Daeth hwb i’r ymdrech dros annibyniaeth radical yn yr etholiadau seneddol yng Nghatalwnia yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r bleidlais o blaid annibyniaeth symud yn sylweddol tua’r chwith.

Gwelwyd lleihad yn y ganran a bleidleisiodd eleni oherwydd Covid-19, ond cyrhaeddodd 51%. Am y tro cyntaf, gwnaeth y pleidiau o blaid annibyniaeth i Gatalwnia dderbyn y mwyafrif o bleidleisiau. Cynyddodd y pleidiau hynny eu mwyafrif gan 4 sedd.

Cynnydd i’r chwith

Y chwith gwrth-gyfalafol sy’n gyfrifol am y 4 sedd ychwanegol hynny. Cynyddodd nifer yr aelodau seneddol o 4 i 9 ar gyfer plaid y CUP, ynghyd â 6.6% o’r bleidlais genedlaethol.

Tyfodd y CUP o fudiadau cymdeithasol, ac mae eu hathroniaeth yn seiliedig ar ddinasoliaeth a lleoliaeth. Roedd eu hymgyrch yn galw am ddiddymu y carfanau heddlu mwyaf gorthrymus, diwedd ar droi allan o dai, isafswm cyflog o 1200 Ewro, mwy o gyd-sefyll rhyngwladol ac i wynebu gwladwriaeth Sbaen gyda streiciau ac anufudd-dod sifil. Nid yw’r canlyniadau’n cyrraedd record y CUP, a ddaeth yn 2015, ond maent yn parhau i fod yn ganlyniadau trawiadol, ac yn dangos symudiad at y chwith yn yr etholiad.

Hefyd, mae’n werth nodi bod y blaid sosio-ddemocrataidd Esquerra Republicana wedi goddiweddyd y blaid bwrgeisiol/ryddfrydol Junts fel y blaid fwyaf dros annibyniaeth yn y senedd. Ni wnaeth Esquerra hyn drwy dwf mawr mewn pleidleiswyr, ac fel plaid nid ydynt â chymaint o ymrwymiad â’r CUP at wrthdaro, mae ganddynt mwy o ddiddordeb mewn trafodaethau. Serch hyn, mae Esquerra yn galw am weriniaeth ffeministaidd a gwrth-ffasgaidd, yn addo rheoli rent ac atal grym landlordiaid, yn ymrwymo i waredu tanwyddau ffosil a thorri ffïoedd prifysgolion, ac wedi dweud nad oes modd i annibyniaeth gael ei seilio ar neoryddfrydiaeth. Felly, mae hyd yn oed yr adain fwyaf ddiwygiadol ym mudiad y chwith dros annibyniaeth i Gatalwnia yn mynnu gosod galwadau cymdeithasol a fyddai’n radical – ac i’w croesawu – o fewn y cyd-destun Cymreig.

Mae pwysigrwydd y safiad hwn yn cael ei danlinellu gan bresenoldeb y blaid asgell dde eithafol VOX yn Senedd Catalwnia am y tro cyntaf. Rhaid i fudiadau cenedlaethol fod yn wrth-ffasgaidd a gwrth-hiliol er mwyn brwydro’r don o weithgaredd dde eithafol ledled Ewrop.

Gorthrwm

Mae canlyniadau’r bleidlias wedi cyrraedd yng nghanol cyfnod o anghydfod wrth i’r heddlu orthrymu protestiadau yn cefnogi’r rapiwr o Gatalwnia Pablo Hasél, sydd wedi’i garcharu gan Wladwriaeth Sbaen am ddefnyddio geiriau sarhaus yn ei ganeuon. Mae’r drafodaeth am natur geiriau’r artist, a’i rôl ef fel ymgyrchydd yn llai pwysig na’r angen i amddiffyn rhyddid mynegiant. Ni wnaeth beirniadaeth lem o Podemos, yr is-blaid yn llywodraeth glymblaid Sbaen unrhyw wahaniaeth yn ôl pob golwg.

Mae natur y mudiad dros annibyniaeth yng Nghatalwnia – protestiadau ar y stryd – yn debygol o ddwysáu os nad oes ateb i’r pwnc ehangach o garcharu gwleidyddol yn dod i law. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd peidio portreadu y mudiad dros annibyniaeth yng Nghatalwnia fel un “cyfoethog” neu fel un sydd â braint dros Sbaen. Yn hytrach, mae’n fudiad democrataidd sy’n cael ei orthrymu gan yr heddlu, y llysoedd a’r wladwriaeth.

Cymru

Mae’r digwyddiadau yng Nghatalwnia’n perthyn i amodau penodol yn y wlad honno, nid yw’r ymgyrch dros annibyniaeth yng Nghymru wedi cyrraedd y man hwnnw eto. Nid yw’r cwestiynau strategol a thactegol yn y mudiad Catalwnaidd o reidrwyd yn berthnasol i Gymru ar hyn o bryd.

Ond mae Catalwnia wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r mudiad yng Nghymru, ac mae cymunedau ledled Cymru wedi protestio a dangos eu cefnogaeth o hawliau a rhyddid Catalwnia.

Mae Undod yn dathlu bod dau o’r pleidiau mwyaf amlwg o blaid annibyniaeth flaengar yng Nghatalwnia wedi mynnu gosod galwadau cymdeithasol a dyheadau cenedlaethol law yn llaw yn eu gofynion.

Hoffai Undod gynnig i’r mudiad ehangach dros annibyniaeth yng Nghymru, sydd wrth gwrs yn fudiad ag amrywiaeth o safbwyntiau, fod y symud hwn i’r chwith yng Nghatalwnia a’u hymwrthod â neo-ryddfrydiaeth yn rhywbeth i’w groesawu.

Wrth i’r mudiad dros annibyniaeth lewyrchu yng Nghymru, bydd wynebu cwestiynau cymdeithasol ehangach yn anochel. Rydym yn cynnig y gallai annibyniaeth fod yn ddull i rymuso ein pobl a’n cymunedau.

Nid oes modd gwahanu’r cwestiwn cenedlaethol rhag y cwestiwn cymdeithasol. Rhyddid i bob carcharor gwleidyddol! Ymlaen at Gymru Rydd!

Llun: Senedd Catalwnia gan Ginosal

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.