Digwyddiad mwyaf digalon yr ymgyrch etholiadol i mi oedd derbyn darn o ‘lenyddiaeth’ Abolish drwy ein blwch post. Taflen oedd hi yn galw am ddiddymu’r Senedd ar sail y ffaith ei bod yn hyrwyddo addysg rhyw i blant.

Yn ogystal ag amlygu hyblygrwydd ymgyrch ‘un pwnc’ Abolish, cadarnhaodd bod eu gwleidyddiaeth o’r math gwaethaf un o boblyddiaeth wenwynig, yr ydym wedi hen arfer a hi erbyn hyn. Wedi gwylio rhaglenni dogfen yn ddiweddar ar y sgandal cam-drin plant mewn pêl-droed, a’r athro John Owen, rhywbeth arall a ddaeth i’r meddwl oedd pwy yn union sy’n gallu elwa o’r math yna o ddiffyg addysg.

Rhywbeth arall a ddaeth i’r meddwl oedd yr expose ar Twitter fis diwethaf gan un enaid dewr a oedd wedi carthu dyfnderoedd grŵp facebook preifat y blaid. Islamoffobia, damcaniaethau lu o gynllwynio, a Cymroffobia hefyd, oll yn cadarnhau’r ffaith amlwg bod y blaid hon yn gyrchfan i lawer un a roddodd eu pleidlais i UKIP o’r blaen.

Tystiolaeth digwestiwn o’r mudo hwn wrth gwrs oedd ymaelodi y cyn AS UKIP Mark Reckless gyda’r blaid, a atododd ei hun megis gelen i’r corff hwnnw oedd fwyaf tebyg o gynnal bodolaeth barasitaidd yn y Senedd.

Gwrth-Senedd = Gwrth-Gymreig

Er mor hawdd yw deall sut gall plaid o’r fath ddenu cymeriad fel Richard Taylor, anos ydyw ei gysylltu gyda’u dau ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o gael eu hethol all fod wedi cerdded oddi ar set Mary Poppins: eu harweinydd Richard Suchrzewski, “dyn busnes” os welwyd un erioed, a’r famol Claire Mills. Yn wir, wrth dreulio dim ond ychydig amser yn gwrando arnynt mae rhywun yn ymwybodol o’r gwahaniaethau gyda rhannau eraill o’r dde galed, eu cymeriad pob dydd, a hefyd natur eu bygythiad.

Yn benodol, maent yn canolbwyntio ar y syniad bod y Senedd ynddo’i hun yn wastraff arian ac yn haen diangen o ddemocratiaeth. Mae’r rhain yn negeseuon pragmatig sydd ag apel digon naturiol, er gwaethaf eu seiliau ffug (pam bo’r Senedd yn ei hanfod yn fwy diangen, neu’n fwy o wastraff arian na San Steffan neu’ch awdurdod lleol… ?), bydd yna atyniad greddfol i rai, a gallant ymddangos yn ddigon rhesymol – heb fod mewn unrhyw ffordd ynghlwm wrth ddadleuon o’r dde galed.

Ac eithrio’r ffaith, wrth gwrs, bod awgrymu bod Senedd i Gymru yn haen diangen o fiwrocratiaeth ynddo’i hun yn safbwynt rhagfarnllyd a chul, gan ei fod yn awgrymu mai nid cenedl mo pobl Cymru, gyda mathau nodedig o fywyd: hynny yw, nad yw’r sail traddodiadol er mwyn hawlio hunanlywodraeth yn perthyn inni. Beth fyddai ymateb Prydain wedi bod yng nghyd-destun dadl refferendwm yr UE, pe bai’r Almaenwyr wedi awgrymu mai biwrocratiaeth ddiangen yn unig oedd San Steffan?

Mynegir y rhagfarn hon yn aml gyda’r enghraifft mae Suchorzewski yn cyfeirio ati fwyaf aml wrth gwyno am y Senedd afrad: sef y gwastraff a bwrn hwnnw, y Gymraeg. Y mae’r iaith – a oedd yn sail sylfaenol yn ffurfiant y bobl y mae’n falch i fod yn un ohonynt – yn faich arno, rhywbeth na ddylai hyd yn oed gorfod ei weld.

Dyma yn y pen draw mynegiant mewnol o’r hunaniaeth Eingl-Brydeinig, a fynegodd ei natur waharddol (exclusionary) i’r byd y tu allan yn ystod refferendwm yr UE. Yn y cyd-destun hwnnw gwelwyd hiliaeth agored a senoffobia yn erbyn lleiafrifoedd a mewnfudwyr; yn y cyd-destun hwn mae’n gwadu bod hunaniaeth Gymreig yn unrhyw beth mwy na hunaniaeth ranbarthol, Eingl-Brydeinig.

