau (“drones”) yn cael eu datblygu.23 Yn Nhrawsfynydd cefnogir Adweithyddion Modiwlar Bychan (SMR’s) gan Gyngor Gwynedd,24 Llywodraeth Cymru,25 yr Aelod Cynulliad lleol26 yr Aelod Seneddol lleol27 a’r Arglwydd Wigley.28 Mae cyswllt milwrol rhwng niwclear sifil a niwclear milwrol,29 30 felly anodd yw cysoni cefnogi Trawsfynydd tra’n gwrthwynebu Trident.31 Anodd hefyd yw gweld sut y gellir ei gefnogi ar sail yr argyfwng hinsawdd, gan y byddai’n rhy hwyr yn dod i’r adwy,32 a ‘does yna ddim sicrwydd o gwbl faint o swyddi fyddai i bobl leol.

Mae’r syniad o drydedd pont dros y Fenai eto yn un a ddaeth yn dilyn y ragdybiaeth fod Wylfa B yn dod; daeth cyfaddefiad o hyn gan Ken Skates (Aelod Cabiet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth).33 Ar waethaf hyn mae Llywodraeth Cymru am wario mwy o arian ar y prosiect.34 Y gwir plaen yw nad ydi adeiladu mwy o ffyrdd yn datrys problemau trafnidiaeth, nac allyriadau carbon. Dylid edrych ar y broblem yn ehangach – sef sut i symud pobl a nwyddau yn y dull mwyaf effeithiol o un lle i’r llall, ac edrych eto ar batrymau teithio i’r gwaith ac ar gyfer hamdden. Gallwn ddweud fod yr un dadleuon yn berthnasol a’r rhai a roddwyd gan yr Athro Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, pan ganslwyd y bwriad i ddatblygu yr M4 yng nghyffiniau Casnewydd.35

Ofnwn hefyd fod yr awydd i fod yn rhan o’r Northern Powerhouse36 yn Lloegr yn debygol o arwain at wneud ein hardaloedd ni hyd yn oed fwy ymylol gan mai bychan fydd ein dylanwad ar strategaeth y corff hwnnw, ac yn debygol o wanhau ein cysylltiad economaidd efo rhannau eraill o Gymru. Ychwanegwyd at y canfyddiad fod Gwynedd a Môn yn ymylol gan Lywodraeth Cymru yn y ddogfen “Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 – 2040 (drafft)”.37 Yma mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethau ardaloedd dinesig a threfol ar gyfer buddsoddiadau – yn y Gogledd, Wrecsam – a phwysleisir dro ar ôl tro y pwysigrwydd o ddatblygu cysylltiadau rhwng Wrecsam a Gogledd Lloegr. Effaith hyn fyddai prysuro allfudo o Wynedd a Môn tua’r Dwyrain a Lloegr. Deallwn fod Cynghorau Sir Gwynedd ac Ynys Môn yn anfodlon efo’r weledigaeth hon hefyd.

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth “fudd lleol”?

Wrth gwrs, mae rhai datblygiadau y gallwn eu cefnogi, fel cynllun ynni morol Morlais 38 oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy ddefnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu ynni’r llanw’n fasnachol i’w groesawu.39 Dylai’r pwyslais fod, fel ymhob cynllun, ar gael y budd mwyaf i’r ardal leol, a da deall mai dyna yw bwriad Menter Môn, sydd y tu ôl i Morlais. Cwestiwn creiddiol i’w ofyn yw hwn – beth ydyn ni’n ei olygu wrth “fudd lleol”? Ydi o’n golygu rhoi arian gan y cwmnïau masnachol mewn cronfa debyg i Gymdeithas Elusennol Ynys Môn?40 Gwnaeth y gronfa honno, a sefydlwyd yn wreiddiol fel gwaddol gan gwmni olew Shell, waith rhagorol ers 30 mlynedd, a mae bellach yn werth £22 miliwn, i’w ddosbarthu er lles “grwpiau gwirfoddol a chymunedol a phrosiectau adfywio”. Neu a ddylid bod yn fwy uchelgeisiol? A oes modd i’r bobl leol gael cyfran o berchnogaeth cwmnïau sy’n manteisio ar ein hadnoddau naturiol a dynol? Yn y pendraw, byddai’n ddymunol cael perchnogaeth leol lle mae’n bosibl – hynny yw, anelu at fod yn berchen y deisen a nid y briwsion sydd dros ben. Pa hawl sy’ gan bobl o’r tu allan i benderfynu beth sy’n dderbyniol i’r cymunedau am gael defnyddio eu hadnoddau naturiol a dynol? Ac ydi hi’n dderbyniol fod yr adnoddau yn cael eu defnyddio o gwbl heb gydsyniad y gymuned a effeithir? A gadael llanast ar eu holau yn aml.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod i’r fei sy’n dangos pa mor hen ffasiwn a sicr o fethu yw’r strategaeth bresennol. Bellach, nid pobl a mudiadau ymylol sy’n dweud hyn. Ceir gwaith academaidd adnabyddus o Brifysgolion Stanford a Berkeley yn UDA ac Aalborg yn Nenmarc sy’n modelu 100% o ynni glan, adnewyddol mewn 139 o wledydd. 41 Dywed adroddiad Global Energy Perspective 2019 gan y sefydliad byd-eang McKinsey 42:

As the cost of renewables has come down further, many countries will reach a tipping point in the next five years where new-build solar or wind capacity is cost-competitive with the fuel cost of existing conventional plants. As a result we see a further acceleration of the ramp-up of renewables.

Mae’n werth dyfynnu’n helaeth o adroddiad am gyfarfod (Ionawr 2020) y Royal Institution of International Affairs, Chatham House43 :

Far from tackling climate change, nuclear power is an expensive distraction.

Nuclear power is in terminal decline worldwide and will never make a serious contribution to tackling climate change.

Money used to improve energy efficiency saved four times as much carbon as that spent on nuclear power; wind saved three times as much, and solar double.

The fact is that nuclear power is in slow motion commercial collapse around the world. The idea that a new generation of small modular reactors would be built to replace them is not going to happen; it is just a distraction away from a climate solution

One of the myths peddled was that nuclear was needed for “baseload” power because renewables were available only intermittently.

Having large inflexible nuclear stations that could not be switched off was a serious handicap in a modern grid system where renewables could at times produce all the energy needed at much lower cost.

Diddorol hefyd yw sylw Dr Martin Edlund, Prif Weithredwr cwmni Minesto,44 sy’n treialu dyfais ynni llanw a cherrynt ger Caergybi:45

The potential that we’ve seen so far is more than the whole nuclear capacity on Earth.

Y casgliad hollol amlwg gan unrhyw sylwedydd sy’ heb fod a’i fys ym mrywes y cynlluniau presennol yw fod Gwynedd a Môn – fel gweddill Cymru – wedi eu dal mewn fersiwn ffosilaidd o ddatblygiad economaidd o’r chwedegau. Yn hen ffasiwn, yn ddinistriol, yn llygru – ac o ddim gwerth o gwbl i les cenedlaethau’r dyfodol.

Cyfeiriadaeth

[1] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Sustainable-Development/Sustainable-Development-Indicators/gva-by-measure-welsheconomicregion-year

[2] http://www.childreninwales.org.uk/news/news-archive/child-poverty-becoming-new-normal-many-parts-wales-150519-wenis/

[3] https://www.iwa.wales/click/2015/04/the-false-promises-of-fdi/

[4] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-48572440

[5] https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-49733291

[6] https://www.offshore-technology.com/comment/ineos-future-challenges/

[7] https://northwaleseab.co.uk/cy/adnoddau/cais-twf-gogledd-cymru

[8] https://northwaleseab.co.uk/sites/nweab/files/documents/welsh_growth_plan_doc_v4_final.8.feb2018.cleaned.pdf

[9] https://www.becbusinesscluster.co.uk/images/uploads/event-docs/BECBC_-_Member_Presentations_-_Welsh_Gov_-_1_Aug_2018.pdf

[10] https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/720405/Final_Version_BEIS_Nuclear_SD.PDF

[11] https://www.bangor.ac.uk/energy/newyddion-niwclear/prifysgol-bangor-yn-agor-y-sefydliad-ymchwil-niwclear-cyntaf-yng-nghymru-34651

