“Mae’n allweddol bod y Chwith yn esbonio i’w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais.”

Gyda’r etholiad yn nesau, rydym wedi cymryd y cyfle i holi ambell un o’r ymgeiswyr. Yn gyntaf dyma Sioned Williams, aelod Undod ac ymgeisydd Plaid Cymru.

Shwmae Sioned. Hoffech chi ddweud ychydig eiriau am bwy ydych chi, a phaham rydych chi’n ymwneud gyda gwleidyddiaeth?

Cefais fy magu yng nghymoedd Gwent, ac rwy’n byw nawr gyda ‘ngŵr Daniel a dau o blant yn eu harddegau yn yr Alltwen yng Nghwm Tawe yn etholaeth Castell-nedd. Rwy’n gyn-newyddiadurwraig BBC Cymru, yn gweithio ar hyn o bryd fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, canolfan ragoriaeth i hyrwyddo dysgu ac ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol a led led de-orllewin Cymru. Mae fy ngwaith yn cynnwys trefnu digwyddiadau cyhoeddus a chyrsiau cymunedol ar hanes a diwylliant Cymru, a rheoli Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe, hwb cymunedol sydd yn cefnogi siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob oed. Rwy’n Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll. Wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe am bum mlynedd, rwy’ nawr yn llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Rwy’ hefyd yn cyfrannu adolygiadau ac yn sylwebu’n rheolaidd ar y celfyddydau a’r cyfryngau i deledu, radio a chylchgronau Cymraeg.

Dwi ddim yn dod o deulu o wleidyddion ond dwi’n dod o deulu gwleidyddol. O oedran ifanc, fe wnaeth fy rhieni, a oedd yn blant i lowyr, ennyn diddordeb brwd ynof mewn newyddion, materion cyfoes a diwylliant, ac angerdd dros degwch a chyfiawnder cymdeithasol. Ar ddwy ochr y teulu, safodd fy nghyndeidiau dros hawliau gweithwyr, hawliau menywod, a thros warchod yr iaith Gymraeg a’n diwylliant. Roeddent yn perthyn i adain genedlaetholgar Gymreig y Blaid Lafur, er yn edmygwyr mawr o Aneurin Bevan (yn wir, roedd fe hen ewythr David Evans yn asiant i Bevan yn ei ymgyrch gyntaf i fod yn aelod seneddol). Byddai fy mamgu, a orfodwyd gan dlodi i adael yr ysgol ramadeg, yn ysgrifennu llythyrau at yr awdurdodau ar gyfer y rhai yn y stryd a oedd angen help. Mae’r ethos hwnnw o helpu pobl, o eiriol dros bobl, o herio’r drefn, yn sicr yn un o’r rhesymau roeddwn i eisiau ymwneud â gwleidyddiaeth.

Roeddwn yn fy arddegau yn yr 1980au ac roedd Streic y Glowyr, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear a’r ymgyrch i sefydlu S4C yn sicr yn nodweddion ffurfiannol o’m ieuenctid. Ymunais â Phlaid Cymru, er taw Llafurwyr cadarn oedd y mwyafrif o’r teulu (byddai Mam yn pleidleisio Plaid ‘er mwyn eu hatgoffa ein bod ni yma’), gan fy mod yn teimlo bod tra-arglwyddiaeth Llafur yng nghymoedd Gwent lle cefais fy magu wedi dod yn hegemoni niweidiol, a oedd wedi colli cysylltiad â’r diwylliant a’r bobl yr oedd unwaith yn eu cynrychioli a’u hamddiffyn. Ysbrydolwyd fy ngyrfa mewn newyddiaduraeth gan fy niddordeb yng Nghymru, profiadau a straeon ein pobl, a bywyd ein cenedl yn ei holl ffurfiau. Yn amlwg doedd dim modd cymryd rôl weithredol mewn gwleidyddiaeth bryd hynny yn sgil rheolau llym y Gorfforaeth!  Mae gwleidyddiaeth yn sicr yn fwy o alwad na gyrfa i mi. Rwy’ wedi cael gyrfa hir ac amrywiol yn barod ond yn gobeithio y bydd fy mhrofiadau bywyd a’m sgiliau proffesiynol yn fy helpu i fod yn llais newydd cryf i Gastell-nedd yn lleol ac ar lwyfan cenedlaethol.