Gwaetha’r modd, bydd yna wastad etholaeth y gellir apelio ati gyda’r agwedd hon, ac ar ben hynny mae hinsawdd wleidyddol y degawd diwethaf wedi’i dilysu a’i chryfhau mewn ffordd sy’n ei gwneud yn hawdd i Abolish fanteisio arno. Mae gwrth-Gymreictod yn un mynegiant o’r cenedlaetholdeb Prydeinig gwenwynig sydd wedi bwrw gwreiddiau gwydn, ac o weld y gefnogaeth sydd i’r Torïaid, y mae yma i aros.

Ymateb o’r Chwith

O ystyried hyn i gyd, ac wrth gwrs BBC a chyfryngau Prydeinig prif ffrwd sydd yn fwy na pharod i gofleidio gwleidyddiaeth Abolish, mae angen ymateb o ddifri. Mewn rhai ffyrdd, mae’r diffyg cydweithio ymddangosiadol rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Gwyrddion – y bydd pob un ohonynt ar eu colled os bydd ymgyrch Abolish yn tycio – yn ategu honiadau Reckless a’r criw; nid yw ein gwleidyddion yn ymddangos yn abl i dderbyn yr her.

Yn benodol, mater o anobaith yw’r methiant i ddwyn ynghyd ymgyrch buasai’n fuddiol i’r tair plaid (y gellid bod wedi’i rhedeg yn answyddogol yn weddol didrafferth) i warafun y cyfle i Abolish ennill sedd trwy’r ail bleidlais. Rhaid i Lafur, fel y prif blaid, ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r bai, ond nid yw agwedd gwbl wrthwynebus Plaid Cymru – sy’n niweidiol i’w cyfleoedd nhw eu hun yn y pen draw – wedi bod yn rhyw lawer o help chwaith.

Mae rhywun yn gobeithio bod llu o bleidleiswyr Llafur yn ddigon synhwyrol i ddilyn y cyngor, pwyso a mesur, a phleidleisio dros Blaid Cymru gyda’u hail bleidlais – neu’r Gwyrddion yng Nghanolbarth Cymru. Cyd-ddigwyddiad hapus yw hi bod niferoedd y dde galed yn y Senedd yn mynd i fod yn is y tro hwn oherwydd rhannu’r bleidlais rhywfaint rhwng Abolish, Reform ac UKIP – yn hytrach nag unrhyw wleidydda deallus ar ran y chwith.

A rhaid inni beidio â bod yn naïf; bydd y rhai a fydd yn cael eu hethol geffyl stelcio ar gyfer adain ‘diddymu’ y blaid Dorïaidd, un sy’n cynnwys mwyafrif eu pleidleiswyr. Byddwn yn dilyn yr un patrwm ag UKIP a’r UE wrth gwrs, ac os oes unrhyw awgrym y gallai’r bolisi hon arwain at fwy o lwyddiant dros amser, bydd y Torïaid yn falch o’i chroesawu. Fel y mae’r ymchwydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth wedi dangos, nid yw’r 19% sydd o blaid diddymu’r Senedd yn sylfaen isel i ddechrau arni.

Un agwedd ddiddorol ar y ffigur hwnnw yw sut y mae’n gwahaniaethu yn ôl dosbarth cymdeithasol a rhyw, gyda dim ond 1 o bob 6 menyw ac 1 o bob 6 o’r dosbarthiadau cymdeithasol llai llewyrchus (C2DEs) yn cefnogi ‘diddymu’, o’i gymharu â bron i 1 o bob 4 dyn ac 1 o bob 4 o’r ABC1s mwy llewyrchus. Mae hyn yn awgrymu bod apêl y Senedd yn fwy greddfol ymysg y rhai sy’n draddodiadol ochri gyda chwith y sbectrwm gwleidyddol, a dylai cynnig anogaeth i bleidiau’r dosbarthiadau gweithiol.

Ac eto, o safbwynt y Senedd mae’n ddilys gofyn, a oes yna blaid o’r fath yn bodoli yno erbyn hyn. Mae Llafur wedi dangos nad ydynt yn deilwng o chwifio’r faner dros y sefydliad, yn anad dim am nad ydynt wedi gwneud fawr o ddim i’w hyrwyddo a mynd  i’r afael â’r diffyg gwybodaeth sy’n wynebu’r etholwyr, ond yn fwy cyffredinol oherwydd eu bod yn gweinyddu llymder a neoryddfrydiaeth ar lefel genedlaethol a lleol.

Gallasai Plaid Cymru, wrth gwrs, datblygu i fod yn blaid i’r bobl, yn gyfrwng i fudiad cenedlaethol sy’n gwasanaethu’r dosbarthiadau gweithiol ac yn sicrhau bodolaeth y Senedd am byth, gan ddisodli cenedlaetholdeb meddal, dau-wynebog Llafur, gyda hunaniaeth Gymreig flaengar sy’n wirioneddol eangfrydig.

Fodd bynnag, mae hyn yn gofyn am fath newydd o wleidyddiaeth, un sydd yno yn ein traddodiadau gorau, ond nad sydd eto wedi dod i’r amlwg. Dyma, wrth gwrs, y mae’n rhaid i’r sawl sy’n ymwrthod yn erbyn gwleidyddiaeth bleidiol ei adeiladu yn awr.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.