[12] https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Dogfennau-Cyngor/Strategaethau-a-pholisiau/Cynllunio-ac-amgylchedd/Polisi-cynllunio/Cynllun-Datblygu-Lleol-ar-y-Cyd-Gwynedd-a-M%C3%B4n-Datganiad-Ysgrifenedig.pdf

[13] https://www.hitachi.com/New/cnews/month/2019/01/f_190117.pdf

[14] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/revealed-councils-spent-combined-total-15079393

[15] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/boris-majority-could-revive-hopes-17488753

[16] https://hansard.parliament.uk/lords/2019-06-10/debates/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118/NuclearEnergySmallModularReactors

[17] https://www.worldnuclearreport.org/The-World-Nuclear-Industry-Status-Report-2019-HTML.html#_idTextAnchor004

[18] https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/fact-wales-poorest-communities-still-8022249

[19] https://theconversation.com/is-theresa-mays-1-6-billion-fund-for-english-towns-enough-to-rebalance-britains-skewed-economy-110554?utm_source=twitter&utm_medium=twitterbutton

[20] https://businesswales.gov.wales/enterprisezones/cy/ardaloedd-menter-yng-nghymru/eryri/amdano-parth-eryri

[21] https://llyw.cymru/bwrdd-cynghori-ardal-fenter-eryri/aelodau

[22] http://www.aerospacewalesforum.com/item/snowdonia-aerospace-llp/

[23] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/peace-protesters-llanbedr-airfield-500k-14022166

[24] https://democratiaeth.cyngor.gwynedd.gov.uk/mgconvert2pdf.aspx?id=19684&

[25] https://gov.wales/written-statement-uk-government-visit-trawsfynydd-smr-and-launch-nuclear-sector-deal

[26] http://www.cambrian-news.co.uk/article.cfm?id=102925&headline=Calls%20to%20reintroduce%20nuclear%20power%20to%20the%20region&sectionIs=news&searchyear=2016

[27] https://www.theyworkforyou.com/whall/?id=2019-02-20a.609.1

[28] https://hansard.parliament.uk/lords/2019-06-10/debates/7BB816E9-6D3F-40B5-8666-239573C7C118/NuclearEnergySmallModularReactors

[29] https://theecologist.org/2019/mar/11/obituary-small-modular-reactors

[30] http://www.sussex.ac.uk/spru/newsandevents/2017/findings/nuclear

[31] https://www.youtube.com/watch?v=vuQjtHKBU58

[32] https://www.newcivilengineer.com/latest/caution-urged-over-modular-nuclear-reactors/10042995.article

[33] https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/plan-third-menai-bridge-now-17261324

[34] https://gov.wales/a55-3rd-menai-crossing-overview

[35] https://llyw.cymru/m4-y-coridor-o-amgylch-casnewydd-trosolwg

[36] https://northernpowerhouse.gov.uk/about-us/

[37] https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-08/Drafft%20y%20Fframwaith%20Datblygu%20Cenedlaethol.pdf

[38] http://www.morlaisenergy.com/cy/

[39] https://llyw.cymru/diwydiant-ynnir-llanw-yn-y-gogledd-i-gael-o-fuddsoddiad-gan-yr-ue

[40] https://www.ynysmon.gov.uk/cy/newyddion/newyddion/cymdeithas-elusennol-newydd-i-reoli-cronfa-waddol

[41] https://www.cell.com/one-earth/fulltext/S2590-3322(19)30225-8?_returnURL=https%3A%2F%2Flinkinghub.elsevier.com%2Fretrieve%2Fpii%2FS2590332219302258%3Fshowall%3Dtrue

[42] https://www.mckinsey.com/~/media/McKinsey/Industries/Oil%20and%20Gas/Our%20Insights/Global%20Energy%20Perspective%202019/McKinsey-Energy-Insights-Global-Energy-Perspective-2019_Reference-Case-Summary.ashx

[43] https://climatenewsnetwork.net/nuclear-power-cannot-rival-renewable-energy/

[44] https://minesto.com/

[45] https://www.youtube.com/watch?v=8e1I7CtZQHY

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.