Heddiw mae’n 250 mlynedd ers geni Robert Owen, yr arloeswr sosialaidd o’r Drenewydd a wnaeth gymaint – ynghyd â ffigurau fel ei gydwladwr Richard Price, y ffeminist Mary Wollstonecraft, a’i gymheiriaid yn Ffrainc Charles Fourier a Henri de Saint-Simon – i sefydlu’r egwyddorion a’r cerrig sylfaen gwleidyddiaeth flaengar fodern, wrth i’r Chwyldro Ffrengig a’i ganlyniad atseinio trwy Ewrop.

Ar ôl gadael Cymru yn 10 blwydd oed yn blentyn dawnus, ac yna sefydlu gyrfa lwyddiannus fel diwydiannwr ym Manceinion, symudodd i’r Alban lle trawsnewidiodd felin gotwm ei dad-yng-nghyfraith: arbrawf sosialaidd a newidiodd y byd, ac mae bellach yn sefyll fel Safle Treftadaeth UNESCO. Dangosodd New Lanark fod byd diwydiannol arall yn bosibl, un a wrthododd gyfalafiaeth, gan feithrin yn hytrach na dad-ddyneiddio ei weithwyr, ac yn anelu at fyd lle mae pobl a natur mewn cytgord. Darparodd y fenter gydweithredol, gomiwnyddol a ffeministaidd hon glasbrint sydd, yn ei uchelgais, yn fwy cyfoes nag erioed.

Mae’n bwysig nad ydym yn ymroi i hagiograffeg wrth gwrs; nid oedd beirniadaeth ddi-baid Owen o’i gymdeithas gyfoes yn ymestyn yn ddigonol i’r Ymerodraeth; mae cwestiynau yn codi am ddylanwad eang Owen ar y gymuned ddemocrataidd (mewn egwyddor) a sefydlodd; o ran ei ddadansoddiad a’i ddull o danseilio y system gyfalafol, mae ei ffydd yng ngrym rheswm a gallu’r elit i ddiwygio ei hun yn edrych yn naïf wrth edrych yn ôl.

Yn yr un modd, fodd bynnag, rhaid inni beidio â syrthio i fagl presenoliaeth (presentism) a barnu ei weithredoedd ar sail synnwyr trannoaeth, na chymharu ei ddadansoddiad academaidd â ffigur fel Marx. Byddai hyn yn camgymryd pwysigrwydd Owen fel unigolyn, heb werthfawrogiad o’r byd y cafodd Owen ei eni ynddo, gan bwyso a mesur ei gyfraniad ar sail y camsyniad ei fod yn ddeallusyn. Yn wir, pe byddem am gynnig cymhariaeth â heddiw, efallai y byddem yn meddwl amdano fel ffigur ochr yn ochr â rhai o’r awduron-actifyddion cyfoes gwych fel Silvia Federici. Yr hyn a’i nodweddodd fwyaf oedd yr hyn a ddisgrifiodd Marx ei hun fel ei sosialaeth iwtopaidd.

Sosialydd

Prif fewnwelediad athronyddol Owen, a’r egwyddor y seiliodd ei New View of Society arno, oedd ei ddehongliad o’r natur ddynol – un nad oedd heb gynsail, ond a oedd yn chwyldroadol yn y modd y’i datblygodd. Yn y bôn, roedd Owen o’r farn bod y natur ddynol i raddau helaeth, os nad yn gyfan gwbl, yn cael ei phennu gan amgylchedd person. Felly, nid oes gan y natur ddynol unrhyw ansawdd hanfodol. Yn sicr nid ydym yn cael ein geni’n ddrygionus fel y mae y prif athrawiaeth Gristnogol pechod gwreiddiol yn barnu; yn hytrach, mae drygioni yn agwedd ar gymdeithas sy’n trin ei phobl yn wael – rydym oll wedi’u geni gyda’r gallu i fod yn bobl dda.

