Rywbryd hwyr y dydd ddoe, mae’n debyg i Vaughan Roderick wneud sylw mai Llafur Cymru yw un o’r ychydig lywodraethau democrataidd cymdeithasol sydd yn weddill yn Ewrop. Ar yr olwg gyntaf, debyg bod hwn yn ymddangos yn sylw digon amlwg, o ystyried pedigri’r Blaid Lafur – a’r ffaith mai cefnogwr Corbyn oedd yr arweinydd a ddaeth i rym ar sail ymgyrch dros Sosialaeth i’r 21ain ganrif, gyda chefnogaeth Gwreiddiau Llafur Cymru, cartref Momentum yng Nghymru.

Fodd bynnag, gellid gofyn cyfres o gwestiynau mewn ymateb i’r datganiad diniwed hwn: Pa wledydd â llywodraethau sosialaidd democrataidd go iawn sydd â lefelau mor uchel o dlodi, fel bod bron i 40% o blant yn byw mewn tlodi? Pa fath o wlad sosialaidd democrataidd sy’n caniatáu i’w pobl byw heb gartref, drwy gael eu prisio allan o’r farchnad dai drwy fewnlifo cyfalaf, a diffyg tai cymdeithasol neu wirioneddol fforddadwy? Pa wlad wirioneddol sosialaidd democrataidd fyddai’n yn afradu miliynau ar gwmniau aml-wladol, yn hytrach na buddsoddi’r arian hwnnw yn ei phobl ei hun a’i hisadeiledd?

Gellir cynnig cwestiynau dirifedi o’r fath, ond y ffaith plaen yw nad ydym yn byw mewn cymdeithas sosialaidd ddemocrataidd, er gwaethaf dros ugain mlynedd o lywodraeth Llafur. Mae’n werth nodi yr hyn sydd wedi bod yn destun craffu y tro hwn, sef bod rhaid cwestiynnu rhannu’r ansoddair ‘democrataidd’ yn achos etholiadau’r Senedd. Mae gennym system bleidleisio sy’n anesboniadwy, ac nad yw hyd yn oed yn caniatáupleidleisio tactegol gwirioneddol, oherwydd mympwyon y system gyfrifranbarthol. Yn fwy sylfaenol, rhaid cydnabod nifer druenus y pleidleiswyr a’rprinder addysg wleidyddol a ddarperir yn ein sefydliadau, a’r ymdeimlad oddiffyg grym ymysg ein cymunedau, o Benllŷn i Butetown.

O safbwynt unrhyw drefn sosialaidd honedig, mae’r brif broblem yn amlwg, wrth gwrs. Ni all gwlad obeithio datblygu ar hyd llwybr sosialaidd ddemocrataidd pan fydd ganddi bwerau datganoledig cyfyngedig, ac yn dioddef dan gloffrwm genedl-wladwriaeth sydd wedi dychwelyd fwyfwy i’w thraddodiadau aristocratig, elitaidd a gwaharddol. Y Deyrnas Unedig yw un o’r cymdeithasau mwyaf anghyfartal yn y gorllewin, sy’n cael ei llywodraethu gan neoryddfrydiaeth strwythuredig, sy’n gweld llywodraeth yn gwasanaethu marchnadoedd ac nid pobl, ac sy’n gadael Cymru (drwy Fformiwla Barnett) yn brin o adnoddau. Nid oes yr un enghraifft amlycah na hyn na’r modd yr ydym wedi dioddef yn ystod y pandemig; cymharer llwyddiant cymdeithas sosialaidd democrataidd wirioneddol Seland Newydd gyda’r hyn a fu ar y gorau yn ymdrech amddiffynol yma yng Nghymru, yn wyneb arglwydd a oedd yn fodlon gweld y cyrff yn pentyrru.

“Mae yna broblem gyda Llafur Cymru ei hun: nid plaid sosialaidd democrataidd mohoni.”

Dyma un o’r rhesymau pam mae cynifer o bleidleiswyr Llafur yn cael eu denu at annibyniaeth. Maent yn gweld bod gwerthoedd cydraddoldeb, tegwch a chyfiawnder yn freuddwyd gwrach o fewn y Deyrnas Unedig. Ond nid agwedd ddiymadferth Llafur Cymru yn wyneb materion datganoledig a chyfansoddiadol yw’r unig broblem. Mae yna broblem gyda Llafur Cymru ei hun: nid plaid sosialaidd democrataidd mohoni.

Ni fyddai plaid sy’ wir yn parchu democratiaeth yn llywyddu dros y system etholiadol sydd ohoni nac yn derbyn y lefelau isel o bleidleisio.