Ac allwch chi ddweud wrthym pam eich bod yn sefyll dros y Blaid? Yn eich barn chi, beth maen nhw’n ei gynnig i bobl yn eich cymuned chi?

Des i’n aelod o Blaid Cymru ac yn ymgeisydd etholiad gan nad yw system wleidyddol bresennol y DG yn un sy’n sicrhau’r dyfodol gorau – yn fwyaf teg a llewyrchus –  i bobl Cymru. Bu Leanne Wood yn ddylanwad arnaf, o ran ei dycnwch a’i chefnogaeth ymarferol. Yn lleol, Plaid Cymru yw’r brif wrthblaid ar Gyngor Gastell-nedd Port Talbot ac mae’r cynghorwyr yma yn gweithio’n hynod o galed ac yn ymroddgar i’w cymunedau. Mae esiampl rhai fel y Cynghorydd Alun Llewelyn, Ystalyfera ac arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, y Cynghorydd Linet Purcell, Pontardawe a’r Cyngorydd Del Morgan, Glyn-nedd wedi fy ysbrydoli ers symud i’r ardal hon.

Mae’r agwedd sydd wedi cael ei ddadlennu gan y recordiadau diweddar a ryddhawyd o gyn-arweinydd Llafur y Cyngor, Rob Jones, yn un sy’n rhy gyffredin yn y Blaid Lafur yn anffodus – bod gwleidyddiaeth yn rhy aml am ddal gafael ar rym a thalu pwyth, yn hytrach na gwasanaethu pobl (er, nid trwyddi draw – ‘mae rhai o fy nghyfeillion gorau’ yn y Blaid Lafur!). Gan fod y Blaid Lafur mewn grym ar bob lefel – Cyngor Sir, Senedd a San Steffan – dros bobl fy nghymuned i,  mae yna adegau pan fo diffyg her ac atebolrwydd yn broblem. Mae democratiaeth yn edwino yn y cymoedd, a’r boblogaeth mewn peryg o symud at atebion y dde boblyddol. Dwi’n credu bod dwy ysfa sylfaenol sy’n gyrru ein gwleidyddiaeth ar hyn o bryd, yr hyn y mae Nancy Fraser yn eu disgrifio fel ‘recognition’ a ‘redistribution’. Yn ymarferol mae angen gweledigaeth a pholisiau wedi eu seilio ar degwch cymdeithasol, ac mae angen defnyddio awydd pobl i berthyn yn sail ar gyfer cryfhau ein cymunedau. Mae’r adnoddau ar gyfer gwneud hyn yn y traddodiad radical Cymraeg, a Phlaid Cymru sydd yn cynrychioli y traddodiad hwnnw heddiw.

A oes unrhyw faterion penodol yr ydych yn angerddol iawn amdanynt, neu bolisïau ym maniffesto’r Blaid yr ydych yn falch ohonynt ac a allai wneud gwahaniaeth penodol?

Fe gollais fy nhad chwe mlynedd yn ôl i glefyd Alzheimer. Fe welais â’m llygad fy hun pam fod cynllun Plaid Cymru i weithredu ar ddiwygio gofal cymdeithasol – wedi cyfnod llawer rhy hir o drafod – mor bwysig. Ni all neb ddadlau, yn sgil gwersi ofnadwy argyfwng Covid, yn erbyn cyfuno’r gwasanaeth iechyd a gofal. Pan oedd fy nhad yn dioddef a’m mam yn gofalu’n llawn amser amdano, gwelais effaith gwasanaeth gofal cymdeithasol sydd wedi’i danariannu a’i danbrisio ar fywydau a oedd eisoes mewn argyfwng, a sut y gwnaeth hynny ddwyshau gwewyr a phryder.