Mae’n dyst i’w waith ef a gwaith eraill bod pwysigrwydd amgylchedd ar gymeriad bellach yn cael ei gydnabod fel gwireb (heblaw gan y ceidwadwyr mwyaf diedifar – fel y rhai sy’n rhedeg y DU). Fodd bynnag, os ydym yn meddwl am y byd y ganed Owen ynddo – roedd yn 18 oed pan dorrodd y Chwyldro Ffrengig – barn hierarchaidd am y natur ddynol oedd yn tra-arglwyddiaethu. Gan gychwyn lle roedd eraill wedi gorffen, roedd ei waith a’i ysgrifau yn ymosodiad uniongyrchol a di-ildio ar yr elît breintiedig, cyfundrefn gymdeithasol wedi’i seilio wrth gwrs ar y syniad bod rhagoriaeth yr uchelwyr wedi ei etifeddu.

Pan safodd cydwladwr Owen, Richard Price, yn erbyn braint a Brenhiniaeth Prydain yn ei bregeth, Caru Ein Gwlad, roedd yn ymosod ar elit aristocrataidd yr eglwys a’r wladwriaeth. Roedd ymateb enwog Edmund Burke yn ei Fyfyrdodau ar y Chwyldro yn Ffrainc – y testun elfennol Ceidwadol – yn taro ergyd ar ran y sefydliad Prydeinig, ond byddai’r testun hwnnw ei hun yn arwain at ymatebion gan enwogion fel Tom Paine a Mary Wollstonecraft, a fyddai ymhen amser yn hyrwyddo grymoedd blaengar na ellid eu dal yn ôl.

Yn wir roedd beirniadaeth Wollstonecraft o driniaeth cymdeithas o fenywod yn llawer rhy chwyldroadol ac fe’i hanwybyddwyd i raddau helaeth nes bod cymdeithas wedi dal i fyny â hi rhywfaint; gellir dadlau, fodd bynnag, bod ei dadansoddiad soffistigedig o sut y gwnaeth amgylchedd menyw danseilio unrhyw obaith o fywyd boddhaus a rhinweddol yn cynnig y syniadau allweddol a ddatblygodd Owen ei hun. Gellir awgrymu iddo gyffredinoli a radicaleiddio mewnwelediadau Wollstonecraft, trwy ddangos bod y mwyafrif yn rhwym o fod yn anllythrennog, o fyw mewn tlodi, ac yn debyg o droseddu oherwydd y strwythurau cymdeithas maent yn byw oddi fewn iddynt – a bod amgylchedd gofalgar ac addysgol yn sicrhau y gall unrhyw un datblygu fel person llewyrchus.

Dyma’r hyn y mae’n ei ddadlau yn ei New View of Society, a dyma a ddangosodd yn New Lanark. Daeth hyd yn oed Tsar Rwseg i ymweld â’r arbrawf a gychwynnodd addysg feithrin, addysg oedolion, diwrnod gwaith 8 diwrnod, isafswm oedran gweithio a gofal plant, wrth sicrhau tai glân a diogel mewn amgylchedd a oedd yn annog hamddena ac yn ceisio cytgord rhwng pobl a natur.

Y tu hwnt i amgylchedd uniongyrchol New Lanark, ceisiodd Owen amcan llawer mwy eang ac uchelgeisiol. Gwelodd mai’r unig ffordd y gellid trefnu cymdeithas yn y fath fodd fel nad oedd y gweithwyr yn cael eu hecsbloetio a’u gormesu oedd goresgyn, neu tyfu tu hwnt i gyfalafiaeth. Roedd New Lanark yn seiliedig ar fodel cydweithredol lle roedd gweithwyr yn rhannol berchnogion, ac yng ngweledigaeth Owen, trwy sefydlu rhwydwaith o gymunedau cydweithredol, y gellid goresgyn system gyfalafol yn seiliedig ar ymelwa a chystadleuaeth ddi-baid.

Iwtopiaeth

Er bod rhai ar y chwith wedi wfftio Owen oherwydd ei arddull ymddangosodiadol naïf a diwygiadol, mae’r beirniadaethau hyn yn anwybyddu’r weledigaeth iwtopaidd a oedd ganddo i’r byd. Fel damcaniaethwr, ni ellir cymharu ei ddadansoddiad o hanes, ei ddyfnder athronyddol na’i allu dadansoddol â Marx – ychydig iawn sy’n deilwng o hynny (rhaid ystyried Marx, cymaint â damcaniaethwr cymdeithasol ac economaidd, fel y trydydd yn y drindod o athronwyr yr Almaen, sy’n cynnwys Hegel a Kant, a gyrhaeddodd uchelfannau athronyddol heb eu hail). Fodd bynnag, nid yw hynny’n tanseilio pŵer ac apêl ei ddelfrydau, yr oedd Marx ei hun yn ei edmygu gymaint, a’r ffordd y gwnaeth esiampl Owen, trwy ymgyrchu ac ysgrifennu diflino, ysbrydoli mudiad sosialaidd ac undebau llafur.