Ymhellach, ni fyddai plaid o’r chwith yn llywyddu dros bolisïau a systemau sy’n blaenoriaethu’r breintiedig. Ystyriwch, er enghraifft, y ffordd y mae Landlordiaid wedi cael blaenoriaeth dros denantiaid, sefyllfa sydd wedi dwyshau yn ystod y pandemig. Meddyliwch am effaith ofnadwy ein system gyfiawnder a phlismona ar gymunedau lleiafrifol. Yn y cyd-destun hwn, mae Dan Evans, Kieron Smith a minnau wedi bod yn gweithio gyda chyfranwyr disglair ar gyfrol sydd yn edrych ar sut mae neoryddfrydiaeth wedi gweithio ei ffordd i mewn i’n gwleidyddiaeth mewn ffyrdd llechwraidd; mae’n syfrdanol gweld pa mor bell y mae ein gwleidyddiaeth o’r disgwrs flaengar, ‘radical’ y mae’r Blaid Lafur yn defnyddio wrth fframio ei pholisïau.

“Mae’n syfrdanol gweld pa mor bell y mae ein gwleidyddiaeth o’r disgwrs flaengar, ‘radical’ y mae’r Blaid Lafur yn defnyddio wrth fframio ei pholisïau.”

Mae’n braf gweld Mark Drakeford, sosialydd difrifol, meddylgar yn cael ei wobrwyo am ei ymdrechion o’r argyfwng hwn; mae wedi gwneud llawer dros hygrededd y Senedd ac mae’n siŵr iddo gyfrannu at ddymchwel Abolish ac atal y Torïaid. Fodd bynnag, o ran ei uchelgais am sosialaeth I’r 21ain ganrif, mae angen inni werthfawrogi’r rhwystrau y mae’n wynebu.

Weithiau gall dull rheolaethol a diffyg uchelgais Llafur Cymru ymddangos megis grym anorchfygol yn debyg i’r pandemig ei hun – yn enwedig oherwydd y ffordd y mae’r blaid ei hun yn ymddangos yn analluog o safbwynt hunanfyfyrio ar y pynciau yma. Mae yna gwestiynau am Drakeford ei hun, o ystyried y modd y mae ei weinyddiaeth wedi ymddangos fel parhad o’r hyn a fu, yn hytrach na thro tuag at sosialaeth go iawn – heb fawr o newid personel naill ai yn y cabinet neu y tu ôl i’r llenni.

Daeth un enghraifft o hyn ar ddechrau’r argyfwng, pan mai greddf y sosialydd arferol oedd canslo digwyddiadau fel y rygbi a’r gigs Stereophonics, ond bu Vaughan Gething y gweinidog iechyd yn fodlon dilyn arweiniad San Steffan, nes iddynt ildio dan bwysau cyhoeddus enfawr, ar yr un digwyddiad o leiaf.

“Nid eironi bach yw’r ffaith bod sosialydd mwyaf blaenllaw Cymru wedi’i threchu a’i lluchio o’r Senedd, gyda’r fath sel a brwdfrydedd gan y Blaid Lafur”

Mae newid y diwylliant gwleidyddol hwn yn hanfodol, a rhaid wrth bwysau o’r tu allan i’r blaid hefyd. Nid eironi bach yw’r ffaith bod sosialydd mwyaf blaenllaw Cymru wedi’i threchu a’i lluchio o’r Senedd, gyda’r fath sel a brwdfrydedd gan y Blaid Lafur. Taflodd Llafur pob dim at y Rhondda, gan taw dyma’r cam amlwg, strategol. Mae hi’n dangos gwendidau y blaid lafur, ac roedd hi wedi sicrhau troedle yn y cymoedd gallasai fod wedi arwain at newid gwirioneddol. Does dim dau, mae hyn yn newyddion drwg i’r wleidyddiaeth flaengar y mae Drakeford ei hun am ei gweld.

Mae e wedi ennill y clod am y fuddugoliaeth hon, ac hynny’n haeddiannol. Mae wedi ennill llawer o galonnau a meddyliau – a llawer iawn o dir i’r ymgyrch annibyniaeth – drwy ddangos sut y gall arfer hyd yn oed ein pwerau cyfyngedig wneud gwahaniaeth.

Mae hwn felly’n fandad personol iddo symud Cymru ymlaen yn y ffordd y mae’n gweld yn dda. Cawn obeithio ei fod wedi magu’r hyder i wneud yr hyn y mae’n ei wybod sy’n iawn: dau o’r polisïau amlwg o ran democrateiddio ein cymdeithas yw newid y system bleidleisio a datganoli darlledu. Mae’r posibiliadau o safbwynt creu cymdeithas sosialaidd go iawn yn ddibendraw.

Cawn wylio gyda diddordeb i weld yr hyn sy’n datblygu yn awr ei fod yn teyrnasu o fewn ei blaid ei hun, a phwy y mae’n ei ddwyn i mewn i’w gabinet, ac yn bwysicach na hynny, pwy fydd yn ei dîm personol. Mae wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn ymladd grymoedd y tu hwnt i’w reolaeth, ond nawr y mae cyfle iddo ryddhau’r grymoedd o fewn ei blaid ei hun a all ddod â newid gwirioneddol. Mae bywydau’n dibynnu arno.

Un ateb ar “Beth nawr?”

  1. Dwi’n siwr y bydd Leanne yn parhau i weithio’n frwdfrydig dros y Rhondda, a dros Cymru, a bydd ei gweledigaeth a’i arweiniad hi yn ddiysgog.

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.