“Ni all neb ddadlau, yn sgil gwersi ofnadwy argyfwng Covid, yn erbyn cyfuno’r gwasanaeth iechyd a gofal.”

Mae gweledigaeth Plaid Cymru o gynnig gofal rhad ac am ddim a chyfartal i bawb pan fo’i angen gyda phwyslais ar ymyrraeth gynnar i sicrhau bod pobl yn medru aros yn eu cymunedau a gweithwyr gofal yn cael eu gwerthfawrogi, eu hyfforddi a’u talu’n gyfartal â staff y GIG, yn gam hanfodol i sicrhau mwy Cymru gofalgar. Byddai wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau fy rhieni, a miloedd eraill sy’n canfod eu hun yn yr un sefyllfa.

Yn ogystal a bod yn ymgeisydd i etholaeth Castell-Nedd rydych chi ar y rhestr i’r rhanbarth de-orllewin Cymru; a fyddai modd ichi esbonio’n sydyn y pwysigrwydd o’r ail bleidlais yna, nid yn unig o safbwynt chi fel ymgeisydd Plaid, ond wrth ystyried y posibiliad o weld gwleidyddion Abolish, UKIP neu Reform yn cymryd eu lle yn y Senedd.

Dwi’n poeni bod y system rhestr ranbarthol yn aneglur iawn i fwyafrif o bleidleiswyr ac felly mae ceisio esbonio sut i ddefnyddio’r bleidlais i geisio sicrhau nad yw pleidiau’r asgell Dde adweithiol yn cael lle yn y Senedd yn her. Byddwn i’n hoffi gweld system cwbl gynrychioladwy fel y bleidlais sengl drosglwyddadwy ac un papur pleidleisio. Mae erthyglau fel un Math Wiliam yn Nation Cymru yn ddefnyddiol wrth esbonio i bleidleiswyr pam fod pleidleisio i Blaid Cymru yn bwysig, yn enwedig cefnogwyr Llafur.

Yr ail bleidlais fydd yn penderfynu a fydd y Dde adweithiol yn ein Senedd, ac yn ôl pob tebyg yn pennu cryfder ac felly dylanwad Plaid Cymru. Mae’n allweddol bod y Chwith yn esbonio i’w chefnogwyr fod pleidlais i Lafur i bob pwrpas yn wastraff pan ddaw at yr ail bleidlais. Hoffwn weld y Gwyrddion yn cael cynrychiolaeth yn ein Senedd. Ond mae’n anodd gweld ar hyn o bryd sut y gellir gwneud hynny heb effeithio yn negyddol ar Blaid Cymru. Felly ‘dwy groes’ i’r Blaid yw fy annogaeth y tro hwn.

I ba raddau ydych chi’n meddwl bod mater annibyniaeth yn un sy’n dal dychymyg y pleidleiswyr rydych chi wedi bod yn siarad â nhw? A ydych o dan yr argraff bod hyn yn rhywbeth a allai ddylanwadu ar eu pleidlais neu a ydych o’r farn bod pobl yn meddwl am faterion mwy traddodiadol, neu fod y pandemig yn cymryd sylw pawb?

Does dim dwywaith bod pleidleiswyr yn cytuno bod Cymru wedi delio gyda’r pandemig mewn ffordd fwy effeithiol na Llywodraeth San Steffan, ac mae nifer wedi sôn wrtha i ar y stepyn drws, gan gynnwys pleidleiswyr Llafur, bod annibynniaeth i Gymru nawr yn opsiwn credadwy, ac mewn barn nifer, yn ddeniadol,  gan ei fod yn gliriach i lawer o bobl nawr mai pedair cenedl, gyda natur ac anghenion gwahanol, yw’r Deyrnas Gyfunol, nid un.

“Mae nifer wedi sôn wrtha i ar y stepyn drws, gan gynnwys pleidleiswyr Llafur, bod annibynniaeth i Gymru nawr yn opsiwn credadwy.”