Ac er bod ei ffydd yn y rhai a oedd yn dal dylanwad wir yn fan gwan, mae ei ddadleuon dros sut y gallai cymdeithas wirioneddol sosialaidd ddim ond bwrw gwreiddiau dwfn trwy newid graddol dros genedlaethau, yn wrthbwynt pwysig i’r model chwyldroadol Marcsaidd – ac efallai y byddai rhywun hyd yn oed yn awgrymu yn rhagflaenu pwyslais Gramsci ar ‘ryfel safle’ a newid sefydliadol graddol.

Un agwedd arall ar weledigaeth iwtopaidd Owen sy’n drawiadol, o ystyried ei fod yn un o’r arloeswyr sosialaidd, oedd syniadau a gwerthoedd sy’n ymddangos mor berthnasol i sefyllfa heddiw. Wrth i sosialaeth ddatblygu ochr yn ochr â diwydiannu, bu tuedd dros amser i rai rhagdybiaethau ynghylch gwerth gwaith, a (diffyg) gwerth yr amgylchedd ymsefydlu yng ngolwg y byd sosialaidd. Mae’n boenus o glir nawr wrth gwrs beth yw’r gost o agwedd gwbl echdynnol tuag at natur, ond yng nghyd-destun diweithdra cyfoes a her awtomeiddio, mae llawer ar y chwith yn dal i lynu wrth bwysigrwydd neu werth cynhenid ​​gwaith (yn rhannol efallai oherwydd camddealltwriaeth o bwyslais Marx ar ein natur gynhyrchiol, greadigol).

Ni welir unrhyw ymrwymiadau o’r fath ym mydolwg Owen; fel y nodwyd, gwelodd bwysigrwydd parch at a chytgord â natur, tra iddo ef roedd datblygu technoleg yn rhywbeth a allai ryddfreinio pobl o’r gwaith. Mewn byd sydd dan fygythiad gan yr argyfwng hinsawdd, ac mewn cymdeithas lle mae peiriannau’n cymryd mwy a mwy o lafur, a lle mae lleoliaeth a’r economi sylfaenol yn derbyn fwyfwy o sylw, dyma rai o’r rhesymau dros ddychwelyd i Owen fel ffigwr sosialaidd arloesol.

Tad Sosialaeth Gymreig?

Awgrymir statws Owen yn y gorffennol gydag un o’r llysenwau a roddwyd iddo: ‘the Father of English Socialism’. Mae’r ffaith iddo gael ei hawlio yn y fath fodd yn cynnig argraff o’i bwysigrwydd hanesyddol, ond mae hefyd, wrth gwrs, yn codi cwestiwn i ni yng Nghymru, ymysg y sawl sy’n awyddus i hawlio Owen fel rhan o’n etifeddiaeth. Gellir esbonio’r llysenw yn rhannol gan y drysu oesol rhwng ‘Saesneg’ a ‘Prydeinig’, ac er tegwch gallem awgrymu ei fod yn fwy o Brydeiniwr na’r mwyafrif: wedi’i ffurfio yng Nghymru, gan wneud ei ffortiwn yn Lloegr, cyn newid y byd yn yr Alban.

Fodd bynnag, mae yna rai agweddau gall ganiatau inni ystyried Owen yn Gymreig mewn modd ystyrolon, mewn perthynas â’i agwedd athronyddol (y tu hwnt i’r honiad bod ei weledigaeth o gymunedau cydweithredol wedi’i hysbrydoli gan gartref ei blentyndod, Y Drenewydd). Er enghraifft, gellir dehongli ei iwtopiaeth fel tueddiad sy’n ei osod o fewn – ac y gellir ei egluro o ran – traddodiad deallusol Cymreig. Yn wir os yw rhywun yn gosod iwtopiaeth Owen yng nghyd-destun meddwl Richard Price, ac ymhellach (o’r traddodiad piwritanaidd y daeth Price allan ohono) cyfriniaeth radical Morgan Llwyd, gall rhywun ei ddarllen fel math o filflwyddiaeth seciwlar.

Daw milflwyddiaeth ar sawl ffurf, ond mae’r syniad o ail ddyfodiad yr Iesu fel cychwyn ar gyfnod o heddwch a chyfiawnder ar y ddaear (sydd mor ganolog i feddwl Llwyd) wedi’i amlgyu’n helaeth ym marn byd gwleidyddol Price – un sy’n ystyried gwladwriaethau’r byd yn gweithio tuag at heddwch byd-eang i baratoi ar gyfer y mileniwm newydd. Gydag Owen, mae gennym fersiwn seciwlar wedi’i datblygu’n gyflawn. Mae uchelgais ddelfrydol, bondigrybwyll o’r fath yn batrwm o feddwl y gellir mapio yng Nghymru yn ôl i’r Mabinogi a hyd yn oed y byd cyn-Rufeinig, gyda’i motiffau o frwydro arwrol yn erbyn ffawd a gweledigaethau iwtopaidd megis Ynys Afallon.

Yn llai haniaethaol, ac yn gysylltiedig ag amodau materol hanesyddol, y mae gan y syniadau hyn apêl hanesyddol i gymunedau ymylol sy’n aros am ryw fath o iachawdwriaeth. Gwrthododd Owen ei hun grefydd y diwygiad Methodistaidd a oedd wedi ysgubo ei famwlad, ond roedd anian iwtopaidd wrth gwrs i genedlaethau diweddarach yng Nghymru wrth i Ymneilltuaeth ddatblygu mewn gwahanol ffurfiau gwleidyddol a radical, yn anad dim yn anghydffurfio’r Undodiaid a fyddai’n dylanwadu ar gymunedau megis Merthyr. Yn ddiweddarach wrth gwrs byddai ysbryd egalitaraidd, achubyddol gwleidyddiaeth Owen yn cael ei wireddu ar ffurf Gristnogol gyda lledaenu’r efengyl gymdeithasol.

Yn sicr ers ei farwolaeth – yr unig dro i Owen ddychwelyd i Gymru ar ôl gadael yn blentyn – mae’r Cymry wedi gwneud ambell ymdrech wirioneddol i’w hawlio yn ôl, ac efallai’r mwyaf diddorol o’r rheini yw ymdrechion RJ Derfel, a fyddai yn ei dro ysbrydoliaeth i’r sosialydd iwtopaidd Cymreig adnabyddus hwnnw Niclas y Glais. Cymerodd Derfel syniadau Owen fel man cychwyn ar gyfer datblygu’r hyn yr oedd yn ei ystyried yn fath arbennig o sosialaeth Gymreig, gyda’i dymer radical, gomiwnitaraidd a oedd arall na’r Marcsiaeth faterol neu’r Llafuriaeth Brydeinig brif ffrwd a ddechreuodd ddod i’r amlwg ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Yn wir dyma’r ffigurau y mae Martin Wright yn cyfeirio atynt wrth fapio traddodiad sosialaidd Cymreig ymneilltuol yn ei waith ar Gymru a sosialaeth cyn y Rhyfel Mawr. Gellid dadlau taw ffigur arall sy’n cynrychioli’r ffrwd honno oedd AS Merthyr SO Davies, a gyfunodd gefndir anghydffurfiol o Gymru ag agenda sosialaidd radical.

Beth ddigwyddodd i’r traddodiad hwnnw? Rhaid gofyn y cwestiwn, oherwydd heddiw nid yn unig y mae’n amheus a oes unrhyw fath amlwg o wleidyddiaeth sosialaidd Cymreig, yn fwy sylfaenol rhaid gofyn beth yw ein ffurfiau o feddwl nodweddiadol, wrth inni gael ein cymhathu yn ddiwylliannol, yn ieithyddol ac yn ddeallusol. Yn yr oes seciwlar, ôl-fodern, mae Robert Owen a’i sosialaeth yn cyflwyno sawl her inni, ynghylch yr hyn yr ydym yn credu yw sosialaeth, a bellach pwy ydym ‘ni’, y Chwith Gymreig.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.