Mae nifer hefyd yn mynegi pryderon am yr hyn y maen nhw’n meddwl fydd yn digwydd, y bydd annibynniaeth yn digwydd yfory os bydd Plaid Cymru yn cael ei hethol i lywodraeth ar 6 Mai. Mae yna rannau o etholaeth Castell-nedd sy’n hanfodol Doriaidd ond yn cefnogi Plaid Cymru ar lefel cyngor. Mae annibyniaeth yn eu gyrru oddi wrthym ni, ond credaf fod modd cynnal ein hapêl i’r etholaeth honno drwy apelio at hunan-ddibyniaeth unigol a chymunedol. Ar yr un pryd mae wedi tanio’r ifanc, ac o ran creu mudiad radical a pholisiau blaengar, mae’r to newydd yn rhoi sail llawer cryfach i’m math i o wleiddyddiaeth.

“[Mae] ymddygiad Boris Johnson a’i lywodraeth wedi profi nad yw Cymru yn flaenoriaeth i San Steffan. Does dim angen i fi wneud y ddadl honno bellach.”

Mae yna gytundeb ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn yr etholaeth bod ymddygiad Boris Johnson a’i lywodraeth wedi profi nad yw Cymru yn flaenoriaeth i San Steffan. Does dim angen i fi wneud y ddadl honno bellach. Mae pobl hefyd yn deall bod y status quo yn anfoddhaol ac yn gweld bod yr Alban yn debygol o fynd yn annibynnol o fewn y pum mlynedd nesaf, felly’n gweld bod angen i ni ddechrau ystyried pa fath o ffrâm wladwriaethol fyddai’n elwa Cymru orau. Mae cefnogwyr Llafur fel pe baent yn gynyddol ymwybodol o hyn, ac yn ystyried cefnogi Plaid Cymru o’r herwydd.  Er bod yna werthfawrogiad o’r ffaith i Gymru ddilyn trywydd mwy gofalus o ran delio gyda Covid, rhaid cofio hefyd bod Castell-nedd Port Talbot yn un o’r pum sir yng Nghymru sydd yn y chwe ardal o’r DG a welodd y cyfraddau marwolaeth uchaf. Mae arbenigwyr a newyddiadurwyr fel Will Hayward wedi dweud mai lefelau annerbyniol o dlodi, lefelau uchel o afiechydion, a rhai o gamgymeriadau Llywodraeth Cymru a arweiniodd at hyn.  Byddwn yn tynnu sylw yn benodol at y taliad annigonol a gynnigwyd i gefnogi’r rhai a oedd angen hunan-ynysu.

Felly, er taw’r economi yn sicr yw’r prif destun trafod, a chymunedau sydd wedi gweld dirywiad cyson a diffyg gofal dros y degawdau ers Datganoli yn pryderu’n fawr am sut y bydd effaith economaidd Covid yn eu hamddifadu ymhellach, mae yna gyswllt pendant rhwng anghyfartaledd cymdeithasol ac effaith andwyol y pandemig. Ac yn hynny o beth mae trafod beth all ddatrys y lefelau annerbyniol o dlodi a diffyg cyfleon economaidd yn gwbl gysylltiedig â thrafod annibyniaeth. Fel ymgeisydd yng Nghastell-nedd does dim amheuaeth gen i y gall adfywiad economaidd a diwylliannol ein hardaloedd ôl-ddiwydiannol ond ddigwydd pan feddyliwn o fewn ffrâm Gymreig ac o fewn prosiect adfywio a grymuso cenedlaethol. Wrth drafod posibiliadau annibynniaeth, mae Plaid Cymru yn llunio gwrth-naratif pwerus i’r pleidiau Unoliaethol, ac nid syllu ar ein bogel yw hyn ar gyfnod o argyfwng ond cyflwyno gweledigaeth sy’n grymuso ein cymunedau ar adeg pan fo hynny’n gwbl allweddol  – yn fater o fywyd neu farwolaeth – ac yn agor Cymru i’r byd. Mae’r mantra ynghylch gweithredu yn lleol tra’n meddwl yn ryng-genedlaethol dal i fod yn hollol berthnasol. Gallaf argymell cyfrol Anatol Lieven, Climate Change and the Nation State i aelodau Undod gan ei fod yn cysylltu’r ddadl dros annibyniaeth gwledydd bychan gyda’r ymgyrch amgylcheddol i achub ein planed.

A oes pobl benodol, enwog neu fel arall, sydd wedi eich ysbrydoli yn eich ymgyrchu gwleidyddol hyd yn hyn, a pham?

Wnes i ddim dod yn weithgar yn y Blaid mewn gwirionedd nes i Leanne Wood ddod yn arweinydd – mae ei gweledigaeth wleidyddol o ymgyrchu llawr gwlad a gwleidyddiaeth gymunedol yn cydseinio gyda’m gweledigaeth i, a’i hesiampl fel lladmerydd diflino dros ei chymuned yn un a wnaeth fy ysbrydoli.  Ar ôl i Leanne gael ei hethol yn arweinydd y dechreuais wir symud o fod yn aelod ac yn gefnogwr i fod yn actifydd ac yn ymgyrchydd. Mae Alexandria Ocasio-Cortez hefyd yn arwr. Rwy’n cytuno gyda hi nad yw gwleidyddiaeth y canol yn ddigonol bellach ac rwy’n rhannu ei barn bod sosialaeth ddemocrataidd – sydd wrth wraidd gweledigaeth Plaid Cymru – yn ymwneud â gwarantu lefel o urddas. O sôn am y canol, roedd fy mab Dewi yn ffrindiau a mab y gwleidydd Americanaidd Juliette Kayyem tra roeddem yn byw am chwe mis yn Boston (2012). Fe fu hi yn ‘U.S. Assistant Secretary of Homeland Security for Intergovernmemntal Affairs’ yn llywodraeth Barack Obama, ac er nad ydw i’n cytuno â’i barn ar bolisi tramor a’r fyddin, mae’n fenyw ryfeddol y cefais y pleser o’i chwmni sawl tro, gan gynnwys cyfweliad i gylchgrawn Barn.

I fi yn bersonol, polisïau uchelgeisiol Plaid Cymru i greu Cymru mwy cyfartal, mwy cyfiawn yw’r rheswm pam fy mod i’n ymgeisydd. Rwy’n gobeithio bod yn rhan o genhedlaeth o fenywod o fewn y mudiad celedaethol  – Leanne, Carrie Harper, Delyth Jewell, Heledd Fychan – a fydd yn bywiogi ein gwleidyddiaeth ac yn dyfnhau democratiaeth Cymru.

Beth yw eich hoff ddigwyddiad neu ddigwyddiad mwyaf cofiadwy yn ystod yr ymgyrch mor belled?

Yn anffodus, gwta tair wythnos o ymgyrch ‘byw’ sydd wedi bod yn sgil y cyfyngiadau Covid, ac elfennau arferol yr ymgyrch  – cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau codi arian, misoedd o gnociau drysau a stondinau canol tref heb fedru digwydd yn anffodus. Ond digwyddiad mwyaf cofiadwy yr ymgyrch heb os oedd hystings rhithiol gyda disgyblion y Chweched yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Rwy’n riant-lywodraethwr yn yr ysgol ac roeddwn mor falch o’r cwestiynau treiddgar a gyflwynwyd gan y disgyblion a’r modd y llwyddon nhw ddatod dadl ambell un ar y panel – yn enwedig ar bwnc Annibyniaeth i Gymru!

Mae Undod wedi gwahodd nifer o ymgeiswyr sosialaidd o sawl plaid sydd yn sefyll yn yr etholiad i gymryd rhan yn y fformat cyfweliad hwn, ac bydd mwy yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiad nesaf.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.